Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
DYFFR1. N AERON.!
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYFFR1. N AERON. Bu'r wythnos aeth heibio yn un o fywiog- 6 rwydd mwy nag arferol yma mewn cysylltiad a llenyddiaeth a moes. Dydd Llun, bu cyfeillion Trefilan yn tea, cyngherdda, ac areitbio. Arwyr y gwahanol orchwylion oeddynt Aeronian, Dan. Jenkins, a John Jones (loan Glan Pynfarcb). Mawr ganmolid y danteithion a'r gweithrediadau gan awdurdodau uchel. Dyddiau Iau a Gwener, cynaliwyd cyfar- fodydd pwysig mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbathol yn Abermeurig. Y peth teilyngaf o sylw yn ngtyn & hwynt ydoedd anerchiad Cranogwen ar yr "Ysgol Sabbathol a nod- weddion yr Oes." Hawyr bach dyma gaw- ellaid o feirniadaeth giaff, o wawdiaith ddeif- iol, ac o awgrymiadau gwerthfawr. Ffamws, Cranogwen Hir oes iddi. Mae hysbysleni Eisteddfod Brynmadog newydd ymddangos. Os bydd pobpeth mewn cysylltiad a hi mor wreiddiol a doniol a'r rhai hyn, dyna un iawn fydd hi. "Pwllgor" y gelwir y eyiigor o ddoethion y mae "Deheu- dir" i fod yn ben arno. Y mae Ysw. i fod yn lly wydd y dydd cyntaf, ac Ysq. yr ail ddydd, er mwyn ychydig o amrywiaeth. Nid "cyf- ieithiadau" ddysgwylir i law, ond eyfieythiad- au. Wel, llwyddiant iddi i greu eyfnod newydd yn ein horgraff a'n llenyddiaeth. A gaf fi fodfedd o'ch gofod, Mr. Gol., i ddweyd wrth fy hen gyfaill gwrhewcus a phybyr Tobit fy mod yn hollol o'r un farn a theimlad ag ef ar y mater y cyfeiriodd ato yn ei lith cyn y ddiweddaf; ond egwan yw fy ffydd a'm gobaith y ceir llawer o welliant yn y peth a noda. Nis gwn am un dosbarth o ddynion ag y gweagir cywaint arnynt am wneud priddfeini heD wellt a'r dosbarth y Eerthyna fy nghyfaill iddo. Feallai y cawn amdden i ddychwelyd at hyn eto. Croesaw i Tob. i'n cymdeithas ni. Hyfdra difoes, wrth gwrs, fyddai gofyn, How do you like the United States, so far f JOHN Y CLOCIAU.
.MEETHYR TYDFIL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MEETHYR TYDFIL. T BWRDD IBCHTD. Dydd Mercher diweddaf, cyfarfu y Bwrdd uchod, pryd yr oedd yn bresenol G. Martin, (cadeirydd), W. Jones, B. Kirkhouse, T. Jen- Kins, T. Jones, J. Jenkins, J. Gabe, T. Wil- liams, R. Griffiths, H. Evans, W. Harris; J. Bryant, a T. Lloyd. Ymdriniwyd A'r gwahanol faterion arferol perthynol i'r Bwrdd, ac fel y cry- bwyllais yr wythnos cyn y ddiweddaf, fod cyffro nid bychan yn y dref yn bresenol mewn perthyn- as i'r eyflogau mawrion a delir gan y Bwrdd i'w swyddogion. Felly, apwyntiwyd tri o foneddig- ion gan y trethdalwyr, sef Mri. H. W. Harris; John Price, Butter Merchant; a David Wil- liams, Grocer, Twynyrodyn, i wneud cais at y Bwrdd am iddynt ystyried y mater, a bod y treth- dalwyr, yn herwydd sefyllfa y lie yn bresenol, ac yn unol A phenderfyniadau y cyfarfod cyhoeddus a gynaliwyd mewn cysylltiad a hyn, yn dymuno arnynt i ostwng eyflogau eu swyddogion. Wedi i'r deputation uchod ymadael, ffurfiodd y Bwrdd yn bwyllgor i gymeryd y cais i ystyriaeth. Y cyntaf ddaeth dan sylw oedd Mr. T. Williams, y clefo. Dywedai Mr. Jenkins mai £100 y flwydd- yn oedd oyflog y clerc i fod pan gytunwyd fig ef, ond fod cheques wedi eu rhoddi iddo am o f600 i S700 heblaw hyny. O'r 11. 