Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN DDIRWESTOL. (GAN Y PABCH. D. S. DAYIES). i BAIeH trwm, a rhwystr mawr i'r achos dirwestol ar hyd y blynyddoedd oedd dylanwad drwg y meddygon. Atebiad parod y rhai anwybodus o'n cyd-ddynion oedd, A wyddoch chwi yn well na holl f,eddygon y deyrnas beth sydd yn llesol i gorff dyn?" Ac er fod llawer o ddirwest- vyr yncredu, yn ol Gair Duw ac ysbryd orefydd, mai camarfer eu swydd yr oedd y maddygon hyny wrth gyfarwyddo y cleif- ion i ymarfer a gwlybyroedd meddwol, a ebyfarwyddo rhai iach hefyd yn ami i wneud yr un peth; eto, yr oedd vn an- hawdd sefyll yn syth o flaen yr heriad, "A wyddoch 'chwi yn well na'r meddyg ? Gwelais sylw yn llyfr Dr. Gunn na chymerai efe ofal meddygol un dyn na dynes oa na byddai ganddynt ffydd gref ynddo ef fel meddyg. A chlywais y sylw T yn ami, "I beth y cymeraf y cyffyr hwn, a minau heb y mymryn lleiaf o fiydd jnddo ?" Ac yn ami iawn dywedir, weithiau, er mwyn difyrwch, a phryd arall eddifrif, mai ffydd a iacbaodd y claf; nad oedd y feddyginiaeth yn ddim amgen na Shelenau bara (bread pills). Wei, o difri, heb gredu yr oil a awgrymwyd am ffydd y claf, y mae yn ihaid iddo wrth I fiydd gref yn y meddyg. Ac o hyny y daeth fod gair y meddyg yn ddeddf ar bob path yn perthyn i iechyd, yn gymaint felly fel y mae torffawr na chaniatant i ddim a ddywed rheswm, nac ysgrythyr, na phrof- iad bwyso dim yn erbyn barn y meddyg. Gan hyny, y mae cyfrifoldeb y meddyg yn lawr iawn. Ond y mae yn ffaith alarus fod dylanwad corff mawr meddygon y deyrnas h on wedi bod yn erbyn yr achos dirwestol. Ac yn natur pethau, yr oedd yn anhawdd i areithwyr annysgedig mewn pethau meddygol, nad pa mor ddysgedig mewn, pethau eraill, gael llawer o ddylan- wad ar gynulleidfaoedd pan siaradent ar bethau yn perthyn i feddygaeth. Oild y mae gan y Brenin mawr ffordd i godi dynion neillduol at waith neillduol yn yr amser priodol; ae felly, gyda dech- fieuad a ehynydd dirwestiaeth ddiweddar, y maa ymresymwyr dirwestol wedi cael cefnogaeth gref gan rai o'r meddygon foreu, a chedwir mewn coffadwriaeth ythol barehus yr enwau teilwng hyn:— Tn America—Rush, Clark, Linsley War- ten, Mussey, Sewall, a'r dewr Eliphalet Nott; yn Sweden-Fay a Huss; yn Iwerddon-Cheyne a Harvey; ac yn Mhrydain—Carrick, Beaumont, Higgin- bottom, Fothergill, Grindrod, Macculloch, Mudge, Carpenter, Miller, Munrol, F. E. Lees, B. W. Richardson, ac yn ddiweddar y mae y meddyg brenhinol, Syr William Gull, wedi rhoddi ei dystiolaeth yr un fiordd. Dywedir mai yn fwriadol, er mwyn amddifFyn yr achos dirwestol, y pen- derfynodd F. R. Lees efrydu meddyg- aeth, ac nid er mwyn enill bywoliaeth yn y gelfyddyd hono. Aeth drwy ei efrydiaeth yn llwyddianus, a graddiwyd ef yn rheol- aidd felrhyw feddyg arall. Ond ymladd biwydrau dirwest byth er hyny y mae yn erbyn mympwyon a gauathrawiaethaa hen ysgolion rhagfarnllyd a llygredig y medd- ygon alcoholaidd. 