Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

FFYDDLONDEB CREFYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFYDDLONDEB CREFYDDOL. Y traethawd a farnwyd yn fuddugol mewn 0 cystadleuaeth yn Ngwyl Flynyddol Eglwys Gymraeg Queen's-road, Manchester, Y FEIRNIADAETH. Buasai yn ahnawdd i unrhyw eglwys nac ysgol gaol testyn buddiolach i anog cyfeillion i feddwl am dano no i ysgrifenu arno na ,I Ffyddlondeb Crefyddol." Derbyniwyd tri traethawd, sef yr eiddo Berwynfab, Yr An- fedrus, ac Ap Huwco: acyr ydys am gyd- nabod ar unwaitli, ar y cychwyn, mai un Berwynfab yw y goreu o lawer. Y mae ei ysgrifen yn gryno a hawdd ei darllen ac y mae ei iaith ar y cyfan yn goeth ac yn gref ac yn gywir. Ceidw at ei bwno yu bur agos o'r dechreu i'r diwedd. Rhydd olwg gryno yn gyntaf ar grefydd, ei hyspryd a'ihegwydd- orion, ei gwaith a'i gogoniant. Awgryma ei bod yn ddwy gangen un o'r golwg, a'r llall yn y golwg; y naill yn ddirgel a'r llall yn gyhoeddus. Eglura fod y grefydd ddirgel i ymwneyd a Duw ae a gogoneddus bethau y byd anweledig; a'i bod yn gofyn ffydd- londeb cyson a rhesyma yn naturiol, os bydd un yn ffyddlawn gyda dyledswyddau dirgel crefydd, y bydd yn debyg o fod yn ffyddlawn yn ei chylchoedd cyhoeddus. Dengys mai maes eang hyfryd i arfer ffyddlondeb crefyddol ydyw "Cydgynulliadau yr Eglwys," a'u bod wedi profl felly drwy yr holl oesoedd, a aethant heibio; ac nas gall neb fod yn ffydd- lawn i grefydd pan yn esgeuluso y cydgyn- a ulliadau crefyddol. Dengys yn y rhan olaf o'i draetbawd fod ffyddlondeb yn sicr o dalu ya dda mewn llawer ffordd; talu yn dda i'r enaid yn bersonol, ao yn dda an- nhraethol hefyd i gymdeiLhas, er calondid i'r eglwys, ac er bod yn addysgiadol a den- iadol i'r digrefydd. Yr ail oreu, ydyw traethawd Yr Anfedrus. Y mae yn lied gyfoethog o ftddyliau, ond yn anghywir ei iaith yn bur fynych. Nid ydyw wedi ymboeni i sylwi rhyw lawer ar reolau gramadeg; nac wedi gofalu llawer am ran- iadau ei bwnc, nac am drefniad ei faterion. Y mae ei galon yn o lawn o feddyliau, a dichon y gallasai csbonio a chanmol ffydd- ondeb yn well ar ei dafod-leferydd na thrwy ysgrifbin. Y mae bron fel pe byddai yn gollwng ei feddyliau allan ar eu cyfer, fel y deuant i'w olwg, heb arfer nemawr o ofal am eu trefnu. Traethawd byr iawn sydd gan Ap Huwco wedi ei ysgrifenu yn lied gywir, ond yn rhy fyr o laweri wneuthur tegwch a'r fath destyn; ac y.mae braidd yn fwy darluniadol o'r grat o gariad, nag o'r rhinwedd o ffyddlondeb. Ond ail ystyried, ac ail gynyg, dichon y gallai Yr Anfedrus ac Ap Huwco ysgrifenu yn fwy llawn a threfnus ac effeithiol ryw dro eto. Bhaid cymeryd llawer o ofal, a dichon lwneyd llawer cynyg cyn y gellir enill y gamp. Derby niwyd traethawd byr arall, ond yr yr adeg drosodd cyn iddo.gyrhaedd. S.B. "FFYDDLONDEB CREFYDDOL." Yn mlaenaf oil, wrth geisio dyweyd dim C, y ar y testyn gwir bwysig hwn, ni a geisiwn ddangos pa betbau a gyfansoddant wir grefydd. Deuwn i gyffyrddiad a hi yn yr Ysgrythyrau dan wahanol enwau, megys: «Y doethineb oddiuchod," ,t dUWJOldeb," "gwreiddyn y mater," "adnabyddiaeth o Dduw, "Ofn Duw," "Cariad at Dduw, Credu" yn yr Arglwydd Iesu Grist," &o,f &c. Yr ydym yn casglu fod gwir