Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
2 Cpfopiafr.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
2 Cpfopiafr. Nodiadau gan y Gol. 3 Darwiniaeth 4 Ymylon y llwybrau-Canol y Ffordd-Caer- gwrle-Glandwr, Penfro, a'r amgylclioedd 5 Llairwrtyd—Jerusalem—Cymanfa yr Anni- bynwyr siroedd Dinbych a Fflint 6 Caerfyrddin—Llanbrynmair—Pentre'r Graig 7 PRIF ERTHYGL- Cynadledd Berlin 8 Y Senedd—O'm Hawyren 9 Gohebiaethau 10-11 Nodiadau o America—Undeb Ysgolion yr Anibynwyr yn Penllyn—Gwernogle 12 Le'rpwl—Tredegar—Mertbyr Tydfil- F estin- iog-Crybwyllion Cymreig 13 Genedigaethau—Priodasau—Marwolaethau— Hysbysiadau .14—16
^,\ot)ta"bau gan n 6ol. ,r..-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
^ot)ta"bau gan n 6ol. ,r.. Yn "HERALD or PEACE."—Ceiryny rhifyn am y mis yma, yn 1. Ymresymiaa- au cryfion ac eglur dros ethol Senedd Ewropeaidd sefydlog, i fod yn uchel-lys er terfynu pynciau cydwladwriaethol. Dang- osir fod llysoedd achlysurol o'r natur hyny wedi bod, tebyg i'r gynadledd bresenol yn Berlin, a'u bod y rhan arnlaf wedi ateb dyben eu cyfansoddiad- 2. Crybwyllir fod cynygion wedi cael eu gwneud at hyny yn lied ddiweddar yn Seneddau Lloegr, Itali, Holland, Sweden, Belgium, Ffrainc, ac America. 3. Ceir barnau yr hen Napoleon Buonaparte, Alexander i. o Rwssia, Louis Philippe, Brenin Portugal, Richard Cob den, larll Derby, W. E. Gladstone, John Stuart Mill, Arlywydd America, ac eraill, y byddai cyfansoddi 11 ys felly yn ymarferol, ac y byddai yn wir ddefnyddiol. 4. Ceir erthygl gref eglur gan William Rathborne, Ysw., A.S., lawn o ffigyrau, ffeithiau, a rhesymau, er profi y bydd i orthrwm a llygredigaethau sefydl- iadau milwraidd hen wledydd Ewrop orfodi teuluoedd llafur a diwydrwydd i ymfudo o honynt i wledydd llydain pell y Gorllewin, lie y mae digonedd o diroedd da i'w cael ar amodau isel, a He y ceir tal neu gyflog da am lafur iachus; ac eglura yn niwedd ei ysgrif fod ysbryd i ymfudo yn dechreu ymweithio drwy lawer o Ewrop. 5. Ceir sylwedd y cynygion fa yn nghynadledd fawr Paris, yn 185G, er ceisio cynllunio rhyw drefn i derfynu dadleuon cydwladwriaethol drwy gyflafareddiad. 6. Ceir hanea terfyniad y "Fishery Award drwy resymeg yn nghydgynghorfa yr Dalelthiaa, yn lie drwy dan y fagnel cleddyf. 7. Eglurir fod ysbryd r yiel yn groes i ysbryd Crist. 8. llhoddir awgrymiadau o'r gwelliantau ellid gael drwy iawn ddefnyddio treuliau drudfawr sefydliadau rhyfel. 9. Ceir rhes o dros ugain o Gymdeithasau Heddwch America. 10. Enwir Jerusalem fel lie cyfleus i sefydlu llys-cydwladwriaethol. 11. Profir fod crefft rhyfel yn colli ei henwogrwydd a'i phoblogrwydd yn Germani, Itali, a manau eraill. 12. Rhoddir taflen o dreul- iau y wladwriaeth dan wahanol weinydd- iadau drwy y 30 mlynedd diweddaf. 13. Cynllun Proff. Bluntschi i gyfansoddi gwledydd Ewrop yn Unol Daleithiau. 14. Barddoniaetb. 15. Cyfarfodydd. Mae y dyddiau i oganu egniadau Cym- deithasau Heddwch wedi myned heibio; ac y mae yr amBer i fawrygu a moli gogon- iantau gorchestion rhyfelwyr ar derfynu, canys y mae dysgu celfyddyd rbyfel i ddarfod. Y mae yn hyfrydwch i'r galon, yn nghanol holl groes Jingoes poeth- wyllt pleidgarol y wasg a'r heol, i ddar- llen Herald misol dwy geiniog mor lawn o wirionedd a synwyr ymarferol, mor wir gyfoethog o wladgarwch, dyngarwch, a Christionogaeth. Gobeithio y bydd i'r gynadledd fawr bresenol yn Berlin roddi rhyw gymorth i hen bwnc Cymdeithas Heddwch, sef sefydliad uchel-lys o gyn- ryclxiolwyr y gwledyddi ystyrieda ther- fynu pob dadleuon cydwladwriaethol. Yr ydym yn deall fod ein cydwladwr HENRY EICIIAED, a rbai o'i gyfeillion, wedi myned yno i wasgu y cynllun at eu hystyriaeth.
