Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

LLANWRTYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

E. Herber Evans, Caernarfon. Am baner awr wedi chwech boreu ddydd lau, gan y Parcha. Roberts, Brymbo, a Price Jones, o America am ddeg, ar y maes, gan y Parchn. D. Oliver, Tre- ffynon, ac E. Herber Evans, Caernarfon; am ddau a chwecli, gan y Parchn. L. Probert, Porthmadog, a Dr. T. Rees, Abertawe. Dech- reuwyd y gwahanol oedfeuon gan y Brodyr Roberts. Brymbo Jones, o Rhesycae Hough, Llanarmon; ac Evans, o Llandegla, yr hwn hefyd, a arweiniai y moddion cyhoeddds trwy ystod, y gymanfa. Yr oedd y darpariadau yn mhob ystyr, a'r caredigrwydd a ddangoswyd gan y cyfeillkm yn Rhuthyn, yn haeddu y ganmoliaeth uchaf. Cafwyd cynulliadau lliosog, a phregethu grymus iawn. Ein byder a'n gweddi yw, ar i effeithiau da ei dilyn yn amlwg a pharhaus. Abergele. E. T. DAVIES, Ysgrifenydd. CAERFYRDDIN. PAEKYVELVET ACADEMY. Arbolwyd yr ysgol hon eleni gan y Parch. W. Evans, M.A., Aberystwyth, mewn Greek, Latin, English Grammar, ac Analysis, a Scripture History a chan y Parch. D. M. Lewis, B.A., Cambridge, mewn Arithmatic, Algebra, Euclid, a Geography, &c. Y mae cynyrch yr arholiad hwn, fel y gellir yn hawdd gasglu oddiwrth dystiolaeth- au yr arholwyr, yn siarad yn uchel iawn am gy- mhwysder Mr. Jeremy fel athraw, ac ar y llaw arall am ddiwydrwydd y myfyrwyr. Wele yn canlyn report yr arholwyr:— Mr. Jeremy, Sir,—I have examined your school in Arithmatic, Algebra, and Euclid by paper, and in European Geography and English Grammar, vira voce. It gives me great pleasure to say that the work in all these subjects appears to have been done with diligence, and the result is on the whole very satisfactory. Several of the papers were markedbyvery neat writing, and the answers to the questions were such as to shew that the pupils take a very intelligent interest in their work, and that great care has been taken in preparing them and grounding them in their sub- jects. In some classes there was considerable variety, and many of the pupils in the various classes were much above the average. The work done is very creditable to your care and ability, as a teacher, and to the industry and intelligence of your pupils.—D. M. LEWIS, B.A., July 4th, 1878. The pupils of the Parkyvelvet Academy have passed an excellent examination in Greek, Latin, English Grammar, and Analysis, and Scripture History. It is evident that the master gives the scholars thorough instructions and enough to do; and on the other hand, that they have during the past year been attentive to their studies. I am much pleased with the quantity of work done as well as the way in which it has been performed. WILLIAM EVANS, M.A., Aberystwyth, July 5th, 1878. Llwyddiant i Mr. Jeremy a'i ysgol i fyned rhag eu blaen yw llais calon MABLEISYDD. LLANBRYNMAIR. Ymddengys fod cryn fywiogrwydd a phryder rly yn mynwesau lluaws yn nghwr isaf y plwyf hwn yr wythnosau diweddaf yn herwydd fod diweddar ysgolfeistr yr ysgol Frutanaidd wedi rhoddi pwyllgor presenol yr ysgol yn Llys y Man-ddyled- ion yn Machynlleth amy swm o 97 oedd heb eu talu o'i gyflog. Mae yr amgylchiadau fel y can- lyn >- Cyflogodd yr hen bwyllgor yr ysgolfeistr yn Mawrth, 1876, ar y telerau a'r dealltwriaeth iddo gael pres y plant, grant y llywodraeth (£6 5/), arian chwarter charity Dr. Williams