grefydd yn cynwys yr hyn a ganlyn 5—Gwir adnab- yddiaeth o Dduw yn ol tystiolaeth ei Air am dano, fel Duw Holl alluog, lioll bresenol a hollwybodol; Creawdwr a. cbynhaliwr pob- peth, yn Dduw bcndigedig yn oesoesoedd, yn Dduw cyfiawn sanctaidd a da,yn carn rhinwedd a gwirionedd, yn casau pechod a thwyll. eiddigus tros ei ogoniant, urddasolrwydd ei gyfraith, a pherffaith ufudd-dod ei boll greaduri,tid iddi ac yn cosbi am anufudd-dod. Hefyd y mae yn Dduw cariad, Duw trugarog a graslawn, hvvyrfrydig i ddigofaint, yn chwilio am le i drugarhau, ac yn ewyllysgar i faddeu pechod a bai i'r edifeiriol. Oynwysa ag- weddiad addas y meddwl tuagat Ddnw yn unol a'u hadnabyddiaeth ohono; anian Sanctaidd a thueddiad dwvfol yn y meddwl, ofn, parch, a chariad ato yn wyneb ei allu, ei ddigonolrwydd, a'i ffyddlondeb; ac ymosfiyng- iad iddo yn wyneb ei hunan-arglwyddiaeth, edifeirvvch yn "wyneb ei Sancteiddrwydd a'i gyfiawnder a'i gariad. Cynwysa syniadau priodol am ei rwymedigaetbau a'u dyled- swyddau iddo fel ei greaduriaid; amcan ein bodolaeth, sef gogoneddu ei enw. Cynwysa hefyd adnabyddiaeth ohonom ein hunain fel gwrthryfelwyr yn ei Jywodraeth, torwyr ei gyfreithiau, wedi colli ei ddelw, llygru ein natur ac wedi haeddu colledigaetli, nad ydym ohonom ein hunain yn alluog i adferu ein hunain i'r safle yr oeddym ynddo cyn pechu ohonom, fod pob gobaith o'n tu ni wedi ei golli, fod tueddfryd ein calon bob amser yn ddrygionus, mai dinystr tragwyddol fydd ein rhan, oddieithr i ryw ymwared gyfodi o le arall, ac nad ydym yn haeddu y drugaredd leiaf. Cynwysa adnabyddiaeth o ymddygiad trugarog Duw yn edrych arnom yn ein sefyllfa druenus, yn ein caru er mor annheilwng, yn anfon ei Fab unigauedig i'r byd i fyw a marw dros elynion, y Mab yn ewyllysgar yn cymeryd arno agwedd gwas, yn gweithio gwaith yr Hwn a'i hanfonodd trefnu ffordd o iachawdwriaeth i fyd colledig, marw yn aberth dros bechod, yn iawn i gyfiawnder dwyfol. Fod cyfiawnder wedi ei foddloni, fod Duw yn foddlawn cymodi a'r pechadur yn aberth ei Fab, fod gobaith i'r' truan gael ei achub trwy haeddiant Crist. Cynwysa edifeirwch am bechod, ymadawiad a phechod, ymestyniad at yr hyn sydd bur, yr hyn sydd dda, rhinweddol, sanctaidd a chyfiawn; perffaith gydymffurfiad ag ewyllys Duw, derbyniad o'i drefn, ac ymorphwysiad yr enaid ar aberth Crist, am fywyd tragwyddol. Cynwysa heddwch at Dduw, a dynion ym- ddiriedaeth yn Nuw, y gobaith ni chywilyddir, mwynhad ysprydol na wyr y byd ddim am dano, y tangnefedd sydd oddiwrtb Dduw a'r ddiddanwch sydd drwy yr Yspryd Glan. Crediniaeth fod Duw yn alluog, a hyder y bydd iddo oruwchlywodraethu pobpeth er daioni y sawl a ymddiriedo ynddo. Ffydd ag sydd wedi taflu angor yr enaid o'r tufewn i'r lien gan fod yn berffaith sier y dygir y Ilestr i ddiogelwch yn y diwedd. Cynwysa crefydd lawer o bethau nad ydyw y meddwl meidrol yn eu hamgyffred; eto mae yr oil a enwyd yn farw oni bydd iddynt gael eu credu eu derbyn a'a byw, eu gweithio allan, a'u hymarferyd mewn bywyd oni bydd iddynt gael eu credu eu derbyn a'u byw, eu gweithio allan, a'u hymarferyd mewn bywyd; oni bydd iddynt gael eu rhoddi yn y galon, eu planu gan Yspryd Duw yn ngreadigaeth fewnol y dyn