Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

IECHYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

IECHYD. GAN D. EDGAR EVANS, FELINGWM. Ymarferiad (exercise). MAE pob peth yn tueddu i brofi fod dyn wedi ei fwriadu i ddilyn bywyd o weithgar- wch corfforol. Ei ffurfiad-anian ei gyfan- soddiad yn gyffredinol, ac yn enwedig ei gymalau-ei gymhwysder i gyflymder ac egni cortforol-y gorchymyn duwinyddol mai "wrth chwys ei wyneb y bwytai fara"—v gwendid corfforol, a'r iechyd llesgaidd sydd bob amser yn canlyn ymarferiad llonydd a di- gySro maent oil yn myned i brofi fod dyn wedi ei fwriadu iddilyn bywyd o weith- garwch. Ymarferiad corfforol ydyw prif gynorth- wyydd pob peth arall er adferiad iechyd pan wedi ei golli, ac i'w gadw pan wedi ei gael. Mae yn anmhosibl i ddyn iach fod yn amgenach na bod yn fywiog mewn corff a meddwl, tra y gellir dweyd gyda rheswm digonol fod diogi yn ddiau yn glefyd, yn ymddibynu ar ryw gyflwr afreolaidd o'r gosodiad peirianol. Mae swydd anadliad trwy ba un mae y gwaed yn cael ei fywioli, a'r gosodiad maeth- lonol a chyhyrol, ar yr hyn yr ymddibyna nerth y cyfansoddiad, mewn perthynas agos a chylchrediad y gwaed, a hyuy trwy ymar- feriad bywiog. Heb hyn mae'n rhaid fod pentyriad afiach yn rhywle, ac am nad ydyw y rhedweliau mwyaf yn berffaith ledadwy, tra mae y gwthienau a'r rbedweliau man felly, mae yn rhaid i'r pentyriad yma gymeryd lie yn y gwthienau a'r rhedweliau m&n. Pan fydd y cylchrediad yn araf trwy ymarferiad corfforol neu ryw achos arall, mae y gwaed yn ymlusgo yn farwaidd at- hyd y gwaedlestri ragn sydd yn cynwya y tissue elfenel o'r cyfansoddiad. Mae y gwthienau a'r rhedweliau man yn cael eu gorlenwi,»"ac y mae y gorlenwad yma yn gweithredu fel atalfa pellach rhag rhediad rhydd y gwaed. Mae y gwaed pan nad ydyw yn cael ei gylchredu gyda'r egni gofynol trwy y tissues olaf yn gwaethygu yn ei rinwedd, ac felly, yn ei dro, yn methu a chyflenwi y maethiad priodol hwnw, ar yr hwn yn ol ei radd o burdeb, mae'r holl tissues a. swyddogion y corff yn ymddibynu. Os na fydd y gallu i yru. yn mlaen (the propelling power) yn codi oddi- wrth anadlu awyr bur a defnyddio ymarferiad bywiog yn ddigon egniol, mae y cylchrediad trwy y tissue elfenol mor araf, fel mae y gwaed yn colli ei liw rhedweliol cyn y cyrhaedda y pen pellaf o'r rhedweliau man, ac felly, mae'r rhan hwnw o'r tissue a ddylasai fod yn 11a am o waed rhedweliol, wedi ei lanw a gwaed gwythienol o'r hwn ni all y didoliad priodol sydd yn angenrheidiol i faethloni y corff i gael ei b wabanu, naill neu mewn digonedd angen- rheidiol neu rinwedd iachus. Felly, os bydd i'r cyflwr hwn o groniad gael ei oddef i gymeryd lie o angen ymarferiad corfforol, a chanlyniad anadliad rhydd fel y byddo y gwaed yn cael ei fywioli, nychdod corfforol o angenrheidrwydd fydd y canlyniad. Mae'r egwyddor yma yn cael ei hamlygu yn eglur yn effeithiau ymdrechwaith a meithriniad, trwy ba rai mae cyhyrau unrhyw ran o'r corff mewn modd nodedig yn cael eu cryfhau, trwy ymarferiad cyson a rheolaidd. Mae dynion o bob celfyddyd a galwedigaeth yn cael allan