Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR 0 IOWA CITY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR 0 IOWA CITY. ANWYL S.R.—Yr hyn yu benaf sydd yn peri i mi ysgrifenu atoch yu awr ydyw y newydd galarus a gefais neithiwr am farwolaeth an- nisgwyliadwya sydyn fy anwyl frawd, a'ch hoff lien gyfaill chwithau, Edward Peat, Gomer, Ohio. Parodd y newydd alar trwm i'm calon. Nis gallaf ddweyd mor brudd i'm mynwes. Yr oeddwn wedi son ac addaw lawer gwaith fyned i edrych am dano, ond yn awr y mae angau wedi dyrysu pob cynllun. Yr oedd fy anwyldeb o hono yn cryfhau o byd drwy ein bod yn gohebultawer a'n gilydd ac y mae gweled ol ei law, sydd yn awr yn ei arch, yn dryllio fy nheimladau. Gwyddoch fod ganddo ddawn i wneuthur llythyr yn un effeithiol. Tachwedd 18fed y cefais yr olaf odùiwrtho- yr olaf am hyLh. Bu farw am naw o'r gloch boreu dydd Mawrth, Rhagfyr 24,1878, yn ymyl 68 oed. Anwyd trwm a gafodd bythefnos cyu ei farw, eifchr nid oedd yn cwyno ond ychydig iawn ac i olwg ei gyfeillion yr oedd wedi bod yn salach lawer gwaith, ond daeth angau yn annisgwy liadwy, trymhaodd ei beswch, byrhaodd ei anadl, ae yr oedd ei frest yn burgaeth. Nid oedd am gyn^eryd physic. .1 y Yr oedd fel pe buasai yn teimlo fod ei amser • ar ben, a bod arno chwant i ymddatod i fod gyda Christ, ac yr oedd yn eglut ei fod yn disgwyl ei Arglwydd. Deallodd ei briod y boreu hwnw fod cyfnewidiad yn cyraeryd lie a gofynodd oedd ganddo ddim l'w ddweyd iddi hi a'r plant. Atebodd yntau ei fod yn "Dawel right." Yr oedd y fath eiriau a'r fath deimlad yn ngwyneb angau, yn werth fawr iawn. Diffoddodd fel canwyll. Hun- odd yn yr Iesu; ac ehedodd ei ysbryd at Dduw Claddwyd ef y dydd Iau dilynol. Daeth tyrfa fawr i'w liebrwng i dy ei hir gartref yn myn- went Tawelan, yn ymyl gorweddfan yr hen dad a man o Dawelan. Yr oedd hiraeth trwm wrth ei adael yn i wely pridd; ond y mae ef yn awr gyda'r hen gyfeillion ag yr oedd mor hoff o gofio ac o goffa am danynt. Teimla y teula ei fod wedi gweddio llawer yn daer ac yn dyner drostynt. Pregethodd y Parch D' Jones y bregeth angladdol y Sabbath dilynol oddiwrth 2 Cor. viii. 18-" Y brawd yr hwn y mae ei glod yn yrefengyl, trwy'r holl eglwysi." Hoflem i chwi hysbysu ei hen gyfeillion yn Nghymru am ei farwolaeth drwy gyfrwng y 4 Celt.' Gan gofio yn gynes iawn atoch fel teulu. Ydwyf, anwyl gyfaill, o waelod dyffryn galar. MOBHISPEAT. Iowa City, Ion. 5, 1879. Y mae gan Olygydd y ,f Celt' adgofion cynes ac addysgiadol am ei hoff hen gyfaill Edward Peat. Yroedd, fel y sylwai ei weinidog, ei glod yn yr efengyl," drwy bob cylch gafodd yr hyfrydwch o'i gydnabod. Yr hyn sydd agosaf i'n meddwl yn awr yw-eangder a symledd a* thaerineb ei weddiau; ei adnabyddiaeth helaeth o'r ysgrythyrau, a'i ddull syml effeith- iol yn eu hegluroyn ei deulu, yn yrYsgol Sul, ac ) n y gyfcilbch grefyddol ei orfoledd pur yn wyneb pob arwydd o Iw\ d'liant crefydd, gartref ac oJdicartref; y dyddordeb a Jcimlai mewn newydd ion cenhadol; a'i deimlad tyner pan yn ceisio dyddanu y dtgalon a'r trallod- edig. GOL.
