Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU GAN Y GOL.

OFFEIRIADAETH EIN HENWAD..

RHODD WERTHFAWR I EGLWYS ANNIBYNOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHODD WERTHFAWR I EGLWYS ANNIBYNOL BETHEL, LLAN- YMDDYFRI. Gwerthwyd rhan o etifeddiaeth Cyng- hordy, eiddo y diweddar Capt. Henry Gwynne Vaughan, ddydd Iau diweddat, yn y Kingshead, Llanymddyfri. Gadaw- odd y perclienogion—^W. Gwynne Yaughan, .Ysw., J. Gwynne Vaughan, Ysw., H. T. Gwynne Vaughan, Ysw., D. E. Gwynne Vaughan,Ysw., A. Gwynne Vaughan, Ysw., ac A. L. Gwynne Yaughan, Ysw., y 5ed lot, sef y tir o dan y capel, dau dy anedd, a gardd a mynweht heb eu gwerthu, gan eu cyflwyno yn rhodd ac yn rhad i eglwys Bethel. Y mao y boneddwyr uchod yn adnabyddus drwy yr holl gymydogaethau, ac yn uchel eu bri o herwydd eu caredig- rwydd a'u haelioni. Erfynient am gael gosod cof-faen yn mur yr addoldy, er cof am eu hanwyl rieni, ar eu traul eu hunain; ond y mae yr eglwys am gael yr anrhyd- edd o wm yd hyny, fel arwycfcl o gydna- byddiaeth am rodd mor werthfawr, yr hon sydd wedi-dyfnhau y teimlad o barch tuag atynt sydd mor gynes drwy'r ardal, a bydd eu coffadwriaeth yn anwyl byth gan eglwys Bethel. J. H. D.

LLYTHYR O'R AMERICA,