Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CAPEL LLANDDEEFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAPEL LLANDDEEFEL. Adeiladwyd y cap J uchod yn y fl. 1868, yn gapel goffadwriaethol am y bobl a fu farw mewn canlyniad i'r erledigaeth a fu yn sir Feirionydd wrth geisio rhyddhau y sir oddiwrth lywodraeth a chynrychiolaeth Toriaeth ac Uchel-eglwysydd- iaeth. Trowyd lluaws o'u tiroedd, a chwalwyd en teuluoedd, am eu bod yn rhy cydwybodol, er mwyn budd, i fynegu eu bod yn Doriaid, a hwyth- au yn Rhyddfrydwvr, trwy bleidkisio gjda'r yoa- geisydd Toriaidd. Costiodd y capel tua jpl.400, ac y mae y ddyled wedi ei thynu i lawr i £ 650. Drwy fod gofalon colegawl a gweinidogol yn fawr, nid oeiidwn fel gweinidog yr eglwys Annibynol yn Llandderfel yn galln gwneud cymaint at symud y ddyled a bhe buasai llai o waith mewn llaw. Yr wyf yn rhwymedig iawn am yr help a gefais gan fy mrodyr hoff, Mri. J. R. Williams a Thomas O. Jones, drwy gymorth y rhai y mae y ddyled wedi ei Ileihau gymaint. Yr wyf wedi gweinidogaethu am flynyddoedd lawer yn Llandderfel yn ddidal er mwyn diddy- ledu yr addold^. Bwriadaf yn ystod y flwyddyn hon wneud ymdrcch arbenig i leihau y ddyled, ac os oes modd, i'w llwyr ddileu. Nid yw eglwys Llandderfel, yr hon sydd yn brin o 100 o nifer, yn alluog i wneud hyn heb gymhorth lawer oddi- allan. Byddai yn llawenydd mawr i ni oil fel plcidwyr yr achos yn Llandderfel i allu cyhoeddi fod ein jubili eleni. Yn Meirionydd y dechreuwyd y mudiad di- weddar o sefyll hyd at waed tros foesoldeb yr egwyddor o-bieidleisio yn ol cydwybod, fel dros lefaru'r gwirionedd, yr hwn a ddilynwyd wedi hyny yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, a man- au eraill. Gan fy mod yn ystod mis Mehefin a rhan o Orphenaf yn bwriadu ymweled a chynulleidfa- oedd yn y De ar ran yr achos hwn, diolchaf yn fawr am bob cymhorth i gael yr amean uchod i ben. Hysbysiadir yr holl gyfraniadau yn y CELT. MICHAEL D. JONES. Yr wyf yn gydnabyddus ag amgylcbiadau Capel Llandderfel, ac y mae y ffeithku a grybwyllir yn y Uythyr uchod yn hollol gywir. AP VYCHAN. CASGUiUD AT GAFBL LLANDBBEFEL. Soar:—Wm. Jones, Tyddyntyfod, 5s.; Mary Rowlands, Is.; Simon Jones, Tai-isa, 2s. 6c. Thoa. Rowlands, Is. Evan Evans, Hafod, Is. Margaret Arthur, Is.; Robert Huws, Ty'nywaen, 2S. 6c.; Humphrey Williams, Ty'nypistyll, Is. Ed. Roberts, eto, 2s. 6c.: John Jones, Braichda, 3s.; John Edwards, Brynderw, 2s.; Susanah Edwards, eto, 9c. Gwen Parry, Soar, 6c.; loan Richards, Gwernbrychdwr, 10s.; E. Jones, Glan- afon, Is.; Lewis Jones, Taimawr, 5s.; Robert Lewis, et@, la.; Jane Hughes, eto, Is.; Owen Owens, TytandderWen, 2s.; William Jones, Tan- yffordd, 28. 6c.; John Jones, Pentrellawen, Is.; Mrs. Williams, Gaer, 15s.; Y Plant, 5s.; LI. Williams, 5s.; Sem Edwards, Brynderw, Is.; Owen Jones, Ty'nyrerw, 6c. Robert Jones, Wenallt, 2s. 6c. LLANGWM A GELLIOEDD.