Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

n" LLANGADOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

l'i I n" LLANGADOG. Cynaliwyd Eisteddfod fawreddog mewn pabell eang ac addurniadol yn y lIe uchod dydd Mawrth, Meh. 25ain, ac o dan nawdd prif foneddigion sir Gaerfyrddin, sef y Gwir Anrhydeddus Viscount Emlyn, A.S., Gelliaur; John Jones, Yswain. A.S., Blaenos; John Peel, Yswain, Llangadog a M. L. C. F. Ellis, Yswain, Llwyndewi. Yr oedd y babell wedi ei harddu yn ardderchog, ac un rhan o boni yn hynod debyg i hafdy gwisgedig a dail bytbolwyrdd, ac arnynt yn grogedig ar leni y gwelid y brawddegau anwyl canlynol Duw a phob daioni," "Heb Dduw beb ddim," "Yn ngolau haul a llygad goleuni," Uroesaw i bawb," ac hefyd amryw fanerau. Y cadeirydd ydoedd M. P. Lloyd, Yswain, Glanseriw, a'r arweinydd ydoedd y Parch. Thomas Thomas, Llanymddyfri. Beirniaid y gerddoriaeth oeddynt Mri. Robert Bees (Eos Morlais), a D. Buallt Jones. Y fardd- oniaeth, Mr. D. Buallt Jones. Rhyddiaeth, Parchn. John Lewis, Caerfyrddin; Aftron Roberts, M.A., Llangadog; a W. S. Lewis, Yswain, Cefn- gornoth. Y gwisgoedd, a phethau celfyddydol eraill, Mrs. Peel, Llangadog; Mrs. Ellis. Llwyn- dewi; Misses Lloyd, Glanseriw; Mrs. Roberts a Miss Edwards, y Parsondy; a Mrs. Lewis, Cefn- gornoth. Ar ol y seremoni o ethol cadeirydd, anogodd yr arweinydd y beirdd i ddyfod yn mlaen i draddodi anerchiad i'r Eisteddfod, ac wele Cadog, a Mr. Lewis Lewis, Carnaugwynion, Gwynfe, a'r enwog Teilo mewn enyd yn ateb ei ddymuniad; ond cyn bod Teilo wedi gorphen ei ymadrodd, boddwyd ei lais gan swn perseiniol seindorf bres Llwynhendy yn dyfod i mewn i'r cae, ond wedi iddynt orphen, anogwvd ef gan y dyrfa i roddi ail adroddiad, yr hyn a wnaeth. Yna cafwyd beirniadaeth ar y peiriant tynu gwifrau (wire-puller). Un ddaeth i law, a hwnw yn un ardderchog, sef eiddo John Lewis, White Lion, Llangadog, gwobr £ 1 1/. Beirniadaeth ar yr Ysgubau, gwobr 2/6, goreu William Harris, Penybont, Llangadog. Beirniadaeth ar yr esgid- iau tyddyn, gwobr 5/, goreu Cadog, Llangadog. Cystadleuaeth canu Concertina; ni ddaeth neb yn mlaen. Yna cafwyd ton gan seindorf bres Llwynhendy—deg mewn nifer. Beirniadaeth ar yr hosanau; goreu un o'r enw Rhode, a Margar- eta yn ail, ond ni atebasant i'w henwau; ond clywais mai un o honynt oedd Margaret Harris, Cross Inn. Cystadleuaeth ar y Baritone Solo, Y Cymro," gwobr 5/. Anfonwyd 34 o enwau i mewn, ac atebodd 11. Goreu Griffith James, Cwmgiedd, Ystradgynlais. Beirniadaeth y cadeir- iau, gwobr 16/, ail 5/; goteu Evan Davies, Peny- waun; ail oreu, Jonah Bees, Felindre, Llangadog. Cystadleuaeth mewn darllen dernyn ar y pryd, gwobr 2/6. Ymgeisiodd 36 goreu Lewis Lewis, Carnaugwynion. Cystadleuaeth