Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y PULPUD: Y LLWYFAN: Y WASG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PULPUD: Y LLWYFAN: Y WASG. Y D1WEDDAR BARCH. EVAN ROWLANDS, roNTYrwij. YN y fl. 1868 yr adnabuom ef gyntaf, a'r pryd hyny nid oedd ond adfail yn aros o'r r. ,p tywysogaidd Barch. E. Rowlands. Yr oedd fel magwyr ogwyddedig byth er yr ergyd. o'r parlys a gawsai, er mai cyffyrdd- iad ysgafn oedd. Collodd y nwyf a'r yni oedd ycddo; difuddiwyd ef o weithrediad arferol ei ddealltwriaeth, ac yr oedd fel pe buaaai cwmwl wedi myned dros ei gyneddf- au, er na ellir dweyd iftdo fyned all an o'i bwyll ychwaith. Methai gyflawni ei wein- idogaeth, ac yr oedd fel eryr euraidd .wedi colli grym ei adenydd. Cawsom gyfleusderau lawer i ymadnabod ag ef am yf» agos bedair blynedd, oblegid syrthtasai ein caeibren mewn ardal gyfyl i'r eiddo ef. Byddem yn myned i'w weled bob mis, ac yn ami iawn yn y mis weithiau ond ni chawsom gyfleusdra i'w weled yn ei ogon- iaqt, yn eithaf-gyrch ei ddydd a'i weinid- ogaeth er hyny, ni buoin yn hir cyn dy.fod i wybod pa sut un oedd efe, drwy ymgyf- €illachu ag ef, a chael amlinellau ei gymer- iad gan ei gydnabod a'i edmygwyr, ond yn anadneb,gan ei hoff gyfaill" ef a ninau, self John Davies, pencantor Silo, Aber- syeban. Boed} ni gael portread o ellwedd—"dyn oddiallan M—-Mr. Bowlands. Yr oedd yn fawrogorffolaeth, yn agos chwe throedfedd ei wchder, yn ddyn cydnerth, cyfan, cynjies- nrol, fel adail wedi ei chymwys gydgy- sylltu; a phe na buasai ei wyneb wedi ei no^ gan y frech wen, buasai y dyn hardd- af %-jnwyaf golygus yn y wlad. Er bod ei wyaebpryd ya dwyn nodau y frech Wen, dywedid. wrthym fod ■"golwg tywysogaidd Bfnttby#. y! edrychiad cojofn fynor wedi ei chwblliau gan y cerfied-ydd cyfarwydrf. "Yr oedd yn ddyn o nerth P* beth am nodweddau ei feddwl ? Yr oeddjn ddyn o gyneddfau cryfion neilldu- oki Ystyrid ef yn dduwinydd eadarn-gryf a idosbarthBs, ac yr oedd wedi casglu gwybodaeth gyffredin helaeth iawn. Ni chafodd neraawr fanteision yn moreu ei oes. Yr oadd dros 15 oed cyn y medrai ddarllen y Beibl Cymraeg, ac yn 17 llawn cyn bod yn berchen Beibl ei hun. Yr oedd wedi cyrhaedd ei 22 ml. oed pan dderbyniwyd ef yn$elod yn Ninas Mawddwy, gan yr Hybarch W. Hughes. Wedi iddo ddech- reu pregethu, aeth i'r ysgol i'r Dinas at un Mr. 0. Owens (y Parch. O. Owens, Rhes- ycae, wedi hyny), ac oddiyno i'r Neuadd- lwyd. Fe'i ganed yn Nghwm Tafolog, geillaw Dinas Mawddwy, swydd Dref- aldwyn, yny fl. 1792. Urdded ef i waith y weinidogaeth yn Nghapel Helyg a Rhos- lan yn 1824, ac wedi pum mlynedd o drig- iasyno, symudoddi Ebenezer, Pontypwl. Gwelir wrth y pethau uchod na thynwyd efdrwy yr ysg-olion, ac mai drwy hunan- addysg, o ganlyniad, yr heliodd ef yr ystorfa fawr o wybodaeth