Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y PULPUD: Y LLWYFAN : Y WASG.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Y PULPUD: Y LLWYFAN Y WASG. ccy MANNA." PREGETH GAN Y DIWEDDAR HYBARCH EBENEZER JONES, PONTYPWL I'n hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo i'w fwyta o'r manna cuddiedig," MAT. xi. 17. SYLWADAU cyffredinol ar y manna :—1. Diwallai y nefoedd a'i haclioni yr hyn a omeddai y ddaear a'i diffrwythder. Heb lafur yr Israeliaid, yn dynodi pa fodd y mae iachawdwriaeth heb help dyn. 2. Bwriadai Duw hyn, nid yn unig- i ddiwallu eu hanghenion, ond i rag-gysgodi y bara ysbrydol a gynygir yn yr etengyl, loan iv. 32, 33. Gan fod genym y fath dystiolaeth anffaeledig am ystyr yr ymadrodd hwn, gadewch i ni olrhain y prif debygoliaethau i hyngddo a Iesu Grist. Mi a driniaf y rhan ddiweddaf o'r adnod yn gyntaf, h. y., y manna. Ymadrodd benthyciedig yw hwn oddiwrth hanes y manna yn yr anialwch. Mi a ddangosaf yn I. Beth sydd i'w ftdd- wl wrth y manna cuddiedig, neu yn mha ystyr y gellir galw Crist, yr hwn a arwydd- oceir yma, Manna. II. Yn mha ystyr y gellir galw y Cristion tra yma, neu y cy- mfcarir ef, ifilwr neu ymdeithydd. Tra byddaf yn siarad, gwlawied yr Ar- glwydd arnom o'r manna hwn, fel y bydd- om yn cyrchu tua'r wlad addawedig, gan ddal ein llygaid ar y fuddugoliaeth. I. Y manna o'r nefoedd, loan vi. 32, 33. (1). Pan yn yr angen mwyaf, felly Crist mewn pryd a fu farw trosom. (2). Mae ei fod yn cael ei gasglu gan yr Israeliaid ollyn arwyddocau y cymhwys- iad ymarferol a ddylem ni ei wneud o'r Gwaredwr a gynygir i ni. Nid digon yw ein bod wedi ein geni mewn gwlad Grist- ionogol, a theuluoedd Cristionogol. Mae'n rhaid i ni ei geisio ein hunain. (3). Cesglid ef bob dydd. Felly, na foed i ni fod yn ddigonol a'r hyn a gawsom y flwyddyn ddiweddaf, y mis diweddaf, yr wythnos ddiweddaf, y Sabbath diweddaf, ond heddyw o'r newydd, allan a ni i geisio y manna, yr hwn a ddisgyn o amgylch y gwersyll. (4). Cesglid ef y bore. Rydded i ni yn more ein hoes gysegru ein hunain, a'r rhan oreu o'n bywyd, i ymofyn am Grist. Yn blygeiniol, yn enwedigol y Sabbath Ti, O! Dduw, yw fy Nuw i; yn foreu y'th geisiaf," Salm lxiii. 1. (5). Cesglid "dau cymaint" ar y dydd Sabbath. Ar y seithfed dydd ni symudent o'u pebyll. Felly, fy nghyfeillion, boed i ni lafurio yn yr ymarferiad dymunol a moddion gras tra byddo y bywyd marwol hwn yn parhau. Am ba achos ? Pan ddel y dragwyddol orphwysfa, symudir i ffwrdd y moddion ag 1m yn awr yn fwynhau. Bydd diwedd ar ein holl ymdrechiadan poenus, a bydd yn rhaid i ni fyw ar yr hyn a gasglwn yn awr. (6). Ei fod yn cael ei ranu rhwng yr Israeliaid, nid yw hyny heb arwyddocad. Yr oedd pob un i gael Omer-tri pheint. Yr hwn a gasglai lawer nid oedd ganddo ddim dros ben, a'r neb a gasglai lai ni byddai mewn diffyg. Digonid pawb, fel y dywed yr apostol: O'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oil, a gras am ras." "Llawn ddigonir hwynt a brasder dy dy, ac ag afon dy hyfrydwch y diodi bwynt," Salm xxxvi. 