Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFESTINIOG. Ail agoriad Capcl Seion (B.)—Dechreuwyd y cyfarfod nos Fercher, y 5ei cyfisol, a chaf- wyd pregethu hyd nos Lun dilynol. Cafwyd gwasanaeth y Parchn canlynol:—A. Morgan, Tanygrisiau; A. Williams, Garn; J. R Jones, Llwynpia; J. Thomas, Llandudno; J. J. Wil- liams, Pwllheli; J. G. Jones, Portmadog; R. Jones, Llanliyfni; II. Morgans, Dolgellau; W. Harris,/Heolyfelin, Fe gasglwyd yn y cyfar- fodydd y awm o £19. Traul yr adgyweiriad yw £ 1,500. Yr eistcddleoedd i gynwys 550 yn bresenol. Ein Pobl leuainc."—'Nos Fawrth, yr lleg cyfisol, yn Eberaezer (W.), cafwyd darlith ar y testun ucbod gan Mr J. II. Williams (Plenydd). Cafwyd anerchiad gwir dda gan y Parch T. R. Davies, Salem (A.). Gresyn na fuasaimwy o'n pobl icaainc wedi rhoddi eu presenoldeb yn y d darlith grybwylledig. Cyngherdd -Elu,-zenol.-Nos Fawrth, yr lleg cyfisol, yn yr Assembly Room, cynaliwyd cyngherdd. Gwasanaethwyd gan Gweunydd Brass Band, Eos Moelwyn, ac EosBarlwyd, yn nghyda nifer o gerddorion ereill. Yr elw i E. Roberts, pa un a gafodd ei amddifadu o ran o'i law yn mheiriant naddu llecban chwarel y Welsh Slate. Marchnadja a Neuadd Newydd, yn Four- crosses.—Mae nifer o gyfarfodydd wedi eu cynal o dan arweiniad Mr Ellis Edwards yn nglyn a'r symudiad hwn. Dywedir fod 418 o gyfranl11, £1 yr un, wedi eu cymeryd. Bwr- iedii codi eyfataf o jC 4,000. Bwriada y cwmni wneyd yr adeilad hwn yn addurn i'r gymydog- aeth. Diau y bydd i drigolion y gymydogaeth ymflrostio yn yr adeilad, a'r t*r uchel yn mha un y bydd y clock a'r pedwar gwyneb. Sibrydir y kydd ei gloch i'w cblywcd am ddeng milldir, ond ceir gweled a chlywed pan orpbenir y g^vaith. Yr Achos Dirwcstol.—No» Wener, 14eg cyfisol, cynaliwyd Cyfarfod Dirwestol yn nghapel Bethesda. Cymerwyd rhan ynddo gan gyfeillion o Danygrisiau, sef Meurig Elen, Barlwydon, Eo. Moelwyn, EosBarlwyd, Kos Tudur a'i Baiti, a John Jones. Yr oedd yr arcithwyr yn t&flu bwledi trymion i wersyll y gelyn. llheilffordd BeUwtycoed a Ffestiniog.—Dy- wedir fod y Hindi bon we i ei chwblbau hyd enau y twnel yr ochr Dolyddelen, Bydd y twnel yn barod i o^d cledrau i lawr o hyn i ben y mis; ac felly bydd y train drwyddo tna diwedd mis Mehefin. Ond ni bydd gorsaf hen gors Glanypwll yn barod am Swyddyn. Bydd gorsaf amserol yn Mhantyr- afon yn agos i enau y twnel.-Trebor Manvd.