ac y byddo iddynt darddu allan mewn bywyd sanctaidd, duwiol, da, er gbgoniant Duw a, daioni cyffredinol yr hil ddynol. Ymdrecbasom roddi darnodiad o grefydd, yn awr ceisiwn sylw, ar FFYDDLONDEB gyda y grefydd hon. Cyn y gad y pechadur ym- aflyd yn ngwaith crefydd yn ffyddlon mae yn rhaid iddo gael ei gyfnewid trwy ras. Dygodd pechod ef i gacthiwed, y mae gras yn ei ddtvyn i ryddid. Mae y dyn trwy y cyf- newidiad hwn yn cael ei ddwyn i gyfranogi o fuchedd Duw. Mae y cyfryw un wedi ei greu yn Nnghrist lesn, Wele gwnaethpwyd pobpeth yn nowydd; yr hen bethau a aethant heibio." Mae ei holl dueddiadau a'i arferion a'i archwaefch we ii eu dwyn i gyd- ymffurfiad ag ewyllys Duw, yn dd^rostyng- iedig i'w lywodraeth ef. Mae y dyn yn greadnr newydd wedi ei eni o'r yspryd. Drwy y cyfnewidiad hwn mae y pechadur yn dyfod i adnabod Duw, i gredu ynddo, i ufllddhau iddo, ao i'w wasanaethu yn galonog, a'r cyfan yn tarddu oddiar gariad pur a gwirioneddol, sydd yn ei gynyrchu yn yr enaid drwy y wybodaeth hono a feddianna am dano ei ragoroldeb ei ddaioni ei drugaredd a'i ewyllys da i blant dynion ac nid hyny yn unig ond y mae yn ei garu yn ei holl briodoleddau a'i gymeriadau ac yn gweithredu tuagato fel un yn credu ynddo, gan ystyried fod pob gweithred o'i eiddo yn agored ger ei fron Et, v fod ei holl fwriadau yn wybyddus iddoef. Mae yn caru ei sancteiddrwydd a'i gyfiawnder Y-9 ogymaint a'i ras a'i drugaredd. Mae yn dechreu byw bywyd newydd. Mae y pethau oeddynt gynt ei hoff bethau yn ffiaidd- bethau ganddo; y pethau oeddynt gynt yn ffol-bethau, yn awr yn hyfrydwch iddo, ei brif bethau ydynt. Mae yn cymeryd ei dywys bellach gan YsbrydDnw a'i Air. Gogoniant Duw gyw prif nod ei fywyd. Mae wedi marw i bechod, ac yn byw i Dduw, yn amcanu yn mhob gweithred o'i eiddo wnenthur yr hyn sydd gymeradwy gan Dduw. Mae ei enaid yn moliannu enw yr .Arglwydd. Nis gall dyn feddu mwy peth na chrefydd bur ddihalogedig gerbron Duw a dynion. Dosberthir crefydd bur i ddwy ran, sef personQl a cbymdeithasol, dirgelaidd chyhoeddus. Amlygir un ran yn ein liymddygiadau tuagat ddynion, a'r rhan arall tuagat Dduw: ac y mae y ddwy ran mor hatifodol a'u gilydd, cyn y gallwn enill y cymeriad hwnw o fod yn ffyddlon gyda chrefydd fel y mae y pren rhan o'r golwg a rhanjyn y golwg, neu fel mac y dyn ei bun&j I rhan yn weledig a rhan yn anweledig." Dy-na ffydd, gobaith, cariad, oddimewn i'r credadyn, ond mae effeithiau r cwbl oddifaes, mae gwasanaoth ffydd, a llafur cariad, yn llythyrau a ddarllenir ao a ddeallir gan bob dyn. Oud ar ei ben ei hnn y mae y duwiol yn crefydda mwyaf. Er mai nid meudwy yn arwain bywyd mynach ydyw, eto mae ganddo fwy i wneyd a Duw nag sydd ganddo i wneyd a dynion. "Gyda thi yr ydwyf yn wastad." Bai • mawr y rhagrithiwr ydyw, mai crefydda y ewbl yn yr amlwg ymae; nid oes dim bai arno ymddwyn yn grefyddol tuagat ddynion, ond am ymddwyn yn angrhefyddol tuagat Dduw, y mae yn feius. Mae caru cymydog yn rhinwedd, meddu lamp yn ganmoladwy, a myned i brioias mab y bronin yn deilwng o ddyn; ond gall fod rhyw grefydd tuagat ddyision, bob ddim tuagat, DJnw. DYTUt are fydd y Phariseaid yr oedd rhyw ddarnau, da iawn ynddi, ond hanfodion ar ol. Bhith f