8. (7). Nid oedd yn addas yn fwyd fel y disgynai o'r nefoedd, ond cymhwysid ef at feithriniad a threuliad. Mae hyn yn ein hadgofio o amryfal ddyoddefjadau ein Gwaredwr, yr hwn aberffeithiwyd trwy ddyoddefiadau, Heb. ii. 10. Maeddwyd ef yn morter adfyd, malwyd ef yn melin cyf- iawnder dialeddol, pobwyd ef yn ffwrn digofaint Duw. "Y bobl a aethant o am- gylch, ac a'i casglasant, ac a'i malasant mewn melinau, neu a'i curasant mewn morter, a'i berwasant mewn peiriau, ac a'i gwnaethant yn deisenau," Num. xi. 8. (8). Ei flas. A'i flas ydoedd fel bias olew ir," Num. xi. 8. Blasus a meithrinol i bawb, er eu bod o gyfansoddiadau gwa- hanol. Gofyn i'r hynafgwr pa fodd y mae efe yn ei archwaethu, y dyn ieuanc, y fenyw, a'r plentyn ? Dywedant oil, Fel olew ir ac fel mel. Nid oedd raid iddo wrth unrhyw gyffyr i'w wneuthur yn chwaethus. Felly Crist i bawb: Mor folus yw dy eiriau i'm genau melusach na mel i'm safn," Salm cxix. 103. (9). Ei lygriad os cedwid ef yn groesi orchymyn Duw, oblegid yr hyn a gynullid heb ei ddefnyddio a fagai bryfaid, ac a ddrewai. Mae hyn yn arwyddocau pan fyddo athrawiaethau pur ac iachus efengyl Crist yn cael eu pentyru yn nghyd mewn gwag ddychymygion, heb gael eu derbyn mewn cariad, na'u mwynhau (digest) yn faeth ysbrydol, y maent mor bell o fod yn arogl bywyd i fywyd, fel y maent yn myned yn arogl marwolaeth i farwolaeth, yn magu pryfaid o amryw chwantau, a chydwybod euog yn y pen draw. Bydded i ni; gan hyny, ymborthi ar y manna. (10). Diystyrid ef gan y bobl fel bwyd gwael, drwy yr hwn y gwywid eu heneid- iau "Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo heb ddim ond y manna yu ein golwg," Num. xi. 6. Nid oedd i'w gyffelybu i'w harlwyau bras yn yr Aifft, Num. xi. 1-8. Felly mae Iesu Grist, y gwir Fara o'r nef, yn cael ei ddiystyru a'i wrthod gan ddynion. Y mae ymchwiliad athronyddol, araeth foesol, darlith wleidiad- 01, yn fwy dewisol na'r Gwaredwr croes- hoeliedig yn destyn siarad. Y mae y bon- eddigion hyny yn llawer a allant fyw heb- ddo yn eu pregethau, yn eu hareithiau, ac yn mhob man arall. (11). Ei gadwedigaeth mewn crochan aur, lie am lawer oes y rhoddwyd ef i gadw yn y Cysegr Santeiddiolaf heb lygredigaeth. Y mae yn arddangos esgyniad Crist i'r nef, lie yr ymddengys gerbron Duw mor newydd (fresh) a dilwgr. fel y mae loan yn dweyd, Fel Oen newydd ei ladd." (12). Ei barhad am ysbaid deugain mlynedd. Dynoda hyn nad yw yr Ar- glwydd un amser na byth yn gwrthod ei bobl; ei Fanna a fydd gyda hwynt. Dy- wedai Crist na adawai ddim o'i ddysgybl- ion, ac y byddai gyda hwynt hyd ddiwedd y byd, Mat. xxviii. 30. Y mae bara Dnw yn parhau i ddisgyn yn ngoruchwyliaeth yr efengyl dragwyddol tra byddo angen ei bobl yn galw. Pan fyddo y llwythau erwydrol wedi tirio, ffarwel gawodydd manna byth mwy. II. Yn mha ystyr y galler cyffelybu y Cristion i filwr, yr hyn sydd yn gynwys- edig yn ei fod yn gorchfygu." 