PWYLLGOR COLEG Y BALA.■
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PWYLLGOR COLEG Y BALA. Deisyfir ar gynifer ag a gymeradwyant y penderfyniad isod i'w arwyddo, ac yn a; benig i rodcli eu presenoldeb yn Mhwyll- gor Coleg y Bala, Mawrth 26ain, yn ol y rhybudd yn y CELT. 1.—Ein bod yn ystyried y "Cyfansodd- iad Newydd a dynwyd allan yn yr Am- wythig yn ddirym, ac na alwyd y Pwyllgor bwnw yn rheolaidd, ac nad oedd amryw o'r personau oedd ynddo yn meddu pleid- lais reolaidd yn Mhwyllgor Coleg y Bala. 2.-Mai y Cyfarfod Blynyddol sydd i ddewis Pwyllgor Gweithiol (os oes angen am un), ac yr ydym yn gwrthdystio yn erbyn y dull Henaduriaethol o'i ddewis gan y Cyfarfodydd Chwarterol, 3 .-—Ein bod yn mawr-lawenhau yn nghynydd sefydlog Coleg y Bala, er yr holl ymosod a fn arno er'a 25 nilynedd, yn arbenig ar y Prifathraw yn ddiweddar. 4.—Fod y nifer isod o Danysgrifwyr yn galw am fod Pwyllgor Mawrth i gael ei gynal yn y Bala, ac yn unol a hyny yn ymrwymo d'od yno. Griffith Griffiths (Gutyn Ebrill), Voel- gi-on, Festiniog.' William Roberts, etc. Griffith Davies, eto. Hugh Jones, eto. Cadwaladr Thomas, eto. Cadwaladr Jones, Cynfal terrace, diacon. Robert Griffiths, eto. Owen Roberts, Wilken street. Francis Evans, Station road. William Roberts, Penybryn. Joseph Owen, Cynfal terrace. Edward Jones, Saron, diacon. E. Steven Roberts, Fiestiniog. Robert Williams, Cynfal terrace. David Owen, Sun street. Arthur Jones, Ffestiniog. Matthew Evans, F. & B. Railway. William E. Jones, Pantllwyd. Robert R. Williams, Cefnmeusydd, Tanygrisiau. Morris C. Williams, Beudymawr, eto. Thomas Da vies, London-terrace, eto. Morris D. Jones, Brynhyfryd, eto. Owen Evans, New-terrace, eto. William Davies, West End, eto. Robert Jones, New-terrace, eto. Robert O. Jones, Glasfryn, eto. William Jones, Ivy House, eto. William Jones, Cwmorthin, eto. William R. Williams, Cefnmeusydd, eto. Cadaladr Roberts, Buarthmelyn, eto. M. Thomas, Warehouseman, T.V.R. Ferndale. John Morris, Stationer, &c., eto. William Thomas, Colliery Manager, eto. J. Thomas, 7 Brecon Road, Merthyr. D. C. Thomas, Giecer, eto. John Thomas, Pontmorlais, oto.
BRITON FERRY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRITON FERRY. CrxsHBRDD. — Cynaliwyd cyngherdd ar- dderchog yn yr Assembly Rooms, nos Iau, y 13eg cyfisol, pryd y gwas.,naethodd prif gan- torion yr ardal, megis Miss McCarthy, Meistri S Williams, A. George, a Glee Party dan ar- weiniad Mr S. Jones, ac yn cael en cynorthwyo gan Ivor Gwent, Llinos Myrddin, Llew Ftyaon ac Eos Meilog, yn nghyda cherddorfa o Aber- tawe dan arweiniad Mr Palmer. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Miss Woodward, ac ar yr harmonium gan Mr Aurelius. Gwnaeth yr oil eu gwaith yn rbagorol iawn. Y ilarnau ganodd y parti oeddent 'Sleighing Glee,' a 'Llawenydd y Gwanwyn' (G. Gwent). Yr oedd y canua'r chwareu yn swynol.—Brython.
'PWYLLGOR COLEG Y BALA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PWYLLGOR COLEG Y BALA. 'Pasiwyd y penderfyniad canlynol yn unfrydol mewn cyfarfod cyhoeddus perthynol i eglwys Annibynol Wheeler street, Birmingham, Mawrth 13eg, 1879:- Ein bod yn gwreeog gefnogi yr amcan o gynal Pwyllgor cyffredinol Coleg y Bala yn y Bala, fel arferol, ac fel yr arferir gwneud gyda'r Colegau ereill, am y credwn ei bod yn angbyf- iawnder a'r nifer luosocaf o'r tanysgrifwyr i gynal y Pwyllgor yn yr Aflawythig. Os yw y Prif Athraw i gael ei gondemnio o gwbl, nai rhesymol ac Ysgrythyrol yw gwneud hyny yn mhlith y rhai mwyaf cydnabyddus ag ef." Arwyddwyd dros y cyfarfod gan JOHN LEWIS, Gweinidog. RICNABD MORGANS, J RICHARD EDWARDS, F Diacon- DAVIB PRITCHARD, F iaid. EDWARD PRITCHARD, J EDWARD PRITCHARD, J
LLYFRGELL GYMREIG COLEG ABERHONDDU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYFRGELL GYMREIG COLEG ABER- HONDDU. A ganlyn sydd restr o weithiau heb fod yn gyflawn yn y llyfrgell uchodGwyddoniadur,' cyfrolau 1, 2, 3, 4. Dysgedydd,' o 1822 hyd 1878, oddieithr y rhifynau canlynol:—1834-36' 37 -89.42-49- 55-62-74.75.76-77. 78. 'Traeth- odydd,' 1847-48-50-41-53-54. 'Golygydd," 1846-47. 'Seren Gomer,' 1852-53. Welsh Dictionary,'cyfrol 1. Alac yr ucbod yn y llyfrgell yn bresenol; byddai yn dra dyinunol cael y cyfrolau angen- rheidiol i gwblau y gweitbiau. Nid oes yn y llyfrgell yr un gyfrol o'r Diwygiwr,' y I Ty wysydd,' na'r Cronicl,' na lluaws o gyhoedd- iadau gwerthfawr ereill. Byddai cael Geir- iadur Dnwinyddol Mr Hughes, B.A.,Tredegar" yn gaffaeliad mawr. Hyderwn y gwna bouedd-j, igion haelionus ein gwlad ein cynorthwyo i wneyd y llyfrgell mor gyflawn ag y mae moddh Y LLYFXGELLWIT-