gorawl i blant, u Lief o Macedonia," ond ni wnaeth ond un ei ymddangosiad, sef cor "Williams, Pantycelyn," Llanymddyfri, ao yr oeddynt yn gwir deilyngu y wobr o £1 10/. Cystadleuaeth canu deuawd, Gwenau fy Mam," gwobr 10/6, goreu Two Welshmen, sef T. Evans ac Eos Meilog, Caer- fyrddin. Beirniadaeth ar y basgedau tatws, gwobr 2/6 Un yn ymgeisio, ac yn deilwng o'r wobr, sef W. Harris, Penybont, Llangadog. Beirniadaeth yr englynion i "Wraig y Medd- wyn," gwobr S/, goreu David Price, Cwmllynfell. Rhoddwyd cynyg eto os oedd rhywun am ymgeis- io am chwareu t6n ar y Concertina, ond ni ateb- odd neb, er fod pedwar o enwau wedi dyfod i law yr ysgrifenydd. Beirniadaeth y traethawd ar Amaethyddiaeth Dyffryn Tywi, fel yr oedd ac fel y mae, gwobr £1. Ni ddaeth ond dau draetbawd ilaw, sef eiddo David Davies, Gwydre, Llanddeu- sant, a Jonathan Morgan, Cwmafon, a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Beirniadaeth y penilllion i Lyn y Fan," gwobr 10/6, goreu D. C. Harris (Caeronwy). Cystadleuaeth ar y d6n gynulleid- faol uLlanddewi," gwobr ze2 2/, dau gor yn cystadlu, goreu cor Talysarn. Felly y terfynodd gweithrediadau y boreu, ac ni roddwyd ond haner awr o hamdden i'r gynulleidfa, rhag y buasent yn gwneuthur gormodedd o ffrindiau a thrwyth Syr John Heidden. Dechreuwyd gweithrediadau cyfarfod y pryd- nawn trwy i seindorf bres Llwynhendy ganu Difyrwch Gwyr Harlech." Yn nesaf caei ar- aeth gan y cadeirydd, yr hyn ni wnaeth yn y boreu, ond gan ei bod yn rhy faith i gael ym- ddangos yn gyflawn yn y CELT, dyfynaf yehydig o honi.—Dymunwyd arnaf i ddyfod yn gadeirydd i'r Eisteddfod hon, ac yr ydwyf yn teimlo yr byfrydwch mwyaf i fod felly. Yr ydwyf wedi bod mewn cysylltiad agos a Llangadog er's amryw flynyddau, ond ni welais gymaint o bobl wedi ymgasglu yn y lIe hwn ac o fy mlaen yn flaenorol. Beth yw y rheswm ? Beth yw yr achos o'r holl gynulliad ? Achos hen sefydliad, ao hen sefydl- iad ag sydd wedi enwogi ei hun gan henafiaeth. Eisteddfod y Cymro sydd wedi eu denu yn nghyd, sef sefydliad er hyrwyddo llwyddiant barddon- iaeth a cherddoriaeth, &c. Bangor ydoedd gynt yn brif gyrchle Eisteddfod Genedlaethol, ac yn fy amser i, y mae drysau y carchardy hwnw wedi eu gadael yn agored, a baner wen uwch ei ben yn chwifio yn yr awel. Nid oedd gymaint ag un carcharor i'w gael. Onid oedd hyny yn ddymun- ol iawn? Y mae calon y Cymro yn llaWn o farddoniaetb a cherddoriaeth tra ei garcharau yn berffaith wag. Y mae i Shon Darw ei hynodrwydd, ac hefyd y mae i Taffy, ac y mae y ddau yn rhai i'w hedmygu a phe byddai y etar o Rwssia, neu ryw allu arall, yn meiddio rboddi eu troed ar fodfedd o dir eu gwlad, ceid gweled pa mor unedig ydyw y ddwy genedl, ac nad