Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
ISitahititbociJb, See.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ISitahititbociJb, See. MASNACH YD. Ni chymerodd un cyfnewidiad le er yr wythnos ddiweddaf. Blawd, haidd, a cheirch yn sefydlog. MARCHNAD LEBPWL, DDYDD MAWBTH, Gor. 16. Nifer fechan o brynwyr oedd yn bresenol heddyw, » chedwid at bris yr wythnos flaenorol. Indrawn Americanaidd cymysgedig newydd 22s 9c y 480 pwys, a'r hen Indrawn am 24s 6c. Ffa Aifftaidd 36s. y 480 pwys. Pys 34s. 6c. HABCHNADOEDD CYMREIG. ABEBTEIFI, Gorph. 13.—Gwenith o 54s i 56s.; haidd, 38s. i 48s; ceirch, 24s i 26s. y chwarter. ABERYSTWYTH, Gorph. 1.—Gwenith o 7s Oc i 7s 6c y mesur; haidd, 5s Oc i 6s Oc; ceirch, 3s 9c i 4s 6c; ymenyn ffres, 14c i 15c y pwys; dofed. ttod, o 4s Oc i 5s Oc y cwpl; pytatws o Os Oc i Os Oc y canpwys. BANGOB,Gorph. 12.—Gwenith, o 418 Oc i 45s Oc y chwarter; haidd, 31s Oc i 36s Oc; ceirch, 26s Oc i 29s Oc blawd ceirch, 37s Oc i 38s Oc y 240 pwys. CAERNARFON, Gorph. 13.—Gwenith, o 40s. Oc. i 45s. Oc. y chwarter; haidd, o 32s. Oc. i 36s. Oc. y chwarter; ceirch, o 27s. Oc. i 29s. Oc. y chwarter; blawd ceirch o 35s. Oc. i 38s. Oc. y -240 pwys. GWBECSAM, Gorph. 11.—Gwenith gwyn, o7s Oc i 7s 3c y mesur; yr hen wenith coch, o 7s Oc i 7s 3c y bwsel o 75 pwys; ceirch, 3s 9c i 4s 9c y bwsel o 46 pwys; haidd at fragu, Os Oc i Os Oc y 38 chwart; eto, at falu, Os Oc i Os Oc; pytatws 10s Oc i Ils Oc y 120 pwys; ymenyn ffres, o Is 4c i Is 5c y pwys; cig eidion, 9c i 10c y pwys; cig defaid, o 10c i lie y pwys; cig lloi, 7c i 8c y pwys; ednod, 3s Oc i 4s 6c y ewpl. CBOESOBWALLL, Gorph. 10.—Gwenith o 6s 6c i 6s 10c; haidd at fragu, 6s Oc i 6s 9c; ceirch, 3s 3c i 4s 3c; pytatws, Os Oc i Os Oc y mesur o 00 pwys; ymenyn, 16c i 17c y pwys; ednod, 3s Oc i 4s 60 y owpl. RRUTlIYN, Gorph. 8.—Gwenith coch, 16s Oc i 18s yr hob; ceirch, o 7s 6c i 9s Oc; yr haidd at fragu, o 14s Oc i 16s; eto at falu, o 10s i 13s 6.
AT EIN DOSBARTHWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN DOSBARTHWYR. Os na chlywn oddiwrth y rhai sydd heb dalu, neu air o eglurhad, yn nghorff yr wythnos nesaf, byddwn o dan yr angenrheidrwydd o roddi ein bygythiad mewn gweithrediad.—CYHOEDDWR.
TELERAU Y "CELT."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TELERAU Y "CELT." I drwy'r post am chwarter 0 18 2 eto eto 0 3 0 3 eto eto -0 4 0 4 eto eto 0 4 6 Rhoddir elw yn ol 3c o bob swllt am nifer uwch- law 1, ond nis pallwn ganiatau hyny os byfld y parceli yn myned drwy'r post, am y bydd y clud- iad yn ymyl dimai yr un. Erfyniwn ar ein Dos- barthwyr i anfon atom y cyfle cyntaf i'n nysbysu y ftordd rataf i anfon y parceli. Y taliadau i ddod i law bob 3 mis. Telerau i America 2g. yr un yn cynwys cludiad. D.S.—Sylwer yn fanwl ar yr uchod.
