Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

.--.--.--YR IAITH GYMRAEG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR IAITH GYMRAEG. MR. GOL.- Hyderaf y caniatewch i mi, er nad ydwyf ysgol- haig clasurol, yn deall egwyddorion ieithyddiaeth gyffredinol, ddweyd ychydig o'm barn a'm teimlad am yr hen iaith anwyl Gymraeg—yr hen iaith, ol fy marn fechan i, sydd yn tra- rhagori ar holl ieithoedd y byd. Gwir fod yr iaith S aesoneg wedi, ac yn cynyddu i raddau bychan mewn rhai parthau o'n gwlad, eithr wedi'r cwbl, rhyw ail beth ydyw o'i chymharu a'r hen Omeraeg. Gwna yr iaith Saesoneg y tro yn weddol gyda phethau y byd a'r bywyd hwn, ond os y byddys am gyr- haedd y pethau ydynt o auhraethol uwch. eu gwerth, sef pethau y byd a'r bywyd tragwyddol, yr iaith Gymraeg ydyw yr unig gyfrwng, trwy ba un y gall y Oymry ddangos i Dduw eu teimlad. Trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, mi gredaf, y derbyniodd Duw yr addoliadau puraf erioed, ac y cafodd fwyaf o ogoniant i'w enw. Am yr iaith Saesneg, dwndwr a thrafferth, anghydfod a rhy- feloedd ydyw ei bywyd hi, pryd mai gwir grefydd a moesoldeb, heddwch a thangnefedd ydyw bywyd a nerth yr iaith Gymraeg. Pa ryfedd, gan hyny, fod Eisteddfodau a chyfarfodydd crefyddol a llenyddol yr hen Gymry ar gynydd trwy yr holl Dywysogaetbau? Anwyl ieuenctyd Cymru, caniatewch i mi drwy gyfrwng y CELT, amiygu i chwi fy llawenydd yn herwydd hyn, yn nghyda choethder eich llafur llenyddol Cymreig. Mae'r ffaith fod chwaeth lenyddol y Cymry yn uwch yn awr nag erioed, yn ddigon o ernes i hyd yn nod Die Shion Dafydd- ion, na bydd i'r hen iaith Gymraeg byth gyfarfod a'u dymuniadau Mae gwaith beirdd a llenorion Cymru yn anfarwoli eu henwau gyda phurdeb eu cyfansoddiadau y blynyddoedd a'r dyddiau di- weddaf yn ngwyneb cymaint o anfanteision o ddiffyg ysgolion Cymraeg i'w haddysgu yn neddf- au Gramadeg a chyfansoddiant Cymreig yn syn- dod, ac yn y mae'r byd yn synu ac yn son am hyn. Gai, ny feirdd a llenorion Cymru, ewcli rhagoch yr ydych wedi rhagori, ac yn rhagori, ac i ragori ar holl genhedloedd y byd. Yr ydych lawer o flaen eich cymydogion y Saeson er eu holl fanteision addysgttwl i gyd. Cyn terfynu, caniatewch i mi, Mr. Gol., ddat- gan nas gallaf ddweyd amen gyda'r dosbarth hwnw a ddywed—fod y ddwy iaith, sef y Gymraeg a'r Saesoneg, yn gallu cyd fyw yn hapus ar yr un aelwyd. Nac ydynt yn wir, oblegid dirmygu yr hen iaith anwyl a'i difodi, pe gallai, ydyw holl amcan yr iaith Saesoneg, ac oblegid hyn, rhaid i'r hen foneddiges y Gymraeg, dderbyn ei hapus- rwydd o ryw ffynhonell uwch a phurach nag a all yr iaith glytiog Saesoneg ei fforddio icldi, a gwna hyny ai- gyfrif ei ehrelyddolder. Terlynaf trwy ddweyd, Oes y byd i'r iaith Gymraeg. Rhiwbryfdir. LLAFURFAB. — ■ I

GOFYNIAD. ,¡

LIJITH 'RHEN LO-WR.

ABRAHAM YN ABEIITIIU ISAAC.