U:12 10/) oddiwrth y pwyllgor, yn nghyda'r £ 3 a arferai ddyfod iddo trwy law yr ysgrifenydd er's 16eg o flynyddau, y rhai a elwir yn yr ardal yn X3 Mr. W. Breese at ddysgu plant tlodion y gymydogaeth. Ond fodd bynag, tua diwedd yflwyddyn uchod, cododd rhyvv ymrafael rhwng y gweinidog a'r ysgolfeistr, ac yn y cyfamser ymddangosodd adysgrif (copy) o ewyllys y diwecldar Mr. a Mrs. Breese yn y Cambrian News, yr hon a ddengys fody j63. yn nghyda'r i'8 eraill o waddol Mrs. Breese, i ddyfod i'r ardal trwy law y gweinidog o oes i oes, a gofyna yr ewyllys fod y gweinidog i dysgu 10 o blant tlodion o rieni Cymreig am 4 mis yn y flwyddyn i ddysgu Cymraeg, neu beri 11 11 §an arall, a dychwelyd y £ 3 iddo am ei erovii' Pan welodd Mr. Evans gopi o'r in™ cf8' na<i oedd yr arian yn dyfod trwy ei A°u ifrwy law yr hen drysorydd, sef Mr. Aberdyfi, (Dolgadfau gynt), gwelodd, mae yn debyg, ei fod yn cael ei amddifadu o ychydig lywodraeth a chlod; ac er ymgyrhaedd at gael y naill a'r llall, yn ei farn ef, mae'n debyg, gwasg- odd ar Mr. Jones, Aberdyfi, i'w hanfon iddo ef rhagllaw; ac felly y gwnaeth. Anfonodd y 93 i'r Parch. 0. Evans ynRhag., 1876, ac wedi dysgwyl o'r ysgolfeistr am rai wythnosau am danynt, anfonodd i holi yn eu cylch i'r man yr arferai eu cael; ac o hyny hyd yn awr, er pob ymdrech deg, gwrthoda Mr. Evans eu talu; a bu dau o gymydogion parchus a boneddigaidd, wedi, eu hawdurdodi gan bwyllgor, yn siarad a chadeirydd pwyllgor presenol yr ysgol, ac yn gofyn am yr arian, a dangosodd bob parodrwydd i'w talu o'i ran ei hun, ac y gwnai ei oreu i ddarbwyllo Mr. Evans i'w talu ond yr oil yn ofer, ac felly heb eu talu eto. Ond y diwedd fu i'r hen ysgolfeistr ymgynghori a chyfreithiwr yn y mater, a bu mor foneddigaidd a pheri iddo roddi rhybudd i'r pwyllgor er eu hanog i'w talu cyn gweithredu pellacb, ond dimyn tycio; a'r canlyniad fu, eu gwysio i ymddangos yn Llys y Man-ddyledion yn Machynlleth dydd Mercher, Gorph. lOfed. A'r peth rhyfeddaf a ddygwyddodd yn Llanbryn- mair, mae yn ddios, er dyddiau Walter Caradog, gyda'r eithriad o roddi Beibl Peter Williams ar Jotri," oedd gweled yn ngorsaf y reilffordd yn y lie hwn boreu dydd Mercher, Gorph. lOfed, weinidog efengyl, swyddogion yr eglwys, aelodau crefyddol, a rhai gwrandawyr Hen Gapel, Llan- brynmair, yn edrych yn wgus ar eu taith i'r Ilys i wrthdystio yn erbyn eu gilydd yn nghylch talu cyflog o ze3 dyledus i'r ysgolfeistr. 0 nid fel hyn y buasai, tybed, pe buasai y boneddigaidd a'r tangnefeddus S. R. yma? Ond fodd bynag, fel hyn y mae. Cyrhaeddwyd Machynlleth tua 7 o'r gloch, a dyna lie buwyd yn teithio yma a thraw yn wahanol bleidiau er parotoi a hogi yr arfau gogyfer a'r frwydr; ao wedi myned i'r neuadd, a dysgwyl am oriau meithion y tro i sefyll y prawf, a chyfreithiwr, bid siwr, o bob tu i amddiffyn cyfiawnder, yr oedd lluosogrwydd y cases o flaen y fainc y fath, felna chawd cyfle ond prin i fyned i lan mor y dirgelwch. Ac wedi i'r ddaii gyf- reithiwr agor ychydig ar y mater yn y goleu yr oeddynt hwy yn ei weled a'i ddeall (yr oedd hyny yn dra aneglur o du y ddau), dywedodd y barnwr nad oedd efe yn barod i roddi ei farn ar yr achos y pryd hwnw, ond y byddai iddo chwilio i'r mater, ac y rhoddai ei tarn arno cyn dyfod i Machyn- lleth y tro nesaf, neu byddai iddo gael ei drin yn nghyntaf yn y cwrt dyfodol yn mhen dau fis. Yna aeth pawb tuag adref. Cyn diweddu ein llith y tro hwn, dymunwn wneud yn hvsbvs nifer o ffeithiau. Yn 1. Aeth personau o'r enw Mr. a Mrs. Breese, fel y dywedir, oddiyma i Lundain; casglasant ychydig gyfoeth, a buant feirw, agadawsant yn eu hewyllys y naill tua J6100 a'r Hall £300, Hog y rhai oedd i ddyfod i'r ardal at addysg. 