Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

MAE& Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAE& Y GAN. Prin yr oeddym yn gallu cymeradwyo gwaith rhai o'n prif gyfansoddwyr 'cerddorol Cymreig-y rhai yn neillduol yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf a fwriasant allan gyfansoddiadau ysgeifn, gan wneyd i ni feddwl mai elw arianol a phoblogrwydd oedd ganddynt yn benaf mown golwg, yn hytrach na cheisio dyrchafu cerddoriaeth bur, i fwy o sylw ond y mae yn hyfryd genym heddyw alw sylw at waith cerddorol o deilyngdod uchel, sef "JEREMIAH''—oratorio gan John Owen (Owain Alaw). Mae yn iechyd i'm calon gael gweled y cyfansoddiad ardderchog hwn ar ol gorfod edrych ar gymaint o ysbwrial yn cael ei gynyg i ni ar enw o gerddoriaeth. Dywed yr awdwr yn ei ragymadrodd iddo "ddechreu cyfansoddi Oratorio Gymreig, ar eiriau Cymraeg dewisedig o'r Ysgrythyr Lan, er llenwi bwleh yn ngherddoriaeth gysegredig y Dywysogaeth." Rhwydd iawn yr addefwn fod yma fwlch mawr, a llongyfarchwn yr awdwr ar ei lwyddiant i gyraedd ei amcan daionus. Dywed yn mhellach :■—" Fel testyn gwreiddiol i weithio arno dewisais lyfr Jeremiah, am fod barddoniaeth y Pro- phwyd hwnw o ran ysbryd a chwaeth grefyddol yn cydfyned mor debyg ag awenyddiaeth ddofnddwys arwrol ein cenedl ein hunain. Teimlaf yn falch wrth feddwl fod y gwaith yr yrngymerais âg ef wedi ei gyflawni, ac yr wyf yn ei gyflwyno i fy nghydwladwyr, gan greclu nad yn anghroesawgar y derbynir ef." Mawr ganmolwn yr awdwr ar ei ddewisiad hapus o destyn, oblegid y mae barddoniaeth Jeremiah yn cynwys y fath deimlad dyfnddwys ag sydd yn cyd- gordio yn liollol a theimlad conedl orchfygedig. Pthenir y gwaith i dair rhan. I I. Cildynrwydd yr Iuddewon. II. Y Caethiwed. III. Yr Adferiad. Ymddengys y rhaniadau hyn yn dra naturiol. Gwelir ei fod yn cymeryd golwg eang ar ei destyn, ac y mae ei weithrediad allan yn orchestol. Buasai yn dda genym pe buasai gofod yn can- iatau i ni roddi amlinelliad o'r gwaith gan nodi ei ragoriaethau a'i ffaejeddau; ond nid ydyw diffygion y gorchestwaith hwn, ond megis hrychau ar wyneb yr haul. Mae Owain Alaw wedi cyfoethogi llawer yn flaenorol ar gerddoriaeth ein gwlad end yr ovcitovi o hon ydyw ei gampwaith; ao yr ydym yn gobeithio cael yr hyfrydwch o glywed fod ein prif gorau yn llafurio er ei dysgu yn drwyadl. Sicr ydyw y tal yn dda am y drafferth. Er mantais i'n corau, da genym fod yr awdwr wedi ei chyhoeddi yn y ddau nodiant, a hyderwn na bydd yn golledwr yn ei anturiaeth; ac os felly y bydd credwn mai cerddoriaeth ein gwlad a ga y golled fwyaf. Awgryma Dr. Joseph Parry y priod- oldeb o ffurfio Cymdeithas y Cerddor- ion" yn Ngbyparu-i gyfarfod ddwy- t,Y waith yn y flwyddyn—unwaith yn y De, ac unwaith yn y Gogledd. Yr amcan yn hyny ydyw er cael ymddyddanion, a phapyrau wedi eu parotoi a'u darllen gan bersonau apwyntiedig ar wabanol ganghenau'r Gelfyddyd." Cred Dr. Parry yw y gwnelai cymdeithas felly feithrin cyfeillgarwoh ac adnabyddiaeth trwyadl yn mhlith ein cerddorion, ao y byddai o les ac adeiladaeth i'r naill a'r llftll, ac i gerddoriaeth ein gwlad yn gyffredinol." Hefyd awgrymir ganddo y