0 dro i dro rhoddwn ddyfyniadau o'i bethau yn y CELT. Yn mhlith yr enwogion uchod y mae tri enw wedi myned o'u hysgwyddau i fyny yn uwch na'r Ueill yn eu gwasanaeth i'r achos dirwestol,—y Dr. Eliphalet Nott, New York; Dr. F. R. Lees, a'r Dr. B. W. Eichardson yn Lloegr: ac o'r tri hyn, y penaf yn awr yw Dr. Richardson. Y mae holl feddygon y deyrnas, fawr a man. yn cydnabod awdurdod Dr. Richardson. Dylai pob un sy'n gofidio yn nghylch ar- ferion diotawl a meddwol Prydain Fawr ddiolch yn gynhes ac ami i Dduw am godi a chynal dynion o fath y Dr. Richardson. Gallwn fod yn dawel ein meddyliau, bell- ach, am fod dyddiau gwell yn ymyl pan y bydd y rhai sy'n cyfarwyddo iechydaeth y wlad yn unfrydol yn gwneud a allant dros sobrwydd y wlad; a g-all yr holl areith- wyr dirwestol ddefnyddio rhesymau Dr. Richardson heb ofni i neb eu gwrth- wynebu. Cyfieithwn lawer o bethau y gwyr da uchod i'r rhifynau dyfodol o'r CELT. Rhoddwn yn awr dystiolaethau talfyredig oddiwrth amryw o'r meddygon crybwyHedig ac eraill:— Thomas Beaumont, Ysw., M.R.C.S., Llywydd Cymdeithas Meddygon Brad- ford :— Fy marn i, yn seiliedig ar ymarferiad hir ac eang, yw nad oes ond ychydig o glefydau, os dim, nad ellir eu trin yn llwyddianus heb gynorthwy diodydd alcoholaidd. Fy argy- boeddiad pwyllog yw, fod yn rhaid i'r meddyg- on hyny a ddiystyrant yr arferiad cyffredin o'r diodydd meddwol, ac a ddadleuant droa egwyddorion llwyr-ymataliaeth, lwyddo mwy yn eu galwedigaeth na'1' rhai a lynant wrth yr hen syniad fod y diodydd hyn yn hanfodol angenrheidiol at driniaeth lwyddianus yr am- ryw glefydau sy'n goddiweddyd y natur ddynol. John Fothergill, Ysw., M.E.C.S., Dar- lington :— O'r holl elfenau meddyginiaethol poblog- aidd, nid oes dim a ddefnyddir mor ami, nac a llai o angen am dano, nac mor beryglus i'w weinyddu, na gwirodydd alcoholaidd, a gwin, a diodydd brag; a byddai llwyr-ymwrthodiad a hwynt yn foddion i ragflaenu dinystr llawer o gyfansoddiadau, a Cholliadau aneirif fywyd- aua aberthir yn awr i arferiad annoeth o hon- ynt. Y flwyddyn ddiweddaf bu dan fy ngofal amrywiaeth mawr o achosion, yn y rhai yn flaenorol y buaswu yn gorchymyn pethau meddwol; ond nid wyf yn tybied i mi erioed gael llwyddiarit mwy boddhaol na'r hyn ddaeth i'm rhan wedi peidio gorchymyn y diodydd hyny. Tua'r amser yma y flwydd- yn ddiweddaf yr oedd dan fy ngofal nifer mawr o gleifion mewn twymyn lyferth-lem (severe typhus fever), ac yr oedd fy ngwaith yn cael ei wylio yn fanwl gan offeiriad deallus, yr hwn a ddygasai i mewn gyflenwad o win ar yr awgrym lleiaf oddiwrthyf fi. Cefais fy moddhau yn fawr iawn yn yr amgylchiad hwn—eu hadferiad yn sefydlog a chyflym. R. R. Mussey, Ysw., M.D., Cincinnati: Am danaf fy hun, fel meddyg o ddeng ml. ar hugain o brofiad, yr wyf wedi ymwrth- od yn llwyr a phob defnyddiad o'r diodydd alcoholaidd yn ystafell