Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
i (Euttfogsiai. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
i (Euttfogsiai. Nodiadau gan y Gol. 3 Y Pulpud, y Llwyfan, y Wasg—Marweidd-dra Masnach America 4 Oddiwrth ein Gohebydd Cyffredinol-Cyfarfod Chwarterol Deheuol Morganwg—Cydweli.. 5 Cymanfa Orllewinol y Deheudir-Cymanfa Maldwyn .6 Cymanfa Ysgolion Penygraig, Rama, a Phila- delphia-Undeb canu cynulleidfaol rhan- barth Penybont—Le'rpwl—Salem—Sardis 7 PRIF ERTHYGL- Y Rhyfel a'r Gynadledd yn Berlin—Y Senedd 8 O'm Hawyren—Cymanfa Meirion 9 Gohebiaethau 10 Congl yr Efrydydd—Cadben Madoc—Tanbel- enau—-Abergorlech 11 Bangor—Merthyr—Abertawe ] 12 Tredegar, Rhymni, a Glyn Ebbwy-Gogledd Ceredigion — Dinas Mawddwy — Horeb- Peniel-Sardis—Dolyddelen—Caer—Galwad 13 Lrenedigaethau—Priodasau—Marwolaethau— Barddoniaeth-Hysbysiadau .14
IttfMaku gan (Skrl.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
IttfMaku gan (Skrl. GAIR Y "WASG" AM Y "CELT."—Dy wed y Wasg, sef gwasg Pittsburgh, America, O r diwedd daeth y CELT (cyhoeddiad wythnosol S. R.) i law. Y mae o ran ffarf yr un fath a'r Tyst a'r Dydd. Cyn- hwysa erthyglau llenyddol galluog a gwerthfawr, ond fel Newyddiadur, nid yw eto i fyny a'i gydgystadleuwyr. Dys- gwylir pethau mawrion oddiwrtho fel y byddo yn heneiddio ac yn casglu nerth." Drwg genym fod y CELT mor hir yn croesi y Werydd tua swyddfa y Wasg. Dichon ei fod yn aughynefin a morio yn wythnos- au y gales; ond aeth o'r diwedd, a go- beitbio y cychwyna yii amserol o hyn allan. Geil w y ¡Vas!! y CELT yn "gyhoeddiad wythnosol 8. It." Dylasai y Wasg wybod tod Cwiimi" mor weithgar ac mor ddysg- edig ac mor enwog yn perthyn i'r CELT ar Cwmni sydd yn arolygu swyddfa y Wasg. Dywed y Wasg yn mhellach, fod T) ff vran fl'ul'f yr un fath a'r Tyst a'r y c. I niae y CELT yr un fiVirf a maint 1J ZdUdd* yr hvvn a genhedlodd y ddau efaill, sef y Tyst a'r Dydd; ac y mae y CELT vr un Ituri a llawer o newyddiad- uron eraill; ac y mae mor fawr am geiniog a J ydyw y Tyst a'r Dydd am geiniog a tilluai, ac iiior fawr ag ydyw y lVasgum bron ddwy geiniog. Sylwa y 'Wasg fod y CELT yn cynwys "erthyglau llenyddol galluog a gwerthfawr, ond nad ydyw eto i tyny ai gydgystadleuwyr fel Newyddiad- ur." Diolch i'r Wasg am ganmol "erthygl- au llenyddol" y CELT. Tr ydym bron yn credu y byddai yn dda ar les ein cenedl pe rhoddid mwy o le gan ei "gydgystadleu- b wyr i erthyglau, a thipyn llai o le i'r aewyddion lieol," a'r adroddiadau am J?y |ar-ofdy dd. Grobeithia y Wasg y »r ^ELT gasglu nerth wrth hen- eiddio. Ei ddymumad yntaii ydyw ar 1 vv gydgystadleuwyr yn Nghymru ac yn America, gryfhau wrth heneiddio. Nid ydyw y CELT eto ond baban, eithr dymun- iad ei geraint ydyw ar iddo ddyfod yn ddyn, ac yn ddyn cryf, hardd, cydnerth, cyfeillgar, teg a boneddigaidd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"WILLIAM M. TWEED, BOSS MAWR CORFF- ORIAETHAU NEW YORK.—Y mae newydd orphen ei yrfa yn y car char. Yr oedd yn un o'r dynion rhyfeddaf yn ei oes. Er ei fod o deulu isel, cafodd ysgol dda. Yr oedd yn un o ymroad egniol i weithio ei hun yn mlaen yn mhob cylch lie y byddai -i gwmniau masnach, byrddau ariandai, pwyllgorau railffyrdd, llysoedd corftor- iaethau, a chynhadleddau gwleidyddol; ac yr oedd yn wych iawn am gael gafael yn yr awenau yn mhob man, ac yn enwedig am gael gafael yn llinynau y pwrs. Medrai weithio ei ffordd i'r gadair ar ben braidd bob trysorfa. Yr oedd drwy hyny wedi medru llwyddo i gribddeilio miliynau o arian y cyhoedd. O'r diwedd dechreuwyd. adwaen ei dwyll, dygwyd cwynion yn ei erbyni lys barn, cyhoedd- wyd ef yn euog, a chafodd ei anfon i garchar am dwyll ei gribddeiliaeth. Yr oedd cwynion llawer trymach na'r rhai ddygwyd yn mlaen, ag yr oeddid yn barod i'w profi yn ei erbyn. Gwnaed egniadau gan ei gyfeillion er ceisio ei ryddhau o'i