MARWOLAETH a CL ADDED IG AET…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH a CL ADDED IG AET H Y PARCH. JAMES JONES, ABERMAW. Bu farw Gorph. 21, yn 74 ml. oed, a chladd- wyd ef yn mynwent y Cutiau, ger Aber- maw, ar yr 23ain, yn ymyl ei briod, yr hon a fu farw oddeutu chwech wythnos yn ol. Addysgwyd ef yn Neuaddlwyd, gyda Dr. Phillips, ac ymsefydlodd yn weinidog gyntaf yn Capel Helyg, yna symudodd i'r Abermaw yn 1844, lie bu yn ddefnydddiol a chymeradwy hyd ei fedd. Drwy ei offer- ynoliaeth ef yn benaf symudwyd y ddyled oedd ar yr hen gapel, a gwerthwyd ef. Ad- eiladwyd addoldy hardd, yr hwn sydd yn ddiddyled, a chasglodd yn Lloegr yn benaf y swm o £ 1,500. Cymcrwyd rhan' yn y gwasanaeth fgan y Parchn. Griffiths, Dol- gellau; Williams, Bontnewydd Thomas Towyn; Mather, Abermaw; Jones, Tabor; Jones, Bala; Williams (W.) Abermaw; Probert, Porthmadog; Thomas, Bala; a Charles, Llannwchllyn. Yr oedd eraill o weinidogion y sir o wahanol enwadau, yn nghyda thorf o bobl yn bresenol. Ceir ychwaneg o fanylion yn ein nesaf.
DYCHWELIAD ARGLWYDD BEACONSFIELD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYCHWELIAD ARGLWYDD BEACONSFIELD 0 BERLIN. Nos Iau, Gorph. 18, darfu Argl. Beacons. field ymddangos gerbron Ty'r Arglwyddi i roddi cyfrif o'r hyn a wnaeth yn nghy- nadledd Berlin. Cafodd gynulliad ar- dderqhog o fawrion y tir, yn cynwys lluaws o'r teulu brenhinol, y fath ag na chafodd neb sydd yn fyw, i wrando arno. Tybid unwaith fod y Frenhines ei hun wedi dod i'w glywed, wrth weled gweddw debyg iddi yn yr oriel, a chredai lluaws oedd yn ei hymyl mai Victoria oedd yn eu gwydd, wedi dod i wrando ar ei ffafryn a'i dewis weinidog; ond cafwyd allan mai camgymeriad oedd hyny. Wedi myned drwy y rhagwaith oedd reidiol, cyfododd Argl. Beaconsfield, prif siaradwr y pryd- nawn, i gyfarch torf na welwyd ond anfynych ei bath yn Nhy'r Arglwyddi. Torodd allan longyfarchiadau trystiog o feinciau ac ochr y Weinyddiaeth, ac aeth y dyeithriaid oedd wedi dod i'r orielau i ymuno, nes eu bygwth y'u troid allan os na thawent â'u trwst. Ar ol cael ham- dden briodol i siarad, eglurodd ei Ar- glwyddiaeth natur y cytundeb a wnaeth- pwyd yn Berlin, a'r gwahaniaeth oedd rhvnddo a chytundeb San Stefano. Gan nad oedd y rhan hon o'i araeth yn cynwys dim newydd, gwrandawodd y Ty arno yn dra digynhwrf. Wrth son am Bosnia, dywedodd un newydd pwysig, mai Argl. Salisbury oedd wedi awgrymu y priodol- deb i Awstria feddianu y wlad hono, yr hyn a eiliwyd yn galonog,gan Argl. Beac- onsfield. Ar ol iddo ddadleu am tuag awr nad oedd Twrci wedi ei rhanu, dywedai y gallai gwlad golli talaeth heb gael ei rhanu." Yna daeth at Groeg, a chyda ton o alar yn bytrach na gwawd, soniai fod y wlad hono wedi dysgwyl eu bod wedi dod yn nghyd i Berlin i rami Twrci, a bod Groeg i gael ei rhan. Cydnabyddai fod dyfodol i Roeg, a chynghorai hi fel pob un mewn cyffelyb amgylchiad, "i fod yn amyneddgar." Wedi iddo siarad am tuag awr a chwarter, yr oedd yn dechreu crygu. Ail adroddai un dywediad o eiddo y Tywysog Bismarc, "Mae Twrci yn Ewrop yn bodoli unwaith eto." Ymdrech- odd yn bwysleisiol ddangos y fantais yr oedd Twrci wedi enill yn Ewrop yn y rhan gyntaf o'i gyiarchiad. Wedi hyny ymdrechodd ddangos can lleied yr oedd Rwssia wedi ei enill yn Asia. Yr oedd Kars wedi ei chymeryd deirgwaith," meddai, a chymerid hi drachefn pan y deuai yr anghytundeb nesaf rhwng Twrci a Rwssia. Chwerthai y Prifweinidog yn wawdus wrth son am Batourn. Dywedai y cynwysai dair o longau; pe gosodid C) hwynt mor agos i'w gilydd a llongau yn nociau Llundain, dichon y cynwysai chwech pe byddai gwynt o ryw gyfeiriad, byddai y llongau hyn