Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
CANOL Y FFORDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I -1) CANOL Y FFORDD. III. YR wyf yn ysgrifenu yr epistol hwn o "Babel fawr y priddfeini," chwedl Kilsby. A fuost ti erioed yn Llundain. ddarllenydd ? Digon tebyg taw hi yw y ddinas fwyaf, gyfoethocaf, a phechadurusaf yn y byd. Mae ei badeilad- au gorwycH a mawrion, a'i heolydd Ilydain a llawnion, yn destynau syndod a siarad i holl genedloedd y ddaear. Nid yw o un dyben i neb geisio desgrifio ei rhyfeddodau mewn un llytbyr, am hyny ni wnaf gynyg. ..1, Prif. 11 bwnc y dydd" ydyw y "cwrdd mawr"' sydd yn cael ei gynal yn Berlin, prif- ddinas Germani, y dyddiau hyn. Ymddengys Ily fod saith. deg a phedwar o foneddigion o wa- haiiol raddau a gwahanpl wledydd wedi ym- gasglii at eu gilydd yno i'r dyben i geisio cadw hedchych Ewrop. O'r rhai hyn y mae rhyw beclwar ar bymtheg yn ddirprwywyr neu gynrychiolwyr y gwahanol wledydd, a'r lleill yn ysgrifenyddion, &c. Nid ydynt oil yn eistedct ar y pwyllgor. Y mae Itali yn fodd- lawn^r beawar ysgrifenydd, Twrci ar bump, Rwssjji ar chwech, Ffrainc ar saith, Awstria ar h, Germani ar wyth, ond cymaint ydyw balcMer Arglwydd Beaconsfield fel yr oedd yn rhaid iddo gael pedwar ar ddeg Wrth reswin John, Bull gaiff dalu y treuliau. Y mae róydain Fawr wedi danfon Ardalydd a larll.jiV Pwyllgor; Germani, dau dywysog a banvn o'r ymherodraeth Rwssia, tywysog, Coui$* a barwn Awstria, dau Count a bar- wn r Ffrainc,Count a Monsieur Itali, dau Collet; Twrci, dau Pasha a Bey. O'r tu allan i'r cwmni urddasol, y mae llu mawr o Arglwyddi, Ardalyddion, Counts, Barwniaid, Chevaliers, Maeslywyddion, Colonels, Cad- bejiiald, &c. Y fath ydyw gwagedd a hum- lm go^iaetb ein byd bach ni Pan ofynwyd i •wleidyddwr^enwog beth ydoedd cymdeithion felly^d^» ei; ,a$eb oedd. er mwyn iddynt dd a\$psio a gwneud i bethau edrych yn hardd. Digon tebyg y bydd. yno lawer o giniawau, ac b y|^d, a dawjj^o. Gall trethdalwyr ein gwla/A benderfynn.y hydd; treuliau y ddir- j); v. vaetli o 17 a ddanfonwyd o'r wlad hon yn unig. "er mwyn boddloni balchder a hunanol- deb .jin, dyn yn sicr o ddisgyn yn drwm ar y trethl .Wei, gwnaeth yr etholwyr dro dwl yn 1*74, a rhaid i bechod gael ei gospi. Ond y yn dipyn p gysur i'r amaethwyr sydd yn gorfod gWeithio yn galed ar hyd wyneb y dd ;iear i gofio eu bod yn cael eu cynrychioli gan$dixprwywr mor anghyffredin o anrhyd- eddu^fel nad all groesi platform gorsaf y reil- ffordp. ps na fydd wedi ei orchuddio a crimson clotluj, Tebyg mai ar yr 17eg o'r mis hwn y dechreuid o ddifrif gyda gwaith y Gynadledd, ond nid oes neb yn medru dyfalu pa bryd y di veddir. Dywed rhai y bydd yn sicr o bar- han ,am wythnosau. Y mae un ffaith wedi dod i'r amlwg eisoes. Nid oes gan y Tyreiaid yr mi cyfaill cywir yny Pwyllgor heblaw Ar- gl w vjdd Beaconsfield.