ydynt ond megys un. Yna cafwyd cystadleu- aeth ar chwareu t6n ar y Cornopian, gwobr 10/6, goreu D. Griffiths, "Llwynhendy. Beirniadaeth ar y Wlanen oreu, gwobr £ 1 1/, goreu John Thomas, Llanddeusant. Cystadleuaeth ar ganu y Soprano Solo, "Eisteddai Teithiwr Blin," gwobr 5/, goreu Anne Jones, St. Peters, Caer- fyrddin. Beirniadaeth y traethawd ar Hanes Llangadog a'i hamgylchoedd," gwobr £2 2/; 4 yn cystadlu; goreu Beriab Evans, Gwynfe. Hefyd, rhanwyd gwobr o JEl 1/ rhwng Cadog. Llangadog, a rhywun a eilw ei bun "Hanesydd." Cystadleuaeth ar y triawd, Fair Flora Decks," goreu parti o Gaerfyrddin. Yn nesaf, rhybudd- iwyd y corau i fad yn barod erbyn cystadlu ar y prif ddernyn; a thra y bu byny yn myned yn mlaen, dygwyd cystadleuaeth rhwng y seindorf bres. Yr oedd dau barti yn cystadlu, sef Llwyn- hendy a Llanymddyfri. Goreu y blaenaf; gwobr £2 2/. Yn nesaf, cystadleuaeth y prif ddernyn, gwobr JB31. Cystadleuodd 3 ehor, sef Llanddeu- sant, dan arweiniad Evans, yr ysgolfeistr Llan- ymddyfri, dan arweiniad Gwilym Cynon a Llan- dilo, dan arweiniad Silas Evans. Goreu, Llan- ymddyfri; a phan glywsant y feirniadaeth, aeth- ant mor ynfyd a chludo eu harweinydd ar ysgwyddau drwy y dref, gan floeddio a chadw twrw gorfoleddus. Adrodd Helynt y Meddwyn gan ferch fechan Cadog, Llangadog. Cystadleu- aeth ar y Glee, Dowch i'r gad," gwobr £ 1 1/, goreu parti o Brynaman. Yn nesaf, cystadleu- aeth gorawl ar y Requiem Gynulleidfaol er coff- adwriaeth am y diweddar Ieuan Gwyllt, gwobr X'7 7/. Un cor ddaeth yn mlaen, sef cor Llan- ddeusant, a chawsant y wobr. Areithio difyfyr, ond nis gwn pwy gafodd y wobr, gan fod y bobl ond yr adroddwyr a'r beirniad wedi ymadael; ac am y feirniadaeth ar y Ffon oreu, ac hefyd y penillion ar y Gweithiwr Amaethyddol," nis clywais, ond dywedir mai David Thomas, Glan- durfal, oedd y goreu am y blaenaf, a David Evans, Gwynfe, a Gwydderig, Brynaman, yn gydfuddug- 01 am yr ail; ac yr oedd amryw bethau eraill nas clywais y feirniadaeth, ond dywedir mai yn amser y gyngherdd yn yr hwyr y rhoddwyd hwy. Cafwyd cynulliad rhyfeddol o bobl i'r lie, ac nid oes amheuaeth na fu gwaith y dydd yn llwydd- iant perffaith. Hynodid y cynulliad am ei sobr- wydd a'i ymddygiad gweddaidd yn yr Eisteddfod. Gellid priodoli hyny i'r amser bychan a roddwyd rhwng y ddau gyfarfod. IOAN DAFYDD. ABERTAWE. CYFARFODYDD DIRWESTOL. Cynaliodd y Temlwyr Da bedwar o gyfarfodydd cyhoeddus. Nos Lun, y 24ain cynfisol, yn nghapel Cwmbwrla; nos Fawrth, yn Siloh, Glan- dwr nos Fercher, yn Pontardawe; a Iau, yn Crug-glas. Cafodd dirwestwyr wledd ragorol, trwy i'r brawd hoff a hyawdl Mr. H. J. Williams (Plenydd), U.D.B.D. Cymru, ddod atom i areithio, ac areithiwr campus ydyw hefyd. Yr