Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Jftmxhtwbftebi),$c.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Jftmxhtwbftebi),$c. MASNACH YD. Lied farwaidd ydoedd y Farchnad Yd yr wythnos idiweddaf, gyda gostyngiad o swllt i ddau swllt y ehwarter. Y mae yn debygol y cymer gostyng- iad pellaeh le yn fuan, gan fod cyflawnder o wen- Ith yn y farchnad, golwg mor obeithiol ar y cnyd- au, a phob argoelion am heddwch gael ei sefydlu rhwng teyrnasoedd a'u gilydd. MARCHNAD LERPWL, DDYDD MAWRTH, Meh. 18. Yr oedd nifer dda o brynwyr yn bresenol heddyw, a chedwid at bris yr wythnos flaenorol. Indrawn Americanaidd cymysgedig newydd o 22s. i 24s 6c y 480 pwys, a'r hen Indrawn am 25s. Ffa Aifftaidd o 34s i 36. y 480 pwys. Pys 35s. 6c. MARCHNADOEDD CYMREIG. ABERTEIFI, Meh. 15.—Gwenith o 52s i 54s.; haidd, 42s. i 44s; ceirch, 24s i 26s. y ehwarter. ABERYSTWYTH, Meh. 9.—Gwenith o 7s Oc i 7s Co y mesur; haidd, 5s Oc i 6s Oc; ceirch, 3s 3c i As Oc; ymenyn ffres, 12c i 13c y pwys; dofed- nod, o 3s 9c i 5s Oc y cwpl; pytatws o Os Oc i Os 00 y canpwys. BANGOR, Meh. 14.—Gwenith, o 46s Oc i 48s Oc y ehwarter; haidd, 35s Oc i 38s Oc; ceirch, 26s no i 28s Oc blawd ceirch, 35s Oc i 37s Oc y 240 pwys. CAERNARFON, Meh. 15-Gwenith, o 45s. Oc. i 48s. Oc. y ehwarter; haidd, o 36s. Oc. i 39s. Oc. y ehwarter; ceirch, o 26s. Oc. i 28s. Oc. y ehwarter; blawd ceirch o 36s. Oc. i 39s. Oc. y 240 pwys. GWKECSAM, Meh. 13.—Gwenith gwyn, o 7s 60 i 7s 9c y mesur; yr hen wenith coch, o 7s 3c i 7s 6c y bwsel o 75 pwys; ceirch, 3s 9c i 4s 9c y bwsel o 46 pwys; haidd at fragu, Os Oc i Os Oc y 38 chwart; eto, at falu, Os Oc i Os Oc; pytatws 4s 6c i 5s Oc y 90 pwys; ymenyn ffres, o is Oc i Is 2c y pwys; cig eidion, 9c i 10c ypwys; cig defaid, o 10c i lie y pwys cig lloi, 7c i 8c y pwys; ednod, 3s Oc i 4s 6c y cwpl. CROESOSWALLL, Meh. 12.—GWenith o 7s Oc i 78 9c; haidd at fragu, 6s Oc i 6s 9c; ceirch, Off Oc i Os Oc; pytatws, Os Oc i Os Oc y mesur o 90 pwys; ymenyn, 14c i 16c y pwys; ednod, 4s Oc i 5s Oc y cwpl. RHUTHYN, Meh. 9.—Gwenith coch, 16s Oc i 18s yr hob; ceirch, o 7s 6c i 9s Oc; yr haidd at fragu, o 14s Oc i 16s; eto at falu, o 10s i 13s 6.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN DOSBARTHWYR. Y mae y rhifyn hwn yn gorphsn y chwarter (11 wythnos). 0 herwydd anffawd i'r machine coll- wyd y ddwy wythnos gyntaf, a clyna y rheswm Sahara na buasai 13 wythnos yn y ehwarter hwn. iydd felly rhagllaw. Y mae nifer y derbynwyr yn 3,500 A gawn ni erfyn ar ein dosbarthwyr eu codi i 4.000 at ddechreu y ehwarter nesaf ? Da genym ddeall fod y CELT yn rhoddi cymaint o fodtllonrwydd, ac ymdrechir ei wella yn y dyfodol. Amgauir y billiau gyda'r rhifyn hwn, ac erfyn- iwn ar i BAWB anfon y tal drwy P.O.O., taladwy i H. EVANS, PRINTER, BALA, am bob swm dros 5s., ac mewn stamps o dan hyny. Rhoddir pythefnos o amser i'r Dosbarthwyr i gasglu yr arian, ac. i wastadhau a'r derbynwyr, ac anfonir yr un rhif am ddau dro yn unig o'r ehwarter newydd, ac os na chlywn oddiwrthynt yr adeg hono, atelir cf, Yr ydym yn gwneud hyn yn hysbys er i'r darllen- wyr ddeall yr achos na byddai y CELT yn dod i'w eymydogaeth fel arfer, ac hefyd fel na byddo gan neb le i'n beio.-CYHOEDDWR. AT EIN GOHEBWYR. Buom dan yr angenrheidrwydd o herwydd prinder lie, ac am eu bod yn myned yn hen, i grynhoi am- ryw o hanesion, er clirio ein bwrdd. Dysgwyliwn na thramgwydda ein Gohebwyr ffyddlon am hyn. Ymdrechwn, ohd iddynt fod mor gryno ag y gall- ant, gael lie iddynt oil o hyn allan. TELERAU Y "CELT." 1 drwy'r post am ehwarter 0 18 2 eto eto 0 3 0 3 eto eto 0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 4, ond nis gallwn ganiatau hyny os bydd y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n hysbysu y ffordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i ddod i law bob 3 mis. Telerau i America 2g. yr un yn cynwys cludiad. J)..S.-Sylwer yn fanwl ar yr uchod.
