Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

BLAENRHONDDA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

yn weddol dda ar y cyfan, a dysgwylia fod gan- ddynt ddigon o arian ar gyfer y gofyn, ond nad allent roddi y cyfrifon y noson hono, gan na ddaeth gwybodaeth am swm y grunt. Y peth cyntaf a wnaed wed'yn oedd gwahodd yr ymgeis- wyr am y swydd, a'r rhai a'u hetholai yn mlaen i dalu y naill 5s. a'r lleill 2s., a chafwyd mai 8 o ymgeiswyr oedd ar y mies eleni, sef yr hen bwyllgor, 7 mewn infer, a Mr. Kirckham. periglor y plwyf. Gofynwyd gan y cadeirydd i Mr. Kirck- ham a oedd ef yn sefyll yn ymgeisydd, a dywed- odd nad oedd wedi dyfod i ymofyn na gwrthod swydd felly. Awd yn mlaen gyda'r busnes o bleidleisio trwy y balot; ac wedi eu casein i fyny, safent fel y can)yn :—Mri. J. Hnghes, 54; R. Wil- liams, 53 J Edwards, 53 R. Davids, 53 D. Jar- man, 53; J. Evans, 53; D. Davies, 47; a'r Parch. J. W. Kirckham, 15. Y rhai a edrychasant dros y pleidleisiau oedd Mri. Jones, Clegerddwr; Fran- eis, Pentrecelyn; a Howell, Relieving Officer. Wedi darllen y pleidleisiau, cyfod"dd y Parch. 0. Evans i fyny, a dywedai fod yu ofidus ganddo fod Mr. Kirckham wedi cael mor llcied o bleidleisiau, ac nad oedd ef mewn un modd yn meddwl fod neb yn ei anmharchn yn hyny—-y buasai ef yn foddlawn iawn i un Eglwyswr fod nr y pwyllgor. Yna dywedodd Mr. Jones, Clegerddwr, Eglwyswr arall, beth ond anmharch a arwyddai, onide bu- asai yn cael cyiielyb rif i'r lleill. Ymddengys fod Mr. Evans wedi oyfnewid ei farn yn y flwydd- yn ddiweddaf, gan ei fod wedi dangos yn dra eglur cyn yr etholiad llynedd d anirhymeradwy- aeth i'r un Eglwyswr fod ar y Bw) dd na Wesleyad chwaitb; a chofusgan raioedd yn dadleu yn dyn am gydraddoliaeth, y gair hwnw, Beth sydd a fyno Mr. Kirckham a'n bysgol ni ? &c. Ond er rhoddi parch i'r neb y mae parch yn ddyledus, amlygodd Mr. Robert Davies ei barodrwydd i roddi ei swydd i fyny fel aelod o'r pwyllgor new- ydd er rhoddi cyfle i Mr. Kirckham fyned i'w Ie, ond dengys fod Mr. Kirckham yn ormod bonedd- wr i hyny, a gwrthododd y cynyg. Rhoddodd Mr. Kirckham anerchiad i'r cyfarfod, gyda dangos ei fod yn anghymeradwyo cau y Beibl o'r ysgol, a dymunai iddo gael ei ddarllen o bryd i bryd, yn nghyda dysgu y Deg Gorchymyn. A ydyw Mr. Kirckham yn bnrnu fod rhy fach o'r naill a'r llall yn cael ei arfer yn ngwaelod y plwyf ni wyddom, dnd byddai yn burion peth iddo ef ofalu yn dda am ei ddeadell yn y Llan, ac hefyd ei ddeadell sydd er's tro bellach yn Eglwys St. loan, wrth y Cock, heb yr un bugail. Cododd y Parch. 