YNYS CYPRUS, A'R FFORDD I'R…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YNYS CYPRUS, A'R FFORDD I'R DWYR- AIN.Un o'r moddion tecaf ac effeithiolaf i gyrhaedd gwelliantau yn y byd ydyw ceisio lluosogi a rhyddhau ei gyfleusderau teithio. Effeithiai hyny er helaethu ei drafnidiaeth, ac er cryfhau ei gyfeillgar- wah. Buom yn ymresymu cryn lawer o bryd i bryd, yn enwedig" ryw bymtbeg mlynedd yn ol, pan yn ceisio darlunio Goresgyniad India" gan Lloegr, y dylai Prydain Fawr "godi yn ei nerth, ac anog ei chymydogesau i gyduno a hi i chwilio am y ffordd unionaf o Ewrop i hen wledydd y Dwyrain,—y ffordd union- af i Palestina yr addewid, a Mesopotamia fu mor enwog yn nyddiau y patriarchiaid, a glenydd y Mor Coch fuont mor enwog yn amser Moses a Solomon, a dyffrynoedd y'r Euphrates a'r Tigris fuont mor ffrwyth- lawn yn amser Daniel a Jona, a thua tywysogaethau breision India, lie y mae gan Loegr fuddianau o'r gwerth mwy- af. Yr oeddis yn profi, ac yr oedd yn hawdd iawn i brofi, y buasai yn hawdd i alluoedd Ewrop gael ffordd i gyr- haedd y gwledydd Dwyreiniol hyny, yn haner, os nid yn chwarter yr amser oeddid yn gymeryd. Cyfeiriasom ryw fis yn ol at Cyprus, ynys fawr hyfryd, cant a haner o filldir- oedd o hyd, wrth haner cant o led, yn mhen draw, neu gwr dwyreiniol Mor y Canoldir, am y gallai yr ynys fawr liyfryd hono fod yn orsaf gyfleus ardderchog i linell o fasnacb-longau alw pan ar eu m6r- deithiau tua'r Dwyrain, neu wrth ddych- welyd oddiyno. Cafodd yr hen ynys hyf- ryd hono ei gwneud yn anialdir diffaeth, a bron yn angbyfanedd, drwy gamreolaeth Twrci; ond y mae llywodraeth Twrci yn awr, a hyny o'i bodd, wedi ei throsglwyddo i feddiant Lloegr, i fod dan ei gofal a'i llywodraeth: ac un o'r pethau pwysicaf a wnaeth y Gynadledd fawr bresenol yn Berlin oedd cymeradwyo y cytundeb o'i throsglwyddiad i Loegr. Bydd gan Lloegr felly yn awr safle neu orsaf fawr nodedig o gyileus yn agos i ganolbarth ei ffordd i'r Dwyrain; ac y mae yr nen wron, Syr Garnet Wolseley, yr hwn a ddylai wybod cryn lawer am y byd, wedi cael ei benodi gan ein brenhines i fol yn Llywydd Pryd- einaidd cyntaf Ynys Cyprus, a gobeithio y caiff ei is-swyddwyr lluosog ysbryd a doethineb i weithio allan welliantau fydd- ant o anrhydedd iddynt eu bunain, o enill mawr i'r ynys, o enw i'w gwlad, ac o les i'r byd oil.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIWYGIO MEDDWOST.—Yr ydym wedi bod yn dadleu er's degau o flynyddau fod yr hen ddull o ddirioyo ynfyd-ddyn haner gwallgof bob tro y meddwai, yn anghyf- iawnder creulawn. Buom yn synu gan- waith na buasai Ynadon pwyllog, gwlad- gar, yn codi eu llais yn erbyn y fath an- ghyfiawnder. ISTid ydys, wrth ddirwyo meddwyn—■' habitual drunkard,"—y naill ddydd ar ol y Hall, yn diwygio dim arno ef, ond yr ydys yn trymhau ei greulondeb tuag at ei deulu. Ar ol iddo ef wario haner ei eniljion ar ddiodydd meddwol, bydd yr Ynadon yn cymeryd oddiarno yr haner arall, gan adael ei deulu i haner le- wygu mewn angen. Buom lawer tro yn anog ar i'w achos gael ei ddwyn i lys o ymchwiliad, er egluro ei hanes o flaen deuddeg o reithwyr dysgedig a gwladgar, er dangos ei fod yn annhegwch o'r mwyaf a'i deulu ac a'i wiad ei adael yn rhydd i gael ei ffordd, ac yntau mor wallgof, mor "delirious am borthi ei flys: a buom yn dadleu y dylasid trefnu Nawddle cysurus iddo ddilynei alwedigaeth; a bod ei gyf- log, neu ei enillion, nid i fyned i'r dat'arn bob nos, ond i drysorfa dan ymddiried- aeth, ercael cartref cysurus, a lluniaeth maethol, a dillad cynes iddo ef a'i dylwyth. Da genym fod Cymdeithas yn ddiweddar wedi cael eiffurfio dan yr enw, "Society for promoting Legislation for the control and cure of Habitual Drunkards." Y mae miloedd o foneddigion blaenaf y deyrnas yn ei chynorthwyo. Ehoddwyd ei chyn- llun o flaen y Senedd ddechreu y mis hwn; ac os gall ein darllenwyr wneud rhywbeth i'w chefnogi gwnant drwy hyny les i gan- oedd o deuluoedd ein gwlad. Ysgrifenydd y Gymdeithas ydyw, S. S. Alford, Ysw., 61, Haverstock Hill, London, N.W.