a feddai. Dy- wecUd ei fod yn ddarllenwr dyfal a diflin- yo, Jlj^rbryf; nid yn lloffwr crwydraidd, nid yn spermalogos, Yr oedd 61 darllen twm £ a manwl ar yr hen gyfrolau tlew- drwch mawrion oedd yn ei astudfa. Nerth, fe dybygir, oedd prif nodwedd ei feddwl. Yr oedd ei feddwl yn gyffelypach i dwr o gromlechau Cymreig nag i gofgolofnau caboledig 1Pi Aifffc. I ba beth y cyffelybwn efp Nid posibl dweyd yn fwy Pynwys- fawr na hyn Megys ei gorffolaeth felly ei feddwl. Yn yr ysgriflyfr a gawaom yn goffadwr- iaeth am dano, yr hwn sydd ar y bwrdd o'n blaen, y mae dwy bregeth faith Seisnig, yn brawf o'i feistrolaeth ar yr iaith hono, ond ni wnaeth y Gymraeg yn bwne ei efrydiaeth. Y mae ei gystrawen y gyfryw nas gellir ei beio, ond am ei orgraff y mae yn wallus iawn. Dywed Dr. Rees, Aber- tawe, am dano yn ei lythyr, yr hwn sydd i'w weled yn nghofiarit Mr. Rowlands, a ysgrifenwyd gan y Parch. E. Hughes, Penmain, fel y canlyn "Mae ei lyfrgell yn cynwys amryw ganoedd o gyfrolau o weithiau prif awduron o'r oes Baritanaidd i lawr hyd yr oes hon a thybiwn nad oes un ddalen o'r cyfrolau hyn heb ei throi gan- ddo, a'i darllen yn ofalus. Yn gymaint a'i fod yn ddarllenwr mor fawr, gellir casglu yn naturiol fod ei bregethau yn gyfoethog o ddrychfeddyliau, ac mai nid cruglwyth o benau llymion ydynt. Rhana ei bregethau yn drefnus i benau a changhenau, ond nid gyda rhyw dlysni benywaidd. Nid mewn pertrwydd y mae rhagoriaeth ei bregethau, ond mewn cydgasgliad o feddyliau grymus, nodedig am eu newydd-deb (freshness), er nad ydynt ond yn anfynych wedi eu cabali yn ofalus.Anfynych y elywir ef yn tra- ddodi pregeth athrawiaethol heb un ergyd ymarferol ynddi, nac ychwaith bregeth ym- arferol heb un nodiad athrawiaethol. Mae Mr. Rowlands yn draddodwr hapus iawn, parabla yn eglur. Nid yw un amser yn ddiffygiol o ddigon o eiriau cryfion a phwr- pasol, ac y maeganddo lais cryf a pher- seiniol, a'r fath lywodraeth ar agwedd ei wynebpryd, fel y llefara. ei olwg yn llawn mor effeithiol a'i eiriau." Dywed Dr. Rees yn mhellach Medrai ganu ei bregethau mor effeithiol a neb pwy bynag, ond ni chlywsomef erioed yn gwneud hyny, canys pregethwr ac nid fiddler ydyw." Awn rhagom at arbenigion ei gymeriad. Diweirfoes a glan ei fuchedd fu drwy gydol ei ddiwrnod, ond ni ddiangodd yn hollol rhag drygair ac enllib. Pan mewn cy- manfa yn Mryste, can gynted agy darllen- odd ei destyn, tarawyd ef yn ysgafn, fel y tybygid' wedi hyny, ag ergyd o'r parlys. Dywedai rhai mai dan ddylanwad y ddiod feddwol yr oedd, ond bu yn edifar iawn ganddynt, a chydnaburhai eu hamryfusedd gyda galar am ddrygu o honynt un o en- einiogion yr Arglwydd. Hefyd gwelodd rai yn anhywaith, diffaith, ac anhydrin eu hysbryd yn Ebenezer. Dyn unplyg, di- ffuant, didderbynwyneb, heb fod byth yn