0. Evans ar ei ol, a dywedodd ei fod ef yn bersonol yn hollol o'r un farn am ddarlleniad y Beibl yn yr ysgolion a Mr. Kirckham. Yr oedd hyn yn Swnio yn anhyfryd ar glustiau rhai pan yn galw i gof fod Ymueillduwyr yn gytfredinol yn ymwrth- od a chymysgu y Beibl yn yr ysgolion dyddiol. Y mae yn ddrwg genym ddweyd nad oes yr un arweinydd dyogel yn Llanbryumair y dyddiau hyn fel cynt. Yr oedd ar y macs fel ymgeiswyr am fod ar y pwyllgor yn Mai y llynedd 18, ac eleni 8. Yr oedd o bleidleiswyr y llynedd tila 110, ac eleni tua 55. Swm yr arian a ddorbyoiwyd llynedd oedd £14, ac eleni Ml. Yr oedd y blaid a enill- odd y maes llynedd wedi bod yn dra Nyddlawn eleni, a lledaenir y gair eu bod yn dysgwyl gwrth- wynebwyr eleni, ond cawsant eu siomi ond gyda'r eithriad o Mr. Kirckham. Ond dywedwn yn hyf ac yn onest nad ydyw pethau yn edrych yn dda yn Llanbrynmair fel y maent yn sefyll ar hyn o bryd. (tC y mae yn amheus gemm os na ddeuir i weled hyny cyn hir, olilegid y mae enill plaid ac ymdrechu ei chadw yn sicr o fod yn gancr mewn cymdeithas, ac yn rhwystr i weitbgarwch mewn byd ac eglwys. Gomeii AB Gojieb. IAL. Philadelphia.—Cynaliodd yr eglwys hon ei chyfartod blynyddol ar y dyddiau Mercher a Iau olaf yn Mai, pryd y pregethwyd yn rymus ac effeitbiol gan y Parchn. D. M. Jnikins. Park Road, Le'rpwl; R. Roberts, Wern a W. Nichol- son (Eldad Mon), Le'rpwl. Yr oedd y cynulliad- au yn lluosog. Cymdeithas Gyfeillgar St. Garmon.-Y mae hon erbyn hyn yn meddu swm lied fawr o arian wrth gefn, y rhai sydd allan ar log. Cynelir y cyfarfodydd misol perthynol iddi yn awr mewn tafarn. Oni ellid symud lie eu cynaliad i le arall? Oni ellir cytuno a Mr. E Roberts, fel y gellid eu cynal yn Nby'nllan? Y mae Ty'nllan yn meddu ystafelloedd cang-y mae vn y Llan," ac felly yn He hynod gyfleus i'w cynal. Credwn mai cam yn yr iawn gyfeiriad fyddai ei symud o r dafarn. Yr ydym mewn modd difrifol yn dy- muno cael sylw y llywydd, Mr. David Jones, Brynrogo', a'r ysgrifenydd, Mr. Robert Jones, Pontystyllod, at hyn. Gair o'r America.-Tua deg mlynedd yn ol, ymfudodd Mr. John Roberts, Caemadog, a'i deulu i'r America, a darfu. id lynt ymsefydlu yn nhal- aeth Wisconsin; a hyfryd genym ddeall ei fod yn dyfod yn mlaen yn gampus yno, a'i fod yn diolch llawer am ei fod wedi newid dwy wind. Y dydd o'r blaen, cawsom The Weekly North Western, a gyhouddir yn Oshkosh, ac ynddo yr oedd ha.nes y sheep shearing" a fu yn Fisk's Station, Mai lleg. Dym:t'r oil ddywedir yn yr adroddiad swydd >gol am Mr. R.: — "John Roberts, Elo. Buck, 2 years, grade, weight iu fleece, 133 pounds weight of fleece 25,1 pounds; quality extra fine and l mg, fair style, d'Use fleece." Da genym ddeall fod ein cyfaill, yr hen Gaemadog." ar y blaen i wool-growers nwy dalaeth, a deallwn fod "gwlan y buek yn wertli Y,2 Pa le yn y wlad hon y gellir cael cymaint o wlan oddiwrth un bur: k J Y Ddwy Foneddiges "—Y mae yn hyfryd genym hysbysu fod myn'd lied dda wedi bod i'r llyfryn hwn. Gan fod Mr. T. D. Jones yn byw yma, ac yn un o'r tri ac yr