Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

COLEG ANNIBYNOL Y BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLEG ANNIBYNOL Y BALA. Mae chwedl fod dyn wedi myned un- waith at benglogydd i ddarllen ei ben, a bod y penglogydd wedi dweycl wrtho fod yr ermigau anifeilaidd yn gryfion ynddo, a bod y duedd i ddinystrio yn amlwg yn ei beuglog. Oyffrodd hyn dymher y dyn, a chododd ei ddwrn yn bur chwyrn, a. tharawodd y penglogydd nes oedd yn rholio. Dywedais inau am y myfyrwyr a ymsefydlasant yn fy absenoldeb o'r Coleg, eu bod wedi troi gydalr Glymblaid yn fy erbyn, ac y mae pump-ar-hugain o honynt wedi dod allan i wrthdystio yn erbyn yr hyn a ddywedais, ac y maent "yn tystio, ao yn cyd-dystio, na wenwyn- wyd eu meddyliau, ac na ddylanwadwyd arnynt gan na ffafryn y clic na neb arall i droi yn erbyn y Parch. M. D. Jones, ac o blaid y clic." Yr wyf finau yn dweyd fod y gwrthdystiad nchod, ar adeg ym- osodiad y Glymblaid arnaf, yn weithred elynol. Hyd yn nod pe buaswn yn euog o fai, mae nodi an bai ynof fi, heb wrth- dystio yn erbyn pechodau ysgeler y Glym- blaid ar yr un pryd, yn ymosodiad arnaf; mae dyfod allan yn fy erbyn yr mi dydd ag y mae y gelynion yn dod, yn weithred angharedig a gelynol. Pe buasai rhyw gamgymeriad wedi ei wneud, buasai yn t,Y rhwydd ei gywiro ond ysgrifenu ataf. Ond y mae gwrthdystiad pump-ar-hugain o hen fyfyrwyr yn fy erbyn ar adeg ym- ysodiad y Glymblaid, yn ergyd egniol o du'r gelyn, ac yn erbyn M. D. Jones. Mae fy llythyr wedi ei ysgrifenu er Hyd- ref 18fed. *1873, ac y mae y gwrthdystiad yn cael ei wneud yn Mawrth, er mwyn iddo fod yn fwy effeithiol yn fy erbyn (mi dybiaf) yn y Pwyllgor yn yr Am- wythig. Mae'n holloK amlwg fod yr hyn a ddywed, a'r hyn a tona y pump-ar-hugain yn eu gwrthdystiad yn gwrthddweyd eu gilydd, pan y dywedant na ddylanwad- wyd arnynt gan na ffafryn y clic na neb arall," pan y maent yn arwyddo gwrth- dystiad a anfonwyd iddynt gan Mr. David Roberts, Rhyl, yr hwn wrthdystiad a dynwyd allan gan rywun, neu rywrai, pan nad oedd y rhai a'i harwyddasant gyda'u gilydd. Nicl anhawdd gweled fod con- demniadau y Cyrddau Chwarterol ar ysgrifau y GELT sydd dan enwau priodol, a'r gwrthdystiad hwn wedi tarddu o'r un ffynhonell, ac wedi ei lunio i'r un amcan. Paham yr oedd y gwrthdystwyr yn crybwyll am enw Mr. Peter, pan nad oeddwn i wedi crybwyll am ei enw ? Paham y dywedant "yn y modd cadarnaf, na chlywodd neb o honynt hwy erioed, yn ddirgel nac yn gyhoeddus, un gair gan y diweddar Barch. J. Peter, a thuedd ynddo mewn unrhyw fodd i fychanu nac i iselu y Parch. M. D. Jones yn eu golwg?" Nid oeddwn inau wedi dweyd hyny, ac am hyny y mae y gwrthdystiad yn ofer a dialw am dano. Pan y dywedaf fi fod llygod yn cyfarth wrth fwyta blawd yn y gist, neu fod ystlumod yn chwyrnu wrth ddal gwybed, neu fod tyrchod yn Thuo wrth weithio dan sylfeini tai, gall y pump- ar-hugain wrthdystio wed'yn yn erbyn gwirionedd yr hyn a ddywedaf, ond nid cyn hyny. Pa beth bynag a wnaeth Mr. Peter, mi gyd-dystiaf gyda'r pump-ar- hugain yn y modd cadarnaf, ei fod wedi bod yn hynod 6 dawedog. Nid oedd yr un fran nos, na dylluan wrth oleu lloer, nac ystlum ar fachludiad haul, yn fwy tawel eu hysgogiadau. Yr wyf yn cyiuno yn llwyr a'r cyd-dyshvyr yn nghylch distawrwydd Mr. Peter ond a cliymeryd yn ganiataol wirionedd yr hyn a ddywed y gwrthdystwyr, nid yw eu bod hwy heb glywed yn brawf na chlywodd