arfer gweniatih na thruthiaith, nac un math ar dwyll oedd efe, a gelyn ffyrnig ac angherddol pob math o hoced a thwyll, gweniaith a rhagrith, dichell a chyfrwys- dra mewn gair, dyn above board oedd. Rhoddwn ddwy enghraifft gerbron er dangos rhai o nodweddau. ei gymeriad. Pan oedd Mr. Williams, Wern, unwaith ar daith yn y De, anfonodd y cyhoeddiad a fwriedid i Ebenezer, Pontypwl, gyda chy- hoeddiad He arall cymydogaethol, i ofal gweinidog islaw Pontypwl, yr hwn, er mwyn gorfaelio yr anrhydedd iddo ei hun o gael Mr. Williams i bregethu i'w gapel, a gadwodd gyhoeddiad Ebenezer heb ei anfon. Wrth reswm daeth Mr. Rowlands i wybod yn fuan am yr hoced, a phan gyf- arfu a'r gwr bychan o gorffolaeth" a guddiasai y cyhoeddiadj bu agos iddo roddi dyrnod iddo. Byth er y tro dichellddrwg hwnw (ond nid y cyntaf na'r olaf i'r "gwr bychan "), yr enw arno gan Rowlands oedd Dai N- 1-. Dywedir mewn man yn y Farwnad" am dano a gyfansoddod I yr ysgrifenydd fel y canlyn Aeth y brawd didderbynwyneb, Gonest., gelyn twyll a brad Ato ef ni hudid calon Wirion drwy ragritbiol nad Sarug oedd wrth bob rhyw fradwr Ddeuai ato yn ngwisg brawd; Tynid hwn i oleu heulwen, Crogid hwn yn destyn gwawd." Dro arall, yr oedd mewn cynadiedd o weinidogion, ac yr oedd gwr ieuanc newydd ei ordeinio a fuasai yn grydd yno yn dra siaradus, yr hyn a boenai dipyn ar Mr. Rowlands. Gwelai yr hynafgwr profedig a didderbynwyneb fod eisieu dysgyblaeth ar y gweinidog ieuanc cymhenfalch, felly aeth ato yn araf o'r set fawr, a chan wynt- io llawes ei goat, efe a sibrydodd yn ei glust: "Mr. gwell i ti dewi; mae arogl y cwyr crydd heb dy ac'ael di eto." Yr oedd y dymer ar y mwyaf yn sarug, a'i eiriau yn swrth yn ami, ond perchid ef fel dyn cywir a ffyddlawn. Dywedai John Davies, blaenor y gerddoriaeth yn Aber- sychan, wrthym, nad gwiw fyddai holi dim arno wrth deithioi neu o gyfarfodydd, yn y tyneu yn y maes, mai o hono ei hun y llefarai, ac nid drwy dynn oddiarno. Yr oedd hynodion arbenig yn perthynu iddo fel i bob hen lane. Gallem feddwl fod John Davies wedi deall holl gonglau" ei natur, ac yn gwybod pa sut i wneud ag ef. I Cyfeiriasom eisoes at yr ysgriflyfr (MS.) sydd yn ein meddiant. Mae yn cynwys pregethau. 8eisnig a Chymraeg, haner dwsin o honynt. Y dyddiadau wrth bregethau olaf y llyfr ydyw 1829, 1830. Dyfynwn un o honynt yma, ac fe dybygem ei bod yn enghraifft weddol dda o'i weinidogaeth. Feargraffwyd ganddo pan oedd yn ei lawn dwf, ar gais Cyfarfod Chwarterol Mynwy, btegeth ar Ocheneidiau y Weinidogaeth," a bregethasai ynddo. I'r sawl a chWenych- ont ei gweled, y mae braslun o honi i'w gael yn y Cofiant gan y Parch. E. Hughes, Penmain. Ni ddull-newidir dim ar y bregeth ganlynol oddigerth y llythyraeth. MYRDDIN. Y bregeth ar Gynydd yn y nesaf.

CANOL Y FFORDD.