ymddiriedwyd y gwaitb o ddwyn y Uyfr allan iddynt, taimla am- ryw y dylem wneud eingoreu dros eu gwerthiant; gan fod Mr. J. a'i ddau gyfaill yn rkwym i dalu am danynt, pa un bynag a werthir hwy neu ddim. Clywsom fod un ysgol yma wedi eu eynyg oil yu wobrwyon i'r plant am ddysgn rhyw ran o Air Duw allan, ac yr oeddym yntnawr hoffi eu cynyg- iad. Dywedodd amryw yn ein clyw fod un Dwy Foneddiges" yn ddigon i bob ty, ond gwyddorn am un ty lie y mae pump wedi myned iddo Gallem feddwl fod y Ilyfr yn bur rad am geiniog. Cymanfa Gerddorol. — Cynaiiwyd cymanfa gerddorol dosbarth Llanarmon yn nghapel Rhiw, Ial, v dydd Lluncyntaf yn Mehefin. Yroedd yno ganu da, a chynulleidfa luosog.. Ysgol y Bwrdd.— Bu yma bwtyn o bregethwr yn isathraw i'r ysgol bon sy'n Llanarmon am dymor, ond y mae wedi ymadael, a obyhoeddir y caiff y gymydogaeth golled ddofn (?) drwy ei ymadawiad. Yr oedd swm y grant a enillwyd am y flwyddyn a derfynai yn Ehrill diweddaf yn £ 125 8s. Oc. Y mae llafur Garmonydd, yr athraw presenol, yn cael ei fawr ganmol. Nid yn unig y mae yn fedrus a llwyddianus fel athraw, ond y mae yn ddyn medrus mewn llawer cylch, ac fe'i canmolir gan bawb yma o herwydd ei weithredoedd. SAM Pbys. ABERTAWY. CYNALIODD y Gymdeithas Ddirwestol ei chyfarfod misol yn ysgoldy Ebenezer, Nos Fawrth, Meliefin 4. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. F. Samuel. Yna etholwyd Dr. Rees i'r Gadair, ac ar ol ychydig eiriau pwrpasol gaiiddo yn egluro amcan a dyben y cyfarfod, galwod,¡ ar y Parch. J. Rogers, Penbre i anerch y gynull- eidfa luosog oedd wedi dod yn nghyd. Siaradodd Mr. Rogers dros awr ar ei hoff bwnc o sobrwydd. mewn modd sobr a difrifol ofnadwy, gyda nerth a dylanwad angerddol, byd nes teimlai p¡nvb o'r presenolion fod y gwirioneddau llym a draddod- wyd yn cyraedd celloedd dyfnaf y gydwybod euog. Gwnaeth ddefnydd rhagorol o amrai hanesion er dangos adgasrwydd y fasnach feddwol i'r gwran- dawyr. Dywedai pan buasai ambell i feddwyn yn llusgo trwy heolydd trefydd Demona, y buasai y Demoniaid yn dyfod allan i ddrysau eu tai a'u plant yn eu Haw gan estyn bysedd, ac ysgwyd eu penau ar ol y truan tlawd yn ei gyflwr truenus, er mwyn argraffu ar feddwl eu plant y truenus- rwydd dychrynllyd sydd yn dod ar wartbaf y dynion hyny a wna yn hyf a'r gwirodydd oyohyrfus. Hefyd cyfeiriwyd bod rhai Chineaid yn rhoi addoliad i'w heulun dduwiau, ac os na byddai iddynt eu benditbio ar ol rhai blynyddau o wasanaeth ffyddlawn, y cymerent hwynt ymaith i'w llosgi fel duwiau drwg, a'u dyfetha allan o'u golwg yn nghyda'u hallorau. Bendith y nefoedd a fyddai i Gymru pe diorseddid a llosgid eu hen dduw bacus allan o bob teulu drwy ein gwlad a'r byd yn gyffredinol, a chladdu hyd yn nod ei lwch yn ngwaelodion y m6r marw hyd derfyn oesoedd (a dyweded yr hull bobloedd