Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU GAN Y GOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU GAN Y GOL. DYRYSWCII YN YE EGLWYS WLADOL.-— Carem fod yn deg a byr wrth grybwyll y ffeithiau. Y mae y Parch T. T. Carter. Rector Clewer, gerllaw Windsor, yn wein- idog parchtis o'r blaid ddefodol yn yr Eglwys Sefydledig. Y mae yn ddyn boneddigaidd, yn gymydog caruaidd, ac yn offeiriad gwrol a ffyddlawn; ond y mae yn arnlwg oddiwrth ei wisg a'i wedd a'i safiad pan wrth fwrdd y cymun, ac yn enwcdig trefn cysegriad yr elfenau, ei fod yn ddefodwr. Yn ddiweddar darfu i un o'i blwyfolion, o'r enw Dr. Julius, mewn ysbryd anfoddog, gwyno anio wrth ei esgob, sef Esgob Rhydychain, gyda dymuniad a bwriad i'w ddisgyblu a'i ddiswyddo; end nis mynai yr esgob wneyd yn ol cais Dr Julius. Dichon fod y Dr. yn un efengylaidd ei gredo, ond y mae yn un go Pliariseaidd ei ysbryd. Ysgrifenodd yr esgob ato yp bur fonedd- igaidd, yn erbyn diswyddo yr hen offeir- iad, Mr Carter, am y byddai hyny yn groes i deimladau mwyafrif mawr o'i blwyfolion, am fod parch dwfn ac anwyl iddo gan y rhai a'i hadwaenent oreu oherwydd ei oed a'i gymeriad, ac am nad ellid ei ddiswyddo heb dichon fyned i gyfraith, fel yr ooddicl wedi myned mewn amgylchiadau cyffelyb, ac y byddai hyny yn niweidiol i achos crefydd a chariad a chydweithrediad ond er teced yr oedd yr esgob yn ysgiifenu, ac er iddo ysgrif- enu yn foneddigaidd ddwywaith, gwnaeth Dr Julias uniawngred a'i gyfreithwyr gais ar i Lys y Queen's Bench orfodi yr esgob i ddisgyblu yr hen Rector yn ol y "Clergy Discipline Act." Gwysiwyd yr esgob i'r Llys, lie yr amddiffynodd ei achos yn wrol a doniol dros ben; a chefnogwyd ef yn gryf gan amryw far- gyfreithwyr enwog; ond darfu i Farnwyr Llys y Queen's Bench roddi eu dedfryd yn erbyn yr Esgob; ac felly rhaid iddo ddiswyddo yr hen offeiriad, Mr Carter, a hyny yn groes i'w gydwybod aci deimlad- au y plwyfolion; neu ynte gymeryd ei ddisgyblu, a dichon ei ddad-esgobi, am beidio plygu i ddedfryd Barnwyr y Queen's Bench felly dyna ddwy Queen's Bench benben, sef Bench y Barnwyr Gwladol, a Bench yr Arglwyddi Ys- brydol: dwy Bench Uchaf yr Ymero- draeth yn dedfrydu yn groes i'w gilydd a rhaid cael Queen gall a dylanwadol iawn i fedru byth eu cymodi. Y mae parygl mawr i'r ddadl a'r gyfraith sydd yn awr yn ysgwyd ac yn ysigo Esgobaeth Oxford arwain i gyfreithio annedwydd drwy holl esgobaethau y Deyrnas. Y mae yn boenus mewn gwirionedd i fedd-vl am drafferth Seneddau go ddigred a di- grefydd, i geis.0 trefnu achosion a ther- fynu dadleuon, a gweinyddu disgyblaethau 'eglwysedig drwy Acts of Parliament. Y mae gogoneddus gawl, neu glorious un- certainty y" Public Worship Regulation Act," a'r Clergy Discipline Act," a (hai actau ereill, yn warth i'n Llywodraeth ac i'n gwlad, ym yr oes oleu hon." Yr ydym yn credu fod y cynhenau presenol rhwng y llysoedd gwladol ac eglwysig, a'u croes-benderfyniadau, yn debyg o gyflymu dyfodiad yr amser, pan y bydd i eglwys pob plwyf, yn ol yr hen drefn gynulleidfaol, gael trefnu eu hachosion yn eu dull dewi^edig, yn ol barn ei doethineb a llais ei phrofiad. Yr oedd Esgob Rhydychain, dichon yn ddiar- wybod iddo ei hun, yn cefnogi y Drefn Gynulleidfaol, pan yr oedd yn rhoddi y fath bwys ar farn y mwyafrif o'r plwyf- olion." Ond tra yr ydym braidd o'r un deimlad ag Esgob Oxford, ei bod yn annoeth, os nad yn annheg i lysoedd Eglwys Loegr, Eglwys mor lawn o ddefodau gosodedig, i ddiswyddo hen Rector cymydogol Clewer, am hyny o weddillion defodaeth sydd yn rhan o'i wasanaeth wrth fwrdd y cymun, nid ydym am i'r darllenydd gasglu ein bod am bleidio rhodres a rhagrith defodaeth. Cysylltu defodaeth Iuddewig, Rhufeinig, neu Baganaidcl ag ordinhadau syml yr efengyl ydyw un o'r pethau gwaethaf am lygru a chaledu y galon, ac un o'r rhwystrau trymaf ar ffordd llwyddiant Cristionogdeth. Dylai disgyblion Iesu Grist ddefnyddio eu holl ddylanwadau i wrtbweithio .niweidiau arswydus defod- aeth ond anuaturiol iawn ydyw i neb feddwl na gobeithio y gall goruchwyl- iaeth y Queen's Bench wneyd hyny; ac y mae yn fwy annaturiol fyth i ddisgwyl y gall Ilyseedd yr Eglwys Sefydledig wneuthur hyny, oblegid y mae yn ym- babeiddio yn gyflym iawn, er ei bod yn uchel ymffroatio o'i Phrotestaniaeth.

OFFEIRIADAETH EIN HENWAD..

RHODD WERTHFAWR I EGLWYS ANNIBYNOL…

LLYTHYR O'R AMERICA,