Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB GOGLEDDOL MOR.GANWG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB GOGLEDDOL MOR- GANWG. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y cyfun- deb uchod yn Brynseion, Dowlais, ar y dydd- iau Llun a Mawrth, Gorph. 15fed a'r 16eg. Yn y gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, dan lywyddiaeth y Parch. R. Row- lands, Aberaman, y cadeirydd am y flwyddyn, wedi dechreu trwy weddi gan y Parch. J. Morgan, Cwmbach, a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, penderfynwyd 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod, yn ol trefn y gylchres, yn Siloa, Aberdar. 2. Fod Mr. Morris, Brynseion, i bregethu yn y cyfarfod nesaf ar Dynged ddyfodol yr Annuwiol." 3. Fod y mater o dalu treuliau train cy- nrychiolwyr y cyfundeb i bwyllgorau Coleg y Bala, i gael ei ystyried pan y bydd y cynrych- iolwyr nesaf yn cael eu penodi. 4. Ein bod fel cyfundeb yn cymeradwyo yr amcan o sefydlu cenhadaeth yn Llydaw, ac yn anog yr eglwysi i wneud casgliad wrth eu cyfleusdra i gario yr amcan allan. 5. Ein bod yn dymuno taer gymell apel eglwys Adulam, Merthyr, at yr eglwysi trwy y wlad am gymorth yn eu cyfyngder. 6. Fod llythyr o gyflwyniad i'w roi i Mr. Thomas, Cymer, (diweddar o Dowlais), i Gyfundeb Dwyreiniol Morganwg, wedi ei arwyddo gan yr ysgrifenydd a'r cadeirydd. Felly hefyd i Mr. Davies, Abercwmboy, i Gyfundeb Isaf sir Gaerfyrddin, ar ei symud- iad i Rydyeeisiaid. 7. Darllenwyd llythyr oddiwrth Gyfundeb Brycheiniog, yn cyflwyno y Parch. J.R. Wil- liams, Hirwain, i'n plith, a phenderfynwyd ein bod yn derbyn Mr. Williams yn wresog. 8. Darllenwyd papyr rhagorol gan y cad- eirydd ar "Natur Eglwys Gristionogol," a phenderfynwyd fod diolchgarwch gwresocaf y gynadledd yn cael ei gyflwyno iddo am dano. Terfynwyd y gynadledd trwy weddi gan y Parch. J. Williams, Hafod. Am 7 o'r gloch, pregethodd Mri. Williams, Hafod a Williams, Libanus yr olaf ar y mater a ragbenodasid iddo, "Cysvlltiad adg-yfodiad Crist adgyfodiad y meirw." Am. 10 dydd Mawrth, darllenodd a gweddi- odd Mr. Griiffths, Cefn a phregethodd Mri Howells, Salem, Aberdar; Davies, Cwmamafl; a Morgan, Cwmbach. Ac ar y diwedd, bed- yddiodd Mr. Rowlands, Aberaman, fab cyntaf- anedig y Parch. T. Morris, Brynseion. Am 2, darllenodd a gweddiodd Mr. Powell o Goleg Caerfyrddin, a phregethodd Mri. Tibbot, Fochriw a Davies, Aberdar. Am 7 yn yr hwyr, darllenodd a gweddiodd Mr. Morris Thomas o Goleg Aberhonddu, a phregethodd Mri. Davies, Abercwmboy ac Evans, Troedyrhiw. J. DAVIES, Ysgrifenydd, BIRKENHEAD. Yr oedd Gorph. lleg yn ddiwrnod pwysio- yn ngolwg plant Ysgol Sabbathol yr An nit bynwyr yn Oliver St., am mai hwn oedd dydd eu gwyl flynyddol. Ymwelodd yr ysgol eleni a. New Ferry Gardens. Pentref bychan pryd- ferth ydyw New Ferry ar Ian y Mersey, ar ochr sir Gaer i'r afon, oddeutu tair milldir i'r De o Birkenhead; felly mae yn hynod gyfleus o ran pellder ffordd. Cludir teithwyr yno mewn Tramway Cars eang a chyfleus, ac mewn tri o'r rhai hyn yr aeth y plant eleni. Cychwynwyd oddiwrth Woodside Station tua 2, a chaed taith ddymunol dros ben, a'r plant mewn hwyl yn canu,— 0 hyn fydd yn hyfryd," &c. Ar ol cyraedd y gerddi, cafodd y plant buns a liaeth, ac yna "dechreuasantfod yn llawen." Am 5, eisteddodd dros gant o garedigion yr ysgol i fwynhau te campus oedd wedi ei ddar- paru ar eu cyfer ac am 6, yr oedd y plant yn cael eyflawnder o de, a phob danteithion anwenrheidiol, ac yn ymddangos wrth eu bodd, ar athrawon a'r athrawesau yn siriol ofalu am danynt. Treuliwyd y prydnawn yn hynod ddifyr mewn