Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LB'RPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LB'RPWL. Nid rhyw lawer o newyddion sydd i'w hanfon 0*r dref hon yn bresenol, oblegid nid ydyw y trig- olion yn chwilio am ryw lawer o fwyniant cartref- ol, ond rnaent yn y misoedd hyn a'u gwynebau tua'r wlad, i fwynhau ychydig o awyr glir, wedi bod trwy y misoedd diweddaf yn anadlu awyr byglyd a myglyd Le'rpwl; ac hefyd, i gael golwg ar brydferthion rhamantus natur, yr hyu sydd yn cael ei ddynwared gan law celfyddyd mor fynych j j Felly' yr hyn a glywir am dano yn A ^)resen°J ydyw gwibdeithiau ysgolion ayddiol a Sabbathol, yn nghyda gwahanol gym- *'r w^a<^ ac y mae gwahanol deulu-. oedd hefyd yn ymweled yn y dyddiau hyn a gwa- hanol barthau o Wlad y Bryniau: felly, yr oil ellir ddywedyd am Le'rpwl yn awr ydyw, ei bod oddicartref. Ond deallwn fod yma barotoadau yn cael en gwneud erbyn bydd y gauaf yn nesu. Un peth ydyw cymanfa yr Annibynwyr, yr hon sydd i'w chynal yr ail Sabbath yn Medi, pryd y dysgwylir y Parchn. Dr. Rees, Abertawe 0. Evans, Llan- brynmair; R. Williams (Hwfa Mon); Thomas, Glandwr; Dr. Rees, Caer; J. Evans, Rhymni; Stephens, Tanymarian; D. Griffith, Dolgellau; P. Howells, Ffestiniog; ac Ossian Dyfed, i breg- ethu; a chlywsom fod Ossian yn myned i dra- ddodi darlith yn rhywle yn y dref yr un adeg. Hefyd, mae yr Eisteddfodau, sef yr Eisteddfod Genedlaethol yn Birkenhead a'r Gordofigion, yr hon a gynelir ddydd Nadolig fel arfer, yn parotoi eu hunain. Mae yn ddrwg genym weled fod yr olaf wedi bod yn bur hwyr gyda rhestr eu testyn- au eleni, ond deallwn erbyn hyn eu bod hwythau yn barod. Mae y dref yn cael ei chynhyrfu ddiwedd yr wythnos hon gan y bodau terfysglyd hyny a alw- ant eu hunain Orangemen, pa rai sydd yn honi amddiffyn crefydd bur gyda rhegfeydd, meddw- dod, ac ymladdfeydd. GIMEEI. TREDEGAR. Neuadd Ddirwestol. Cynaliwyd eisteddfod yn lle uchod nos Sadwrn diweddaf, y 6ed cyfisol gan gymdeithas Seisnig y Temlwyrjda. Diameu mai eu hamcan trwyddi oedd cael elw, i ba ddyben nis gwyddom oed tybiwn yn sicr wrth fychandra y cynulliad iddi droi yn anllwydd- ianus hollol. J Eisteddfod wael, hynod o wael ydoedd yn inhob ystyr, oddigerth ei beirniaid a'i chyfan- soddiadau barddonol; nid oedd yn teilyngu cael y teitl Cymreigawl Eisteddfod o gwbl. Enill- wyd gyda gradd uchel o gymeradwyaeth ar farddoniaeth Seisnig gan ein cyfaill ieuanc gobeithiol, (newyddanedig fel bardd) Abraham Bowen. Cerdd rhagot, gyfaill serchog, a phenderfyna fod Yn enwog fel barddonwr, uwch neb o'r uchaf nod." Bu agos iddo gael y dorch hefyd am farddoniaeth Gymraeg; ond o ychydig, dyfarnwyd y wobr hon (os gwir y dywediad) i Myfyr Wyn, er mai arall esgynodd i'r llwyfan i dderbyn y dorch, ac i fod yn gyfranog o'r cyfryw anrhydedd. Tegwch fyddai i'r gwobrwyedig hysbysu o'r esgynlawr wir hawlydd y wobr, ac yna ni byddai aclios siarad yn ol llaw, oblegid y mae Myfyr yn fardd gwir dalentog wedi profi ei hun felly. Y beirniaid oeddent Mr. J. Lloyd (Eos Carno) ar y gerddoriaeth, a Mr. W. Williams (Ehedydd Wyn), presenol Beiglor Eglwys ein fcref, ar y cyfansoddiadau &c. Cyflawnodd y arfer a r 6U yn ganmoiadwy fel Yr wyl de flynyddol. Yr wythfed cyfisol eymerodd gwledd fawr y deisen frau a'r ddeilen Indiaidd le yma, pryd