Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

MARWNAD IOAN PEDR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWNAD IOAN PEDR. LLYTHYR II. YR AIL obett. Oawn yn y rhagymadrodd, i'r beirniaid ddweyd fod hon yn Bryddest dda, yn cad wo fewn terfynau priodol, yn uno teimlad a chywirdeb dlirlulliarlol yn brydferth iawn, ac yn darllen yn llyfn a 11-ithraidd. Nid yw ond oddeutu haner hyd yr un gafodd y wohr, a chwareu teg, nid yw ond haner ei phris. Tybed mai yn ol y quantity y dorian odd y beirn- iaid hi? Daillena yn llyfn, ac ystwyth, ac y mae ynddi rai ta-rawiadau destlus mae y mydr ar y cyfan yn beraidd, a'r eorfanau yn ogybyd eu hesgeiriau; a rheda drwyddi o'r naill ben i'r Hall wythien o deimlad pruddglwyfus, mewn -i iaith mor syml fel y gall y gwanaf ei deall heb gymorth geiriadur. Ac mor bell qg y mae fy mhrnfiad person ol a'm svlw i yn mynen, iaith syml fydd ar y tafod pan fyddo galaryn y galon. Gwnnetjini hon Alareb go lew ar ol dyn cyffredin. ond fel Galareb ar "01 loan Pedr, ym- ddpngys mor yswil a phe gosodid watch yr awdwr ar dalr-en St. Paul. Ei phrif ddiffygion fel cyfnnsoildind yw iaith lac anghelfvdd, a'r meddyliau braidd yn wasgarog. Agora gyda llinellau tlysion dros ben, ond gresyn eu hod tnor dehyg i linellau agoriadol Marwnnd Heber. Mae y ] hagvmadroild lawer yn rhy hir ac yn hollol ddianjrenrhaid i agor y ffordd at y testyn. Dywedir mai caneuon Homer Virs'l, a Milton yw y canenon perffeithiaf ar gael, ond nid oes gan un o'r tri pymaint a Hinell o ragymadrodd. Nid oes gan Dafydd gymaint a Ilinell o ragymad- rodd ar ol Saul a Jonathan, nac ar ol Absalom, ac ni thybiodd Jeremiah yn anaenrlieidiol i gael llinell o arweiniad i mewn i'w alarnad am Jerusalem. Mae y rhagymadrodd yma yn peri i mi feddwl am v galarwyr eyflogedig fyddai gynt yn myned o bob tu yr heol. Penill laf, Lie dyrcha'r mynyddau mewn gwiag o wylltineb, Lie ewrfll ur Tryweryn a'r Dyfrdwy yn nghyd, Lie gwiaga Edeyrnion holl geinder tlysineb, Lie gorphwys Llyn Tegid yn dawel ei bryd." Prin yr oedd yn deg arfer y gair pryd am wyneb llyn beth bynag oedd ei ystyr wreiddiol, am wyneb dynol, Countenance neu Visage, yr arferir ef yn awr. Mae braidd yn rhyfedd fod neb fu yn aros yn y Bala yn dweyd fod y Llyn yn dawel." Byddai, y dyddiau gynt, mor gynhyrfus a Llyn Genesaret, ac yr oedd felly yn amser y pwyllgor diweddaf yn y Bala. Bala mewn gwisg o hynafiaeth." Beth sydd yn hen yn y Bala heblaw y Domen? Buasai gwisg o hynanaeth yn fwy priodol i Ddolgellau na'r Bala. Mae y Bala o ran trefniad ei heulydd, ei hadeiladau a'i haddurniadau yn rhagori ar un dref ganoldirol yn Nghymru- Llanfaircaereinion, Llanidloes, Amwyiliig; dyna drefydd mewn gwisg o hynanaeth yn mhriodol ystyr y gair. Lie cyrchai y miloedd drwy Gymrn o'r bron." Pa un ai at y pwyllgbraa Annibynol, neu at øasiwn y Methodistiaid y cyfeiria y llinell yna ? Gan mai Annibynwr oedd loan Pedr, ac nad yw y Bala yn awr yn fwy enwog am sasiwn na rhyw leoedd eraill, tueddir