Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Holloivay's Pills.-All our Faculties.—Almost all disor- ders of the human body are distinctly to be traced to impure blood. The purification of that fluid is the first step towards health. Holloway's Pills recommend themselves to the atten- tion of all sufferers; no injurious consequences can result from their use, no mistake can be made in their administ- ration. In indigestion, confirmed dyspepsia, and chronic constipation the most beneficial effects have been, and al- ways must be, obtain from the wholesome power exerted by these purifying Pills over the digestion. Persons whose lives, have been restored to ease, strength and perfect health by Holloway's Pills, after fruitles trial of the whole pharma- c copceia of Physic, attest this facts.
ABERTAWE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
y Dr. am y fasnach ofnadwy yma sydd ynmeddwi a gwallgofi dynion i'r trueni, ac y bydd ei gefn ati o hyn allan, ac nid ei wyneb siriol. Ar ei ol cafwyd anerchiad maith a phwrpasol gan Mr. Fowler, yr hwn sydd yn ynad heddwch cyflogedig i'r dref. Yr oedd y cynrychiolwyr yn teimlo, yn lied sicr genyf, wrth ei glywed yn siarad mor hyf a nerthol dros gael yr ysgolion. Pywedai oddiar brofiad dyddiol am drueni y dos- barth isel, ac nad oedd ganddynt yn bresenol yr un lie i aufon y plant yma iddynt; ond ar ol iddynt gael sefydliad priodol, y buasai ganddynt galon wedi hyny i ddanfon ar eu hoi i'r prif- Hyrdd a'r caeau. ac i ystrydoedd a chonglau heol- ydd ein trefydd, a'u denu i mewn i gael cartref cysurus, i'w dysgu a'u hyfforddi mewn pethau gonest a gweithgar gogyfer a dyfodol Ilwyddianus bywyd. Ar ei ol siaradodd ein cydwladwr parchus ac anrhydeddus, Mr. Williams, Gwaelodygarth, mewn araeth lawn o gydymdeimlad, ac anarferol o awyddus i gael y sefydliad yn ffaith, er codi y tlawd o'r llwch a'r anghenus o'r domen. Gyda hyn dodwyd y cynygiad i fyny, a phasiwyd ef yn unfrydol, sef Bod Ysgol Weithgar arall i sir Forganwg a'r cylchoedd yn angenrheidiol." Wed'yn pasiwyd amryw benderfyniadau eraill, a siaradwyd arnynt gan Mri. Bell. C. V. Crabbe, Jones, a'r cadeirydd; a dymuniad mwyaf trwyadl y gynadledd oecfd i gychwyn yr ysgolion, er mwyn cael lie i ddysgu arabiaid ein trefydd poblog. Gohirlwyd y gynadledd hyd ddydd Llun, y 15fed o Gorphenaf, er cael cyfarfod lluosocach a barn addfed i ddechreu y gwaith. SEFYDLIAD T DEILLION. CynaHodd y sefydliad uchod ei gyfarfod blyn- yddol eleni yn y Music Hall, nosLun, Meh. 17eg, o dan Iywyddiaeth y Maer, Mr. Thomas. Ar yr esgynlawr yr oedd y Parchn. Dr. Rees. W. Jones, J. G. Gauntlett, W. A. M'Allan, Dr. E. Davies, Mri. C. R. Daniel a Joseph Hall, yr ysgrifenydd. Cafwyd anerchiad agoriadol rhagorolgan y Maer, pan y cyfeiriodd yn dyner at sefyllfa y deillion, nad oeddynt hwy yn medru gweled harddwch a phrydferthwch natur, a gebeithiai y byddai hyny yn ddigon i dynu allan gynorthwy a chydymdeim- lad oddiwrth bawb all, er rhoddi addysg i'r plant deillion a chynorthwy i eraill. Yna darllenodd yr ysgrifenydd y cyfrifon a'r adroddiad am y fl. Ar y cyfan yr oedd yn adroddiad da iawn, pan yr ystyriom fod yn ddyledus i'r trysorydd £ 369. Er dechreu y flwyddyn talwyd ymaith o'r ddyled oedd yn sefyll £236 3/0, yn nghyda phob treuliau perthynol iddi am y 12 mis diweddaf, fel nad oes yn aros