ANGIIYDFFUKFIAETII YN NGAEKGRAWNT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ANGIIYDFFUKFIAETII YN NGAEKGRAWNT. —Y mae Ymnelllduwr ieuanc, mab Mr. Dale, 0 Birminguam, newydd enill Tlws Canghellydd y Brif Ysgol, am farddon- iaeth. Yr oedd wedi ei enill o'r blaen y flwyddyn ddiweddaf. Y mae Ymneill- duwr arall o'r enw Mr. Fisher, organydd eglwys annibynol Blackpool, ar ol arholiad maiawl yn Nghaergrawnt, newydd rarldio, gydag anrhydedd, yn "Doctor ot Music." EGLWYS LOEGR YN YMLITHIO 1UA EII UFAIN.—Lywedai Esgob Tyddewi yn ddiweddar-" Nid oes dim yn fy marni yn fwy annheg a niweidipl nag i ni geisio gwadu ein bod yn symud tua Rhufain." Tystia Esgob Bath a Wells-Fod cyd- fradwriaeth gyfrwys yn bod i droi yn ol eglwys Loegr i gymundeb ag eghvys Rhufain, ac i'w phlygu mewn ufudd-dod i'r Pab. Cyhoedda Esgob Gloucester a Bristol, — Fod defodaeth presenol yr Z, Eglwys yn gweithio yn ol y Diwygiad Protestanaidd, A chydnebydd Dr. Lee, yn ei lyfr—« The Re-union of Christen- dom," fod Eglwys Loegr yn arddel ac yn dysgu holl athrawiaethau y Babaeth; ae y dylai v ddwy eglwys ail-ymbriodi, er bod yn un eglwys fawr lan gatholig. DIOLCH AH Y BIBL.—Dywedai golyg- ydd enwog yn ddiweddar, ar ol darllen y Koran—" Diolch am y Bibl." Dywedai boneddiges ieuanc ddysgedig iawn, ar ol darllen yn ofalus "Yögrythynm" mwyaf cysegredig y Crefyddau Paganaidd -11 Diolch am y Bibl." Tystia Dr. Farrar nad ydyw y Talmud ond Ilestriaid o Iwch. "Diolch am y Bibl." Nod- wedda Dr. Ernest Trumpp, prif-athraw yr ieithoedd Dwyreiniol yn Athrofa Manich, ysgrythyrau sancteiddiaf y Sikhs, er yr holl lafurdl1 perffeitliio, fel cronfa goeg athrawiaethau' ac anghysonderau. "Diolch am y Bibl." Y mae pob athraw dysgedig ag sydd wedi cydmara y Bibl ag ysgrythyrau y Paganiaid yn dyweyd mewn gorfoledd, Diolch am y Bibl."
BEDDARGAFF DR. FRANKLIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BEDDARGAFF DR. FRANKLIN. Y beddargraff hynod a ganlyn a ysgrifenwyd gan Dr. B. Franklin, iddo ei hun, lawer 0 flyn- yddoedd cyn ei farwolaeth yn 1790 <( Yma y gorwedd corff Benjamin Franklin (fei clawr hen lyfr, ei gynwysiad Wedi ei ddryllio, a'i ddiosg o'l lythyrenau a'i oreuriad), yn fwyd i bryfaid; er hyny, ni chollir y gwaith ei hun.canys efe a ymddengys (y mae'n credu) uuwaith yn ychwaneg mewn argraffiad newydd a hardd, wedi ei ddiwyllio a'i ddiwygio." l
"LLYS MOR LEY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"LLYS MOR LEY. Diau fod Llys Morley 'wedi cael ei fabwys iadu erbyn hvn yn air anwyl yn meddyliau llu 0 Annibynwyr, yn ogystal a fy bnnan, a bod yr aw- grymiadau a'r hysbysiadau a roddwyd i ni yn y Dysgedydd amy misoedd diweddaf, yn ogystal ac mewn manau ercill, wcdi peri llawenydd nid bychan yn enwedig i rai sydd mewn angen am dy o'r fath. Mewn pcrthynaa a Llys Morley," yr wyf am roddi un awgr}-miad yn brawf i'r gwyr parcliedig sydd wedi cael eu hymddiried i gario yn mlaen y cynlluniau-Jolm Thomas, D.D., a E. Herber Evans, ac oherwydd hyny,s yr wyf yn dymuno gwneuthur fy awgrymiad mewn modd gwylaidd a gostyugedig. Hysbyswyd ni yn y < Dysgedydd' fod sicr- wydd eisoes am £100 yr un. At 12 0 dai yn y lleoedd pwysicaf. Clywais ond ni welais fod eisieu i'r rhai hyn fodyn werth £ 500 i £ 000 yr un. Awgrymwyd hefyd nas gellir bod yn sicr yn awr pa faint a ga yr rhai a fwriadent