MANCHESTER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MANCHESTER. Cynaliwyd cyfarfod dirwestol mewn cysyllt- iad a chymdeitbas Iwyr-ymwrthodol eglwys-y Mcthodistiaid Calfinaidd, Heywood street, nos Lun, Mawrth 3ydd. Y Paich T. Gray yn y gadair. Gafwyd anerchiadau grymus ac adeil- adol gan y Parchn B. Humphreys, gweinidog y Bedyddwyr, a D. Jones, MachynMeth. Caf- wyd dwy solo gan Misses Powell a Jones. Fe gynygiwyd gan Mr O. E. Roberts, yr ysgrifen- ydd, a chefnogwyd gan Mr Isaac Powell- ",Fod y cyfarfod hwn yn dymuno dotgan eu cymeradwya8tb o'r penderfyniad a ddygwyd gerbron Ty y Cyffredin gan Syr Wilfrid Law- son ar yf lleg o'r mis hwn, a'u bod o'r farn fod y cyfryw yn cynyg meddyginiacth effeith- iol o'r drwg mawr a chynyddol o anghymed- roldeb, a'i lod oherwydd ei gymedroldeb yn sicr o enill cefnogaeth boll ewyllyswyr da y symudiad uirwestol." Yr ydym yn deall fod yr ysgrifenydd wedi anion copi o'r penderfyn- iad hwn i Jacob Bright, Ysw, A.S.
AT EGLWYSI ANNIBYNOL FFESTINIOG.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
AT EGLWYSI ANNIBYNOL FFESTINIOG. MR. Goi.—Nid rhaid i mi wrth ragymadrodd heddyw i'ch cyfarch, gan fy mod yn sicr cich bod yn teimlo yn ddwys a difrifol dros y sefyllfa y mae hen enwad parchus yr Annibynwyr ynddi. Yr wyf yn credu ei bod wedi dyfod yn adeg arnom fel eglwysi y Duw byw y dylem ddyfod allan fel un gwr, nid i wrthwynebu un blaid nac i gefnogi y llall, ond i amddiffyn y gwirionedd, a thrwy hyny amddiffyn anrhydedd Annibyniaeth, yr liwn os gall y rhai ydynt ar drothwy Esgobyddlaeth neu yn wirBabyddiaeth yn ei lfurf gaethaf. Dywedai yr Athraw Mawr mai digon i'r disgybl fod fel ei. athrawond rhaid i ni ofyn yn ddifrifol pa bryd y daw y Dr.iaid Annibynwyr yn dangnefeddwyr. Deued pob un o Annibynwyr Ffestiniog, sydd a. bawl ganddynt i bleidleisio yn Mhwyllgor Coleg Annibynol y Bala, i'r Bala, y 26ain cyfisol, gan mai yno, yn ol y gyfraith, y mae y Pwyllgor i gyfarfod i drafod acbosion y Coleg. Eilwaith, frodyr,. deuwch i'r Bala, gan fod rhagolygon mor addawol y ceir yno eleni gyfarfod heddychol, a hyny am fod terfysgwyr yr enwad Annibynol i gydgyfarfod, mewn man avail. Drachefn, frodyr, deuwch i'r Bala eleni, y 26ain cyfisol, gan y ceir, yn absenol- deb "yr ymladdwyr," gyfleusdra i drafod achosion y "Coleg" mewn ysbryd addfwyn, yr hyn na chaed er's llawer blwyddyn o'r blaen. Unwaith etc,
BALA INDEPENDENT COLLEGE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
last Rule of the New Constitution, "Bala In- dependent College might at once be changed into "Manchester Missionary Institute," or "Carmarthen Congregational Seminary," or 4 Exeter Theological School," and the Building Fund transferred to those places. No compe- tent judge would say that could be lawfully done. By no Resolutions, although unani- mous, could the Committee give themselves such sweeping powers as are expressed to he given by the New Constitution," The So- ciety might have dissolved before the Building Fund W81 collected, and then immediately re- formed for a similar purpose with any powers agreed upon; but Bala Independent College having been endowed, it is too late to alter its constitution so extensively as hss been attempted. 6. Having accepted a trust, they must carry it out according to the true intentions of those who have contributed. Those who have given £5 must be respected no less than if they had contributed £ 500. 7. A Meeting of the Society may, under the circumstances, effectually repudiate the Reso- lutions of their Committee in regard to the "New Constitution," or a properly convened Meeting of the Committee can relieve itself of all difficulties by Resolutions. WALTER D. JEREMY. Lincoln's Inn, March, 1879.