Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

COLEG ANNIBYNOL Y BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLEG ANNIBYNOL Y BALA. Un o egwyddorion sylfaenol pob cymdeithas wladol a chrefyddol ydyw fod i'r bobl sydd yn cyiranu at ei chynal gael pleidlais yn ei Ilywodraetbiad. Ar yr egwyddor yna y mae Senedd Prydain yn gystal ag enwadau cref- yddol yn arier gweithreda ar yr egwyddor yna y cerid yn mlaen holl weitbrediadau Coleg y Bala cyn i'r Glymblaid ddecbreu ymyraeth nri lywodraethiad. Mynodd y Glymblaid, er yr holl renymiad teg a ddygwyd yn eu herbyn, drosglwyddo llywodraeth ac amgylchiadau y Coleg o ddwylaw y Pwyllgor rheolaidd i ofal' etholedigion y Cyfarfodydd Chwarterol. Myn- asant Bwyllgor i ymgynull yn yr Arnwythig wedi ei ddewis gan y gwahanol Undebau Sirol. Rhybuddiwyd hwy yn Mhwyllgor y Bala y gallai y Cyfarfodydd Chwarterol anfon dynion i Bwyllgor yr Amwythig na feddent bleidlais reolaidd yn Mhwyllgor y Bala; ond atebwyd y gofalai y Cyfariodydd Chwarter pwy a ddewisent yn well na hyny. Ond y ffaith. yw yr oedd yno amryw yn Mhwyllgor yr Arnwythig nad oedd ganddynt bawl i MeidtaM yo y Bala ar Bwyllgor y Coleg; dengys hyny pa faint o ofal a gymerodd y Cyfarfodydd Sirol pwy a anfonent i Bwyllgor yr Amwytbig. Pobl heb bleidlais yn myned i benderfynu rbcolaeth y Coleg! Ac et9 dyma'r bobl in yn tynu allan Gyfansoddiad Newydd Coleg y Bala. A oddefid peth fel hyn mewn vestry bhvyfol neu etholiad seneddol ? Na wneid byth. l'nhara ynte y rhaid i gymdeithas grefyddol fod yn fwy llygredig na cbymdeithasau gwladol ? Ond sut yr ymddygodd y bobl hyn-amryw o'r rhai ni feddent bleidlais—yn Mhwyllgor yr Amwythig ? Rhwystrasant M. D. Jones i fewn a throisant Ap Vycban allan! Y mae rbeswm a rheol yn dyweyd fod gan AthrawOn y Coleg-yn rhinwedd en swydd-hawl i fod yn mhob Pwyllgor perthynol iddo; ac os nad ydynt hwy yn teimlo llawn cymaint o ddydd- ordeb ynddo a neb arall nid ydynt yn deilwng o'r cadeiriau.a lanwant. Oai fyddai yn beth gwrtbnn i ddieithriaid fyned i lywodraethu amgylchiadau teulu a chau y pen-tculu allan, tra y byddo y cyfryw dculu yn gallu talu on ftordd a llvwodraethu eu hachosion eu hunain? Peth cyflelyb i hyny a wnaed yn Amwythig. Cauwyd y drws yn erbyn y Parch M D. Jones, gwr oedd wedi cyflwyno ei dalentau disglaer i wasanaethu y Coleg am bum' nilynedd ar hugain; a throwyd allan Ap V ychan, tywysog beirdd, pregethwyr, a duwinyddion y wlad, a gwr y buasai ei ddocthineb a'i gynghor o werth dirfawr i wyr yr Amwythig. Gwahoddasid y Parch E. Williams, Dinas, a minau yno i roddi eglurhad ar bethau fyddai yn dywyll i wyr oedd mor ddieithr i Goleg y Bala. Yr oedd perffaith ryddid i Mr Williams siarad yn helaetb, ond pl0 gylolwn i i ddyweyd gair, ceisiwyd fy nystewi Iwy nag nnwaitb, a dywedodd y Dr. rhwysgfawr o Liverpool nad oedd yn iawn i neb siarad ond acloiau y PwyllgOr. Onid oedd Mr Williams a minau yn gystal aelodau o'r Pwyllgor a neb oedd yno, gan ein bjd wedi ein dewis drwy awdurdod anvraùadwy Cy- manfa Arfen ? Ond gwyddid fy mod i yn gyfaill i'r Michael oeddid am grogi; a bod Mr Williams, yn ddiweddar, wedi troi yn elyn iddo; Ond dylasai Pwyllgor yr Arnwythig fynu clywed y ddau du i'r ddalen cyn myned yn mlaen. Elfen arall oedd yn amlwg yn Mhwyllgor yr Amwythigoedd hon :-Pan y I el wahoddid Is-bwyllgor i.fyned o'r neilldu am ychydig i dynu allan reolau newyddion, gofelid yn wastad fod y mwyafrif ohonynt yn gyfeillion y Glymblaid. Dan amgylchiadau felly y ffurfiwyd rheolau y Cyfansoddiad Newydd; galwyd rhyw haner dwsin o'r neilldu am ryw baner awr—a dyna Gyfan- soddiad Newydd i'r Coleg allan! Y fath ddynion talentog