amen.) Gwnaeth apel ddwys at bob crefyddwr i lwyryrnwrthod a'r diodydd diuystriol, ac yn neillduol y cymedrolwyr gan nad oedd y fath beth yn gywir gerbron Duw, ac i ddyn duwiol i wneuthnr na chymeryd dim oedd yn ddrwg ynddo ei hun yn gym-drol. Caiodd Mr. Rogers uchel gymeradwyaeth y dorf amryw weithiau yn ystod ei ddarlith alluog. Yn nesaf galwyd ar y Parch A. J. Parry, Bethpsda i anerch y cyfarfod. Siaradwyd gan Mr. Parry yn rhesymegol a meistrolgar ar ddirwest yn yr arferiad o honi. Dywedai mai crefydd oedd yr unig gyfundrefn i atal a darostwng meddwdod. Splendil, mcddai cyfaill oedd yn eistedd wrth fy ymyl, yr hwn sydd yn gvnKvlrolwr cryf. Ond pan aeth at yr ochr aral! i'r gwirionedd, nid oedd yr un teimlad yn cael ei ddangos a'i amlygu, sef bod yn rhaid i'r proffeswyr hyny oedd yn yr arferiad o yfed ychydig fel y dywedir, yn ormodedd ar brydiau, ei rhoddi i fyny cyn byth y onasai i'w crpfvdd eu cadw i fywyd trngwyddol; ïe, bod yn rhaid rho Idi y diota, y gyfeddach a'r meddwi yr oeddynt yn eu mynwesu, ac yn llechu ddyfnaf yn eu calon beibio yn drwyadl cyn enill teyrnas Dduw. Hefyd, cyfeiriodd at y meddygon byd- enwog Llundain fel rhai sydd yn rhoddi eu holl ddylanwad, ac yn gwrthdystio yn erbyn y fasnach hon fel gclyn gwaethaf dynoliaeth. Doctoriaid Syr William Gull, Syr Henry Thomp- son, Dr. Edmunds, Dr. Carpenter, a Dr. Richard- son. Mae yr oil o honynt, ond Syr William, yn gwrthod rhoddi dim o'r cyrfui iau gwlybyron i'w cleifi m; ond y mae ef, mewn rhai amgylchiadau neillduol, yn ymarfer yehydig o hono fel moddyg-1 iriiaeth. MILe caei tystiolaeth meddygon biaenaf y deyrnas fel y rhai uchod, yn sicr o ddyianwadu er daioni, a cliael llu eraill o'n meddygon i'w canlyn; a phe unwaith y ceid y dosbarth pwysig yma yn drwyadl yn erbyn baccus. jjtdlid dywedyd wedyn fod ei ddyddiaa a'i flyuyddoedd wedi eu rhifo i fyuy i ebargofiant. Ar y diwedd, dioloh- wyd i'r ddau ddarlithyclil a'r c ideirydd yn gynes am eu gWiisuuaeth. Ac fel ffnvyth o'r cvfar'od neillduol hwn, daeth Mr. D. Rees, Fferyllydd. yn mlaen i arwyddo yr ardystiad dirweutol. Go- beithio y parha, ac y bydd yn gaffaeliad yn mysg y dirwestvvyr tra byddo byw pa rai sydd ar eu goreu yn erbya meddwdod. Gynadledd o aelodau a chynrychiolwyr Ysgol- Aon Abertawy a'r cylehoedd.—Oyoaliwyd y gyn- adledd yn y Guild Hall, Dydd LlulI y 3ydd cyfisol. er siarad am y priodoideb o gitel Atiirasvea brofiadol i ddysgu i'r merched gyidldeb yn eu tai, ac yn neillduol sut i goginio bwydydd &c. Yr oedd yn bresenol Mr. T. i'rew, cadeirydd y Bwrdd Ysgol, Miss Brock, Dr. Davies, W. Davies a'r ddau Offeiriad Pabyddol Richards a Wilson, pa rai ydynt uelodau y Bwrdd Ysgol, Arch- ddiacon Llandaf, Parchn J. Griffiths, a Buckley, Castellnedd yn cynrychioli yr ysgolion Cenedl- aethol; Mr. J. P. Morgan, dros