fod y rhanau hyny o'r gyfun- draeth gyhyrol sydd yn cael eu hymarfer yn fwyaf cyson, eu bod y mwyaf nerthol. Trwy ymarferiad cyson a pharhaus o'r cyhyrau, gall dyn ddyfod yn gryfach yn ol cyfartaledd ei faintioli na'r ych, ceffyl, neu'r cawrfil cryfaf. Dywedir fod cludwyr Constantinople yn medru cario naw can pwys gada rhwydd- ineb, tra gallasai Dr. Winship y meddyg enwog o Boston godi tunell o bwysau heb wneud yr un niwed iddo ef ei hun. Gellir dweyd fod difyrwch yn fath o ymarferiad. Ymarferiad meddyliol, yr hwn sydd yn fynych mor llesol i'r gwan ac ymar- feriad corfforol. 'Rwyf yn gredu fod pob peth a ddefnyddir i roddi cylchrediad buan i'r gwaed yn weinyddol i iechyd. I'w barhau. BETHESDA, TALYBONT. Cynhaliwyd cyfarfod yn y lie uchod nos Fercher a dydd Iau, Gorph. 17 a'r 18, i urddo Mr. John Davies o Athrofa Caerfyrddin, i waith y weinidog- aeth. Pregethwyd y nos gyntaf yn Talvbont gan y Proff. Jones, Caerfyrddin, a'r Parch. W. Evans, Aberaeron yn Seion, gan y Parchn. J. Howells, Arthog, ac R. Thomas, Penrhiwgaled; ac yn Bethesda, gan y Parchn. D. Johns. Salem, ac R. P. Jones, Pencader. Dranoeth am 9-30, pregeth- wyd ar Natur Eglwys gan y Proff. Jones, Caer- fyrddin; holwyd y cwestiynau, a gofynwyd yr arwydd, gan y Parch. J. Stephen. Llwynyrhwrdd; offrymwyd yr Urdd-weddi gan y Parch. J. Davies, Talybont; pregethwyd ar Ddyledswydd y Gwein- idog gan y Parch. W. Evans, Aberaeron; ac ar Ddyledswydd yr Eglwys gan y Parch. P. Davies, Glarach. Am 2, pregethwyd gan y Parch. J. Miles, Aberystwith, ac R. Thomas, Penrhiwgaled, ac am 6, gan y Parchn D. Adams, B.A., Hawen, a J. Stephen, Llwynyrhwrdd. Dechreuwyd y gwahanol odfaon gan y Parcbn. Howells, Arthog; Williams, Llanelltyd; Griffiths, Plymouth; a Myfyrwyr Caerfyrddin. Teg yw cydnabod gwas- anaeth teulu Cwmere, y Winllan, a Penpompren, am ddarparu cyflawnder o fwyd i ddyeithriaid, a rhoddi gwasanaeth eu cerbydau i gludo y preg- ethwyr yn ol ac yn mlaen i Lanfihangel. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o dda. Bendith ar yr undeb. Mae Mr. Davies yn dechreu ar ei weinidogaeth o dan amgylchiadau cysurus. Mae Seion a Tabor yn gapelau newyddion, ac mae Bethesda yn edrych yn hardd o dan ei ddiwyg presenol. BALA. Nid rhyw lawer o bethau pwysig a gymeroedd le yn y dref bon, er pan\ysgrifenasom o'r blaen. Mae dechreuad buan ar y Reilffordd oddiyma i Ffestiniog, wedi dod yn ffaith, ac ymhen yehydig ddyddiau, disgwylir y ceir gwybod pa ddydd y ceir yr hyfrydwcfl o'u gweled yn tori y dywarchen gyntaf. LOCAL BOARD. Nid rhyw lawer o waith mae hwn wedi ei wneud, etto nid yw yn ddiwaith. Ysgogiad da o'i eiddo oedd cyflogi gwedd bob wythnos i fyned trwy y dref, er mwyn cymeryd ymaith y Iludw a budreddi o bob natur. Bydd hyn yn cyffaeliad gwerthfawr, ac hyderwn.y bydd pawb yn barod efo hyn yn lIe bod dim amser yn cael ei golli. Nid yw coed y dref yn myned heibio yn ddisylw. Dywedir fod y cyfan a allesid ei wneud ar hyn o bryd wedi ei wneud, ond mai doeth fydddai gofalu am osod rhywun i edrych ar eu hoi, er dwyn yn mlaen yr ourchwyliaeth angen- rheidiol arnynt, yn yr adeg