ni i gredu mai at y pwyll- gorau y cyfeiria. Penill Sydd. Wele bedair llinell o'r trydydd penill,- Mor ddirgel i'n golwg yw llwybrau rhagluniaeth I Maent oil yn ymgolli yn nyfnder y mor Pwy feiddia espouio dirgelion marwolaeth ? Mae'r oyfan yn perthyn i gyngor yr lor." Cynygiai cyfaill i mi yr aralleiriad canlynol o honynt, pe dygwyddai fod galw am ail-argraffiad o honi. Cuddiedig o'n golwg yw llwybrau rhagluniaeth, Maent oil wedi'u trefnu drwy ddyfnder y m6r, Pwy ddichon esponio dirgelion marwolaeth ? Ond eglur yw'r eyfan yn nghyngor yr lor. Mae y llinell olaf o'r peDill hwn yn hynod anghelfydd o ran iaith,- A'r dtiwiol defnyddiol ei golli a wnawn Nid gwneud y byddwn wrth golli ein eyfeillion, eithr goddef, a byddem yn barotach i wneud rhywbeth i'w cadw na gwneud i'w colli. Penill 4ydd. Dysgwyliai gael loan am feithion flynyddau In addurn i'w henw- i roi iddi wledd." Nid teg cymysgu cymhariaethau mor fyrbwyll, oddiwrth yr addurn at fwrdd y "wledd." Ai ni fuasai yn llawn mwy dastlus fel hyn ?— "Yn addurn i'w henw, i chwyddo ei brl" (?;. Eto,- Er maint yr edmygedd, er maint y gobeithion, A'r lies a enillem cyn hir drwy ei lwydd." Mae trefniad y geiriau yn y ddwy linell yna yn liynod aneglur yn ol cystrawen y geiriau, "ni," y cyhoedd, oedd yn enill edmygedd, gebeithion, a lies,—er maint yr edmygedd a enillem, y go- gobeithion a enillem, a'r lies a enillem cyn hir drwy ei lwydd; dyna fel y darllenent yn llawn, tra y dysgwylid mai loan Pedr fuasai yn enill ein hedmygedd ni, a ninau yn cael y lies, ac nis gwn yn y byd beth i wneud a'r gair gobeith- ion Penill 6ed. Edmygir ei rinwedd am lawer oes faith." Pa arddul yw "lawer oes faith" (?). Beth a olygir wrth "rinwedd" lan hon? Os mai ei fywyd duwiol dichlynaidd a olygir, gellir dweyd byny am boh Cristion da, a gallai fod llawer un wedi cyrhaedd mwy o addfedrwydd nag ef; os nad oedd rbywbeth yn loan Pedr oedd yn werth ei edmygu heblaw ei ymarweddiad diargyhoedd, nid oedd mwy o briodoldeb mewn canu galarnad ar ei ol ef na rhywun arall. r 7 Penill 7fed. Eto,- .!ld I tit. 0 fedd didosturi, mae'm teimlad yn ddigllon." Ni ddylem ar un cyfrif goledd teimladau digllon yn un lie na than un amgylchiad, llawer llai pan dan law geryddol y Brenin mawr, ar lan bedd ein eyfeillion. Teimlad prudd, neu alarus, ac nid digllon ddylai ein meddianu yn y fath amgylch- iadau. Cyfaill fy mron." Ymadrodd llawn mwy gweddus i ganig serch na galarnad. "Yr hoffwn gael beddrod fy hunan fan hon." Mae hyny yn ormod," Ni ddywedir yn mha le y mae y fan hon "o gwbl, ni sonir am un fynwent, ac ni ddywed mai gerllaw bedd loan Pedr a olyga. Os mai mewn mynwent y mae yn golygu, pa reswm oedd gan- ddo i feddwl ei fod yn I- hofti gormod? Penill 8fed. Hen Atben y Cymry." Buasai rhyw briodoldeb mewn galw Bangor-is-y- coed yn Hen Athen y Cymry," ond am y Bala fel curtref dysg a dysgedigion, buasai "Athen" newydd neu ddiweddar y Qymry yn llawn mwy priodol. Penill geed. Athrylith o'r nef yn wastad y