Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y FONEDDIGES DAWEDOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y FONEDDIGES DAWEDOG. (EFELYCHIAD). Y MAE tafodau, fel aelodau seneddol, o ddau fatb-y dafod siaradus, a'r dafod fud. Ymddengys fod tafodau wedi eu ffurtio gau natur y naill ddosbarth er dwyn perthynas a'r hyn ddaw o'r genau, a'r dosbarth arall er » dwyn perthynas a'r hyn a a i'r genau. Siarad wna y naill, arch waethu wna y Hall medda un gyfoeth o hyawdledd, y mae y llall yn amddifad o'r gras hwn. Dyga un gysyllt- iad lied uniongyrchol ag ymadroddion gwyntog, dyg y llall gysylltiad a plum pudd- ings a pliob ihyw ddanteithfwyd sylweddol. Teimlwn yn wastad anhawsder i bender- fynu pa un, o dan bob amgylchiad, yw y fwyaf ddewisol. Nid ym yn dueddol i orhoffi darlithiau y lleni (curtain lectures) ar un law; uc nid ym yn meddu y ddawn o gymdeithasu ,y a delwau tafod-fud ar y Haw at-all. Nid yw geiriau y foneddiges barablus byth yn*taeddu mwy o hyawdledd na dystawrwydd, ac nid yw dystawrwydd y foneddiges dawedog byth yn fwy hyawdl na geiriau. Ond dichon, wedi y cyfan a ddywedir, mai y dosbarth olaf bwn sydd yn haeddu eydymdeimlad dyfiiaf yr adran anifeilaidd o'r greadigaetb. Pa fodd bynag, nid dewisol y naill na'r llall o'r gwrthdafodolion hyn eto, ymddengvs i ni fod mwy gogoniant yn perthyn i rochwyllt- edd rhaiadraidd, nag i sych-lynau halen. Gyda'r naill, rhaid i ni wraudo'r cwbl; gyda'r llall rhaid i ni siarad y cyfan trethir y glust gan y naill, trethir y tafod gan y llall. A'r dosbarth tawedog y mae a wnelom yn fwyaf neillduol y tro hwn-dosbarth nad yw cymdeithas mewn un modd yn ddyledus iddo am unrhyw awarymiadau bendithiol o ber- thynas i ddadblygiad y llais, na phellseinir, na sain-ysgrifydd. Y mae cryn amrywiaeth yn pertbyu i aelodau anrhydeddus y Gym- deithas Dawedog. Ond y mae cyfartaledd eu nodweddion gwahaniaethol yn cynwys rhywbeth yn debyg i hyn :-Fel rheol y maent yn cael eu hadnabod fel rhai diddrwg; cyfodant yn y boreu am fod pawb arall yri gwneud arosasent yn eu gwelyau am yr un rheswm; bwytant fara ac ymenyn, a dad- blygir eu galluoedd areithyddol i'r fath raddau fel ag i allu ychwanegu yr ansoddair c: nice" at gaen-siwgr {sugar candy). Eu hofE waith fel rheol yw addurnwaith nodwydd (brodwaith); ac o foreu hyd hwyr, eisteddant wrth eu ffenestr gan synfyfyrio, a chreu cestyll yn yr awyr, gan ei gadael mor wag o honynt ag erioed. Ymbleserant mewn brodwaith addurnedig—gwnant gerfiadau nodweddiadol, megys ysgubydd simneiau yn ei wenwisg, clychau didafod, a gwyneb Dis- raeli yn glynu wrth ei drwyn. Gallant siarad tri gair yn bur groew, sef "Ie" a'i dras, "Nage" a'i dras, ac ''Felly." Barn boneddigesau ieuainc am dani yw ei bod "yn bur ddystaw." Barn hen foneddigion t, am dani yw ei bod yn bur ddiymhongar a barn eraill yw ei bod yn "araf," ac yn spooney." Ar achlysuron par neiUduol gwyddir iddi yehwanegu at ei geiriadur yr ymadroddion "tl ws" a da." Ceir introduc- tion i'r foneddiges hon yn fynych haner awr cyn ciniaw-yr haner awr boenus hono pan y mae llanw ymddyddan wedi cyrhaedd y trai isaf-y very haner awr h6no o'r wyth a deugain pan y rhaid cael peiriant areithyddol pur nerthol i- allu creu baner sill. Y mae parablwyr penaf y byd yn colli eu nerth pan yn meddwl am yr haner awr ddifrifol hon. Y mae Mrs. Paw, ein gwestyes, yn fawr ei phryder gan ofn i'r ciniaw gael ei andwyo gan Jane y forwyn newydd, a hithau yn dysgwyl yr Yswain Myrddiynwr Aurfodrwy yno i giniawa. Y mae Doctor White, (y meddyg teuluaidd) wedi galw, ac am y seithfed tro (i aros i'r ciniaw wneuthur ei ymddangosiad a ehymeryd ei eisteddle ar y bwrdd), y mae yn edrych dros yr hyn a adnabyddir yn gyffredin fel "Beibl teulu- 6y aidd." Y mae y gweddill o'r gwahoddedigion yn brysur yn ceisio cael allan pa un yw y ffordd fwyaf boneddigaidd o roddi'r argraff ar feddwl yr awdurdodau ciniawyddol eu bod ar symyd i fyd sydd well i fyw, os na cheir rhywbeth i leddfu angerddoldeb (jJU hawydd ymborthiadol. Fel yr oedd y