y gorymdeithiodd holl yggolion ein tref, oddigerth yr Eglwys Wladol. yn un llu mawr banerog i lawr drwy y Park, ac yn ol ein dull arferol safai y gwahanol ysgolion o flaen palasdy y cyfryw Ie cyhyd ag y byddai y gwahanol gorau yn anrhegu y boneddwr a'r foneddiges Mr. a Mrs. Colynhoun a datganiad o'u darnau dewisedig. Wedi hyny aeth pob ysgol i'w mangre dewisedig i wledda-rhai i'r mynydd, a rhai i'r broydd, ac eraill i'w capelau. Pa faint o les sydd yn deilliaw trwy y gwledd- oedd yma i'r Ysgolion Sabbathol sydd bwnc anmhenderfynol; ond gwyddom eu bod yn lrhoddi y cyfleustra mwyaf manteisol i'r gelyn DTO 0 J gario allan ei gampweithiau mwyaf bet^ eiddo. J!Rss in the wring, diafni Jybed am8en cyfrwysgylch y tad dynion i fod yn gaethweision iddo yn uni yrit mewn amrywiol ystyriaethau, chwareuSCho1 a? ,yn anuniongyrchol trwy y teuluaidd „ ^W1°l ,yna- Pa faint o gysur a ddinystrir trwy y cyfryw atgas chwarenaeth, ar gyfrif bod gwyr a gwragedd yn gyfranogion o'r cyfryw anuwioldeb. 0 warth, onite ? gweled gwraig yn rhedeg nerth ei choesau dros y twmpathau a thrwy y llaid, weithiau lawr ac weitbiau fynu. a'r cyfan er mwyn cael yr anrhegogusan gan yr hogyn fyddo yn rliedeg o'i blaen. Wragedd anwyl! na osodwch eich hunain o dan y fath wartbrudd, 1t dynion hefyd. Cymaiut a hynyna yn bresenol, gan hyderu y bydd i'r euog deimlo ac edifarhau. Cyfarfodydd nos y wledd. Os oedd miloedd yn ymbleseru eu hunain ar gopa y mynyddoedd gyda eu llygredigaethau ymbleserawl cnawdol, ac yn y diodtai, yr oedd canoedd hefyd yn y gwahanol gapelau yn ymbleseru gyda phethau buddiol a da. Ya mhlith rnanau eraill, cynaliwyd eyfarfod llenyddol yn Saron, dan lywyddiaeth ein parohus weinidog Mr. Powell. Wrth ystyried mai amser byr gafwyd i barotoi ar ei gyfer, yr oedd yn gyfarfod da. Damwain. Heddyw, ddydd Mercher, cafodd John Edwards ei anafu yn bur ddrwg ar ei ben, trwy i ddarn o'r nenfwd syrthio arno pan wrth ei waith yn mhwll y mynydd. MEILLIONYDD. MERTHYK TYDFIL. Mae yr arferiad er's llawer o amser bellach, gan fwyaf yr holl o Ysgolion Sabbathol Merthyr, droi allan ar ddiwrnod penodedig yn ystod mis- oedd yr haf, i fwynhau eu hunain yn yr awyr agored. Mae rhai o honynt yn myned i Doly- gaer, eraill i Pontsarn, ac eraill i ymyl y Tynew- ydd a'r Goetre. Dydd Iau diweddaf oedd y diwrnod apwyntiedig gan Ysgolion y Market Square a Ragged Schools, Abermorlais a Pheny- darran. Wedi gorymdeithio drwy'r dref, aetliant i fyny i'r Goetre i gael te a theisen yn yr awyr agored. Yr oedd yn edrych yn y boreu yn bur gymylog, a thybid y buasai yn rhaid cael y te yn yr Ysgoldy; ond erbyn haner dydd, yr oedd y cymylau wedi gwasgaru, a chafwyd prydnawn hyfryd. Mae dros 300 o blant yn pertbyn i'r ddwy Ragged Schools uchod; ac y mae Mr. Jeremy, Mr. Watkins, Penydarran, ac eraill, sydd yn eu cynorthwyo, yn haeddu canmoliaeth uchel am yr ymdrech a'r llafur ddangosir ganddynt yn nglyn a'r Ysgolion yma. Y BUJrdd Ysgol.-Dydd Gwener diweddaf cyf- arfu y bwrdd yma, pryd y darllenwyd llythyr oddiwrth G. T. Clark, Ysw., cadeirydd, yn dweyd ei fod yn cymeradwyo sefydla Industrial School ychwanegol, a phenodwyd tri o aelodau y bwrdd i fyned i'r gynadledd a gynelir yn Abertawe dydd Llun nesaf, pryd y bydd y pwnc yma yn dyfod dan sylw. GOHEBYDD. FFESTINIOG. Dychweliad Mr. W. 0. Thomas (Llechweddgynt) o'i daith o amgylch y byd i'w wlad enedigol.