Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

2 Cpfopiafr.

^,\ot)ta"bau gan n 6ol. ,r..-

YNYS CYPRUS, A'R FFORDD I'R…

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIWYGIO MEDDWOST.—Yr ydym wedi bod yn dadleu er's degau o flynyddau fod yr hen ddull o ddirioyo ynfyd-ddyn haner gwallgof bob tro y meddwai, yn anghyf- iawnder creulawn. Buom yn synu gan- waith na buasai Ynadon pwyllog, gwlad- gar, yn codi eu llais yn erbyn y fath an- ghyfiawnder. ISTid ydys, wrth ddirwyo meddwyn—■' habitual drunkard,"—y naill ddydd ar ol y Hall, yn diwygio dim arno ef, ond yr ydys yn trymhau ei greulondeb tuag at ei deulu. Ar ol iddo ef wario haner ei eniljion ar ddiodydd meddwol, bydd yr Ynadon yn cymeryd oddiarno yr haner arall, gan adael ei deulu i haner le- wygu mewn angen. Buom lawer tro yn anog ar i'w achos gael ei ddwyn i lys o ymchwiliad, er egluro ei hanes o flaen deuddeg o reithwyr dysgedig a gwladgar, er dangos ei fod yn annhegwch o'r mwyaf a'i deulu ac a'i wiad ei adael yn rhydd i gael ei ffordd, ac yntau mor wallgof, mor "delirious am borthi ei flys: a buom yn dadleu y dylasid trefnu Nawddle cysurus iddo ddilynei alwedigaeth; a bod ei gyf- log, neu ei enillion, nid i fyned i'r dat'arn bob nos, ond i drysorfa dan ymddiried- aeth, ercael cartref cysurus, a lluniaeth maethol, a dillad cynes iddo ef a'i dylwyth. Da genym fod Cymdeithas yn ddiweddar wedi cael eiffurfio dan yr enw, "Society for promoting Legislation for the control and cure of Habitual Drunkards." Y mae miloedd o foneddigion blaenaf y deyrnas yn ei chynorthwyo. Ehoddwyd ei chyn- llun o flaen y Senedd ddechreu y mis hwn; ac os gall ein darllenwyr wneud rhywbeth i'w chefnogi gwnant drwy hyny les i gan- oedd o deuluoedd ein gwlad. Ysgrifenydd y Gymdeithas ydyw, S. S. Alford, Ysw., 61, Haverstock Hill, London, N.W.