Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

IABLL RUSSELL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

IABLL RUSSELL. YCHYDTG fynydan cyn un ar ddeg nos Fawrth, Mai 28, ehedodd enaid mawredd- og Iarll Russell i fyd yr ysbrydoedd. Tm- ddengys fod ei iechyd yn gwaelu er's mis- oedd; ac yr oedd y ffaith y buasai yn cyrhaeddya yr oedran o 86 yn Awst nesaf yn eglur ddangos fod oes y gwron eTI wog yn cyflym ddirwyn i ben. Credwn fod enwogrwydd bywvd yr Iarll, yn nghyda'r rhatt a gymerodd yn mhrif ddiwygiadau politicaidd yr oes, yn teilyngu byrgofion yn y CELT am ei fywyd a'i lafur. Hanai o deulu urddasoI-teulu hynod- odd hanes Lloegr oddiar amser y diwyg- iad, yn nheyrnasiad Harri yr VIII., hyd y dydd hwn. Ymgododd Russelliaid gyntaf i sylw breninol yn amser Harri y VII. Pan oedd Tywysog Germanaidd ar for- daith tua dinas Llundain, aeth yn llong- ddrylliad arno ar draethau swydd Dorset, a chafodd William Russell, boneddwr o fuddianau cymedrol, gyfleusdra i letya y gy y Tywysog, a gorehymyn breninol i gyd- ymdeithio &g ef i'r llys. Boddlonwyd Harri y VII. gymaint gan ymddyddan ae ymddygiad boneddigaidd yr Yswain gwled- ig nes y dyrchafwvd ef yn un o weinydd- wyr y brenin; ac oddiar hyny hyd Iarll Russell, y mae rhai o'r teulu urddasol bwnwedi ymddangos ar lwyfan wleidydd- ol Prydain Fawr, ae wedi cyflawni gorchest- ion sydd wedi eu tragwyddol brydferthu a garlantau anfarwoldeb, yn gymaint a bod gonestrwydd calon, unplygrwydd cymeriad, a chydwybodolrwydd ysbryd wedi rhoddi ysgogiad iddynt. Ganwyd yr larll yn y flwyddyn 1792. Derbyniodd ei addysg foreuol yn West- minster School." Yn lie ei anfon i Brif- ysgolion aristocrataidd Caergrawnt a.1 Rhufain, anfonwyd ef i Brifysgol Edin- burgh i yfed o ddyfroedd gloewon gwybod- aetb, dan ofal yr athronvdd galluog Pugald Stewart. Nid rhyfedd fod rbielni Arglwydd John Russell wedi peri iddo gefnu ar Brifysgolion Rhydychain a Chaer- grawnt, yn gymaint a'u bod yn nytb- leoedd Toriaeth. Yr oedd yn Edinburgh gydgyfarfyddiad o brif dalent a dysgeid- iaeth yr oes, a chyfleusdra neillduol i fon- eddigion ieuainc a berthynai i'r Whig Party i gaeleu gwreiddio yn egwyddorion llywod-ddysg. Yn nh^ Dugald Stewart daeth ein harwr i gyfarfyddiad a dynion galluocaf y wlad-meistriaid ysbrydion yr oes, y rhai a argraffasant eu henwau yn ddwfn, gyda llythyrenau euraidd, ar galon y byd gwyddonol a chrefyddol; ac y mae eu dylanwad yn fyw a nerthol heddyw yn nghysegroedd santeiddiolaf cymdeithas. Ymddengys fod Arglwydd John wedi enwogi ei hun fel dadleuwr yn Specula- tive Society" a berthynai i'r Brifysgol; ac yr oedd yr ymarferiad boreuol byny yn ei barotoi ar gyfer dadleuon pwysicach yn NhJ- y Cyffredin. Pan yn 17, gadawodd Edinburgh am daith i'r cyfandir, a dych- welodd yn 1818 i Loegr, ac etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Tavistock pan nad oedd yn llawn 21 oed. Bu ar ol hyn yn cynrychioli yn olynol Huntingdon, Ban- don, Devon, South Devon, Strand, a dinas Llundain. Bu yn aelod dros Llundain o'r flwyddyn 1841 hyd 1861, pan ddyrchafwyd ef i DJ yr Arglwyddi fel Iarll Russell. Yn nghychwyniad ei fywyd Seneddol, ni fa ei ymdrechion fel areithiwr cyhoeddus yn gwisgo gwedd lwyddianus. Ni anwyd Arglwydd John yn areithiwr i synu y byd a dylif hyawdledd, oblegid fod diffygion gwreiddiol pwysig yn perthyn i'w beimn- au areithyddol-düfygion nas gallasai braidd, hyd yn nod ymdrechion diflino, a phenderfyniad diguro Demosthenes, byth eu gorchfygu. Er ei holl ddiffygion areith- b yddol, yr oedd yn enwog fel. dadleuydd. Gwelai gyda