disgyn, Nid eiddo y palas bob amser yw hon, Mae'n fynych yn eiddo i fachgen y bwthyn," &c. Gan mai o'r nef y disgyna atbrylith "boh amser," nis gall fod yn eiddo na phalas na bwthyn," os nad oes palasau a bwthynbd i gael yn y nef. Buasai plentyn y bwthyn yn fwy priodol, o herwydd y mae merched o athrylith i gael yn ogystal/ a bechgyn, felly cymerai "plentyn," y ddau ryw i fewn. Diwedda y penill hwn yn ardderchog o ran meddwl, mydr, a chwaeth. Penill lOfed. ;7 » .¡H Y fendith yn helaeth feddianwyd gan loan, Yinwthiai i'r golwg pan ydoedd yn saer." Beth oedd y fendith ? Derbyn "bendith," y byddir yn y Beibl. Ai nid mwy priodol fuasai Y doniau yn helaeth feddianwyd gan loan (?). Pennill 11 eg. Pennill gwag ydyw hwn ar y cyfan, ac y mae y tri sydd yn ei ganlyn braidd yn ymylu ar y plentynaidd, llipa a chymysglyd. Penill 15fed. G-orchfygodd y oyfan drwy'r egni a roes." Buaswn yn deall ei feddwl pe dywedasai "yr egrii arferodd," neu "dilefnyddiodd," ond y mae y prifair rhoddi yn hawlio yr hyn a elwir dau gyflwr ar ei ol, two eases, ond nid oes yma ond un case, felly y mae y liinell hon yn anorphen- edig. Ond gwyddom beth bynag oedd ei anfanteision." Mae y llinell yna yn gloff ac anystwyth buasai yn llawer mwy heini fel hyn,— Ond gwyddom beth bynag fu iddo'n anfantais. Penill 16eg. Mae hwn yn 11 ac a hynod ddiaf- ael, digon o eiriau ond ychydig iawn o feddwl. Penill 17eg. "Afaelai yn dynach yn ei loan Pedr." Mae'r acen yn ddrwg vn "ei loan Pedr," pe dywedasai yn loan a Pedr," yna cawsid acen lithrig neu gallesid dywedyd,- Afaelai am dano yn dynach bob dydd. Ond y mae'r iaith drwy y penill hwn yn anghelf- ydd a dibwynt. Cofus genyf weled loan Pedr yn edrych dros benillion o wuith rhyw wr ieuanc, yD y rhai yr oedd amryw linellau tebyg i'r penill hwn. Wedi myned dros amryw o honynt, cododd ei ben, a rhwng difri a chware, dywedodd, Yr wyf yn sicr na ddarfu chwi ddim cyfrif eich bysedd wrth wneud y penillion hyn." Do'n wir syr," ebe'r awdwr, a hyny lawer gwaith drosodd." "Wel" ebe Pedr, "wnewch chwi gofio gyfaill ieuanc mai nid petlmu i'w gosod wrth eu gilydd dan gyfrif eich bysedd, yw silliau barddonol, eithr rhaid iddynt dyfu yn eu gilydd." Ofnwyf fod yr awdwr hwn wedi cyfrit ei fysedcl pan yn nyddu rhai o'r penillion sydd ger ein bron. Penill 18fed. Penill nacaol ar ei hyd, yn dweyd beth nad oedd loan Pedr; nis gallaf weled heddyw ei fod yn un enill i'r gan, heblaw ei fod yn llanw modfedd o le ar y wyneb dalen. Byddai llawer o bregethwyr yr oes o'r blaen yn ofalus iawn i ddweyd beth nad oedd yn y testyn, ond byddent bob amser yn ofalus hefyd i ddweyd yn gadarnhaol yr hyn a welent ynddo ond mae y cadarnhaol wedi ei adael allan yn hollol yma. Penill 20fed. Pob blys er yn fachgen yn gyflawn aberthodd." Nid oes modd aberthu nes y byddo'r aberth mewn gafael, ond ni wybu loan Pedr erioedd beth oedd blys at ddiodydd meddwol a baco." Ai ni buasai yn llawn mwy i'r pwrpas fel hyn ?