chwareuon diniwaid. Cyrhaeddwyd gartref rhwng naw a deg, ac er Cy fod nifer lied Uuosog o blant bychain, sef 130 daethant oil yn ol Heb glaf na chlwyfus yn eu plith," (ond llawer yn flinedig iawn). Mae hyn yn profi fod y cyfeillion oedd yn gofalu am y plant yn rhai ffyddlawn ac effro. Yn mhlith rhestr lwyddianus yr Intermed- iate Examination of the Law Society, da genyf weled enw Mr. M. H. Jones, (mab Mr. Mat- thew Jones, Birkenhead), yr .hwn sydd dan addysg Mr. Robert Knowles, Le'rpwl. DYFRYDOG. MYNYDDBACH, GER ABERTAWE. Hen fangre anwyl a chysegredig gan filoedd ydy w o herwydd dyma'r fan y proffeswyd Crist yn gyntaf ganddynt, ac y cuddiwycl gweddill- ion eu perthynasau a'u cyfeillion anwylaf. I'r fan hon y cyrchid o bob cwr i wresog addoli cyn bodoli yr eglwysi a welir yn britho y llanerchau o gylch tref lienafol Abertawe. Yn mynwent Mynyddbach y 11echallwch yr hen deidiaufu morffyddlon dros eu hegwydd- orion hen weinidogion fuoiit yn brwydro ag anhawsderau nas gwyr yr oes bresenol ddim am danynt; 'ie, dyma hir orph\vysfa yr enwog Lewis Rees, ymwynaidcl Daniel Evans, a'r diweddaraf alluog Davies, tad y cawr o Fan- gor. Yn wir, mae bod Mynyddbach yn fam i'r eglwysi cyichynol, a'r cysylltiad fu rhwng tad, taid, neu rai o'r hen achau, a'r lie, yn ei wneud yn fvvy anwyl yn nghof canoedd sydd wedi cefnu ar y lie, a dymuniad enaid llawer alltud sydd heddyw yn crwydro yn nglwedydd pellenig y ddaear, ydyw cael dyfod ad ref i farw, a chael bedd o dwrf y byd yn mynwent Mynyddbach, He na ddaw i d)ri ar ddystaw- rwydd y fan ond yr ystorm a chyngan y 11 u adseiniawg, hyd nes Bydd dorau beddau y byd, Ar un gair yn agoryd." Y DDYLED SYDD AR Y CAPEL. Gwyr y rhan fwyaf o staff y CELT fod capel newydd lie safai yr hen un, ond nis gwn a wyddoch am y gelyniaeth sydd rhwng y Mynyddwyr a dyled arianol. Y maent ocldi- ar agoriad y capel wedi dyfal guro ar goryn y gelyn a darnau o bres, arian, ac aur, nes y mae braidd yn rhy salw i alw dyled arno, a buan y cyhoeddir ivedi bod uwch ei ben. CYFARFOD BLYNYDDOL. Cynaliodd yr eglwys ei chyfarfod blynyddol Sul a LInD, y 14eg a'r' 15fed cyfisol, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Rogers, Pembre Jones, Capel Seion, Abertawe; a Davies, Llandeilo. Yr oedd y Parch. E. A. Jones, Castellnewydd Emlyn, wedi addaw dod, ond methodd lanw ei addewid ond trwy ffawd, cafwyd Davies, Llandeilo, (yr hwn oedd i fod yn Plasmarl), i lan w'r adwy. Ar yr achlysur canodd rbyw fra wd,- Methu dod (yn wir ein siomi), Wnaeth y gwr o Emlyn draw, Ond yn rhagluniaethol, doethawr 0 Landeilo oedd gerllaw A tlirwy gynes gare iigrwydd z7, 17, Y Plasmarliaid, cawsorn ef, Yr hwn arweiniodd lonaid capel Yn ei law i deyrnas nef. Cafwyd cyfarfodydd gwresog. Gobeith- iwyf nad a yr un bregeth yn. ofer, ond boed i lu o'r newydd ddyfod at y Ceidwad, gan ufuddhau i Dduw, ac ymuno a'r brodyr cref- yddol yn rhyw eglwys yn y gymydogaeth. Dylaswn ddweyd am garedigrwydd Mr. Jones, Tirdeunaw, yn cymeryd rhan yn y cyfarfodydd. Gyda dymune hir oesddigymyi, heb gyfoeth na thlodi, i'r CELT a'r Celtwyr, y gorphwys, D. T-N Y P-c. LLANBEDR PONTSTEPHAN. Llawenydd Priodasol.