Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

ATHROFA RHAGBARATOAWL LLANDILO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ATHROFA RHAGBARATOAWL LLANDILO. Y mae yn dda genym weled enwau dau ddyn ieuainc o'r ysgol uchod, sef y Mri. D. R. Jones a J. Evans, Bettws, yn mysg yr ymgeiswyr llwydd- anus am dderbyniad i Athrofa Trefecca yn y fiwyddyn hon. Y mae yn galonog iawn i'r athraw presenol, Mr. D. Jones, iddynt fyned trwyddi mor anrhydeddus, am mai y ddau hyn yw y rhai cyntaf o'i ddysgyblion efi sefyll arholiad. Gobeith- iwn y bydd amryw o'r lleill sydd dan ei ofal yn awr yr un mor ffodus yn y dyfodol. Byd o hedd a bywyd hwyr,—i'r Athraw Heb eithrio'r Myfyrwyr Ystod hardd i'r astud wyr, I syniaw geiriau synwyr. Llandilo. THOMAS EDWARDS. I; LLANFACHRETH. Yr Eisteddfod.—Cynaliwyd yr uchod ar y 25ain cynfisol. Y llywydd ydoedd J. Vaughan, Ysw., Nannau; a'r arwsinydd ydoedd y Parch. R. Roberts, Ficer. Wedi cael anerchiad gan y llywydd, aed yn mlaen at waith y cyfarfod, yr hwn oedd yn y drefn a ganlyn :—Am y llythyr; goreu, G. Price, ieu., Corsgarnedd. Am yr alaw, ar y geiriau, "Nid dyna'r dyn i mi;" goreu, W. Pugh, Gardner, Hengwrt uchaf. Areithio ar Hawliau cymdeithasau y cleifion i gefnogaeth; goreu, W. Griffith. Am y traethawd ar Y pwysigrwydd i ferch ieuanc fod yn hyddysg gyda gwaith ty;" goreu, Miss J. Price, Corsgarnedd. Am yr englyn i'r "Ci defaid; goreu, Idris. Nid atebodd i'w enw. Am y giin i "Dwyllj" goreu, M. Ap loan. Am y traethawd ar Ddyledswydd y dyn ieuanc ato 'i hun; goreu, D. Williams, Coedmawr. Datganu Y deigryn olaf;" goreu, D. Lloyd, Glynceiriog. Am y traethawd ar" Gyf- rifoldeb penau teuluoedd mewn perthynas i foes- au yr ieuenctyd yn ystod oriau y nos;" goreu, H. Price, Friog. Datganu y ddeuawd, "Ymglymodd yr hesg goreu, R. ac E. Price, Friog. Am y traethawd ar Gwir a Gau-annibyniaeth goreu, D. Williams. Datganu, Dyffryn Clwyd; rhanwyd y wobr rhwng E. Price, Friog, a C. Jones, Llan. Am y traethawd ar "Ddaearyddiaeth Lloegr a'i Threfedigaethau; goreu, D. Jones, Quarry Agent. Cystadleuaeth datganu y S.eren'' (Jen- kins). Daeth dau gor yn mlaen, sef cor Carmel a chor Llanelltyd. Dywedai y beirniad fod y gys- tadleuaeth hon yn dda iawn, a bod y ddau gor yn agos iawn at eu gilydd o ran teilyngdod ond y goreu o ychydig oedd cor Llanelltyd, dan arwein- iad Mawddach. Beirniaid v traethodau oeddynt y Parchn. D. Griffith, R. Roberts, Cannon Lewis, M.A., Dolgellau, a G. Roberts, Llanegryn; y fardd- oniaeth, Ellis Wynn ac Alafon; a'r gerddoriaeth, Alaw Manod, Ffestiniog. Cafwyd cyfarfod da, a chymilliad lluosog. HOMER. BRITHDIR, GER DOLGELLAU. Cynaliwyd cyfarfod pregethu yn y lie uchod dydd Mawrth diweddaf, pryd y gwasanethwyd gan y Parchn. 