Y GYNADLEDD YN BERLIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GYNADLEDD YN BERLIN. YR oedd lluaws o wladweinwyr craflaf y deyrnas hon yn wrthwynebol i'r prif-wein- idog fyned yn bersonol i Berlin, ac Ar- glwydd Salisbury i'w ganlyn, am y byddai hyny yn ymarferol yn symud ein llyw- odraeth ni o Lundain i Berlin. Hefyd yr oedd y cynllun hwn yn rhoddi gormod o awdurdod i'r prif-weinidog, drwy ei alluogi ef ac Arglwydd Salisbury i weitb- redu yn y gynadledd heb ymgynghoriad digonol ac aelodau eraill o'r weinyddiaeth. I hyn yr atebid, mai cenfigen oedd yr achos fod pethau o'r fath yn cael eu haw- grymu. Udgenid clodydd Arglwydd Beac- onsfield. Mynegid fod buddianau pwysig ar gael eu sicrhau ganddo—fod Rwssia ar gael ei threchu gan gynllwynion yr Iudd- ew-fod llwybr esmwyth a gogoneddus yn aros ein prif-weinidog—ac y deuai Arglwydd Beaconsfield yn ol yn arwr enwog, ac y gwneid ef yn Due mewn can- lyniad. Yr oedd y senedd wedi hyny i gael ei dadgorffori, a Thoriaid i gael eu dychwel yn fwyafrif i'r senedd, ac i fod yn uwch eu hawdurdod nag erioed. Bu Benhadad, brenin Syria, yn dweyd pethau bostfawr yn erbyn Israel, ac atebiad syn- hwyrol Ahab iddo oedd, "Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosg." Mae wythnos o waith yn awr wedi cael ei wneud gan gynadledd Berlin, diameu fod yno brysurdeb mawr wedi bod, ac y mae argoelion y bydd y gynadledd yn un faith; ac y mae hyd yr amser, a'r prysur- deb, yn dangos fod gan Arglwydd Beacons- field fwy o orchwyl i'w wneud nag a fedd- yliodd. Yr ydys wedi cael ar ddeall fod math o gytundeb cyfrinachol wedi ei wneud gan Brydain a Rwssia; a meddyl- iai pleidwyr Arglwydd Beaconsfield fod pob peth i ddod yn sytb yn ol y telerau hyny. Ond awgrymir yn awr gan bleid- wyr Arglwydd Beaconsfield fod Rwssia ae Awstria befycl wedi gwneud cytundeb, a pha faint sydd o gytundebau i gyd-nid yw y cyhoedd mewn sefyllfa eto i wybod; ond awgrymir eu bod fel deuddeg o gathod Kilkenny, y rhai, wedi eu cloi i fyny mewn ystafell, a fwytasant eu gilydd, fel nad oedd ond deuddeg cynffon yn ngwedd- ill. Mae y rhai a udganasant orchestion Arglwydd Beaconsfield, cyn iddo eu cyf- lawni, yn awr yn dechreu edliw yn siom- edig, os dychwel i'r wlad hon heb drefnu pethau yn foddhaol yn Berlin, y bydd wedi siomi y wlad yn fawr, ac nad ang- hofir ei fethiant. Fel hyn y mae brolwyr gwyntog ac anwadal Arglwydd Beacons- field yn datgan yn groch eu parodrwydd i droi arno, os na ddaw i fyny a'u dysgwyliad. Mae llywodraetb Groeg wedi cael cenad i fod yn y Cynghor, a phleidiodd cynrvch- iolydd Itali i hyn fod yn egniol iawn. Nid yw Servia, Roumania, na Montenegro, yn cael llais yn y gynadled. 