gaethiwed; ond angeu yn y diwedd lwyddodd i'w ryddhau pan oedd yn bymtheg a deugain oed. Y mae yn alarus i feddwl fod dinesydd o'r fath gyfrwysdra, a'r fath yni, a'r fath ymroad wedi terfynu ei oes yn y carchar, a hyny am gyfrwysdra ei gribddeiliaeth a chreu- londeb ei dwyll. Ystyrir ei fod wedi achosi niweidiau trymiou iawn i ddinas New York; ac y mae yn bur eglur mai ysbryd ac ymddygiadau Tweedaidd sydd wedi achosi rhan fawr o'r dyryswch a'r wasgfeuon a ymdaenodd y yn blynyddoedd diweddaf dnvy bron holl gylchoedd yr Unol Daleithiau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RUSSELL GURNEY, A.S.—YR oedd yn un o brif swyddwyr Dinas Llundain. Ell yn seneddwr a dinesydd gweithgar ac enwog, ond y mae yntau wedi gorphen ei yrfa. Bu'n eistedd ar tainc llawer Hys tel gorucbwyliwr, ac yr oedd iddo air uchel am fedr ac uniondeb; ond gwyddir am un dyfarniad o'i eiddo ag yr oedd barn a theimlad llawer o ddynion mwyaf profiadol a dysgedig Lloegr ac America yn ei gondemnio. Ere oedd un o'r tri Barnydd, neu y Commissioners, a anfon- wyd i Washington i ystyried claims, neu hawliau rhai o ddeiliaid Prydain yn erbyn Trysorlys yr Unol Daleithiau. Taflwyd o'r neilldu y pryd hyny ganddoj ef a'i gyd-farnwyr lawer iawn o'r claims symlaf a thecaf fuont erioed o flaen unrhyw lys. Yr oil a ddywedasant wrth gyboeddi eu pedderfyniad oedd "This claim is disal- lowed." Nid oeddynt yn rhoddi unrhyw reswm dros eu dyfarniad. Gwasgwyd arno ef lawer gwaith am ei reswm, ond nid oedd yr un rheswrn i'w gael; bod yn fitaoeddei gallineb ar ol y fath brawf. Ond dylid cydymdeimlo yn dyner a'r Commissioners druain, yn nghanol- eu profeaigaethau a'u brys. Nid hawdd ydoedd ffurfio barn lawn ar y fath claims, ar ol cinio yn enwedig, yn swn ymresym- iadau Red-tapeaidd twrneiod doniol America. Darfu i ddyfarniad Russell Gurney a'i gyd-farnwyr glwyfo teimladau rhai seneddwyr, cyfreithwyr, arianwyr, a marsiandwyr oeddynt wedi manwl ystyried deddfau uniondeb cyd-wladwr- iaethol, ag oeddyut yn gwybod befyd fod y claims a wrthodwyd yn rhai syml ac eglur, ac o'r uniondeb perffeitbiaf.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CrMDEITHASEA DDIWEDDAR Y METHOD- ISTIAID-Ceir adroddiad manwl yn y Faner o weithrediadau Cynideithasfa Aberystwyth, a dylai y Cyfundeb deimlo yn ddiolchgar i swyddfa y Faner am roddi lie i adroddiad mor gyflawn. Senedd fawr dau Dy y Cyfnndeb ydoedd y Gymdeithasfa, ac yr oeddid yn trefnu pob peth yno mewn ffurf mor reolaidd a dim a wneir mewn unrhyw gyd-gyng- horfa; ond yr oedd corff mawr credinwyr Aberystwyth a'r cymydogaethau o amgylch, yn teimlo yn ddwys siomedig am na chafwyd yno yr un diwrnod at llItEGETHU. Yr ydym yr un iarn a theimlad a'r Faner mai argoel er niwed i nerth a bywyd crefydd yn ein gwlad fyddai cynal cymdeithasfaoedd a chyman- faoedd, yn enwedig mewn lIe .fel Aber- ystwyth, bpb drefnu un diwrnod o wiedd i wrandawyr myfyrgar, gweithgar, a duwiolfrydig ag ydynt mor Ifyddiawn i athrawiaethau ac ordinhadau Cristionog- aeth ag ydyw y rhai mwyaf selog o flaenoriaid y cynhadleddau a'r cymdeith- asfaoedd. Pregetlw nerthol efengylaidd t,Y yr hen dadau, ac nid y trefnu a'r penderfynu cynadleddawl roddodd gych- wyniad a nerth i'w Cyfundeb Uydan a defnyddiol, a dyna fydd eto y moddion efteithiolaf i gadarnhau ei nerth, i ledaenu ei ddefnyddioldeb, ac i ddyrchafu ei ogoniant.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PATAGONIA.—yr ydys yn ol tystiolaeth amryw newyddiaduron wedi darganfod llwch aur yn rhanau o'r wlad fawr hono, os felly, ymdyra anturiaethwyr yno i chwilio am y tywod aur. Dylai y rliai a ant yno i chwilio am aur, rag-ddarparu am fwyd hefyd oblegid nis gellir cloddio am aur heb i ryw rai aredig a hau a dyfrhau at gael Uuniaeth. Os ydyw Patagonia i gael ei galw yn "wIad yr aur," enilla enwogrwydd all fod o ewl anmhrisiadwy iddi.