gwahoddedig- ion yn dod i mewn o un i un, ,sylwai Dafydd Rhobet ei bob "yn wlyb heddyw;" lleddfai Mr. Jones-Hughes dystiolaeth Dafydd Rhobet drwy wneud y sylw ei bod braid d yn llaith," gan gymeradwyo y gwynt yn nshauol barn i gofio trugaredd. Ond pan ddaeth yr Yswain Myrddiynwr Aurfodrwy i mewn, seliwyd yr achos gan y dystiolaeth gadarn ddibetrus fod y gwlaw wedi gor- faeliaw diwrnod cyfan iddo ei hun, a hyny pan nad oedd y ddaear o gwbl yn arddangos arwyddion o 'dderbyniedtgoldeb. O'r diwedd y mae y swper ar y bwrdd, a'r gwahoddedigion oil yn gwnethur yr ysgog- iadau mwyaf dialeddol ar ol ei amgylchynu ,y ac er ein mawr ofid, cawson ein hun wedi ein gosod yn ol penarglwyddiaeth our land- ladp," yn gyfochrog a'r foneddiges dawedog. Ond gan nad oeddym wedi llwyr anghofio holl civilities cymdeithas, ceisiem fod yn gyiiideitliasaidd; ac etc; gan ein bod yn ystod yr haner awr cyn ciniaw wedi dihys- byddu pob pwnc o ddyddordeb, yr oeddym yn methu yn iawn a dyfalu pa destyn a gaem er mwyn ail ddechreu ein hunanymddyddan a'r foneddiges dawedog. Nid oedd o _un dyben siarad yn barhaus am y tywydd. Ceisiasom ddwyn amryw ymadroddion cyw- rain i weithredu er cael gair ganddi hithau, ond yn ofer. Adroddasom rai o chwedlau yr Arabian JYights" heb gymeryd arnom am ychydig amser nad y dygwyddiadau dwyr- einiol diweddaraf oeddynt. "Felly," ebai hithau, gan roddir brake ar olwyn ein parabl o hyd ac fel y dywedodd un am un arall,- "All her notes of admiration 'we1'e as silent as a printer's." Ceisiem roddi halen ar gynffon rhyw bwnc a'i boddhai. Brasgamai ein meddwl dros holl gylch 'Y Gwyddoniadur Prydeinig,' a chyfeiriem yn fynych at y pethau mwyaf dyddorol. Arllwysem ymad- roddion mor amrywiol, ac mor gymysgedig a defnyddiau cawl yn nghrochan gwrach. Rhedai ein meddwl o'r chwareudy i'r senedd; oddiwrth bwyllgoreu: atyr Industrious Fleas." Sylwid ar reilffyrdd Lloegr, amddi- ffynfeydd ac arddangosfa Paris, clawdd mawr China, Pyramydiau yr Aifft; yna gwnaem sylw ar fesmeriaeth, ac yn dilyn hyny ceisiem wneud galarnad uwchben clwyf y traed a'r tafod; dilynid hyn gan banesyn am Taliesin y bardd, a sylw o eiddo Abd-el-Kader. Rhedai ein meddwl oddiwrth Foel Famau at Nodwydd Cleopatra, ac y mae hono yn dod yn wrthddrych sylw teilwraidd. Y mae Brenhines y Deau yn ein hadgoffa am Ymerodres India. Y mae y bon-bons ar y bwrdd o'n blaen yn ein cyfeirio at Frenin newydd yr Hispaen y mae Hispaen yn ein harwain i feddwl am yr hen frawd Don Quixote, ac yna yn ddiarwybod i ni ein hunain yr ydym yn ceisio gwneuthur sylw- adau anianyddol ar dabwrdd y glust. A'r holl ddoniau hyn yn cael eu gwastraffti er ceisio cael gair gan ein cwmni Tafod Fud. Ond byd yn hyn y mae y cyfan yn ofer. "Felly," "felly? "fellyyw y running chorus 0 hyd. Reiiuyrdd—seneddau—Pyramydiau—chw- ain — tafodau -nod wyddau --bon-bona -Don Quixote, ac yn mlaen, yn ol, yn mlaen. Ond "FELLY," yw yr holl ad-daliad am lafur ein meddwl, ac ysgogiadau chwim ein tafod. "A glywsoch chwi am y sain-ysgrifydd (;phonograpK)%" "Do." Gwelais Disraeli boreti hedavw I" "Felly." "A'i draed yn y niwl a'i ben mewn corsle "Felly." A glywsoch chwi eos erioed I "Naddo." Gallwch anturio gwneud sylw awgrymiadol ar hyawdledd Demosthenes, ac areithyddiaeth Cicero, a ffraethineb Miss Lewis, a dawu ymadrodd hylithr Miss Morgan, heb ofni cynhyrfu dim arni hi. Gallwch anturio dilyn tueddiadau naturiol eich darfelydd creadigol i'r fath raddau nes gefyn iddi a yw yn hofF o gerddoriaeth, arluniaeth &c., heb ofni achosi curiad y galori. iddi. Y mae yn meddu y gallu i osod ac i ddal eich dychymyg ar yr arteithglwyd heb ddweyd un gair wrthvch. Teimlwch ei bod yn ddyledswydd arnoch ymddyddan a hi, a<r eto ni fuasai waeth gwasgu potel wag mwy na cheisio cael gair gan y Foneddiges Dafod Fud. Wrth derfynu, dymunwn ofyn maddeuant y Gymdeithas sydd er Arnddiiiyn Creaduriaid Mudion, gan gymeradwyo y Foneddiges Dawedog i sylw a gofal pawb sydd yn teimlo dyddordeb mewn DUJVAJ ANIMALS." BON ERTES

Advertising

CAERCYSTENYN.