byddai yn ddymunol cael I I Gwyl Gerddorol" yn flynydclol-un yn y Gogledd a'r llall yn y De—un y De i gael ei claynal yn Aber- tawe, Caerdydd, ac' Aberdar, bob yn ail; ac un y Gogledd i gael ei chynal yn Nghaernarfon am fod y Pavilion mor gylleus. Erfynia y Dr. am air, drwy gyfrwng ein cyhoeddiadau cerddorol a'n newydd- iaduron, oddiwrth ein prif gyfansoddwyr, beirniaid, lleiswyr, a'n harweinwyr cerddorol. Credwn ninau yn gryf yn nymunoldeb yr hyn a awgrymir, a gobeithiwn ei fod yn beth ymar/erol. Beth yw barn ein cerddorion ar hyn tybed ? Da fyddai genym weled chwarelwyr sir Gaernarfon a siroedd ereill yn cymeryd yr idea i fyny. Mae Eos Morlais yn myned i America. Bwriada gychwyn yn Ebrill, ac efe a erys yno am dri mis. Diau y croesawir ef a chroesaw mawr gan ein cefndryd, a sicr ydyw genym y caiff yr unrhyw gan ei frodyr pan y dychwela yma yn ol. Clywsom.fod y Parch E. Stephen yn parotoi Attodiad i'r. Llyfr Tonau ac Emynau." Llawen oeddym o glywed hyny. Ystyriwn ei gasgliad fel y mae yn rhagorol ac yn neillduol o gyfaddas yn yr adran gerddorol ar gyfer angen ein cyn- ulleidfaoedd ar hyn o br-yd ond gwyddom fod llawer o donau da lieb fod ynddo y rhai ar bob cyfrif a ddylasent fod. Yn yr Uudeb Cymreig fe gynygiwyd ein bod fel enwad i gael dim ond un Llyfr Tonau ac Emynau, ac awgrymwyd y buasai yn ddymunol do'd i gytundeb a pherchenogion y ddau Llyfr Tonau sydd yn awr yn arferedig; ond nis gallwn ni weled pa fodd- y gellid gwneyd i ffordd a'r Uyfrau sydd genym yn awr. Nid ydym yn meddwl ei fod yn beth hawdd i ddarbwyllo ein cynulleidfaoedd i newid eu llyfrau, a phe byddai i'r Undeb ym- gymeryd a chyhoeddi" Llyfr Tonau ac Emynau fel yr un a gynygiwyd, a oes rhyw debygolrwydd y byddai yn rhagori ar y rhai sydd genym yn barod, Credwn mai ychwanegu at y rhai sydd genym a wneid pe byddai yr Undeb yn cyhoeddi yr un llyfr bwriadedig, ac yn lie ein bod yn boddloni ar un fe fuasai genym dri; ac y mae yn ddiau gcnym y buasai llawer o amser ein cantorion yn cael ei wastraffu i ddadleu teilyngdod cymhariaethol y tri llyfr. Dygwyd pwnc yr un llyfr i sylw mown Cyfarfod Chwarterol, ond yr oedd teirnlad y cyfarfod yn amlwg yn erbyn yr un llyfr a gynygid, ac eto pan y daeth hanes y cyfarfod allan gwelem fod yr Ysgrif- enydd yn dyweyd fod yno "ymddidclan bywiog ar y dymunoldeb a'r priodoldeb o gael un "Llyfr Tonau ac Emynau" i'r enwad; pan y dylasai ddyweyd fol y clywsom gan frawd oedd yn bresenol mai "ymddiddan bywiog ar yr arc-nymunoldeb 0 a'r an-mhriodoldeb o gael un llyfr" a gafwyd. Addefwn y buasai un llyfr yn fwy hwylus ar amrai ystyron ond credwn fod cael hyny ar hyn o bryd yn fater o anmhosiblrwydd oblegid nid yw ein cynulleidfaosdd wedi blino ar y casgl- iadau sydd ganddynt, a phwy tybed sydd yn ddigon anmhwyllog i sicrhau y gwnai ein cynulletdfaoedd gymeryd eu darbwyllo i newid eu llyfrau heb fod rhyw sicrwydd y byddai y cyfnewidiad er gwell? Ac nis gwyddom ni am nob a feiddiai roddi y sicrwydd hwnw yn mlaen llaw ac o dan yr amgylchiadau presenol mae yn llawenydd i ni glywed fod Tanymarian yn parotoi" Attodiad i'w lyfr. Pa bryd y daw allan ? Musicus.

CYNADLEDDAU EIN HENWAD.