ysgol y Plwyf Mr. T. Thomas, goruchwyliwr y Bwrdd ysgol St. Helen's a Miss Grenfell dros yr ysgol wirfoddol St. Thomas. Etholwyd yn unfrydol Mr Trew i'r gadair. Gwnaeth y cadeirydd araeth agoriadol eglur iawn ar y pwnc, sylwodd bod aeloclau y Bwrdd wedi teimlo lawer gwaith yr angenrheid- rwydd o gael rhywbeth er codi chwaeth y teuluoedd hyny sydd yn byw mewn budreddi, afiechyd corflorol, meddyliol, a moesol, pa rai sydd wedi suddo i lawr i dlodi ac anedwyddwch, ac mai yr unig ffordd (fffeithiol oedd i ddysgu y genedi sydd yn codi mewn cynildeb, glanweith- dra, sobrwydd, a chogmio yn fedrus. bod y pethau hyn yn sicr o fod a'u tuedd uniongyrchol er llesoli cymdeithas a dedwyddu teu!noedd, ac o hyn y ceir merched gweini da a gwragedd a mamau rhagorol. Yna galwodd ar Miss Brock i anprch y gynadledd. Cafwyd ganddi araeth fedrus, y mae hwn yn hen bwnc iddi, ac fel y cyfryw triniodd ef yn oleu ac eglur. Dymunai am gael athrawes fedrus wedi cael tystysgrif o Kensington, neu un o'r ysgoliont addysgawl perthynol iddi; ac i ethol ryw nifer o ysgolion canolbarthol, ac i'r athrawes roddi gwersi dyddiol iddynt; ac y gallasent gael yr athrawes oivu yr un fath ac ysgolion Llundain am lai nft £fiû y flwyddyn. Rhoddodd amryw awgrymiadau budd- iol eraill yn ei haraeth. Wedi hyny. cododd Wilson y Pabj dd. Lied gymylog oedd ei araeth er dyrysu cynllyn Miss Brock, yr hon oedd am gael yr athrawes at wasanaeth- y Bwrdd Y sool ac os oedd eraill am gael ei gwasanaeth tuallan, y byddai yn rhaid iddynt dalu eu cyfran tuag at hyny. Dadleuai nad oedd yn deg, os cael un o gwbl y dylasai roddi gwersi yu yr ysgolion euwadol, sef yr ysgolion Pabyddol a'r Eglwys Loegr. Sia adodd yr Archddiacon yn yr un cyfeiriad, a b,)d Castellntdl a manau eraill yn barod i gydweithredu a'r Bwrdd os oeddent yn bwriadu estyn yr addysg i'r ysgolion elfenol, a chynygiodd y penderfyniad canlynol:— Bod y cyfarfod hwn yn hollol gydolystu mewn egwyddor ar yr amryw ofyniadau a roddwyd iddo; gau fjredu y pwys- igrwydd a'r gwerth o ychwanegu at adranau evaill o addysg elfenol, sef oyidldeb teulnaidd, ac yn neilldnol y ooginio teuluaidd, ac yn deisyf yn daer a. go.tyngedig ar Fwrdd Ysgol Abertawy i ScfyiUu yn ddioed yr angenrheidiau priod- ol er cario allan yr addysg ychwanegol; ac hefyd yn cyrner- adwyo bod yr angenrheidiau gofynul yn cael on parotoi, fel y gall plant ysgolion enwadol y dref gael rhan o'r rhagor- freintiau a'r budd sydd yn Melen rhoddi ar draul y cyhoedd, ar yr oriau penodedig, ac o dan reolau a farnant yn oren i'w inabwyaiadu." Eiliodd Wilson ef. Yr oedd yr Eglwyswyr a'r Pabyddion yn cael gwneuthur a fynent yn y cyf- arfod yma. Gobeithio y bydd yn y nesaf y Parchn. B. Williams, Canaan, a W. E. Jones, Treforis, ac eraill o'r Rhyddfrydwyr parchus sydd ar y Bwrdd. W.D..