1871 hyd y fl. 1878, yr oedd y Bwrdd wedi talu i'r clerc dros £5,000 heblaw ei gyflog blynyddol. Gwnaeth Mr. Bryant eglnro nad oedd y tfil o JB100 y flwyddyn ond yn unig am ofalu, am achosion eyffredin y Bwrdd, a bod y swm mawr y cyfeiriai Mr. Jenkins ato yn cynwys professional charges y clerc am ei wasan- aeth yn ngtyn a'r achosion cyfreithiol perthynol i'r Bwrdd yn ystod yr amser uchod. Dywedai Mr, Bryant fod yn ddrwg ganddo nad oedd Mr. Jenkins wedi ceisio oael bills y olerc gerbron, fel y gallont weled pa wasanaeth oedd ef wedi wneud i'r Bwrdd am y swm mawr uchod. Felly, cynyg- iodd Mr. Bryant; a gwnaeth Mr. H. Evans eilio, fod mater y clerc i gael ei ohirio hyd nes cael y manylion hyn. Y nesaf ddaeth dan sylw oedd y Surveyor, ond ymddengys nas gellid gwneud dim mewn cysylltiad fi chyflog hwn yn bresenol, gan fod cofnodion y Bwrdd yn dangos fod cytundeb wedi ei wneuthur fig ef am 5 mlynedd, o'r 19wg o Awst, 1874, am £600 y flwyddyn; felly rhaid talu E500 i hwn doed a ddel hyd y 19eg o Awst, 1879. y nesaf oedd y Collector. Dangoswyd fod hwn 1 eto yn cael JE465 y flwyddyn am ei waith, ac nad ydyw yn talu ond 21/ yr wythnos am assistance; felly mae gan hwn swm go dda yn weddill iddo ei hun. Ond wedi hir siarad a dadleu llawer iawn, penderfynwyd gostwng hwn yn agos i £ 100 y fl. Yn nesaf daeth y Bookeeper dan sylw. Mae hwn eto yn cael £ 300 y flwyddyn o gyflog. Soniai amryw o aelodau y Bwrdd am ddefnydioldeb a medr Mr. Havard y Bookeeper. Cynygiwyd gan Mr. Jenkins fod hwn i gael ei ostwng i £ ^80, sef tynu dim ond t20 i lawr arno. Eiliodd Mr. Lloyd, Dowlais, y cynyg yma, a dywedai fod ganddo gymaint o ymddiried yn Mr. Havard a neb o honynt, ond er hyny y dylai fyned gyda'r amseroedd, fel yr oedd pawb eraill yn gorfod gwneud; ond er nad oedd y gostyngiad y gofyn- wyd am dano ond J620 y flwyddyn, eto, yr oedd mwyafrif o'r Bwrdd yn erbyn hyn. Y mae eto heblaw y gwyr mawr hyn amryw Inspectors o dan y Bwrdd, pa rai y gellid hebgor eu gwasanaeth yn rhwydd mae y rhai hyn i ddod dan sylw eto. Ymataliaf yn bresenol rhag gwneud nodiadau ar ,weithrediadau y Bwrdd mewn cysylltiad A, gos- twng eyflogau yma, l'hag i'm llith fyned yn rhy faith. Dichon y caf gyfieusdra eto yn y dyfodol LLYS Y MAN DDYLETklON Y Doctor a'r Gweithiwr. Dygwyd amryw fat- erion pwysig o flaen Falconer yn y llys uchod y mis hwn. Yn mhlith eraill dygwyd gerbron achos W. Williams, fitter, yn ngwaith Plymouth, yn erbyn Dr. Probert, y meddyg pertbynol i'r gwaith uchod. Ymddangosodd Mr. W. Beddoe, cyfreithiwr dros Williams, a Mr. Plews (Simons & Plews) dros Dr. Probert. Mae y ffeitbiau cysyll- tiedig a'r aehos, yn fyr, fel y eanlyn. Yr oedd Williams fel eraill o'i gydweithwyr, yn talu 2g. y £ o'i enillion i dalu'r meddyg pertbynol i'r gwaith. Ar y 20fed o Chwefror, cymerwyd gwraig Williams yn glaf, ac anfonwyd am Dr. Probert, yr hwn a ddywedai nas gallai ddyfod am ei fod yn dioddef