ond X132 17/0 yn bresenol. Felly, gobeithio y bydd i'r eglwysi a'r dyngarwyr glirio ymaith y gweddill o'r ddyled, er i'r deillion, druain, gael eu ty yn rhydd. Cynygiwyd gan y Parch. J. G. Gauntlett fod i'r cyfrifon a'r adrodd- iad gael eu hargraffu, a'u dosbarthu i'r tanysgrif- wyr ac eraill, fel y byddai y pwyllgor yn gweled oreu. Dywedai y dylasai Ý gwyr ieuainc ddyfod allan i gymeryd rhan yn yr achos bellach—ei fod ef wedi bod er's blynyddoedd ar yr esgynlawr yn eymell am roddion a help at y sefydliad. Eiliwyd ef gan y Parch. W. A. M'Allan gyda nerth, ac speliad dwys am fwy o haelioni yn y dyfodol. Hefyd siaradodd Dr. Bees, Dr. Davies, W. Jones, ac eraill, yn yr un cyfeiriad, gyda dymuniadau taer a gweddïau am lwyddiant ar ran y deillion. Canodd cor y deillion yn f endigedig amryw donau yn ystod y cyfarfod, ac ar y diwedd casglwyd at y drysorfa. PEOFFESWE PARRY. Bwriedid cynal daugyngherddmawreddog yn y Music Hall dydd Iau, Meh. 20, gan Dr. Parry chor detholedig o Aberdar, yn nghyda'r myfyr- wyr o'r Brifysgol, a'r boneddigesau enwog Miss Hattie Davies a Miss Lizzie Evans, a'r enwogion Eos Morlais, Mr. Lucas Williams, a Mr. R. C. Williams, yn nghydag amryw grythwyr proffes- edig. Dyna ddigon o sicrwydd am gyngherddau tuhwnt i feirniadaeth y llymaf. Da oedd gftn bawb o'r lie yma, a phob lie arall o ran hyny, weled Proff. Parry wedi cael ei ddyrchafu a'i an- rbydeddu i fod o hyn allan yn Ddoctor Derdd- enaeth," a dymuniad ei gyfeillion yma, ydyw iddo eto fyned uwch, uwch hyd nes cyrhaedd y gradd o archddoctor, os oes y fath radd i'w gael, fel sydd gan Eglwys Loegr o archddiacon ae archesgob. Hir oes gaffo y Dr. i wisgo yr an- rhydedd a enillodd trwy lafur caled llawer o flyn- yddoedd, a bydded iddo fod o fendith anrhaethol i gerddoriaeth foesol a chrefyddol y cysegr. Gwnaeth yr oil o'r cantorion ychwanegu y waith hon eto at eu poblogrwydd blaenorol. Clywsom un sydd yn ystyried ei hun yn gryn gerddor yn dweyd na chlywodd well canu erioed. Trueni fod cynulliad y prydnawn mor fychan. Y darn a fwriedid ganu yn y prydnawn ydoedd "Jeru- 9 salem," ond gan na ddaeth ond tua 50 yn nghyd ni aed yn mlaen ond am ychydig. Ar ol iddynt ganu am beth amser, rhoddodd Dr. Parry o flaen yr ychydig oedd yn bresenol y priodoldeb o beidio myned yn mhellach felly unwyd, a chadd pawb eu harian yn ol ond y rhai oedd yn dod i'r cynull- iad hwyrol. Trueni na fuasai y cyfeillion hyny oedd a llaw yn y gwaith yn rhoddi yr un cyhoedd- usrwydd i'r cyngherdd cyntaf ae a roddasant i'r diweddaf yn yr hysbysleni a osodwyd ar y mur- iau. Trwy yr anffawd collodd ein trefwyr wledd o'r fath oreu yn ngholli Jerusalem; ond er- byn cyfarfod yr hwyr, cafwyd yr Hall wedi ei llenwi, pryd yr aed trwy Blodwen." Ystyrir Jerusalem a Blodwen yn ddau gampwaith y Dr. Bydded i lu mawr o'n cydwladwyr osod eu nod ar fod yn Ddr., a phenderfynu ei feddianu. W. D. LLANFAIRCAEREINION. Diau y bydd lluaws o ddarllenwyr y CELT, Mr. Gol., yn barod i ofyn wrth weled yr uchod; Y cyfaill, pa fodd y daethost ti yma ? o herwydd mai anfynych yr ymddengys ar ddalenau unrhyw newyddiadur; ond er hyny, y mae yn gyfryw ac y byddai gair yn awr ac eilwaith oddiyma yn foddhaol. Saif Llanfair tua clianol sir Drefald- wyn, wyth milldir o'r Trallwm, ar lan y Verniew, (yr hon a lifa trwy y dref), ac amgylchynir y dref gan fryniau lied uchel, pa