* „ b '< ■ Taa yn siarad am falchder Dizzi, nis gallaf lai ca. chofnodi y sibrwd a daenir ar hyd Llundain yma y dyddiau hyn, sef ei fod yn deoyg P gael eiddyrchafu.ynZWe. Dywedir fod un o'r Tywysogesau Coronog wedi danfon iddo glwm o flodau, yn nghanol pa un yr oedd strawberry wedi.ei hamgylchynu gan gynifer o ddail ag sydd yn ymddangos ar goron Dnk-e! Mwy na thebyg fod yr hint yn dder- byui'ol, ac yn gydweddol iawn a natur Dizzir Dywedai papyr Axnericanaidd ychydig amser yii ol fod Dizzi wedi dv^eyd wrth gyfaill ei fod wedi pexiderfynu priodi y Frenhines .ei hunj Nid yw yn debygol fed hyny yn wir- ionefld, ond y mae yn btirdebyg fod ganddo gryu ddylanwad yn y Teulu Brenhinol. v Goddefer i mi longyfarch etholwyr bwrdeis- drefi Llanelli a Chaerfyrddin. Gwnaeth eu Eaelod Seneddol dysgedig a galluog B. T. Williams, Q.C., ei araeth gyntaf (maiden speech), yn Nhy'r Cyffredin y Meg cyfisol, ac yr oedd yn deilwng o hono. Y mesur gerbron oedd y Valuation BiU. Aethum i'r gallery o bwrpas er mwyn ei glywed. Eisteddai aj yr ail faine ar yr ochr wxthwynebol. Cyfod- odd ar ei draed yn y modd inwyaf hunan- feddianol a boneddigaidd, a siaradodd am ryw haner awr mewn lIais croew, ond fine, a der- byniwyd ei araeth gyda chymeradwyaeth galonog yr holl Dy. Dilynwyd ef gan C. S. Read, Knatchbull- Hugessen, Syr W. Barttelot, Syr Stafford Northcote (Canghellydd y Trys- orlys), Goschen. ac eraill, a gwnaethant oil gyfeiriadau (mnplimenUvidd iawn at araeth The Honorable and learned member for the Carmarthen Boroughs." Rhaidj mi gyfaddef, yr oeddwn yn teimlo fy ngwaed yn cynesu wrth feddwl fod Cymru lan wedi llwyddo i ychwanegu un yn rhagor o'i meibion at ei chynrychiolwyr yn Nhy'r Cyffredin. Dymun- af o'm calon hir oes i B. T. Williams i fwyn- hau y llwyddiant mawr sydd yn sicr o fod o'i flaen. Dichon y gwnaf ychwanegu ychydig linellau yr wythnos nesaf ar yr hyn a welais yn y Senedd. V Byddai yn burion i etholwyr Cymru fod yn barod. Y mae y botyl sydd yn deall ar- wyddion yr amserau yn dechreu sibrwd fod etholiad cyffredinol yn debyg o gymeryd He o hyn i'r Hydref. Gwelaf fod sir Gaernarfon wedi sicrhau ymgeisydd poblogaidd yn mher- son mab Arglwydd Newborougb, a bod sir Drefaldwyn wedi penderfynu ar Stuart Reu- del. Da iawn. Gofaled siroedd a bwrdeis- drefi eraill y dywysogaeth am dani. Deallaf fod CeredigioD yn bwriadu penderfynu ypwDe ar y 27ain cyfisol. Cymerodd dau etholiad Ie yn ddiweddar, un yn Southampton a'r llall yn Rochester. Dych- welwyd Giles (Tori) dros y blaenaf drwy fwy- afrif o 248 ar y Rhyddfryd wr Bompas ond yn Rochester, dychwelwyd Otway, y Rhydd- frydwr, drwy fwyafrif o 280 ar Rarr, y Tori. Mae darllenwyr y CELT yn cofio taw cynrych- ioli Rochester ydoedd yr A elod Seneddol fu farw yn Nhy y Cyffredin y dydd o'r blaen. TOBIT.
