Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yn Nhy y Cyffredin ar y 12fed eyfisol, bu tladl ar y Mesur er Gwella Mesur Mecld- ygol (1858), ond ar ol i amryw o'r aelod- au siarad gohiriwyd y mater. Cynygiodd Goldney hefyd fod y Mesur ddygwyd i mewn er galluogi offeiriaid Eglwys Loegr i eistedd iel aelodau o Dy y Cyffredin gael ei ail ddarllen. Gwrthodwyd-y Mesur drwy fwyafrif o" 135 yn erbyn 66. Yn Nhy yr Arglwyddi ar y lSegpas- b iwyd drwy Bwyllgor y Mesur or Gwella Cyfraith y Methdalwyr. Yr un noson yn Nhy y Cyffredin bu dadlu brwd yn nghylch Mesur er atal Llifogydd yn yr Afon Thames; Ffug- bleidleisiau yn Ninas Llundain Addysg, &c.; aphaaiwyd rhai Mesurau dibwys. Yn Nhy yr Arglwyddi ar y 14eg galwodd Arglwydd Thurlow sylw at y Trychineb yn Neheubarth Affrica. Yn Nby y Cyffredin yr un noson galw- odd Henry Richard sylw atyr adgyfnerth- ion ydys wedi ddanfon yn ddiweddar i Burmah, a gofynodd-beth oedddiben y Llywodraeth wrth wneyd hyny. Atebodd Canghellydd y Trysorlys fod y sefyllfa yn ansier, a bod Llywodraeth Burmah yn ar- fogi. Felly nid oes sicrwydd na chawn bwt o ryfel yn Burmah eto cyn yr haf. Bu dadl ystormus iawn hefyd yn y Ty yn nghylch rhyfel Zulu. Gwnaeth E. Jenk- ins,un o'r aelodau Rhyddfrydig dros Dun- dee, ac awdwr Ginx's Baby," araeth danllyd iawn, a bu yr hyn a eilw y Saes- on yn scene yn y Ty. Ymddengys fod ein Llywodraeth wedi penderfynu lladd ychydig filoedd o'r Zuluiaid eyn dechreu breuddwydio am wneyd. heddwch ac aw- grymwyd liyny gan Syr M. Hicks-Beach mewn atebiad i ofyniad o eiddo Sullivan. Yn wir, y mae rhai o'r papurau Toriaidd yn crochfloeddio am ddifodi y Zuluiaid— eu lladd o'r bron, am iddynt feiddio am- ddiffyn e. gwlad yn erbyn ein milwyr ni sydd yn awr yn ceisio eu goresgyn, er mwyn "hyrwyddo aches rhyddid yn y bydyma" wrth reswm # Y mae cefnder i'r hen frenin Cetewaye yn Llundain yn awr yn rhodio yn rhydd. Ai tybed na fyddai yn well i rywun ruthro ar hwnw a thori ei wddf ? Daeth yma yn nghwmni cenhadwr dros Egl^s Wladol Sweden, o'r enw Otto Witt. Bu Witt yn aros yn mysg y Zuluiaid, ac yr oedd yn llygad-dyst o un o'r brwydrau ymladdwydyno yn ddiweddtu*. Ar y 12 cyfisol bu yn anerch oddeutu mil o bobl yn yr addoldy lie yr ymgynull yr eglwys 1 sydd dan ofal Dr. Parker, a dywedai taw ei farn ef oedd na wnai Cetewayo byth oresgyn Natal pe cawsai lonydd gan ein Llywodraeth ni. Y mae penodi caplaniaid Presbyteraidd i fynedallan gyda'r milwyr i Ddeheubarth Affrica yn cael llawer o sylw gan aelodau Seneddol yr Alban, ac ymddengys fod dirprwyaeth o ddynion sydd yn teimlo yn iighykh iachawdwriaetli diagwyddol y rhyfelwyr sydd yn ceisio dyfeisio y ffordd rwyddaf a chyflymafiddanfon y Zuluiaid i ddistryw yn bwriadu ymweled a'r Ys- grifenydd Rhyfel yn fuan i'r diben i wasgu arno a dangos iddo y pwysigrwydd mawr o benodi caplaniaid o'r un gredo a'r mil- wyr i weinyddu iddynt "mewn pethau sanctaidd." Dywedirfody dinystr ar fywydau cam- elod wedi bod yn ddychrynllyd yn rhyfel- gyrch Afghanistan y fath yn wir, fel y mae holl fasnaoh Gogleddbarth yr India wediei thaflu i annhrefn mawr. Treng- odd miloedd ohonynt dan eu beichiaa yn rhai o'r bylchatrcreigiog. Rhaid gwneyd aberth mawr er hyrwyddo achos rhydd- id yn y byd yma," a gobeithio fod pob camel wedi te gwneyd rhywbeth tuag at hyny. # # Mae y "clerigwyr" yn llwyddo mown