0. R. Owen, Glandwr; H. Jones, Birken- head; a Mr. C. T. Thomas, Coleg y Bala. Cymer- wyd rhan yn y gwasanaeth arweiniol gan y Parch. H. Roberts (T.C.), Siloh, a Mr. J. M. Rees, Coleg y Bala. Cafwyd cyfarfodydd a hir gofir, a gwen- odd yr Arglwydd ar y cyfarfodydd yn ei raglun- iaeth a'i ras. HANIBAL. CYDWELI. Temlyddiaeth Dda.-Y turn out cyntaf o'r dref hon oedd eiddo Glangwendraeth Lodge. Cymer- odd ei hymdaith ddydd Iau i fyny o'r dref i Soar (A.), a chafodd yno dê a bara brith o'r radd oreu. Uwchben yr arlwy fras hon y gwasanaethai Mrs. Hughes, Miss Gower, Miss Reynolds, Miss Hughes, &c. Wedi i bawb ymddigoni, a thalu diolch i Mrs. Gravel am fenthyg y llestri te, awd allan i chwareu am awr, yna i Horeb (M.C). Etholwyd y bugail, y Parch. D. G. Owen, i'r gadair, ac adroddwyd darnau da o'r Temlydd gan rhai ieuainc, ac areithiwyd yn argyhoedcliadol ac effeithiol gan L. Bunyan, D. Thomas, T. George, D. Henry, y cadeirydd, a'r Parchn. H. Curry (W.), a W. C. Jenkins (A). Canwyd yn swynol, a chaed diwrnod hapus iawn. Dilyned llwydd y Deml obeithiol hon. Onid yw yn bryd bellach i holl weinidogion a blaenoriaid yr eglwysi yn y dref hon godi eu lief o blaid sobrwydd; a pha gymdeithas sydd mor gyfaddas i gymeryd medd- iant o'r t6 sydd yn codi a Themlyddiaeth Dda ? Yn wir, 'does yr un ffurf arall ar ddirwest yn gwneud y peth nesaf i ddim ond ei hunan. MAIMAW. ANRHEG 0 LYFRAU. Derbyniais trwy law y Parch. Isaac Thomas, Towyn, saith o gyfrolau newyddion, sef Esboniad Barnes yn chwe cyfrol, a.Hanes y Mertbyron yn un gyfrol, gan y diwedctar Barch. Thomas Jones o Ddinbych. Teimlaf yn wir ddiolchgar i'm cyfeillion oil a roddasant i mi y cyfrolau hyn, ac ymdrechaf fy ngoreu i wneud y defny-dd priodol o honynt er budd i deyrnas Crist. Llanegryn. GRIFFITH ROBERTS. PENUEL, RHYMNI. Traddodwyd darlith ar "Merthyr Eromanga" yn y lie uchod Mehefin 26ain, gan y Parch. D. Thomas, Tonypandy. Fel y dywedodd rbyw fardd unwaith am dano,- Dyn pendant o Donypandy," yr hyn a ddywed pawb. Ni gawsom wledd o'r fath oreu. Yr oedd yn rhagorol yn y ddau gyw- air. Camp, feddyliwn ni, ydyw hyny. Wrth derfynu, dywedaf wrth bawb a allo, mynweh ei glywed unwaith, ni fydd raid eich cymell yr ail waith. Eled yn y blaen. TBEFWR. DERWENGAM, GBR ABERAERON. Damivain angeuol.-Dydd Sadwrn, Mehefin 29, anfonodd Mr. Griffiths, Nantyrefail, ei was Evan James, gyda phedrolfen i Lanbedr, i'w felin lifio i ymofyn coed; gyda pha un yr anfonodd Jenkin James, Saer, o'r lie uchod; ac yr oeddynt yn dychwelyd yn brycllon, a phob peth yn gysurus nos yr oeddynt tua milldir a haner i Lanbedr, pryd y syrthiodd Jenkin James oddiar y coed i'r ffordd, ond ni feddyliodd ei frawcl Evan Jenkins fod dim niwaid. Aeth at ei frawd, a chynorth- wyodd ef i godi, a gofynodd iddo a oedd wedi cael dolur, ond ni atebodd