-David Robert! Peny- gaer, £ 1; Owen Owens, Hafod, 5/; Richard Hughes, Graig, 4c.; David Richards, Tyuant, 1/; Thomas Richards, eto, 1/; Robert Ellis, Bryn- djedwydd, ge.; Margaret Roberts, Tynant, 4c.; David Jones, Hendu, 1/; Robert Williams. Gwern- anan, 1/; Mrs. Jones, Shop, 1/; Edward Jones, Ty'nybryn, 6c.; David Jones, Tygwyn, 2/; Llew- elyn Jones, Pendu, 2/6; H. Jones, eto, 6c.; Ch. Brookes, 6c.; John Jones, Glandwr, 2/; William Thomas, Tynant, 2/6; Thomas Thomas, Shop, 1/; John Jones, GJanyrafon, 5/; William Hughes, Llwynsaint, 2/6; Thomas Hughes, Fronisa', 6c.; David Williams, Ystrad, 5/; Ellen Roberts, oto, 1/; H. Humphreys, Felin, 1/; W. J. Ellis, 1/; Mrs. Jones, Penybcnt, 1/; J Davies, Garthinrilio, 5/; T. Morris, 6c.; J. Parry, eto, 1/; T. Davies, 1/6; Ellen Jones, eto, 6c.; T. Jones, Ty'nyffridd, 1/; Alice Jones, 1/; Humphrey Ellis, 1/. BALA.—Parch. R. Thomas (Ap Vychan), JE1. Tw barhau. BALA. Mae'n dda genym ddeall fod tebygolrwydd cryf y gwelir llinell ffordd haiarn BALA A FFESTINIOG yn cael ei chychwyn yn ystod yr haf presenol, gan fod parotoadau mawrion yn cael eu gwdoud at ei gosod yn wahanol ddarnau. Yr ydyin yn llwyr gredu y bydd hon yn gaffaeliad gwerthfawr i'r dref mewn llawer ystyr, ac nid llai gwerthfawr i wyr y chwarelau. Yr wythnos ddiweddaf cynaliwyd cyfarfod yn NGHOLEGDY Y METHODISTIAID. mewn eysylltiad ag athrofa yr enwad, i wrando canlyniad yr arholiad fu ar y mylyrwyr yu ystod yr wythnos flaenorol. Yr arholwyr oeddynt y Parchn. 0. Thomas, D.D., Liverpool, Llewelyn Edwards, B.A., Aberystwyth, a D. Lloyd Jones, Llandinam. Cawsant eu profi mewn gwahanol ganghenau gwybodaeth; a rhoddwyd canmoliaeth uchel iddynt am eu hjrodrech a'u llafur yn ystod y flwyddyn, Yr oedd yno lawer o wnbrwyon yn cael eu rhanu i'r rhai goreu. Cafodd Mr. Thomas John Jones, o sir Fon, fel yr ysgolor goren y wobr hardd o A'50, sran foneddwr o sir Fflint o'r enw Mr. Wright. Mae atnryw yn dybenu nu tymhor yn yr athrofa, ac yr oedd 25 o ymgoiswyr nowydd- ion eleni, a chawsant eu derbvn oil ond tri. Clywooixi fod y pwyligor yn lied unfryd, o blaid codi y safon o ddcrbyniad ar ol y tro hwn, fel y bydd o angenrheidrwydd yn fwy anhawdd llwyddo i gael derbyniad i mewn. Yn ystod y cyfarfod aed yn nghyd a'r gorchwyl o ddad-orchuddio darlun o'r diweddar Dr. Parry, yr hwn a fu yn gwasanaethu y swydd o athraw yn y sefydliad am dros ugain mlyneud, a hyny gyda'r ffyddlondeb mwyaf. Blwyddyn yn ol, cyf- lwynodd Mr. Wright yn rhodd i'r athroffi. ddarlun da a ebywir o Dr. Edwards, a uhan nad oedd yr un Wright yn dod yn mlaen i wneud yr un parch a Dr. Parry, barnodd amryw o gyf- illion yr olaf y dylesid gwneud hyn o barch iddo yntau, fel arwydd o edmygtdd ei gyfeilJion o'i lafur llwydd- ianus