Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA YSGOLION PENY-GRATG,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA YSGOLION PENY- GRATG, RAMA, A PHILADELPHIA. Cynaliwyd y gymanfa uchod eleni yn Penygraig, dydd Llun y Sulgwyn. Dechreuwyd yr oedfa gyntaf am ddeg o'r gloch, trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Morris, Llanstephan. Canwyd gan yr holl gynulleidfa y d6n Hamburgh," ar y geir- iau, Disgyn, lor, a rhwyga'r nefoedd." Canodd ysgol y Gorsfach d6n, ae adroddasant ran o'r Ysgrythyr Lan. Arholwyd hwynt gan Mr. Morris, ac wedi yr arholiad canasant yr ail d6n. Ar 01 i'r ysgol hon ddybenu, canodd ysgol Phila d6n, ac adroddasant benod. Arholwyd hwynt gan Mr. Watkin Williams, Caerfyrddin, ac wedi yr arholiad canasant eilwaith. Cyn ymadael, canodd yr holl gynulleidfa y d6n Caerfyrddin," ar y geiriau, Dan dy fendith." Am 2 o'r gloch, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Jervis, Penygraig. Canodd yr holl bobl y don Groeswen," ac ar ol hyn daeth ysgol Brynygroes yn mlaen i ganu ac i adrodd penod. Arholwyd hwynt gan Mr. Watkin Wil- liams, a chanasant don arall ar ol yr arholiad yn rhagorol dda. Yr ail ysgol yn y prydnawn ydoedd Rama. Canasant ac adroddasant yn dda. Ar- holwyd hwynt gan Mr. Morris, Llanstephan. Ac yn ddiweddaf am 2, canodd ac adroddodd ysgol Penygraig. Canasant ddwy don. Arhol- wyd hwynt gan Mr. Jervis. Mae yr ysgol hon yn enwog am ei chanu, ac ni bu yn ol y waith hon i'w harferiad gyffredin. Cyn ymadael, unodd yr holl gynulleidfa i ganu "Hen Ganfed." ha fel hyn y terfynwyd un o'r cymanfaoedd ysgolion goreu a welwyd erioed yn y gymydogaeth, ac aeth pawb i'w ffordd ei hun yn Uawen. Dylasem ddywedyd hefyd fod pobl Penygraig wedi darparu *«°»edd o ymborth i bawb, heb arian ac heb werth ac yr oedd y bara brith yn dderbyniol »wn gan y plant, yn feibion ac yn ferched. JOHN I GEIAI.

UNDEB CANU CYNULLEIDFAOL RHANBARTH…

SALEM, CEREDIGION.

CYMANFA MALDWTN.