YMYLON Y LLWYBRAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMYLON Y LLWYBRAU. MAE amser y eymanfaoedd wedi ein goddi- weddyd un haf eto, a chafodd Pererin y fraint o fyned i gymanfa sir Forga-mvg. Yr oedd yn cael ei cbynal elEmi. yn liesolfen, pentref lied fawr, y rhan fwyaf yn dai new- yddion, ar ochr y gledrffordd isydd yn myned trwy Gwm Nedd. Saif, gallwn dybied, yn ganolog rhwng Glyn Nedd ac Aberdulais. Os cefais fy hysbysu yn iawn, mae yno dri addoldy—un gan y Methodistiaid, un gan y I, Bedyddwyr, ae Eglwys Wladol. Mae hen gapel yr Annibynwyr-Melinewi-t. lie y cod- wyd yr enwog Daniel Griffiths, Castellhedd, a'i gefnder gweitbgar, P. Griffiths, Alltwen, dipyn allan o bentref Resolfen. Mae capel newydd gan yr Annibynwyr yn y He, ac y mae yn un haidd iawn. Eistedda ynddo o 5 i 6 chant. Y gweitbgar D. Morgan sydd yn gweinidogaethu yma. Drwg iawn genym ei fod yn amser y gymanfa yn wael ei iechyd, ac na chawsom ei weled. Ond yr oeddwn wedi bwriadu rhoddi ychydig o hanes fy nhaith i'r lie, a dweyd gair am y gymanfa. Aethum yno yn nghwmni dau neu dri o wyr y cadach- au gwynion, a dau neu dri o ffermwyr h. y., mi ddygwyddais gyfarfod a'r cwmni yna yn y train. Bu amrywiol bethau dan sylw ac yn destyn siarad yn ystod y daith. Siarad wyd am wladyddiaeth a gwladweinwyr, am gy- ngherddau a chantorion, am bregethwyr a phregethau. Daeth y CELT dan sylw, a phas- iodd yn ffafriol gan y cwmni. Ychydig oedd- ynt yn feddwl fod "Pererin" yn eu plith, ac mai goreu po fwyaf cynil fuasent ar eu siarad. Cyrhaeddasom Resolfen mewn pryd i gael yr oedfa 10 o'r gloch. Cly wsom fod yno gryn lawer o weinidogion—o 50 i 60. Nid oedd hyny ond nifer fach o holl weinidogion sir Forganwg. Yn ol y Dyddiadur, mae eu nifer yn 148. Aethom i'r cae lIe yr oedd y gymanfa i gael ei chynal. Daeth adeg dechreu, ar hyn a'n synai yn fawr oedd gweled can lleied wedi dyfod ynnghyd. Yr wyf yn sicr nad oedd yno ddira dros bedwar cant; ac yr oedd yno gyfleusderau i ddod gyda'r train mewn pryd i'r oedfa 10 o Abertawe, Glandwr, Llansam- let, Castellnedd, ac Aberdulais, ac i lawr o Aberdar, Hirwain, a Glyn Nedd. Yr oedd y cae yn hynod o damp, gan ei bod wedi gwlaw- io yn drwm y dydd or blaen j a. buasai yn llawer gwell. i'm bryd i, pe buaaid yn mytted i'r capel, gan fod yno ddigoll o Ie. Dechreu- wyd trwy ddarllen a gweddio gan yr hen frawd swynol W. Morgan, Rhymni. Mae ef wedi heneiddio cryn lawer oddiar pan welodd Pererin ef o'r blaen, ond mae yn cadw yn dda eto. Yr oedd yr hen seiniau rnelus a hyfryd a glywsom lawer gwaith o'r blaen yn oglais ein teimladau, ac yn tynu dagrau o'n llygaid pan oedd yn dyrchafu ei lef at Dduw am ei bresenoldeb yn y gymanfa. Wedi iddo ef ddybenu, cydiwyd yn y Beibl gan y Parch. I. Morris, Pontypridd ond cyn ei fod wedi troi ei ddalenau i chwilio am ei destyn, dyma ddyn tal, o edrychiad penderfynol, yn ymaflyd yn y Beibl o'i law. Pwy ydyw, tybed ? Mae ei wyneb yn ddyeithr braidd i'r dorf. Dyna y Parch. R. Thomas, Glandwr. Dyma