yn y perygl mwyaf." Yn nghanol llongyfarchiadau y Weinydd- iaeth, dywedai nad yw y rhai hyn yn gaffaeliad y mae yn rheidiol i ni genfigenu i'r Kwssiaid i'w meddianu." Soniai y Prifweinidog wed'yn am gytundeb Caer- cystenyn, a synai wrth glywed fod iYrainc yn anesmwytho o'i blegid, a pha wlad yr oedd ganddo gydymdeimlad a pharch mawr iddi. Amcan sweinidogion ei Mawrhydi oedd atal dinystr Asia.Leiaf. Heb gytundeb Caercystenyn, byddai raid iddi fod yn ysglyfaeth i anhrefn neu i Rwssia. Wrth ildio i Rwssia yn Armenia, yr oedd Lloegr yn dweyd, Hyd yma y deui, a dim yn mhellach." Yr oedd Asi* yn ddigon mawr i ni ill deuoedd. Ond yr oedd yn rhaid dyogelu y lie sydd arnom ei eisieu, ac nid gweinidog doeth oedd yr un a giliai oddiwrth gyfrifoldeb ac wrth arwyddo cytundeb Caercystenyn, yr oedd- ym yn barod i gario allan ei delerau. Siaradodd Argl. Beaconsfield am awr a haner yn agos, a llongyferchid ef gan blaid y Weinyddiaeth yn uchel a hir iawn. y i Mae dau beth yn cael eu cydnabod yn eglur iawn, mai ei amean oedd cadw cyf- anrwydd Twrci, a gwrthwynebu Rwssia. Yr oedd yr amgylchiad y pwysicaf ond odid a all ddigwydd yn hanes ein Prif- weinidog, sef amddiffyn ei weithrediadau yn Berlin ond dywedir mai prin yr oedd yr araeth i fyny a phwysigrwydd yr am- 0 gylchiad. Mae yn amlwg mai yn ol yr hen arfer y clytiwyd pethau i raddau hel- aeth yn Berlin, sef astudio cyfleusdra llywodraethau mawrion, ac nid gofalu am fuddianau cenedloedd. Mae Prydeinwyr yn fwy awyddus am chwareu teg i genedl- oedd gorthrymedig nag am gadw cyfan- rwydd llywodraeth y Twrc. Nid yw Argl. Beaconsfield wedi profi nad yw llywodraeth Ffrainc wedi ei siomi yn ei weithrediadau, acnad yw eiddigedd Ftrainc wedi ei ddeffro. Dywedai Argl. Derby fod y cynygiad i gymeryd Cyprus wedi ei wneud pan oedd efe yn y Weinyddiaeth, a rhyw fan ar y goror Syriaidd, hyd y nod heb gydsyniad y Sultan, yr hyn a barodd iddo ymddiswyddo, yr hyn a wedid yn bendant gan Argl. Salisbury. Bu ymeirio brwd yn nghylch hyn, a dywedai Argl. Derby nad allai fod camgymeriad yn nghyleh yr hyn oedd wedi peri iddo roddi ei swydd i fyny. Yr oedd hyn yn iaith hynod i'w chlywed yn Nhy'r Arglwyddi, a thaflodd y ffrwgwd hon i'r cysgod araeth y Prifweinidog. Pan y cynygiwyd gan Napoleon III. i ranu Twrci, dywedodd Argl. Palmerston na oddefai E vrop byth i neb wneud a hi fel y gwnaethpwyd a Poland, a gwrthododd ef yn bendant ym- uno i wneud. Sat y mae rhoddi cyfrif am y groes ddadl hon yn Nhy yr Arglwyddi ? A fu y wib wyllt yma yn mhen Argl- wydd Beaconsfield, sef cymeryd Cyprus a rhanooror Syria heb genad y Sultan, neu a ydoedd Argl. Derby wedi camddeall ei gydweinidogion, fel ag i roddi ei swydd i fyny ar gam-seilian ? Mae y naill a'r Hall yn ymddaifgos yn anhawdd iawn ei esbonio. Mae Argl. Hartington yn myned i ofyn am esboniad manylach ar yr hyn a wnaetb- pwyd yn Berlin, ac y mae wedi rhoddi rhybudd o'r gofyniadau y mae am gael eu hateb. Nid ydynt yn gwybod1 digon o'r manylion eto. Mae'n debyg fod ynys Cyprus yn hynod amddifad o borthladd- oedd, ac nad oedd y Weinyddiaeth yn gwybod hyn. Y mae yn buranegIur beth yr ydym yn myned i'w wneud a Twrci. Os yw Lloegr yn myned i ategu llywodr- aeth y Pashaod, y mae hyn yn beth hollol anymarferol ac afresymol. Y mae cyf- newid eu ffurflywodraeth a'u diwygio yr un mor auobeithiol. Y mae yn anhawdd credu fod dim gwirioneddol dda wedi ei gynyrchu gan Argl. Beaconsfield y tro hwn; ond aroser i glywed pen draw ei esboniad. Er ei fod yu ymffrostio fod heddwch wedi ei sicrliau heb goili un bywyd, y mae yn amheus a bery yr hedd- weh hwn nemawr o amser. Rhaid i gen- edloedd gael eu hiawnderau, ac ni or-