-Nos Fawrth, 9fed cyfisol, yn yr Assembly Room, caf- wyd darlith ddesgriliadoi o'i deithiau. Bu mewn 30 o'r Taleithiau Unedig. Nid awn a'ch gofod i enwi y Taleithiau. Cafwyd cynulliad Iluosog, a darlith hynod ddifyrus i'r gwrandawyr. Dywed- odd Mr. R. Owen, Rhiw, cadeirydd y cyfarfod, yn ei anerchiad, ei fod yn teimlo yn falch fod Mr. Thomas yn enedigol o Ffestiniog, ac hefyd yn chwarelwr; ac ei fod wedi dangos penderfyniad meddwl a gwroldeb pan yn ymgymeryd a'r fath anturiaeth heb swllt o gynorthwy gan neb. Ar- weinydd, Ffestinfab, hen gyfaill Mr. Thomas. Yr oedd ef, fel bob amser, yn hynod ddoniol yn ad- rodd hanes Mr. Thomas mor wrol pan yn ieuanc. Cafwyd gair gan Mr. R. P. Jones a Mr. T. Wil- liams, Croesor; ond am y Gwaenydd Brass Band, mae nhw yn gwasanaethu pob cyfarfod o'r natur yma yn rhad ac am ddim. Cafwyd can gan Eos Barlwyd, ac anerchiad gan Mr. D. G. Williams. Amcan y cyfarfod oedd croesawu Mr. Thomas cyn iddo ymadael a Gwalia Wen. Llys yr ynadon yn y Penrhyn.-Ar yr lleg cyfisol, dirwywyd, am gerdded y Festiniog dt Blaenau Railway, y rhai a ganlyn :—J. Jones, Glynllifon; M. Roberts, Talwaenydd; Jane Jones, Diphwys Terrace; R. Williams, Fourcrosses; a D. Morgan, Gas Works. Damwain.-Y 12fed cyfisol, yn chwarel Welsh Slate, fel ac yr oedd 1). Jones, yn dilyn ei alwedigaeth, set bachu olwyni, ynonghwaelod yr Incline cadd ei daro yn ei cefn gan bedair olwyn arall oedd yn dyfod ar y cledrau araill. Gobaith gwan sydd am adferiad iddo. Brodor ydyw o sir Ddinbych. Festri Neillduol.-Am dri o'r gloch prydnawn Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd festri yn nghapel yr Annibvnwvr yn mhentref Ffestiniog, o dan lywyddiiiH u Air. R. Owen, Rhiw. Diben galw y trethd .lwyr yn nghyd ydoedd i ethol casglydd trethi, yn olynydd i'r diweddar Mr. R. Evans, Caedu. Ymgeisiodd saith am y swydd bwysig hon. Ar ol gofyn llawer o gwestiynau, a'u hegluro i foddhad y rhan luosocaf rhoddwyd y mater i bleidlais. Dros Mr. Hobert Lloyd, Ffestiniog, y pleidleisiodd mwyafrif dirfawr Ai tybed nad gwell fuasai i'r trethdalwyr gynal y Festi-i yn y Blaenau, er mwyn cael adeilad digon eang. yn bytrach na myned i gapel i dd adieu ar fater plwyfol ? TREBOB MANOD. !f DOLGELLAU. Dydd Iau, Gorph. 11, bu farw W. R. Williams. Ysw., C.E., Vron, Dolgellau, yn 50 ml. oed, a chladdwyd ef yn y Fyuwent Newydd ar y 1.5fed. Yr oedd ei gladdedigaetb yn un tywysogaidd. Yr oedd hon siopau y dref wedi eu cau. a'r blinds dros bob ffenestr. Blaenorid yr orymdaith gan aelodau y Bwrdd Ysgol, o'r hwn yr oedd yn aelod. Yn dilyn yr oedd boll blant ysgol y Bwrdd, a chanasant yn hyncd effeithiol cyn cychwyn oddi- wrth y ty. Yn dilyn y plant yr oedd aelodau y Bwrdd Lleol, o'r hwn yr oedd yu aelod. Yn dilyn aelodau y Bwrdd Lleol yr oedd yr Odyddion mewn trefn dda, o'r hon gymdeithas yr oedd yn aelod. Yna yr elor a'r perthynasau, a thyrfa. anferth o bobl yn dilyn. Yr oedd yr Eglwys ym llawn. Yr oedd Mr. Williams yn dllyn caredig dros ben, a gwnueth lawer iawn o les i Ddolgellau a'r amgylchoedd. Dyma nn wedi codi ei hun o'r sefyllfa iselaf i fod yn un o fawrion ei dref ened- igol, ac a bei chid gan bawb o bob gradd. Hedd- wch i'w lwch.

CRYBWYLLION CYMREIG.

[No title]