oedd yn taflu ffeithiau a gwirioneddau o ddrygau y fas- nach feddwol o flaen y gwrandawyr gyda nerth a dylanwad angerddol. Dywedai ei fod ef yn credu nad oedd yn bosibl gorchfygu y rhywogaetli ddrygionus hyn ond trwy ympryd a gweddi eglwys Crist. Cyfeiriodd at In o ffeitbiau galarus, ond rhoddaf un o honynt yma er mwyn i eglwys Dduw deimlo a gofidio o'i phlegid. Dywedai fod yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yn Mhrydain saitli mil ar bugain o grefyddwyr (neu, yn hytrach, y rhai oedd ar enw o grefydd), wedi cael eu diarddel am feddwdod, a'u traddodi i Satan ac i ddinystr y cnawd am eu pechod. O grefyddwyr, 0! Seion, pa hyd y cysgwch ? Deffrowch, canfydd- weh, a gwelwch fod y gelyn yn dyfod i mewn i'n heglwysi fel afon, ac yn dinystrio prydferthwch yr oes. Cafodd Plenydd gynulleidfaoedd lluosog i'w glywed yn yr holl gyfarfodydd, a gwrandawiad astud, a dymuniad pawb oedd I'r Northman dyeithr enwog J ddod atom yn fuap eto. Cadeiriwyd yn fedrug yn Cwmbwrla gan y Parch. W. S. Davies (T. C.), ac yn Crug-glas gan y Parch. D. Jones, Cwmbwrla. Prydnawn dydd lau, cynaliwyd eynadledd ddirwestol yn y lie olaf, odun lywyddiaeth Mr. W. Harris. Daeth lluaws yn nghyd at eu gilydd i siarad am y ffordd oreu i roddi atalfa a dinystrio y fasnach fe,ldwol. Traethodd amryw o frudyf yn frwdfrydig, ond mewn teimlad dwys a chref- yddol, am y priodoldeb o gael g^einidoglon( diaconiaid, a holl aelodau yr eglwysi i ddod i bleidio yr achos dirwestol, a phasiwyd amryw benderfyniadau. Yn 1. Bod cylchlythyr oddiwrth y gynaclledd i gael ei anfon i eglwysi y cylchoedd yma, ac iddo gael ei ddarllen yn y gyfeillach eglwysig. yn dymnno am iddynt ffarlio cymdeithas ddirwestol, os nad oes ganddynt un yn barod, a rhoddi eu dylanwad o blaid yr achos. 2. Bod pwyllgor o Gymry a Saeson i gael ei ffurfio i'r dyben o geisio gan holl dafarnwyr Abel' tawe, Glandwr, Treforis, a Llansamlet gau 611 tai ar y Sabbath. 3. Pasiwyd pleidlais o anghymeradwyaeth y gynadledd yn erhyn Mr. L. L. Dillwyn, A.S., o herwydd na phleidleisiodd dros y Permissive Bill a ddaeth o flaen y Seneclcl ar y 26ain. 4. Ein bod i gynal cyfarfodydd cyhoeddus dir- westol yn yr awyr agored yn y manau mwyaf meddw a llygredig. Hefyd, cafwyd awgrymiadau am y dymunoldeb o gael cynadledd fel yma bob tri mis, a chyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr. Teimlad pawb oedd, ac yn awyddus felly, i wneuthur rhywbeth o ddifrif gyda'r achos, er sobri a chrel'yddoli ein tref. Terfyuwyd trwy weddi gan y Parch. W. S. Davies. GOHEBYDD. AMWYTHIG. Darlith ar Livingstone."