0 Mae holl weithrediadau y gynadledd yn cael eu cadw yn anghyhoedd. Nid oes dim sicrwydd beth sydd wedi ei wneud. Eto y mae'r newyddyron yn rhyw broff- wydo yn lied gywir beth sydd yn cael ei wneud. Dywedir mai ailffurfiad llywodr- aeth Bulgaria sydd wedi bod yn benaf yr wythnos gyntaf o'r ymgynghoriad o dan sylw. Mae yn bur eglur, er holl ymdrcch y Uywysog Bismark i gadvv'r heddwch, y bydd yn anhawdd iddo atal gwrthdaraw- iadau, am fod yno bleidiau eithaf gwrth- wynebol i'w gilydd. Dywedir fod gwyneb- pryd Arglwydd Beaconsfield yn dangos nad yw efe yn cael ei foddio. Mae Aws- tria yn meddwl fod Rwssia mewn tymher i ildio, ar y mae Rwssia yn teimlo yn an- foddog, am fod y Czar wedi ildio gormod yn ol tyb y Rwssiaid. Mae Germani ac Itali yn cadw eu nerth at amgylchiadau arbemg, am nad oes ganddynt fuddianau neillduol yn y cweryl, ac y mae Twrci yn ymgyndynu wrth weled eu difaterweh. Diamheu mai nid gorchwyl hawdd fydd i Arglwydd Beaconsfield enill y buddugol- iaethau a fwriadai; ond os daw yn ol wedi sefydlu Bulgaria hunan-lywodraethol, a rhoddi y rbyddid sydd ar bobl Roegaidd _I Twrei ei eisieu, ni rwgnacha neb iddo gael ei wneud yn Due. Er yr holl anbawsderau sydd i gyrhaedd yr amcan oedd gan Arglwydd Beaconsfield, yn ol pob tebygolrwydd, mewn golwg, dywedir fod cred ddiysgog hyd yn hyn y terfynir pob peth yn heddychol. Ond y mae cynrychiolwyr Twrei yn ceisio dyrysu y gynadledd yn ei hamcanion, drwy ym- ddygiadau cyfrwys.
Y SENEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y SENEDD. Llun. Cyfarfu Ty yr Argwyddi am y waith gyntaf ar ol y Gwyliau. Gwnaed cais gan larll Granville a Iarll Grey am eglurhad gan y llywodraeth ar yr hyn gyhoeeddwyd yn y Globe, fel cytundeb a wnaed rhwng Lloegr a Rwssia. Addefodd Due Richmond a Gordon, arweinydd y Llywodraeth yn y Ty Uchaf, yn absenoldeb y Prifweinidog, fod yr ysgrif wedi ei chael yn lladradaidd 0 Swyddfa y Llywodraeth, ond gomeddoddr roi un eglurhad ami. Yn nhy y Cyffredin, darllenwyd y mesur i ganiatau i gerbydau gael eu llusgo ar hyd y cledrffyrdd yn ein trefi a'n dinasoedd gan ager yn lie ceffylau, y drydedd waith, a chaed 99 o fwyafrif drosto. Tynodd Mr. Hamburg, un o'r aelodau dros Tatnworth ei gynygiad o gondemniad ar Mr. Gladstone, am ei ysgrif yn y Nineteenth Century, yn ol. Syn mor barod yw y Tories i ymosod ar Mr. G. Nidyntbyth, druain, ar eu mantais. Darllenwyd yr ail waith Fesur Epping For- est. Ail gychwynwyd y ddidl ar Fesur 1'risiad Eiddo. Mae mawr eiiiau Bill da ar y mater hwn ond amheus iawn a geir UD gan y Llywodraeth bresenol. Mawrth. Materion perthynol i Scotland gafodd sylw y Senedd braidd yn hollol yn y ddau eisteddiad. Mesur y-Ffyrdd a'r Pont- ydd fu dan sylw yn eisteddiad y boreu. Yn eisteddiad yr hwyr gdlwyd sylw y Ty atyr Ehwadau Crefyddol yn Scotland, gyda gol- wg ar weithrediad y Patronage Act, a bas- iwyd yn '74. Mae dadgysylltiad crefydd 11 y oddiwrth y llywodraeth yn llawn yn awyr- gylch Scotland, fel y gwelid yn eglui yn y ddadl. Ni fyddir yn faith yno cyn cael hyn. Gobeithio y gwna rbyw un sylw o hon yn y CELT; bydd colli hon i'r wlad yn anfantais fawr. Mercher. Caed dadl faith a g-wresog a doniol iawn ar y mesur i Ferched gael yr Etholfraint. Mr. Courtney, yr aelod dros Liskeard, ddygodi y mater gerbron. Dy- wedwyd petbau cbniol am y rhyw deg." Taflwyd y mesur allan drwy fwyafrif o 79. Bu y mesur hwn gerbron o'r blaen, a sicr y daw eto. Nid hawdd atal y ladies i gael yr hyn y mae eu bryd weiii ei osod arno. Chwreu teg i'r henlancesau i gael yr ethol- fraint. Bydd hyny yn gy.sur mawr iddynt yn cu hunigedd.