oddiwrth anwyd; a chan fod sefyllfa y wraig yn beryglus, anfonodd Williams am Dr. Walsh, Abercanaidd, a bu hwnw yn gweini ar y wraig nes iddi wella. Yr oedd yn gofyn y swm o L8 10s. am ei wasanaeth; a cheisiai :Williams gan Dr. Probert dalu y swm uchod i Dr. Walsh; gwrthododd yntau, felly dygwyd y mater gerbron Judge Falconer. Dedfrydwyd Dr. Probert i dalu y swm uchod. Y TYNEL RHWNG MERTHYR ÅC ABERDAR Ymddengys fod y tynel yma yn awr yn barod, ond bydd eto amiyw wythnosau cyn y caniateir Passengers Trains fyned drwodd hyd nes y byddo wedi ei archwilio gan Swyddog y Llywodraeth. Anffodus iawn ydyw y tynel hwn wedi bod. Go- beithio :ei fod wedi ei wneud yn ddiogel y tro hwn. BLODWBN Nos wener diweddaf ymwelodd Dr. Parry a'i g6r fi Merthyr, pryd y perfformiwyd yr Opera uchod ganddynt yn y Drill Hall. Yr oedd yr ystafell eang yn llawn o bobl. Ofnem ar y cych- wyn y buasai y seddeu blaenaf yn lied wag, ond buan iawn daeth mawrion y lie i fewn nes llanw y lie 3 swllt; felly yr oedd y seddau Is., 2 swllt a 3 swllt yn llawn yn hir cyn i'r c6r wneud ei ym- ddangosiad ar y platform. Yr oedd yn dda iawn genym fod Dr. Parry wedi cael y fath gefnogiad yn ei le genedigol. Er fod enw y Dr. yn adna- byddus bellach dros Cymru, dichon nad ydyw pawb yn gwybod mai yn Merthyr Tydfyl y gan- wyd ef, enwau ei rieni oeddynt Daniel ac Eliza- beth Parry. Nid rhaid i'r c6r na'r Dr. wrth ein canmoliaeth ni-y mae eu clod yn ddigon adnabyddus. Di- gon yw dweyd fod y dorf fawr ddaeth i'w gwrando wedi cael treat o'r fath oreu. DARLITH. -Traddodwyd darlith yn Soar ar y 27ain o Meh., gan Thos. Williams, Ysw., Gwaelodygarth, Merthyr, ar ei "Daith i Paris a Rhufain." Y cadeirydd oedd y Parch. T. Bees, Pontmorlais, yr hwn, ar ol ychydig eiriau, a alwodd ar Mr. Williams at ei waith. Parhaodd yntau i ddweyd am ryfeddodau'r daith am agos i ddwy awr o amser. Yr oedd yn dda genym weled y fath gynulliad lluosog. Cafwyd y treat yma yn rhad gan y boneddwr uchod ond nid wvf yn petruso dweyd fod lluaws oedd yn bresenol wedi talu am ddarlithiau heb fod agos mor ddyddorol ac adeil- adol a hon. Anogwn bawb a allont geisio cael clywed y ddarlith hon. Clywais fod cais wedi dyfod eisoes o Abertawe at Mr. Williams am dani, a digon tebyg y bydd iddo gydsynio. DAMWAIN ALARUS. Taflwyd y gymvdogaeth hon i sefyllfa o brudd- der prydnawn dydd Gwener diweddaf. Boddodd bachgenyn o'r enw Charles Evans, mab i Mr. Timothy Evans (Phillips & Evans, Drapers, Merthyr), yn llyn Olyn-mil, yn agos i weithfeydd Plymouth. Yr oedd Mrs. Evans a'i mab wedi myned y ffordd h6no i fwynhau eu hunain yn yr awyr adored, ac erbyn iddynt ddyfod at y llyn, yr oedd amryw o gyfeillion y bachgen yuo yn ym- drocld. Cododd awydd arno yntau i fyned atynt, a chaniataodd ei fam; ond nid hir y bu yn y dwfr cyn iddo suddo yn ei golwg, ond Did oedd modd ganddi i roddi un cynorthwy iddo. Caf- wyd ei gorff yn mhen rhyw haner awr gan ddyn o'r enw William Harris. Fodded yr Arglwydd fyddo dros ein brawd a'n chwaer, a'u plant sydd ar ol, yn ngwyneb yr amgytehiad difrifol hwn. GOHEBYDD.