yn yr athrofa Gwnaed yr arian i fynu mewn byr amser. Mae'r ddau oil painting o waith un o gelfyddydwyr goreu Llundain. YSTALYFERA. Mae y lie uchod yn un poblogaidd iawh yn mhlithlleoedd eraill y Deheudir. Ac er lod y CELT clodfawr yn ymddangos yma er ei ddechreuad, ac yn cael derbyniad gwresog, ni welsom air ynddo mewn pertbynas a'r He. Saif y lie o fewn 12 neu 13 milldir i Abertawe, yn sir Forganwg. Y mae yma waith haiarn eang, ac alcanwaith helaeth, yn nghydag amryw fan-lofeydd. Ond yr hyn sydd yn cadw masnach y lie a'r cylchoedd yn ol ydyw atalfa gweithiau Ynysgedwin; a phe cych- wynid y cyfryw, byddai gobaith am gyffroad. Mewn ystyr arall, mae y gymydogaeth yn bur enwog, sef fod yma bersonau ieuainc gobeithiol mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth. Panteg.-Talodd Ysgol Sabbathol y Gurnos ymweliad a'r lie uchod prydnawn Sabbath, Mai 26ain. Dechreuwyd yr oedfa gan efrydydd o Athrofa Aberhonddu, ac yna dechreuodd yr ysgol ar ei gwaith o adrodd Mat. xxv., mewn ffordd o atab .i'r Parch. B. Thomas, eu gweinidog llafurus, yr hwn oedd wedi gweithio yr atebion allan yn farddonol. Dybeuodd Mr. Thomas y cyfarfod yn brydlon drwy weddi. Aeth pawb adref wedi eu boddio. Cyngherdd.—Cynaliwyd cyngherdr) anrhydedd- us yn yr un capel nos Sadwrn, Meh. laf. pryd y llywyddwyd yn ddeheuig gan y Parch. R. Trevor Jones, gweinidog y He. Gwasanaethwyd yn drefnus gan y personau canlynol:—Mri. P. Francis, W. Kdwards, J. T. Davins. Mias S C. Thomas, Treforris; Mr. D. Lewis (Eos Dyfed), Misses Mary Smith, a Susanah Davies, Ystaly- fera; yu nghyda Panteg a Gurnos Glee Parties. Chwareuwyd yn odidog ar y berdoneg jran Mr. H. L. Edmunds. Cyflwynir yr elw i Mr. J. Williams (Asaph Godreu Graig), am ei ymdrech gy'ia'r canucynulleidiaol. BOANERGYDD. GLANDWR. Gyda'ch caniatad, Mr. Gol., yr wyf am roddi o flaen darllenwyr y CELT ychydig o hanes y lie uchod. Y mae braidd bawb yn mhell acyn agos yn gwybod am Glandwr, o herwydd fod y lie wedi bod yn enwog am ei fasnach weithfaol, ac y mae yn parhau felly, oddigerth y gwaith dur sydd yma. Y mae hwnw yn myned yn araf iawn ac y mae llawer o douluoedd ag oeddynt mewn llawnder gynt, yu breaenol yn gwybod beth ydyw caledfyd. Dynion parod i waith, er cysur i'w gwragedd a'u plant, heb ddim i'w gael ond cerdded yr heolydd. Gobeithio mai byr fydd ad eg fel hon yma. Dirwsst.—Nid estrones ydyw hon befyd yn ein hardal; na, y mae yma ddi gan yn ei phleidio er's blynyddoedd bellach., Carem pe b'ai y temperance hero o Fangor yn talu ymweliad a ni eto. Fe welai fod hon yn gwisgo agwedd lewyrchus iawn; ac yn wir, teilwng o glod ydyw y brodyr Thomas Harris ac R. Davies. Y maent yn llafurio yn galed o blaid sobrwydd. Gobeithio y canty wobr fawr am eu llafur o weled llawer yn ymuno a dirwest. W. D.

Advertising

CELL CYFBAITH Y CELT.