—Yn y dref hon dydd Sadwrn, y 13eg o'r mis bwn, yr oedd yn ddydd o wyl fawr, erdangos parch i'r mab a'r ferch ieuanc, sef Miss Mary Harford a Capt. Gwynne. Yr oedd v masnachdai oil wedi eu cau, a'r banerau (flags) yn hongtan allan drwy y ffenestri gan lawer; ac hefyd, yn y pryd- nawn rhoddwyd awheg o de i bawb. Oddeutu 2 o'r gloch, anfonwyd y gwr a'r gloch allan drwy y dref i ddweyd fod têi fod mewn cae cyfagosr sef y cricket field, am 3 o'r gloch, ac anog pawb i ddod—hen ac ieuainc, becbgyn a merched, ac am beidio gwrtliod y gynyg. A plian aethum i fyny gwelais fod y lie yn llawn o bob oedran, y rhai a ddaethant o bob cyfeiriad. Daeth y plant i fyny yn or- ymdaith drwy y dref, gan ddal i fyny fauerau mawrion. Yna mwynhaodd yr holl dorf o'r danteithion a ddarparwyd gan Mrs. Jones a'i chyfeillion; ac yr wyf yn credu y bydd adgof dedwydd am y diwrnod hwn yn mhlith y rhai oedd yn bresenol. Ar ol diwallu angenrheid- iau y coi-ff aed yn mlaen i ranugwobrwyon am redeg, &c. Yn yr hwyr gollyngwyd fire- works ysplenydd, a chafwyd cryn ddifyrwch gyda hwynt. Aeth yr oil heibio heb i neb dderbyn niwed. Ar ol dychwelyd i'r dref, cawsom olygfa nad a o'n cof yn fuan, drwy fod yr lioll dai broil wedi eu prydfeithu a chanwyllau wedi eu goleuo; ac yn ddiddadl y maent oil yn haeddianol o ddiolcbgarwch am y draul a'r clrafferth yr aethant iddo er aurhydeddu diwrnod priodas Capt. Gwynne. AP IEUAN. ,io" ST. CLEARS. Yr YsgoZ Ramaclegol.- Y mae pedwar o'r Myfyrwyr wedi bod yn llwyddianus mewn gwahanol arholiadau yn ystod y mis diwedd- af,—Mri. John Thomas, i Goleg Aberhonddu; Howell Jame3 Hughes, Gorse, Whitland; David Picton Owens, Celherwitb, Llanboidy; a John Lewis Jenkins, Llysyfran, Maen- clochog, yn Preliminary Examination y Phar- maceutical Society. Mae ugain o'r myfyrWyr wedi pasio yr arholiad hwn yn unig, -a phob ymgeisydd wedi bod yn llwyddianus yn ddi- eithriad. > V CILCENIN. Priodas.-Dydcl Iau, yr lleg o'r mis hWD, priododd y boneddwr parchus T. H. R. Win- wood, Ysw., Tyglyn Aeron, a boneddiges o'r enw Miss Octon, Brandford. Os nad yw enw yr olaf. a'r lie yn iawn, maddeued y sawl sy'n gwybod yn well i mi. Ciifodd y tenant- iaid giniaw right dda, meddanthwy, yn Aber- ayron. A oedd ef yn well yn Aberayron na phe buasai yn mhalas y gwr boned dig, tybed ? Ond tebyg fod rhyw amcan neillduol yn cael ei gyrhaedd. Bonfire.—Er mwyn talu parch dyledus i'r gwr, casglodd pobl y gymydogaeth ychydig eithin a clioed rhoddasant hwy i lawr ar fan uchaf ei estate, a rhoddwyd bwynt yn aberth i'r fflamau. Ffordd lied ysmala, onide Ac er dangos ei haelfrydedd, rhoddodd y gwr boneddig ychydig gwrw i'r bobl am eu trafferth. Ai nid gwell fyddai rhanu'r coed rhwng ambell hen wraig yn y gymydogaeth, 11 9 a'r arian oedd yn talu am y ddiod yr un modd. Difyrwch, mewn un ystyr, oedd gweled rhai yn malwodenu ei ffordd tua'r pentref ar ol i'r tan a'r cwrw ddarfod. Meddyliais ar y pryd na fuasai dim eisieu y Road-surveyor yma am amser ar ol hyn. Carai llawer un sydd yn glanhau cleisiau, weithio yn ol mesur y dyn- ion syth (?) yma. « Tranoeth cafodd plant yr ysgol de a bara britli ar draul Mr. Winwood yn yr ysgoldy. Yn mlaen Haw gyda hwn oedd Mrs. Lloyd, Vollallt; Mrs. Jones, Reuwen -Mrs. Evans, Ty'nant; a Mrs. Rees, Ffoshelyg. Rhoddodd mam y gwr enwog, Mrs. Henniker, 65 o wobrwyon i'r plant am attendances. Well done Dyma un yn amcanu gwneud lien. Cam yn yr iawn gyfeiriad ond gwell gyda'r hen bobl gwrw. z' Breeder Campus.—Cafodd Walter Jenkins, Ysw., Glanwern, y first prize am aner ddwy- flwydd yn y Royal Agricultural Show, Bristol. Mae'r ysbryd oedd yn meddianu y diweddar Mynyddog yn y Crystal Palace, pan gafodd y "Cor Mawr" y llawryf, lie y gwaeddodd allan, "Well done NI," yn fy meddianu inau yn bresenol. Dyna wers ar ostyngeiddrwydd i Iarll Cawdor. Mae'r Cymro yn myned i diriogaeth y Sais mewn llawer cyfeiriad heblaw hwn. Ba y brodyr Celtaidd, Prydderch o'r Wern, a Jones, Llwyncelyn, yn ymladd a ni yma ddoe. -Yr oedd arogl lecsiwn arnynt bob gronyn. Campus o beth yw gweled pobl yn gweithio. Go ahead boys