y rhaid eu bod! A oes rhyw reswm mewn rhuthro i dynu Cyfan- soddiad i Galeg dan amgylchiadau o'r fath? Dyma ddeddfwyr! Pe caem ni y rhai hyn i'r Senedd, gwnelent ddigon o ddeddfan i holl wledydd y byd mewn ychydig oriau. Trueni na wyddai y byd am y fath ddoethineb. Ond os oedd blaenoriaid y Gb mbiaid—fet y dy- wedir yn awr-wedi bod yn ei gyfansoddi am fisoedd, yr oedd haner awr yn ddigon at y gwaith, ond cael pobl digon ystwyth i'w ddcrbyn. Deuwyd a phenderfyniadau yr Arnwythig i Bwyllgor y Bala, a chasglodd y Glymblaid eu holl alluocdd yn nghyd er ceisio eu pasio yno. Yn nechrcu y Pwyllgor ymddygasant yn haerllug ac afreolaidd drwy droi allan bleidleiswyr rheolaidd ar yr esgus nad oedd eu henwau yn yr Adroddiad diweddaf, er nad oedd ganddynt ar y pryd yr un reol o'u plaid; er fod rheol felly yn y Cyfansoddiad Newydd yr oedd hwnw eto heb gael ei ddwyn o flaen y cyfarfod. Gwrthdystiwyd yn eu herbyn ar y pryd, ond yr un peth fuasai gwrthdystio yn erbyn barbarbid gwallgof. Yr oedd amryw o'r blaid arall cisieu myned allan a gadael idtut, a, dichon mai dyna fuasai oreu yn ngwyneb y fath afreoleidd-dra. Cafwyd mwyafrif bychan, ar ol troi amryw bleidleiswyr allan, yn ffafr y ,Cyiansoddiad Newydd. Dadleuwyd yn gryf yn erbyn y dull Presbytcraidd a roddihawf i'r Cyfarfod- ydd Chwarterol ddewis Pwyllgor Gweithiol y Coleg; a pban ranwyd ar y mater, ni chafodd y Glymblaid ond pump o fwyafrif. Ac er fod y penderfyniad yn myned o dan wraidd Cynulleidfaoliaeth a thegweh-drwy osod dynion nad ydynt yn danysgrifwyr i lywodr- aethu arian pobl ereill -ae nad oedd y mwy. afrif ond pump mewn Pwyllgor o wyth-'jgain, eto, glynodd y Glymblaid mor dyn wrth y penderfyniad a phe buaaai yn hollol gyd. naws ag Annibyniaeth, ac wedi ei basio yn unfrydol. Dyma ferthyru Cynulleidfaoliaeth yn ei thy ei hun. Ond sut y mae y Cyfarfodydd Chwarterol yn dewis y cynrycliiolwyr hyn ar Bwyllgor y Bala ? Yn ddigon ditun fel pawb gyda gwaith newydd. Nis gwn lawer am gyfun- debau ereill, ond yr un person sydd wedi bod yn eu dewis er y dechreu yn Ngbyfundeb Arfon. Ein brawd y Parch R. S. Williams, Bethesda, a ddewisfldd y ddau i fyned i'r Amwythig; efe, wedi hyny, flwyddyn i Ion-, awr diweddaf, a ddewisodd ddau i fyned i'r Bala; ac eleni eto yn Treflys, efe a gynyg. iodd ein bod yn ail ddewis Mr Parry. Dan- ododd y brawd D. S. Davies iddq y llynedd nad oedd yn deg i'r un person ddewis y ddau gyurycbiolydd at awgrymodd un arall nad oedd yn deg ddewis dau o ochr y Glymblaid —y buasai un o bob ochr yn decach—ond rhyw ganolig yr oedd Mr Williams yn hoffi rhyw hyfdra felly. Nid oes ci siriolach yn ei gymdcithas, na'i garedicach yn ei dy, a hyderwn na fydd arno eisicu mwy o lywodr- aeth na'i frodyr am ei fod yn weinidog ar yr Eglwys Atinibynol fwyaf yn y Gogledd. Drwy gydnabod Esgob Rhufain-am ei bod yn brif-ddinas—yn uwch na'i frodyr y dechreuodd Pabyddiiith; ond credwn fod yn Mr Williams ormod o natur dda, a chariadlat Gynulleidfaoliaeth i awyddu am fod yn Esgob. Y mae natur wedi bod yn hael wrtho, ac wedi rboddi digon o ettenan dylanwad iddo heblaw dylanwad swyddol. Eto. Gyda phob dyledus barch i'r ddau frawd sydd yn Cynrychioli Cyfundeb Arfon ar Bwyllgor y Bala, geliirdyweyd nad ellid cael yr un dau arall yn y Cyfundeb yn Glym- bleidwyr mor cithafola hwy. A ydyw ethol y cyfryw yn deg a doeth o dan yr amgylchiadau presenol? Ai fel hyn y dewlsir y. Cynrych- iolwyr o bob Cyfundeb? Nis gwyddom. Ymddengys nad yw hyny yn anmhosibl. Dychwelwn at y Cyfarfodydd Chwarterol cto yr wythnos nesaf, os byw ac iach. R. MAWDDWT JONES. Dolyddeler.

PWYLLGOR COLEG Y BALA.

GWRTHDYSTIAD YN ERBYN AAYGRYMI…