ereill bethau gwahanol. Os dadleua y gwrthdystwyr ddieuogrwydd Mr. Peter am na chlyw- sant hwy of yn dweyd dim, yna yr oedd y Gwyddel gynt yn iawnpan yr oedd yn cael ei gyhuddo gan ryw dyst o ddwyn het, yr hwn oedd wedi ei weled yn llad- rata, a dywedai yntau fod ganddo gant o dystien i brofi na welsant mo hono! Sut y mae rhoddi cyfrif fod y myfyr- wyr a droisant allan yn fy absenoldeb wedi troi yn fy erbyn, pan y byddent yn flaenorol fel arall ? (Oni chyfododd cy- feillion loan Pedr yn y Fala i ddiorseddu M. D. Jones lie yr oedd yn gydweinidog ag ef ? Oni cheisiwyd gwthio Mr. Peter yn fugail i Bethel a'r cylchoedd pan yr oedd M. D. Jones i ffwrdd ? Ai ni chyn- ygiwyd ef yn ymddiriedolwr gydag un arali ar gapel Bethel, a phan yr oedd angen amddiffyn eiddo'r capel yn erbyn traws- feddianiad (encroachment) un o'r blaenor- iaid, sef yr un a'i cynygiodd yn ymddir- iedolwr, ouid oedd Mr. Peter yn absenol o gwrdd yr ymddiriedoiwyr pan y gwa- hoddwyd ef i amddiffyn eiddo'r capel ? Ai ni roddodd Mr, Peter help i'r amgau- wr (encroacher) yn hytrach na rhwystr ? Ai ni fa amddiffyn eiddo'r capel yn oficl i M. D. Jones yn ei.eglwys, ac oni chafodd Mr. Peter bleidwyr yn erbyn M. D. Jones yn eglwys Bethel drwy ei ymddygiadau ? Pwy gynygiodd Mr. Peter i holi Ysgolion Penllyn ac Edeyrnion am flwyddyn, a chau geneuau y gweinidogion, ai nid yr amgauwr (encroacher) oedd un o honynt ? Ai nid cyfeillion Mr. Peter a fu'n ceisio rhwystro Mr. Lewis i ddod i'r Bala ? Ai nid cyfeillion Mr. Peter a rwystrodd gyd- godi cyflogau Ap Vyohan ac M. D. Jones ar yr un pryd ag y codwyd Mr. Peter ? Ai nid cyfeillion Mr. Peter wedi hyny a gynygiasant na byddai codiad i Ap Vychan ac M. D. Jones o gwbl ? Ai ni wnaeth M. D. Jones bob peth a allai i godi Mr. Peter er gwaethaf pob gwrthwynebiad, a sut yr ymddygodd Mr. Peter ato wed'yn ? Ai nid yr un oclir a'r Glymblaid yr oedd loan Pedr yn Ý diwedd yn ymladd yn erbyn M. D. Jones, ac ai nid efe a Mr. Williams, Dinas, a ddaeth a'r Glymblaid i derfysgu Pwyllgor y Coleg ? A oes rhyw un a gred Mr. J. Evan Owen, Llanberis, na chlywodd efe Mr. Peter yn ystod yr ymladdsyddwedi bod yn y liala yn dweyd gair yn erbyn M. D. Jones, ac yntau ei hunan wedi dweyd ac ysgrifenu cymaint yn erbyn M. D. Jones. Nid wyf fi yn ei gredu. Ai ni fu Mr. David Roberts, Rhyl, yn cwyno fod Mr. Peter wedi gwneud troion gwael ag ef, a phaham nad allai wneud troion gwaelag M. D. Jones ? Ai ni wahoddwyd Mr Prifcchard, Corwen, gyda 1h, Peter i bre- gethu mewn angladd yn Bethel, ac M. D. Jones gartref, ao oni wadodd Mr. Pritchard y gwahoddiad, hyd nes tystiolaethodd y gwahoddwr yn groes, ac onid aeth i'r pwlpud i bregethu pregeth angladd a'r anwiredd yn ei enau ? Gallaswn ofyn gofyniadau cyifelyb i eraill o'r pump-ar- hvigain gwrthdystwyr, ac nid oes haner dwsin o honynt nad ydynt wedi profi oil bod yn eitliaf Clymbleidwyr, ac yn erbyn M. D. Jones, o dan ddylanwad Mri. J. Peter, Williams, Dinas, ac eraill, ac y mae gwrthdystiad i'r gwrthwyneb yn hcllol groes i ffeitliiau, ac yn destyn rhyfeddod; a phe buasai y pump-ar-hugain gwrth- dystwyr wedi eu troi a'u penaii i lawr a'u traed i fyny, a nnnau gyda- liwynt, ni • fuasai chwech-ar-hugain o honom yn ddigon o ryfeddnodau i osod allan wrthuni yr hyn a wrthdystir. Mae'n dda genym ddeall fod amryw fyfyrwyr wedi gwrthod arwyddo'r gwrthdystiad, a diameu fod rhyw reswm am hyny. MICHAEL D, JONES.