y tro cyntaf i ni ei weled ef yn nghymanfa Mor* ganwg. Darllenodd ei destyn yn hyglyw. "Dameg y Mab Afradlon" ydyw. d.Ylae ei ragymadrodd a'i siarad yn naturiol ac ystwytb, yn enill sylw. Mae ei bregeth yn gyfauwaith trwyddi, heb ddim geiriau llanw, ac mae y traddodiad yn hyfryd. Yn sicr, dyma ddech- reu da. Wedi i Mr. Thomas ddybenu, daeth rhai ugeiniau eto i'r maes. Gallwn dybio yn awr fod o fy mlaen ar y pryd.yn agos i 600 o bobl. Yn awr mae Mr. Morris, Pontypridd, yn darllen ei destyn, heb fod yn uchel iawn, ond yn lied glir ei lais. Yr ydym wedi clyw- ed Mr. Morris lawer gwaith o'r blaen, bob amser yn dda, ond y tro hwn yn dra rhagoroL Ar ol Mr. Morris, y Parch. J. Davies, Tai- hirion. Pedr yn y carchar oedd ganddo. Mae Mr. Davies yn ddigon adnabyddus i Gymru fel na raid dweyd dim am dano y waith hon, ond ei fod yn ei hwyliau goreu. Yn wir, yr oedd yr oedfa drwyddi yn nn feridigedig. Dechreuwytl yr oedfa am 2 o'r gloch gan y Parch. W. S. Davies, Llwydcoed. Erbyn 2 o'r gloch yr oedd ydorf wedilluosogi. Dichon fod yma rhwng 7 ac 8 gant. Dyma y rhif luosocaf. Pregethid gan y Parchedigion Thomas, Pontardulais; Rees, Glantaf; a Samuel, Abertawe. Yr oedd y tri yn bur dda. Pwnc y cyntaf oedd: "Gweithgarwch Ctefydd- ol.f Pregeth amserol iawn. Da fyddai pe clywai pob eglwys trwy y sir hi Diweddwyd y gymanfa, yn y capelj a phregethwyd gan y Pajrchn. Rees, Ynysgau; Evans, Gilfachgoch a Thomas, Glantaf. Nid oedd "Pererin" yn y cyfarfod olaf, ond clywodd fod "ffyuonau gras" yn llawnion a melus ragorol. Wrth gyferbynu y gymanfa hon a hen gy- manfaoedd y cefais y fraint o fod ynddynt, rhaid i mi ddweyd ei bod wedi colli ei phobl- ogrwydd yn fawr. Gwelais yn nghymanfa Morganwg cyn hyn filoedd, a hyny mewn lleoedd mwy anghyfleus na Resolfen. Ni cheir yn unman well cyfleusdra i dorf ddyfod yn ughyd na Resolfen; er hyny, nid oedd ar y maes yn un o'r cyfarfodydd ddim mwy nag a gynwysai y capel. Fy marn ydyw, fod cy- manfa sirol Morganwg wedi gwasanaethu ei chenedlaeth. Yr oedd y pregethau gystal a'r un y bum ynddi erioed, ond beth dal hyny ? Cynulleidfa fechan yn Morganwg fawr. PERERIN.
iCYFRINFA IFORAIDD YR HEN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFRINFA IFORAIDD YR HEN FWLCH, GER CAERFYRDDIN. Bn gorymdaith gan y brodyr pjerthynol i'r gyf- rinfa uchod Llun y Sulgwyn. Blaenorid hwy gan seindorf Gwirfoddolion Caerfyrddin, ac aed i gapel Annibynol Elitai, lie y cafwyd pregeth gan y Parch. W. Thomas, y gweinidog. Wedi byny ail ffurfiwyd yn orymdaith, ac aed i Gaerfyrddiu, a thrwy amryw o'r heolydd, ac yna dychwelwyd i'r Hen Fwlch, lie yr oedd ciniaw ardderchog wedi ei barotoi. Mae'r gyfrinfa mewn sefyllfa ragorol iawn o ran ei tbrysorfa arianol-yn ymyl £ 500, ac y mae llawer iawn o ieuenctyd yr ardal wedi ac yn parhau i ddyfod yn aelodau o honi. Cafwyd cyfarfod adloniadol yn yr hwyr, piyd y cadeiriwyd gan y Parch. W. Thomas. Cafwyd cwrdd dyddorol; a therfynwyd y dydd a phawb wedi eu boddhau. BRAWD IFORAIDD.