air. Gofynodd'dracbefn, a dywedodd fy mol." Yr oedd men arall yn can- lyn, gyda pha un yr oedd cefnder i'r ddau frawd, a chodwyd ef i hono. Cynhalid ef gan Jenkin Davies, gyrwr yr ail fop, ond wedi dyfod o honynt ,tua milldir a haner bu farw yn nghol ei gefnder, a daethant felly am tua milldir a haner, sef hyd y Fronfelen Arms, Temple bar, lie y cawsant le i roddi y corff. Cawsom ar ddeall fod yn y llety fforddolion hwn deulu yn byw sydd yn hynod-am eu caredigrwydd, a phrofwyd hyny dydd Llun, trwy i Mrs Jones beidio gofyn dim am le i'r marw i orwedd ynddo. Bendith y nef arni, a bydded i'r hwn y mae y gwynt a'r m6r yn ufuddhau iddo" fod yn nodded i'w phriod yn ei deithiau morwrol, ac a'i dygo yn ol yn iach i fynwes ei deulu. Dydd Llun canlynol cynhaliwyd trengholiad o flaen y boneddwr enwog Dr. John Rowlands y Garth, yn nghyda rheithwyr cyfrifol, yn cael eu blaenori gan y Parch. B. Phillips, Ty'nygwndwn. Yr oedd yn ystorm o fellfc a tharanau ar adeg y ddamwain, felly priodolai rhai y dygwyddiad i effeithiau mellten; ond gan nad oedd dim ar y corff nag yn y tystiolaetkau yn cadarnhau hyny, daethpwyd i'r penderfyniad iddo gyfarfod a'i ddi- weddyn ddamweiniol, trwy syrthio o'r waggon. Dranoeth daeth torf luosog iawn yn nghyd i heb- rwng ei weddill'ion i Lwynycelyn, lie yr oedd yn aelod selog er's llawer o flynyddau, pryd y cafwyd pregeth darawiadol iawn gan ein parchus weinid- og y Parch. E. Jones, oddiar Deut. xxxiii. 25, "A megys dy ddyddiau y bydd dy nerth." Yr oedd ein hanwyl gyfaill yn gelfyddydwr da a gweithgar iawn bob amser, yn fywiog a pharod i gynorthwyo pawb yn mhob caledi. Y mae ei weddw yn wael iawn ei hiechyd er's blynyddau, fel nad oedd yn gallu gweini ar ei theulu nag arni ei hun, a thrwy hyny nid oedd fawr o weddill gan ein hanwyl frawd ar gyfer ei weddw a'i amddifaid bach, felly rlioddodd yr hwn sydd a chaionau plant dynion yn ei law" yn nghalonau pobl yr ardal a'r gymydogaeth, yn cael eu blaenori gan Mr. Griffiths, Nantgwynfyaydd; Mr.Evans'Oak- ford; a Capt. Rees Davies, Aberaeron, i gasglu ychydig tuag at liniaru tipyn ar ol'nau ein han- wyl chwaer yn ei gwendid jnawr a'i phrofedigaeth lem, fel y gwnaed y swm anrhydeddus o dros £30. Teimlwn yn ddiolchgar iawn i bob dosbarth—yn, offeiriaid yr Eglwys Sefydledig, gweinidogion y gwahanol enwadau, tlodion, canolradd, a bonedd- igion, yn enwedig i Capt. Gwynne, Monachty, am ei rodd dywysogaidd o £3. Yr oedd pawb yn cyf- ranu yn siriol ac ewyllysgar. Taled yr Arglwydd iddynt am eu haelioni. Bu farw ein hanwyl frawd yn mlodau ei ddydd- iau, pan ond prin 40 ml. oed. Teimlir hiraeth, cyffredinol ar ei ol. Hyderwn y bydd i'r Arglwydd a'i dyner drugaredd weled yn dda i adferu iechyd ein hanwyl chwaer, fel y gallo fod yn ddefnyddiol yn ei theulu.

n" LLANGADOG.