—Traddodwyd dar- lith ar y testyn uchod yn Neuadd y dosbarth Gweithiol, nos Fercher, y 26ain cynfisol, gan y doniol a'r hyawdl Herber Evans, Caernarfon. Y cadeirydd ydoedd A. G. Brookes, Ysw. Yr oedd y Neuadd wedi ei rhwydd lenwi a cbynulleidfa barchus, pa rai oedd yno yn awyddus am gael gweled y darlithydd, a chlywed beth oedd ganddo i'w ddweyd ar destyn mor boblogaidd. Dyn o sefyllfa barchus ydoedd y cadeirydd, a boneddig- aidd yr olwg; omd nid oedd yn meddu ar lawer o ddawn siarad, ac felly, o angenrheidrwydd, bu ei sylwadau anerchiadol ef yn hynod o fyr. Dyma'r math oreu o gadeirwyr, pe gellid eu cael; ond fel arall y dygwydd yn fynych. Gwelsom ambell i un a thafod go lithrig yn lladrata amser y dar. lithydd i gyd; ond nid felly y bu y tro hwn, a da iawn oedd hyny, yn ngwyneb poethder annyodd- efol yr bin. Wedi i'r darlithydd godi ar ei draed, a chyfarch moes i'r cadeirydd a'r gwyddfodolion, dywedodd y byddai wrth draddodi ei ddarlith yn llafurio o dan anfantais ddyblyg,—y naill yd- oedd cael y Saesneg yn ddigon hwylus ar ei dafod, a'r llall ydoedd cadw y Gymraeg i lawr, a gwelwyd cyny diwedd iddo ddweyd y gwirionedd; oblegid wrth gael ei leffetheirio gan y naill, a pharod- rwydd y llal i yinwthio i'w lie ei hun, teimla ei fod yn cael tipyn o drafferth i ddod allan yn orchfygwr. Dywedodd iddo gael y fraint o weled a chlywed Dr. Livingstone uuwaith yn Llundain, ac iddo gael mawr foddhad wrth ei wrandaw. Dyn o daldra canolig, cryn lawer o'r foreigner yn ei wynebpryd, llygaid tyner wedi eu oynysgaeddu ag irder a bywiogrwydd, yr hwn a lechai yn gtidd- iedig yn nghornel ei lygaid. Yr oedd croen ei wyneb wedi crychu gan effeithiau yr haner cun' clefydau yr aeth trwyddynt yn Affrica, a'i en Ysgfitaido. yn dangos nad ydoedd yn ddyn i driffio fig ef. Dywedodd iddo fod yn Affrica dair gwaith y tro cyntaf am 16 ml., yr ail am 6. a'r drydedd waith am 8; ac os oedd rhyw gybydd na allai gofio y ffigyrau uchod yn y cwrdd, am iddo eu rhoi fel hyn,- C16 6s. 8e. (chwcrthin). Credai Mr. Evans y deuai enw Livingstone mor gyfftedin yn Scotland ac ydyw Davydd Jones yn Nghymru (chwerthin). Dywedai hefyd fod yn ofidus ganildo nad allasai ddweyd mai Cymro ydoedd Living- stone; ond fod ganddo ffrindiau alient wneud pob dyn mawr yn Gymro; ond nas gallai ef wneud hyny y tro hwn, beth bynag. Oeisiodd brofi yn deg a diymwad fod Stanley, olynydd Livingstone, yn Gymro trwyadl, ac mai John Rowlands ydoedd, Q, neb arall; ac fod ei ben fam yn bendertyuol o wneud iddo ddweyd pwy ydoedd ar ol iddo orphen ei waith. Wedi byny cawsom ddesgrifiad o Livingstone yn blentyn, yn llanc, yn ddyn, Cristion a chenhadwr. Nis gallwn ei ddilyn yn yr oil o'r pethau hyn, Dywedodd ei fod yn hanu o deulu parchus a gonest, er mai cyffredin eu hamgylch- iadau. Nid peth i'w ddiystyru, meddai ef, yw cael hanu o hen stoc o deulu gonest a diwair.,