llygaid eryraidd fanau gwein- ion ei wrthwynebydd, ac ymosodai arnynt yn egniol gyda nerth cawr. Dadleuodd gyda sel a brwdfrydedd dros ddilead y Test and Corporation Acts." Gwybyddys iddo ef oedd cwynion yr Ym- neillduwyr yn erbyn gormes ac anghyf- iawnder y llywodraeth o ddyddiau Siarl yr II. Tra yr oedd yr actau uchod mewn grym ar ddeddf-lyfrau Prydain, nis gall- asai yr Ymneillduwr, beth bynag fuasai ei ddysg, ei gyfoeth, a'i ddylanwad, gael yr un swydd v ymddiriedaeth dan y Goron, neu mewn Corporations, os na fuasai yn derbyn cymun o ddwylaw cysegredig offeiriaid Eglwys Loegr. Gwrthwyneb- wyd y bill gan holl allu ystrywgar y blaid Doriaidd; ond yr oedd y mwyafrif gy. maint fel y gorfu i Syr Robert Peel roddi i fynu yr ymdrech wedi ei lwyr orchfygu, a chafodd y blaid Doriaidd y fath holltiad yn ei Golgotha fel y mae yn y bendro byth er hyny, ac yn rhoddi leaps in the dark" yn barhaus. Pasiwyd y,bill crybwylledig yn y flwyddyn 1828, a dil/nwyd ef yn llwyddianus gan y Catholic Emancipa- tion Bill in 1829." Ar ol hyn, ymdaflodd yn egniol i'r cwestiwn o "Helaethiad yr Etholfraint. Er na pherthynai i'r weinyddiaeth, eto neillduwyd Arglwydd Russell i ddwyn yn mlaen y Reform Bill, yn Mawrth 1831," i sylw Tý- y Cyffredin. Yr oedd St. Stephan wedi ei orlenwi a gwrandawyr, a thraddododd un o'r areithiau mwyaf ys- blenydd, gan arddangos yr anghyfiawnder, y trais, a'r gormes, a'r drygioni cysylltied- ig a'r hen system; a phaentiai gyda lliw- iau dengar a phrydferth y daioni an- nhraethol fuasai yn debyg o ddilyn seliad y "Reform Bill." Ar ol ymdrech galed, pan oedd y wlad yn gynkyrfus i'w gwael- odion, daeth y "Reform Bill" yn un o ddeddfau Prydain yn y flwyddyn 1832. Ymddengys fod ei enwogrwydd wedi cyr- haedd y pwvnt uchaf ar binaclau anrhyd- edd yn yr adeg hon. Ac fel y sylwodd Arglwydd Macaulay, Yr oedd dwy o'r gorchestgampau a enillodd yn ormod mewn un bywyd." Bu wedi hyn yn Brif- weinidog o'r flwyddyn 1846 hyd 1852, ac wedi hyny o 1865 i 1866. Wedi gweithio yn rymus a phenderfyn- ol am flynyddau dros ryddid gwladol a chrefyddol, y mae Iarll Russell wedi gorphen ei yrfa, a'i gorff wedi ei gasglu at ei dadau. Yr oedd y llywodr- aeth am ei anrhydeddu ag angladd cy- hoeddus, a'i gladdu yn Westminster Abbey; ond ymddengys mai ei ddymuniad oedd cael gorphwys yn ymyl ei hynafiaid yn swydd Buckingham. Heddwch i lwch y gwron; nac aflonydded neb ei feddrod; prydferthed anian ei wely a blodau pryd- ferthion; siied yr awelon alargerddi o'i gwmpas, a bydded i angel gwyn o'r Wynfa Wen wylio ei fedd hyd udganiad t5 udgorn treiddgar archangel Duw. Llangaclog. DELTA. [Derbyniodd Gol. y CELT amryw notes oddiwrth Iarll Russell, drwy ei Private Secretary-un yn 1827 i gydnabod derbyniad ardystiad yn erbyn y "Test Laws," ac i erfyn am eu dilead o ddeddf-lyfrau Prydain; un arall i ddiolch am gopi o'i Pleadings for the Vote," ychydig cyn adeg y "Reform Bill" cyntaf. Yr oedd yr Iarll yn gwenu wrth ddarllen geiriau cyntaf y Pleader:—" My Lord,-I am a man, not a very big man, but am of a respectable size, rather bigger than the Prime Minister." Derbyniodd un arall i gydnabod derbyniad "Ymresymiad- au" yn erbyn cynddaredd poethwyllt y rhutliro i Ryfel, y Crimea; a derbyniodd o leiaf ddau eraill i ddiolch am dystiolaethau o ffyddlondeb i orsedd Prydain oddiwrth gyfarfodydd o wein- idogion; ac un i gydnabod cais am ostwng toll cludiad llythyrau. Y mae yn llawen genym fod y newyddiaduron mewn ysbryd mor gynes yn cydymroi i wyngalchu beddrod y gwladgarwr Rbyddfrydig larll Russell.-GoL. ]

YR YSGOL GREFYDDOL.