0 ran trefn, dylasai y pen hwn fod yn mlaenaf. (1). Mae milwr yn ddyn rhestredig a thyngedig i fod yn ffyddlawn i'w dywysog, ac i ymladd ei ryfeloedd, ac i fod yn elyn i'r eiddo ef oil. Felly mae y Cristion yn cael ei wneuthur yn ewyllysgar yn nydd ei nerth, yn rhestru ei hun dan faner Imman- uel Frenin, yn tystiolaethu ffyddlondeb a dianwadalwch i'w Dywysog. (2). Darperir yr arfau i'r milwr, a gwisg- ir hwy, Ephes. vi. 11-19. Gwynlasai Charles v. wrth wisgo ei arf- au. Gall Cristionogim ieuainc yn y cyfFelyb fodd. Bydded i ni gael braich yr Arglwydd i drinio ei arfogaeth, yna fe allwn wneuthur pobpeth. Dyma dwr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dy arfau, tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn. Y rhan gyntaf o'r arfogaeth ydyw gwir- ionedd, Ephes. vi. 14. O! wirionedd ben- digedig, didwylledd, hebot ti nis gallwn ni wneuthur dim. 2. Dwyfroneg cyfiawnder. Cyfiawnder "yn trigo mewn un. Yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawndet. sydd gyfiawn, megys y mae yntau yn gyfiawn, loan iii. 7. 3. Y traed wedi eu gwisgo ag esgidiau, h.y., y meddwl wedi ei barotoi i deithio yn mlaen heb dderbyn niwed yn mhlith y drain, ac wedi ei gadarnhau gan gysuron yr efengyl. 4. Tarian y ffydd. 5. Holm yr iachawdwriaeth. Hyn yw gobaith yn dal y pen uwchlaw'r dwr, yr hwn a gwddf estynedig sydd yn dysgwyl ymwared, ac yn peri i'r enaid waeddi, nid yn unig dum spiro spero, sed dum cxpiro spero—tra byddwyf byw mi obeithiaf, ond paD fyddwyf marw mi obeithiaf hefyd. Yn olaf, cleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw Gair Duw. Trwy y Gair yr ydym yn gorchfygu yn y lie cyntaf, trwy yr hwn y gorchfygodd ein Cadben mawr, Mat. iv. (3). Trwy ddango3 pa fodd i ymladd. Gwyliadwriaeth a gofal. Cofiwch am y gwyliwr oedd yn cysgu. Trywanwyd ef; ac am Alexander, yn meddu milwr o'r un enw ag ef, ond yn ofnus iawn, wrth yr hwn y dywedodd am newid ei enw, neu weith- redu fel Alexander. (4). Dyfalbarhad. Tra y byddom byw. (5). Mae addewid am gyfiawn fuddugol- iaeth wedi ei gadael i ni: A Duw y tang- nefedd a sathr Satan dan eich traed chwi," Rhuf. xvi. 20. Mae'r Manna wedi ei gael Mewn dyrys anial dir, Ymborthi cawn wrth fyn'd yn mlaen Ar fwyd angylion pur Nes caffom d y wlad Sy' yn para yn ddilytb, Ac in' yn 'raddawedig dir I wneud ein cartref byth." Yr ydym yn barnu wrth olwg anhaclus, i raddau, y llawysgrifen ddiamlen sydd ger ein bron, mai un o bregethau cyffredin 0 gweinidogaeth yr Hybarch E. Jones oedd y bregeth ddyfynedig, ac na fwriadasai iddi, pan yn ei hysgritenu yn frysiog, fod yn bregeth na Chymanfa na Chwrdd Chwarter, na'r- un uchelwyl gyffelyb. Nid ydyw mewn un modd, o'r hyn lleiaf felly yr ydym ni yn tybio, yn ddrych o'r hyn oedd Mr. Jones fel pregethwr, er y gellir yn hawdd weled ynddi adlewyrchiad- au lluched arddawn y gwr mawr" a'r areithiwr hyawdl." Eithr am Ebenezer Jones, rhaid yw dweyd: Dygwyddodd iddo fod yn glaf, a marw. Ymadawodd a'r fuchedd hon yn Ion., 1829, pan nad oedd ond trigain mlwydd oed. Yn ei farwolaeth ef tynwyd ymaith o Jerusalem a Judah (yr eglwys a'r wlad), y cadarn, y brawdwr, a'r proffwyd, y synwyrol, yr anrbydeddus, y cynghorwr, a'r areithiwr hyawdl;" ond nid plant" a roddwyd yn "dywysogion," na "bechgyn" yn "arglwyddi," ar ei ol, fel y prawf hanes Ebenezer, Cwm Nantddu, yn bendifaddeu, oblegid 1, tywysog" ac it arglwydd yn mhob rhyw wedd y prof- odd ei olynydd Evan Rowlands ei hun. Fe balla gpfod a lie i ni roddi tro trwy hen fynwent Ebenezer—Macpelah rhan helaeth o swydd Fynwy—i gael gweled