y claf, ac yr wyf yn credu yn ddifrifol fod fy llwyddiant, er pan y mabwysiedais v drefn hon, yn fwy nag ydoedd o'r blaen. Mr. Higginbottom, Nottingham:— Er ddarfod i mi, yn ddall, roddi alcohol yn feddyginiaeth am dros ugain ml., nis gwybum erioed iddo iachau cymaint ag un clefyd, ac nis gwybum erioed am un meddyg arall yn iachau neb trwyddo. Credwyf y gwnaf fwy me ffn iashau a rhagflaenu afiechyd mewn un flwyddyn drwy orchymyn llwyr-ymataliaeth nag a allwn ei wneud yn y cwrs cyfFredin, mewn cart mlynedd. Gwelais eisoes glefydau yn cael eu hiachau drwy lwyr-ymataliaeth oddiwrth alcohol na allesid byth ei wneud trwy unrhyw ffordd arall. William Gordon, M.D., Hull, ar ei wely angeu, a ddywedodd wrth Mr. Smithard, yr hwn sydd ddirwestwr selog:— Cymerais win am ychydig ddyddiau, o herwydd ei fod yn cael ei gymhell arnaf. Cyd- syniais, er mwyn boddloni'm cyfeillion, a minau yn dymuno gwneud fy nyledswydd. Ond gwnaeth niwaid mawr i mi. Mae fy nhystiolaeth yn ei erbyn, fel yr oedd bob amser; ond ni iuasai fy nghyfeillion yn foddlon eu meddyliau heb i mi gymeryd gwin, ac yr wyf finau yn teimlo mwy o foddhad ar oleu bodd- loni hwy. Yr wyf yr berffaith hapus, awydd- us am fyned i'r wlad dda. Dr. Morgan, President of the Bath District Branch of the Provincial Medical and Surgical Association, wedi cael chwe' blynedd ar hugain o brofiad fel meddyg, a ddywed:— Dengys y Materia Medica gynhyrfai (stimu- lants) mor effeithiol, a llawer mwy nei-thol iia dim a feddwn yn ffurf diodydd meddwol. Yr wyf fi yn berffaith anhysbys o unrbyw afiech- yd llym na pharhaol (acute or chronic), mewn unrhyw sefyllfa o fywyd, nas gellir ei iachau heb ddiodydd meddwol. Dadleua meddygon ei bod yn ffurf gyfleus o gynhyrfai; ond fod rhyw afiechyd nas gellir ei wella hebddynt. Dyna haeriad na chlywais i erioed eto. Dr. Carpenter, yn y British and For- eign Medical Review, a ddywed:— Yn holl hanes crachfeddygaeth, nid oes yn awr ddim yn fwy gwirioneddol goegfeddygol, na'r dull y mae diodydd meddwol yn cael eu cyfarwyddo neu eu caniatftu gan ddosbarth mawr o feddygon. Kirby O'Sullivan, o Fferylldy Professor Liebig, yn y Medecal Times Camgymeriad mawr yw'r dybiaeth fod cwrw, gwin, neu wirodau (spirits), yn cyfranu nerth; ac y mae yn war thus gweled meddygon yn ceisio lledaenu y cyfeiliornad. Rhaid gadael tystiolaethau meddygon y tro hwn. Ond y mae'r cyfnewidiad sydd yn cymeryd lie yn mysg meddygon ar y pwne hwn yn synu tafarnwyr, a darllawyr a dystyllwyr y deyrnas, fel y gwelir yn eu papurau-cofnodohon "YFasnach," Haer- ent o'r blaen fod cynghrair cryf yn eu herbyn hwy rhwng y teetotaliaid a phleid. wyr y Permissive Bill, a'r "saint," ae eraill o gyffelyb benboethni a surni; ond y maent yn synu wrth weled meddygon aysgedig yn dechreu myned mor ynfyd a'r Heill. Credwn y gwneir gwaith mawr iawn yn y deng mlynedd nesaf. r, Bangor, Meh. 21.

Y JINGOES.