2. Fod yr arian at yr aincan uchod i ddyfod i law y gweinidog, yr hwn sydd fel math o ymddir- iedolwr arnynt, i edrych i mewn pa fodd y'u treulir. 3. Fod y gweinidogion boreuaf yn cadw ysgol, ac yn addysgu eu hunain; felly, yn cadw yr arian am eu gwaith. Yr oedd cylch y weinidogaeth y pryd hyny yn fychan, a'r trigolion yn anaml, ond cynyddodd y boblogaeth, chwanegodd y gwaith, ac eangodd cyleh y weinidogaeth; ac yn nyddiau y diweddar Barch. John Roberts, bu i'w feibion, S. R. a J. R., gyfodi yn yr ardal, ac felly yn alluog i lenwi cylch y weinidogaeth a chyfranu addysg; ac yn mhen blvnyddau wedi marw eu tad, buy ddau yn cydlafurio yn y lie gyda dylan- wad a llwyddiant mawr gydag addysg grefyddol ac elfenol. Wediymbriodi, bu J. R. yn absenol am tua blwyddyn neu well, a daeth y diweddar Barch. H. James, Llansantffraid, i lenwi ei Ie, i gynorthwyo S. R. i bregethu ac i gadw ysgol. 4. Bu S. R. yn talu yr arian dan sylw iddo yntau hefyd. Ymadawodd J. R. drachefn i Rhuthin, a daeth un John Jones i gadw ysgol ac i gynorthwyo i bregethu gyda S. R., a dyma yr adeg yr aeth yr ysgol dan yr enw British School. Bu yn flodeuog iawn am flynyddau o dan gys- god aden dyner yr Hybarch S. R. 5. Bu talu yr arian a ataliwyd iddo yntau gan S. R. Bu hefyd yr hen gyfaill ffyddlawn ac ym- drechgar Mr. E. Lewis yn cadw yr ysgol am am- ryw dymhorau gyda chymeradwyaeth mawr. 6. Talodd S. R. yr arian hyn iddo yntau. Yna daeth Mr. Evan Lloyd i'r gymydogaeth i gadw ysgol, a chynorthwyo i bregethu. 7. Talwyd gan S. R. iddo yntau hefyd. Tua y fl. 1857, ymadawodd S. R. i'r America, pryd ag y rhoddodd ei lyfrau a'i gyfrifon i fyny i'r eglwys mewn cyfarfod cyhoeddus yn yr Hen G-apel, ac o hyny hyd yn awr y mae pwyllgor yn nghylch 7 o nifer yn cael eu hethol o flwyddyn i flwyddyn er gofalu am yr ysgol. Tua 16 ml. yn ol, daeth Mr. Evan Davies i'r lie, a bu yma am yr ysbaid yna o flynyddoedd, a bu ei lafur a'i ymdrech gyda'r h alr gaiamol- ysgol y fath fel yr ehillodd y parch a'r ganmol- iaeth uchaf hyd y flwyddyn cyn y ddiweddaf, pryd y daeth yr ymrafael a grybwyllwyd i mewn, ac yna aeth yn ymbleidio. 8. Talwyd y 93 iddo yntau trwy law yr ysgrif- enydd drwy yr holl flynyddau y bu yma ondy ddiweddaf, fel y nodwyd. A hoffem weled Mr. Evans, neu rai o'r swyddogion, yn gwneud yn hysbys y rheswm paham yr ataliwyd hwy, ao heiyd pa fodd y treuliwyd y £6 diweddaf, sef arian dwy flynedd, yn nghyda'r £ 8 eraill ddylas- ent fyned at adysg yn y lie.—GOMEE AB GOMEK, Yr Ysgol Frytanaidd eto.Y mae yr ysgol hon a golwg obeithiol iawn arni ar hyn o bryd. Yn yr arholiad ynMai diweddaf, cafwyd prawf amlwg o alluoedd Mr. J. Williams, yr athraw presenol, i gyfranu addysg i'r rhai sydd dan ei ofal. Dyma fel y qywed Inspector y llywodraeth am dani:— "Y ysgol hon wedi gwella yn cldirfawr trwy gael athraw siriol a bywiog, a gosocl gwyclr goleu yn lie yr hen un tywyll oedd ar y ffenestri. Y mae'r addysg drwy'r holl ysgol yn dda iawn. Y mae'r canu yn rhagoroi-yri felus, bywiog, a dymunol. Y mae'r gwnio yn foddhaol. Dysgwylir ychwaneg o waith