— A blysiau llygredig o'r cryd ymwrthododd, (?). Penill 22ain, "Hyn oedd cryfder mawr ei lwydd." Buasai "dirgelwch" ei lwyddiant, feddyliwyf, yn well na ehryfder. Penill 23aiu. ¡ *|» Mynai gael y wdrs yii oletl'' Ar y cof heb unrliyw goll." Gwyn fyd na buasai y geiriau yna yn wirionedd, yn lie hyny acth canoedd o wersi heibio yn ddigon tywyll, a bydded yr awdwr yn farnwr. Penill 25ain, Dynn y dagrau dros eu grudd." Clywais am dynu dagrau o lygaid, a'r rhai hyny yn rhedeg dros y rudd, neu yn treiglo dros y rudd. Ar ol eu tyuu o'r llygaid maent yn sicr o fyned o honynt eu hunain. Penill 26ain. "Hyd feusydd teg dysgeidiaeth rhodiai'n gu." Camsyniad dybryd oedd galw meusydd dysgeid- iaeth yn rhai teg" Maesydd geirwon (?) yw maesydd dysgeidiaeth apelier at y neb ddarfu eu rhodio; a buont mor arw i loan Pedr a nemawr ddyn. Y maent mor arw fel y bydd canoedd yn tori'u calonau cyn ond braidd cych- wyn i'w rhodio. Hefyd, pa berthynas sydd rhwng gu," a rhodio ? Yr oedd fel math o Wyddoniadur mad." Ni ddodasid y gair mad," i gymhesuro Gwydd- oniadur oni bai ei fod yn odli ag eglurhad." Mawr dcloethineb Duw Ganfyddai ynddynt mewn gogoniant gwiw." Mae gosod gwiw" i gymesuro gogoniant a mawr ddoethineb Duw mor anmhriodel a phe gosodid esgidiau tyllog am draed brenin coronog. Penill 27ain. Fel daearegydd ca ei enw hir Goffhad, ao ymffrost fydd gan wyr ein tir." Mae y ddwy linell yna yn dwyn delw prentis o saer. Buasent yn well pe'r gyntaf yn diweddu gyda'r enw, a'r ail yn dechreu gyda'r ansoddair fel byn,- Fel daearegydd ca mewu clod goffhad Hir iawn, ac ymffrost fydd gan wyr ein gwlad." Penill 28ain. "Rhyfeddol ddysg Gwyddoniaeth wnai fwynhau, Ai gynydd ynddi beunydd wnai fwyhau." Ni cha yr awdwr fawr anrhydedd oddiwrth deithi iethyddol y ddwy linell yna! a dyma chwaer iddynt: Hen ieithoedd y deall wnai." Heblaw fod yr iaith yn afler, y mae yn ormod .dweyd ei fod yn deall ieithoedd y cynoesau, a'i fod yn fedrus yn yr ieithoedd diweddar bron i gyd, nis gellid dweyd ychwaneg am William Jones, Grimm, a Max Muller y rhai sydd wedi treulio oes i wneud dim ond astudio ieithoedd. Y darn Diodl. Tybia llawer mai mesur penrhydd ydyw yr un diodl, a bod yn hawdd cyfansoddi ynddo, os gellir cael deg sill i bob llinell; ond hyd y gwn ni, nid oes neb wedi canu yn gelfyddgar ynddo yn Gymraeg ond Golyddan a Llew Llwyfo. Mae tair Ilinell o'r deunaw hyu yn ddiffygiol yn un o brif deithi y mesur. Penill 32ain. Haul dysglaer y Genedl machludo a wnaeth." Buasai galw loan Pedr yn seren yn fwy rhesymol na'i alw yn haul; pe yr haul wedi machludo buasem mown tywyllwch. Penill 3;Jain. Trwy dclyfal ddiwydrwydd gorchfygodd bob croea." Gormod eto,; gwn i am groesau oedd heb orch- fygu o fewn tair wythnos i'w farwolaeth ac ni orchfygodd nwynt hyd y diwedd, ond fel y bydd pob Cvistion yn gorchfygu wrth fyned o'u gafael. Penill 38aiu. Y gwlitbyn yn fuan mae'r rhosyn yn golli, Feli cyrchir i'r enfys fwaog uwchben: Mae'r wawr yn ymgolli mewn mor o oleuni, Pan dpaw yr haul mawrwych i deitliio y nen."