Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YSGOLION SABBATHOL GWERNOGLE,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB YSGOLION SABBATHOL GWERN- OGLE, HOREB, AC ABERGORLECH. Cynaliwyd cyfarfodydd haner blynyddol y cylch uchod eieni yn Gwernogle. Daeth pump Ysgol yn nghyd yn brydlon erbyn haner awr wedi naw o'r gloch boron dydd Gwener diwe.drlaf. Yr Ysgolion oeddent N antyffin, Abergorlech, Llydiadnenog, Horeb, a Gwernogle. Cawsom hin o'r fath mwyaf dymunol, yn nghyda cynulliadau lluosog. Y Parchedigion S. Davies, Peniel, a R. P. Jones, Pencader, oeddynt yr holwyr. ac aethant trwy eu gwaith yn gampus. Ysg-ol Nahtyffin aeth trwy ei gwaith gyntaf. Holwyd hi gan Mr. Davies, Peniel, yu fywiog a tharawiadol iawn. Yna Ysgol Aber- gorleeh yn adrodd ac ateb gofyniadau allan o'r 2 Cor. v. loan xv. oedd gan Nantyffin. Aeth y ddwy Ysgol trwy eu gwaith-y canu a'r cwbl i foddlonrwydd cyffredinol Mr. Jones, Pencader, fu'n holi Abergorlech. Yn y fan yma y terfynodd cyfarfod y boreu. Aeth pawb pertliynol i'r Ysgol- ion i gyd i'r Ysgoldy, yn ymyl y capel, i gael llun- iaoth ac awr o seibiant. Wedi i bawh gael eu gwala a'u gweddill, cyd- gyfarfyddwyd eto am ddau o'r gloch yn y capel, pryd yr holwyd gan yr un boneddigion ac yn y boreu. Y gyntaf yn y prydnawn oedd Ysgol Llyd- indnenog. Adroddodd 1 Cor. xiii. Holwyd gan Jones, Pencader. Y nesaf oedd Ysgol Horeb. Adroddodd Actau vi. yn rhagorol, a chanasant ddwy anthem yn fendigedig. I derfynu, adrodd- odd Ysgol Gwernogle Heb. xi., a chanasant yn dlws a nerthol. Cawsom un o'r cyfarfodydd mwyaf hwylus a deimlasom er ffurfiad yr Undeb cydrhwng Ysgol- ion Sabbathol cylch gweinido* tethol Gwernogle. Ni fu y Mri. Davies, Peniel, a Tones, Pencader, yn ein cyfarfodydd baner blynyddol o'r blaen; ond gallwn sicrhau y cant gynyg ar dd'od eto, os byw ac iach. Yn Abergorlech y bydd y cyfarfod nesaf, sef dydd Nadolig. Pob llwydd i'r Ysgolion i bender- fynu mynu bod am y goreu y dydd hwnw yw dymtmiad UN o HONYNT. DOLGELLAU. Yr oedd dydd Mawrth, Mai 21, yn ddydd o gryn bwys yn y dref uchod, yn gymaint mai dyna'r dydd penodededig i uno y cyfaill ieuane Mr. N. 0. Jones, Cambrian Station, mewn glan briodas a Miss M. A. Evans, o'r un dref, yr hyn a gymer- odd le yn nghapel yr Annibynwyr, gan y Parch. D. Griffith. Wedi hyny aeth y briodas a'r gwa- hoddedigion i balasdy L. Williams, Ysw., a Mrs. Williams, Vronwnion, i gydgyfranogi o'r danteith- ion a barotowyd ar eu cyfer. Er mai Eglwyswyr selog ydyw y boneddwr a'i briod, rhoddasant wa- hoddiad cynes i Mr. Griffith ddod i'r wledd, yr hwn a gydsyniodd; ac ar y diwedd cynygiodd ddi- olchgarwch cynes iddynt am eu caredigrwydd, yr hwn a eiliwyd gan Mr. E. Evans (Ieuan Wnion), Towyn, ac a gariwyd allan yn nghanol brwdfryd- .edd y gwyddfodolion. Nid oes genym ond yr un tdymuniad iddynt ag oedd gan Ieuan Wnion, pan ;y canodd iddynt yn niwedd ei gan fel y canlyn:— 0 fy nghalon 'rwy'n dymuno Dyddiau hir i'r ddeueldyn hyn, Boed eu bywyd mewn prydferthwch Fel paradwys chweg ddichwyn Na ddoed atynt orthrymderau I anurddo byth eu gwedd, Ond melusder dyddiau dedwydd Fyddo iddynt—llawn o hedd. Grym y. cariad ar y dechreu Ni ddangosai ddim yn wan, Ac vmwreiddio wnai serch NATHAN Fwy yn nghalon MARY ANN Fel cydrhed dwy afon loyw Yn naturiol tua r mor, Felly bu eu cariad hwythau Nes gweithredu deddf yr lor, Anrhydeddus yw priodas, Hyn sydd heddyw n eglur iawn, Serch dwy galon a ymdoddwyd I un cariad mawr a llawn Nerth ei wres na chaed ei ddiffodd Byth gan droion drwg y llawr, Ond yn sugno byddo betlnydd Gariad pur y nefoedd fawr. Cyfarfod Pregethu.—Cynaliodd y Bedyddwyr eu cyfarfod blynyddol ar yr 20fed a'r 21ain o'r mis diweddaf, pryd y gweinyddodd y Parchn. J. Jones (Mathetes), Jones, Llwynypia, a Davies Bangor. Caed cyfarfod rhagorol. Cymanfa Ysgolion y Methodistiaid.—Mai 24ain ydoedd yr adeg benodedig i'w chynal, ac yr oedd dylifiad pobl a phlant i'r dref yn arwyddo fod yr uchel wyl wedi gwawrio. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan weinidogion y cylch, a'r canu o dan arweiniad Mr. 0. 0. Roberts, yr hwn sydd byaod ymdrechgar gyda'r rhan boa o wailb y cysegr. Digon yw dweyd fod y gymanfa eleni wedi bod yn hynod boblogaidd a llwyddianus. Gymanfa Ysgolion yr Annibynwyr.—Cynaliwyd hi eleni Mai 28, yn nghapel y Tabernacl yn y dref hon, o dan lywyddiaeth y Parch. D. Griffith, ac arweiniad Eos Morlais. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, yr atebion yn rhagorol, a'r canu yn yr hwyr yn fendigedig. Da iawn genym hysbysu darllenwyr y CELT fod yr English Congregational Chapel yn dod yn mlaen yn gampus, ac y bydd yn cael ei agor yn mhen oddeutu pum' wythnos. Bydd yn glod mawr i'r hen gynllunydd o Maes- caled pan orphenir ef, ac yn addurn i'r dref. GOHEBYDD.

¡lrh:r:thXZ.aU.

[No title]

Advertising

MARWOLAETH Y PARCH. DAVID…