gwen y flwyddyn nesaf." Y mae Mr. Williams yn mhell uwchlaw dys- gwyliadau goreu ei gyfeillion, er fod yn yr ardal lawer o bethau a thuedd uniongyrchol ynddynt i luddias llwyddiant yr ysgol pan ddaeth ef i'n plith; er hyn oil, drwy ei fedrusrwydd fel athraw, a'i ddull doeth o ymddwyn at bawb, yn mhob am- gylchiad, llwyddodd i orchfygu yr holl anhaws- derau oedd o'i flaen. Aeth yr holl blant bron yn ddieitbriad yn llwyddianus drwy yr examination, a derbyniwyd mwy o grant nag a gafwyd ynLhtnbrynmair erioed o'r blaen—yr oedd yn ymyl :21/ y plentyn yn ol yr average attendance. Enillodd Mr. Wil- liams £ 89 9/, ond ni dderbyniodd y Committee ctod X71 2/ 4c., a hyny yn unig o achos fod yr ysgol heb yr un pupil teacher am 11 mis o'r flwyddyn oedd yn diweddu yn Ebrill. Yr oedd hyn yn golled fawr i'r ysgol. Erbyn hyn, y mae y Committee wedi llwyddo i gael pupil teacher bywiog a gweithgar, fel y gallwn ddysgwyl yn hyderus am lwyddiant yn y dyfodol. Dymunaf awgrymu i'r Committee y pwys i bob un yn ei ardal i anog rhieni i wneud ymdrech i A anfon euplant i'r ysgol yn rheolaidd. Byddai^ hyny yn lies mawr i'r ysgol, ond yn llawer mwy o les i'r plant yn y dyfodol. Cofied y rhieni hyn er mwyn eu plant. BBODOB. PENTRE'R GRAIG, TRELECH. ,rF(> Cynaliodd cyfrinfa y Gwir Iforiaid yn y lie uchod vh ei chylchwyl ar y 18fed cynfisol. Erbyn 9 o'r gloch, cyfarfu y Frawdoliaeth yn lied gryno. Ar 01 derbyn y Paich. J. M. Gibbon, a T. J. Philips, Ysw., yn aelodau anrhydeddns, a chael ychydig ymgom yn ystafell y Gyfrinfa, ymffurfiwyd yn orymdaith drefnus yn cael ei blaenori gan seindorf Llysnewydd. Cychwynwyd o'r Pentref am 10 o'r gloch tua chapel Annibynol Penybont. Yr oedd canodd o edrychwyr yn canlyn. Cyrhaeddwyd y Capel erbyn 11, pryd y dechreuwyd y gwasanaeth cyhoeddus drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. M. Davies, gweinidog y lie, a phregethwyd yn effeithiol a phwrpasol iawn gan y Parch. J. M. Gibbon, Trelech, oddiwrth Preg. iv. 12. Yna wedi gorphen yr addoliaid, aethpwyd yn mlaen at balas y Parch. L. Williams, B.D., Offeiriad y Plwyf, yr hyn fu'n achlysur i ysgoi cawod drom o wlaw. Parodd hyn syndod nid bychan i'r rhai oedd yn aros yn y Pentref, gweled yr holl frodyr yn dychwelyd heb wlychu dim, na llychwino eu gwisgoedd addurnedig, pan oedd Ilifogydd o gylch y lie. Erbyn hyn yr oedd yn bryd ciniaw, yr hwn oedd wedi ei barotoi gan j brawd J. Jones, yr Hen Westy, yn y modd goreu. Wedi i bawb fwynhau yr hyn oedd yn angenrheidiol ar y cyrph, aethpwyd i Gapelygraig i gael gwledd drachefn i'r meddwl. Etholwyd yn unfrydol y Parch. L. Williams, B.D., i'r gadair lywyddol, yr hon a lanwodd yn anrhydeddus, a dangosodd y sel boethaf dros Gymru, Cymro, a Chymraeg. Yna galwyd ar Mri. W. Owens, T. Williams, J. Rees, a J. Williams, a'r Parchn. W. M. Davies, a J. M. Gibbon; a chafwyd ffrwythau eu myfyrdodau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth. Chwareuid cydrhyngddynt gan y seindorf. Tystiai y rhan amlaf oedd yn wyddfodol na -s chawsont well gwledd i gorph a meddwl er's blynyddau, Yna dychwelwyd i ystafell y Gyf- rinfa i orphen gwaith y dydd. Derbyniwyd rhai o newydd. Ymadawodd pawb yn brydlon a gweddus, (er fod yno rai o wyr y Peisiau Gleision yn gwylio yn ofalus) heb na thwrf na therfysg. Hyderaf y bydd y troad allan hwn yn foddion i gael llawer eto i ymuno a'r Gym- deithas. IFOR.