adeiladu tai i'w gweinidogion mewn lleoedd gwledig ond fod gobaith y cant o £25 i fyny yn mhob 11eyr adeiledir "llys Morley teilwng. Yn awr, a oes dim yn bosibl i'r lleoedd gwledig gael gwneyd eu tai yn llai 0 werth o gant neu ddau o bunau, yn ngwyneb eu bod yn llai pwysig mewn llawer ystyr na'r lleoedd sydd yn myned i gael y 12 cyntaf? Own am iawer o leoedd gwledig sydd mewn mawr angen am dai i'w gweinidogion"; ond pe baent yn cael rhai yn werth £600, ni atebai yr nn dyben iddynt, gallant gael rhai yn weinidogion hyd yn od heb allu i ddodrefnu un felly; ac fel y dywedodd un 0 weinidogion ffraeth bert Lleyn, Nad yw yn beth tebyg yr hofEa yr Eglwysi wneyd gwcll ty i'r gwas nac i'r Arglwydd." Os oes rhywbeth yn yr awgrymiad hwn, diau genyf fod y boneddwyr parchus a manylgraff crybwylliedig wedi ei weled, ac os nad oes, yr wyf yn hyderu yr esgusodant fi am ei grybwyll. Yr oedd yn wir dda genyf weled y Parch. E. H. Evans, yn addaw myned i ddarlithio i bob lie a adeilada "Lys Morley." Byddai yn dda gan bawb gael Herbor i ddarlithio er talu iddo; ond bydd yn Ilawer gwell ganddynt ei gael am ddim. Y mae'r abertliyma o'i eiddo, yn dangos hefyd ei fod yn awyddus i ychwahegu at gysur a defnyddioldeb ei gyd-weinidogion. EDMYGYDD Y SYMUDIAD.
HYSBYSIAD 0 BWYS I RECTORS…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYSBYSIAD 0 BWYS I RECTORS A VICERIAID. AT OLYGYDD Y CELT. Syr,—Gan fy mod yn cael ar ddeall fod eich papyr yn boblogaidd yn mysg ein cyfeillion Eg- lwysig, a fyddwch mor hynaws, 'rwan, a. gadael i'r hysbysiad canlynol ymddangos ynddo fo. Mi 'rydw i yn gwybod am estate sydd ag eisio gor- uchwyliwr i ymgymeryd a'r gwaith o osod y tyddynod sydd ar yr estate. Ca fo fod, 'rwan, yn absolute, i wneud y chwyldroad a ewyllysio. Ni raid iddo ymgynghori a theimlad caruaidd y ddynoliaeth, na, chydwybod, na dyn, na Duw, ar y mater. .Amodau.-Wel 'rwan, rhaid iddo fod wedi ym- gymeryd a'r offeiriadaeth yn unig a hollol er mwyn bywioliaeth, heb un gofal, na phryder, na gwasgfa am achub neb. Rhaid iddo yn bendant fod yn ddarllenwr hollol ddilun, a doniol 0 afler; goreu oil os yn Ddic Shon Dafydd. Rhaid iddo fod yn hollol analluog, nid yn unig i wneud pregethau, ond i bregethu pregethau pobl eraill- mor analluog fel y bo pawb yn gweled nad yw yn gwybod yn y byd mawr beth mae 0 yn ei ddeyd. Rhaid iddo hefyd fod yn alluog i awgrymu am y boneddwr yr hyn a wna gasineb yn y wlad ato, a'i gamesbonio yn druenus, ac honi dylanwad an. fEaeledig arno, a gwneud yr oil fel gwas da i Iesa Grist, a phutteinio cydwybodau," a bod yn hollol ddideimlad tuag at bobl yn eu helbul, a diystr o DDYDD BARN, Os gwelneb yn meddu y cymwys. der hyn, anfoned at X. Y. Z.
GAU ANNIBYNIAETII.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ysbryd edifeiriol, a'u bod am heddwch, ai bod yn bryderus ymroddgtr i feithrin brawd- garwch a boneddigeiddnvydd Cristionogol. Os ydynt. bydd yn ddst bwn gan filoedd heblaw brawdoliaeth y 'Celt,' a phleidwyr coleg defnyddiol y Bala, eu gweled yn ym- frawdoli; ac yn dwyn ffrwrythau addas i edifeirwch; ac effeithia hyny er enyn ad- fywiad cynes grasol yn eu beneidiau; ac er taenu ysbryd dedwydd tangnefedd drwy holl gylcboedd cu gweinidogaeth. Hyderwn yr esgllsoda" Scrutat.or ni am adrodd hyn o'u profiad wedi darllen ei ysgrif deg ac amserol. GOL.