rai a chwanegant at brydferthwch y lie, ac a wnant y goIygfeydd yn. rhamantus. Y mae yn dref henafol. Arweinia ei hanesiaeth yn bell iawn, ond ni chaniata eich gofod i ni wneud sylwadau arnynt. Mse y dref hon yn ystod y blynyddoedd diweddaf wedi myned dan welliantau dirfawr, ac wrth gwrs, fel Ilawer o drefydd eraill, yn agored eto i lawer yn y dyfodol. Ac er mwyn gwneud un gwelliant, sef cael lampau ar hyd yr heolydd, cynaliwyd :is! ■IJ CYNGHEEDD MAWEEDDOG yn y Board School, pryd y cymerwyd rhan ynddo gan gor y lie, dan arweinyddiaeth Mr. J. P. Harris, yr hwn a wnaeth ei waith yn ganmolad- wy. Cafwyd dwy neu dair o ddeuawdau (duets) gan y Mri. C. Gittins a T. Evans, a chan E. Griffiths a Miss Ellis. Chwareuwyd y p-iano gan Miss Richards yn rhagorol o drefnus. Cadeiriwyd gan F. B. Jones, Ysw., Pentre, yr h;wn a wnaeth sylwadau byr ond pwrpasol. Cynygiwyd diolch- garwch i'r cadeirydd gan Dr. Evans, ac eiliwyd gan J. Richards, Excise Officer, yna ymadawyd, a phawb yn ddiameu yn dymuno cael cyfarfod o'r un natur yn fuan eto. GWYL AGORIADOL SILOH. Addoldy perthynol i'r Annibynwyr, yn nghylch- daith Llanfair, ac o dan weinidogaeth y Parch. D. S. Thomas, yw yr uchod. Penderfynodd yr eglwys hon dynu i lawr yr hen addoldy, ac adeil- adu un mwy eyfleus. Ymddiriedwyd y gwaith i Mr. D. Humphreys, adeiladydd, yr hwn hefyd oedd y cynllunydd, a gorphenodd ei waith yn dra chanmoladwy. Ac ar y dyddiau Mercher a Iau, Meh. 19eg a'r 20fed, cynaliwyd yr wyl agoriadol, pryd y daeth y gweinidogion canlynol i'n gwasan- aethu yn yr ArglwyddParchn. J. R. Roberts, Aberhosan; Owen Evans, Llanbrynmair; Josiah Jones, Machynlleth; a John Rbberts (J. R.), Conwy, Parch. J. R. Roberts, Aberhosan. Pregethwr teimladwy, a meddai iaith goeth, blethedig, sylwadau cryno a nerthol, ac yr oedd yn traddodi hefyd gyda nerth yn yr addoldy ac ar y maes, yn gryf ac yn beroriaethus a diameu genyf y bydd mewn ychydig o amser yn un o enwogion cyman- faoedd y Cymry. Parch. Owen Evans, Llanbrynmair. Meddyl- iwr cryf, ieithwr da, traddodwr blasus a theimlad- wy, a diau y bydd ei gynghorion a'i sylwadau yn adseinio am amser maith yn nghlustiau y rhai a'i clywsant. Parch. Josiah Jones, Machynlleth. Pregeth- wr mwyn, effeithiol, a dylanwadol. Pregeth gywrain, ysgrythyrol, ac yn orlawn o'r tan cref- yddol; ieithwr cywir, heb fod yn farddonol a chlogyrnaidd; ac yn ddiameu, bydd ei wasanaeth Ily yn dderbyniol ac yn gymeradwy gan breswylwyr yr ardaloedd hyn eto yn y dyfodol, a hir y cofir am ei bregethau coeth. Parch. John Roberts (J. R.), Conwy. Ni raid i J. R. wrth lytbyr canmoliaeth, am fod ei enw eisoes yn household, 'woTd trwy Dde a Gogledd Cymru, a'i weithiau yn adnabyddus i hen ac ieuanc. Diddadl ei fod yn un o'r rhai mwyaf derbyniol yn y partbau hyn. Yr oedd ei bregeth- au yn goeth, manwl, a didderbynwyneb; ac fe fydd adgofion am y cyfarfodydd hyn eto yn fen- digedig. 0 bosibl y dylaswn grybwyll Lfod y Parchn, Josiah Jones, Machynlleth, a John Roberti-, Conwy, wedi pregethu yn ystod y cyfarfodydd ya Seisnig, am y rheswm fod llawer yn y cymydog* aethau byn wedi dyfod o Loegr, ac wedi eu b.am" ddifadu o'u manteision, ac felly trefnwyd darpai » iaeth ar eu cyfer; ao y mae y Parch. D. Thomas, y gweinidog, yn bwriadu o hyn allv, cael Seisnig yn fisol. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan Evanili Llanbrynmair Roberts, Aberhosan; J. R.; Q Mr. E. Morris, Plasiolyn. Rhoddwyd yr emyna- allan gan y gweinidog. Cafwyd oedfaon gogOE* eddus trwyddynt, cynulleidfaoedd da, pregetbac da, tywydd da, a chasgliadau da, a derbyniwyd caredigrwydd neillduol oddiar ddwylaw yr aelod- au. Gobeithiwn y bydd y eyfarfodydd byn yR. perarogli trwy yr holl ardaloedd, ac y bydd yit had yn cael dyfnder daear, ac yn dwyn ffrwyth i fywyd tragwyddol. W. PARRY. HYN A'R LLALL 0 GEREDIGION. Cymanfa Ysgolion y Bedyddwyr,—Cynaliwyd1 j gymanfa uchod eleni yn Llwyndafydd, a Cej. newydd, dydd Llun y Sulgwyn. Adroddwyd, Q chanwyd yn bur dda, gan yr ysgolion canlynol-- Ceinewydd, Aberaeron, Cwrtnewydd, Brynhafod, a Llwyndafydd. Yr arholwyr oedd y Parchn, Hughes, Rhandir; Roderick, Ceinewydd; H Da-vies, Llanddyssil. Gofynodd Mr. Daviesi Ysgol Cwrtnewydd, beth oeddynt yn feddwl wrth fedyddio'n ewyllysgar ? Yr atebiad boddhaoloedd hwn, Bedyddio o'u bodd, ac nid trwy force, fel, bedyddio baban. Hefyd dywedodd Davies, mai; trochiad oedd bedydd yr "Ysbryd Glan." Dywetfi yr ysgrythyr, Ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef." Pa foddi y gall y brodyr trochyddol gasgla y fath syniadaa mympwyol ? Cymanfa Undebol Ysgolion yr Annibynioyr> Cynaliwyd y gymanfa uchod fel arfer yn nghapel eang Aberaeron, dydd Iau, Mehefin 13. Yn I nghanol y gwlybaniaeth a'r tywydd garw, cafwyd un o'r diwrnodau mwyaf dymunol, hyfryd, ac hafaidd. Yr oedd anian oil yn fyw, a cherddor- ion Hon y llwyni mewn rhyw adnewyddiad ys- pryd yn arllwys allan yr alawon swynol nes tanio pob calon a cherddoriaeth fyw. Daeth yr ysgol- ion oil yn nghyd fel arferNeuaddlwyd, Myd- roilyn, Llwyncelyn, Llanon, ac Aberaeron. Ac aeth yr ysgolion trwy eu gwaith yn rhagorol dda. Yr oeddwn yn meddwl wrth weled Aberaeron wedi casglu holl gerddorion y gwahanol enwadau y dref yn un c6r, y buasent yn myned trwy rhyw waith gorchestol; ond a dweyd y gwir, nid oedd- ynt fynuâ safon ein dysgwyliad. Yr oeddwn yn dysgwyl i c6r undebol fel Aberaeron ganu yr an- them fawreddog, Wylwn, Wylwn," nes gwefrei- ddio'r dorf. Clywsom lawer gor llai eu rhif a llai eu manteision na ch6r Aberaeron yn cann yr an. them uchod nes gwneud cynulleidfa yn foddfa o ddagrau. Dylem fel ysgolion wrth ganu anthem- au a thonau, nid yn unig canu a'r deall, ond gwneuthur ymdrech egniol i ganu a'r yspryd, fel byddo'r meddwl sydd yn gorwedd yn yr anthem yn cael ei drosglwyddo i'r gwrandawyr. Yr ar- holwyr oeddynt Parchn. Davies, Glynarthen; Jones, Cilcenin; Prytherch, Wern; a Jones, Llwyncelyn. Cyfarfod Chwarterol Wesleyaid Ceredigion.— A gynaliwyd yn nghapel Ficar, Mydroilyn, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Mehefin 18 a 19. Y Pregethwyr gwahoddedig eleni oeddent y Parchn. Davies Cilgwyn; Roberts, Ystradferia; Davies, Pontrhydygroes; a Pugh, Llanbedr. Cafwyd pregethau grymus, ac amlygrwydd helaeth o Dresenoldeb yr Arglwydd. Mydroilyn yn Brynhafod.—Dydd Sul, Mehefm 23, ymwelodd Ysgol Sabbathol Mydroilyn a'r lie uchod. Canodd y plant dair ton dan arweiniad J- Davies ac adroddasant y Pwnc bach, (Dydd y farn). Hefyd canodd yr ysgol fawr ddwy an- them dan arweiniad y cerddor galluog D. J.' Evans (Mydian), ac adroddasant y bedwaredd benod o'r Hebreaid. Arholwyd y ddwy ysgol gan. y Parch. D. Hughes, Rhandir. Aeth yr ysgolion • trwy eu gwaith yn rhagorol. OlLYNUN.