ABERTAWE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERTAWE. Cynaliwyd cynadledd gan gynrychiolwyr Byrdd- au Ysgolion y gwahanol fanau yn y Guild Hall, dydd Gwener, Meh. lofed, mewn atebiad i wahoddiad a anfonwyd oddiwrth Fwrdd Ysgol Abertawe, i'r dyben o gael rhydd-ymddyddan ar y priodoldeb o gael a sefydlu Ysgol Weithgar (Industrial School) ychwanegol perthynol i sir Forganwg, a'r siroedd eraill cylchynol. Yr oedd yn bresenol Mr. Trew, (cadeirydd y Bwrdd Ysgol, yr hwn a ga'dd ei ethol yn gadeirydd y gmadledd), Miss Brock, Parchn. B. Williams, W. E. Jones, Dr. Walters. Canoniad Richards, a Mr. C. V. Crabbe. Cynrychiolwyr Merthyr oeddynt Mri. Thomas Williams, Gwaelodygarth W. Bell, ac E. Stephens a Mr. John Jennings o Llanelli; a'r Parch. P. J. Walters o Llansamlet. Holyd, yr oedd y Maer, Mr. W. Thomas, y Lan, a Mr. J. C. Fowler yn bresenol. Darllenodd Mr. Hart- land, ysgrifenydd Bwrdd Ysgol Abertawe, restr o enwau a gafwyd oddiwrth Fyrddau lleoedd eraill oeddynt wedi addaw anfon cynrychiolwyr i'r gynadledd, ond trwy ryw anffaw(l neu gilydd. nid oeddynt yn bresenol, na gair oddiwrthynfc yn hysbysu yr achos o hyny, heblaw fod rhyw ych- ydig o Fyrddau yn gwrthod ymuno, na gwneuthur dim yn y cyfeiriad yma o gwbl. Yna cafwyd an- erchiad galluog gan y cadeirydd, yn egluro amcan y gynadledd, a dywedai fod Bwrdd Ysgol Aber- tawe yn barod ac yn awyddus i wneuthur rhyw- beth, a dymunai os cael ysgol i gael un iawn; ae os gellid rywfodd, i sicrhau cydweithrediad y Byrddau eraill. er mwyn cario y gwaith yma allan yn drwyadl, a pharotoi lie i nifer luosog o blant. Dywedai fod y ddirprwyaeth a aeth oddi- yma i Fryste er cael gweled yr yBgolien yno wedi cael llwyr foddlonrwydd wrth weled glanweithdra y plant, a'r cypllun rhagorol oedd ganddynt i gario allan yr addysgiaeth ar fwrdd y Hong. Credai yn ddiysgog pe buasai iddynt fel cynadledd uno a chydweithredu i sicrhau Hong i'r bechgyn, y byddai yn un o'r pethau goreu a allasent ei wneuthur i'r sir a'r cylchoedd. Yna galwodd ar Dr. Walters i siarad, a gwnaeth araeth wresog ar yr angenrheidrwydd o ddarparu ar gyfer y dosbarth isel o blant sydd yn cael eu magu yn ein trefydd. Dywedai nad oedd genym yn bresenol ond un llong fechan o'r enw Havan- nah" yn Caerdydd, yr hon oedd newydd gyhoeddi ei 22 fl. adroddiad. Siaradai yn uchel am y dai- oni mae yr ysgol uchod wedi ei wneuthur eisoes, a bod galwad neillduol arnom yn awr i barotoi ysgolion ar gyfer yr hogiau a'r merched sydd yn codi, gan fod y sir wedi cynyddu rhyw 71 yn y cant yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf.. Dy- wedai fod y drygioni, yr anfoesoldeb, a'r Uygred- igaethau sydd yn ngl^n a'r dosbarth yma o blant yn annyoddefol i edrych arnynt, a bod amcan yr ysgolion hyn i newid sefyllfa y plant, trwy eu symud oddiwrth eu hen arferiadau a'u cym- deithion boreuol, ac oddiwrth ladron, dyhirod, a gwylliaid eyfrifedig, a'u hanfon i ysgol o'r nod- wedd yma er dysgu iddynt weithgarweh a gon- estrwydd, a'u dodi ar y ffordd i enill iddynt eu hunain fywoliaeth onest ac anrhydeddus, a'u cipio allan o'u cyrehfanau drygionus ac auned- wydd. Cafwyd iaith rymus gan y Dr, yn des- grifio truenusrwydd naturiol a moesol y plant anffodus yma. Priodol gofyn gofyniad ar ol yr araeth nerthol a gafwyd ganddo, Pa beth yw yr achos fod cy- maint o blant yn yr amgylchiadau isel yma ? Gellir dywedyd fod dwy ran o dair o honynt wedi suddo i'r trueni a'r tlodi y maent ynddo trwy y fasnach feddwol, set' yfed a meddwdod eu rhieni. Felly, byddai yn dda iawn i'r Parchedig Odoctor ddod allan i ddiwreiddio y drwg a'r pechod sydd yn achosi y gwarth sydd ar y ddynoliaeth yn lie cribo ei phen, a eblytio Iei hen garpidu i fyny. Gobeithio, wrth ei gynorthwy i gael sefydlu yr Ysgolion Gweithgar, pan y bydd truenusrwydd a llefau y plant yn codi i fyny megys cwmwl o an- foesgarwch ac anedwyddweh y ddwy natur o flaen ei lygaid, ac y bydd y drych a'r olwg arnynt yn ddigon effeithiol i argyhoeddi a cbyfnewid barn