fanteisiol at hyn. Da genym weled fod y fynediad i'r Cae Mawr wedi bod dan sylw, er na wnaed dim yn effeith- iol. Hyderir yn fuan y caiff y bwriad sydd gan y Bwrdd ei gyflawrd, a disgwylir na anghofir ganddo y llwybr o'r Green i gyfeiriad y Llyn, yn enwedig y darn o hono sydd yn Cae Dol-y-gwydde. Bydd y ddau yn welliant mawr at fyrhau a chyf- leustra y dref. Mae gobaith y ceir adeilad hardd yn nghanol y dref at wasanaeth y N. & S. Wales Bank, ac mae'r Bwrdd wedi cymeradwyo y planiau. BWRDb Y GWARCHEIDWAID. Ymddengys fod mwy o yni a gwaith yn hwn na'r blaenaf, ac mae mwy o sylw yn cael ei dalu gan y wlad iddo nag a fu efallai erioed. Mae yn dda genym allu dweyd fod y tynerwch a'r gofal mwyaf yn cael ei ddangos at breswylwyr y Ty. Yn ddiweddar bu achos EVAN ROBERTS dan sylw, yn'herwydd esgeuluso cadw ei deulu, y rhai sydd yn pwyso ar y plwyf. Daethant i'r penderfyniad ei erlyn, a chafwyd ef yn enog, a chafodd ei draddodi i garchar Rhuthyn am bythefnos. Ar ol hyn cafwyd ymgom hir yn achos teulu tlawd o Rhosygwalia, pryd y rhoddwyd ar eu mab, yr hwn sydd yn meddu gwraig a theulu i dalu cyfran at gynal ei dad a'i fam. Daeth y Bwrdd ilr un penderfyniad yn ei achos ef, a chafodd ei ddirwyo yn nghyda thalu costau Mr. Thomas Ellis yn yr achos i swm o 25s. Yr ydym ninau yn gorfod syrthio i farn lluaws o drethdalwyr nad doeth ydoedd hyn ar ran y Bwrdd. Pe buasai sicrwydd y gallasai y dyn wneud, buasai hyny yn cyfnewid gwedd yr achos. Mae'n deg a chyfiawn ar ran Robert Roberts i ni ddweyd nad diffyg serch a gofal am ei rieni ydyw yr achos, ond yn hollol i'r gwrthwyneb; ond fod pob tynerw. t ¿vfal wedi cael ei ddangos ganddo atynt pan yu iuuanc ag oedd yn bogibl, ond yn awr o herwydd ei helbulon teuluaidd tystiai nas gallasai. Pan y bydd eu gallu yn brofedig, mae yn gyfiawn i'r Bwrdd i arfer moddion gorfodol at y rhai gwrthwynebus. Pe dygwyddai i'r penteulu hwn gael ei gymeryd yn glaf am ycbydig wyth- nosau deuai y teulu ar unwaitb yn bwysau ar yr Undeb, a thrwy hyny o bosibl nad colled i'r Un- deb yn y pen draw fyddai eu gorfodi. Yr ydym yn bleidiol iawn at bob math o gynil- deb yn nhrefniadan yr undeb. Yn ngwyneb cymaint o son am dynu gwaith eu cyfraniadau at gynal y tylodion, pa bryd, tybed, y cawn nin; u fel treth-dalwyr deimlo lleihad yn y trethi ? Swn anhyfryd iawn ydyw tynu ymaith dreth y tlawd dan yr esgus o gynilo, yn ngwyneb y cyffro a'r ceisiadau sydd yn nghodiad cyfiogau y gwa- hanol swyddogion. Gadawn ar hyn yn awr, gan y bydd genym air eto i draethu arno. Llawer o ddiolch ar ran y tlodion i feddvg yr undeb, sef Dr. Hughes, am ei ddoethineb a'i dynerweh arferol yn yr amgylchiadau a wnaeth i'r Bwrdd trwy leihau y bara a chwanegu y llaeth at wneud grnel i'r tlodion, a thrwy hyny, wneud yr hyn a roddir iddynt yn fwy blasus a hawdd ei gymeryd. A pbeth arall. fod i Y^grifenydd yr Undeb anfon at ysgolfeistri y gwahanol ysgolion dyddiol i ddymuno arnynt beidio eaniatau i blånt tlodion grwydro o'r naill ysgol i'r Ilall heb eu cydsyniad. Mae'n resyn mawr fod hyn yn cymeryd lie.

EDEYRNION A PHENLLYN.

MARWOLAETH Y PARCR. MORRIS…