masnach amryw yn ymuno yn barhaus a'r Clerical Co-operative Stores. Ond y mae un clerigwr yn Nghymrl1 wedi myned tuhwnt iddynt oil, sef y Parch Evan Rowland, Llwynybrain, Whitland. Bu. ef, ac y mae eto am a wn i yn wahanol,yn gwerthu llaeth ond bu rhywrai mor an-, ngharedig a'i e: lyn am gymysgu dwfr a'r llaeth. Cafodd ei ddirwyo gan yr ynadon i swllt a'r treuliau. Ni ddaeth y bonedd- wr parch us i'r prawf, ond gyrodd lythyr i hysbysu ei fod yn rhwym wrth ryw orchwyl arall, a dichon dan yr amgylch- iadau fod hyny eystal a phe buasai yn bersonol i amddiffyn ei hun. • Yr wythnos. ddiweddaf gwelais un o'r pethau rhyfeddaf welais erioed yn y CELT, sef gwrthdystiad haid o Barchedig- ion" yn erbynrbywawgryniiadau o eiddo M. D. Jones, Bala. Swm a sylwedd y gwrthdystiad" yw na chlywsant hwy un gair gan y diweddar loan Pedr a thuedd ynddo i iselhau na bychanu M. D. Jones. Gwnaeth ei ddarllen beri i mi adgofio chwedl y Gwyddel a gyhuddid o ladrata. "Pat," ebe y cyhuddwr, "yr wyt ti wedi lladrata y peth a'r peth, a pliaid a cheisio gwadu,oblegid y mae genyf ddau dyst sydd yn foddlawn dyfod yn mlaen i dyngu idd- ynt dy weled wrth y gwaith." Och, faith," atebai Pat, beth am hyny, gallaf fi dcl'od a dau cant o dystion yn mlaen i brofi na welsant hivy mohonwyf yn llad- rata dim erioed, gan nad beth welodd eich dau dyst chwi Ai tybed fod y "Parch- edigion ieuainc hyn yn meddwl fod hyd yn nod y bobl hyny sydd yn credu mewn twyll-offeiriadaeth (priestcraft) yn ddigon dwl i lyncu rhyw logic fel yna ? Ond druain ohonyut,y mae eu hamcan yn ddigon eglur i bawb sydd yn gwybod rhywbeth am helyntion Coleg y Bala. Bydded i holl ddarllenwyr y CELT gymeryd ei welleifyn, a thori allan y -1 gwrthdystiad" ag enw- au y personau a'i harwyddodd. Dichon y bydd eu henwau yn gyfleus rywbryd eto Da genyf weled dadganiad (manifesto) bechgyn Ffestiniog. Dymunaf ei arwyddo o waelod fy nghalon. Bum mewn amryw Bwyllgorau yn y Bala. Ni chydnabydd- ais erioed weithredoedd y Glymblaid. Bum yn y Pwyllgor diweddaf, a gwrth- dystiais yn erbyn eu holl waith, ond ni wnaent hwy gydnabod fy hawl i fod yn bresenol, mwy nag y gwnawn inau gyd- nabod hawliau rhai ohonynt hwythau. Yr oedd eu hymddygiadau yn y Pwyllgor hwnw yn warth i fodau rhesymol,chwaeth- ach clynion oodd yn proffesu eu hunain yn Gristionogion. Pan gyfododd yr henaf- gwr hynaws Ap Vychan—un o'r, os nad y mwyaf poblogaidd a pharchus o weinid- ogion yr Annibynwyr yn Nghymru, a gwi, ag y mae genyf fi. fwy o baich iddo nag unrhyw weinidog Arall ar y ddaear ond y 6 pan gyfododd ar ei draed i erfyn arnynt ( yn y modd mwyaf difrifol i ystyried beth oeddent yn wneyd, ac i beidio sytnud y > Pwyllgor o'r Bala, oblegid y byddai hyny yn sier o beri llawer o annghydfod, an nghariad, ac ymraniadaa yn yr eglwysi, gellid eu gweled yn gwonu yn wawdlyd ar eu gilydd Dyna eglwys Caer wedi myn'd," meddai; Lerpwl wedi myn'd, Penrhyndeudraeth eto wedi myn'd. da chwi peidiwch, peidiwch a chynyg gwneyd y fath beth." Ond buasai yn llawn cystal iddo anerch tyrfa o epaod,oblegid pan oedd yn dywedyd y geiriau mwyaf sobr yn y dull mwyaf difrifol, cliwarddent fel yn- fydion II Yn wir, yr wyf yn ofni taw chwalu ac nid "rhanu" yr eg- lwysi Annibynol fydd y canlyniad. Ym- dreched pob cyfaill i Goleg y Bala fyned i'r Bala ar y 26ain. TCBIT.

CERDDORIAETH,

Advertising