Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR LLUNDAIN. CANOL Y FFORDD. ,3 mis, 24ain. 1879. Yr wythnos ddiweddaf oefais y mwyn- had o weled gweithfa win eang a glanwaith F. Wright, Kensington. Daeth y perchenog gyda mi, ac eglurhaodd yn fanwl y dull y gwneir y gwin anfeddw- ol. Tua 18 mlynedd yn ol daeth y r ath ronydd a'r dirwestwr byd enwog Dr F. R. Lees ato, a gofynodd iddo a wyddai efe sut yr oedd y cyrioeswyr (ancients) yn gwneud gwin anfeddwol. Er fod Wright yn ffer- yllydd galluog, nis gallai ateb y Dr ar y pryd, ond addawai wneudymchwiliad i'r mater. "Nid oes yr un amheuaeth ar fy meddwl," meddai y Dr, I I had Qedd y tad- au yn ei wneud, a chaiwn gaol ychydig o 9 ye hono at wasanaeth eglwys fechan yn nghy- mydogaeth Leeds." Cyn pen nemawr ddyddiau, llwyddodd Wright i wneud ychydig gostrelau o win hollol anfeddwol, pa un a roddodd bob boddlonrwydd i'r rhai oedd yn ei ymofyn. Y flwyddyn gyntaf dim ond rhyw 60 pwys o rawnwin ddefnyddiodd,ond erbyn hyn y mae ganddo weithia fawr, ao yn ystod y tymar mae yn defnyddio ar gyfartaledd tua thair- tunell y dydd o'r grawn\yin goreu sydd yn tyfu yn Neheubarth Europe. Defnyddia. dri math o rawnwin wrth wneud ie" Gwin y Cymundeb." Gan fod cymaint o ddadleu, yn nghyloh y mater yn Ngliymru y dydd- iau hyn, nid wyffi am ddywedyd dim ar. y pwnc y naiU ffordd na'r llall. Y mae ganyf farn ar y mater fy bun, ac nid wyf am ddywedyd wrth neb beth ydyw; ond dymunwn awgrymu hyn wtthyr eglwysi sydd yn dadleu yn ngbylch y peth. Mae y gwin a wneir gan F. Wright yn hollol anfeddwol. Nid oes dadlyn nghylch hyny. Darfu i amryw ffery 11 wyr enwog ddadan- 9 soddi gwahanol gostrelau o hono, ond ni ddarfu i'r un ohonynt amheu y ftaith. Y mae hefyd yn tvir ffnoyth y tuinwydden. Dim rhagor. Deallaf yr ymddengys hys- bysiad yn fuan yn y CELT yn nghylch" y gwin hyn, ac yna gall pawt> fyddo yn dewis ei ddefnyddio.gael pob cyfarwydd- yd yn ei gyIeh. ■* Y mae unbenaetholiaeth (imperialism) yn myaed rhag ei. blaen yn rhagorol yn Mhrydain Fawr a'i Tiirefedigaethau. Mae y genedl. (os. prioclol gal w y gwahanol gen- bedloedd sydd ynawrdangoronLloegr wrth yr enw) wedi colli pob awdurdod ar gyhoeddi l'hyfel neu beddwcb. Gwerir arian wrth y miliynau drwy gymeryd gwahanol lwybrau dirgelaidd i ddwyn pethau yn y blaen heb yiogyngliori dim a'r Senedl, a chedwir y cyfryw yn y ty- wyllwch hyd nes y bydd yn rhy. ddiwedd- ar ceisio eu dadwneud neu en gwclla. Y weithred fawr, gyntaf o eiddo Arglwydd Lytton oedd rhoddi clo (gag) ar argraff- wasg frodorol yr India, ac ymddengys fed y Cadfridog Roberts wedi myned un gradd yn mhellach, sef llyffetheirio yr argraff- wasg yn y wlad hon. Ban gychwynwyd y ihyfelgyrch i Affghanitsan, achwynwyd fod Llywodraeth yr India yn cyfnewid telegrainau i'r wlad hon, ac felly yn gwneud cam a'r gwirionedd. OBd ym- ddengys fod daliadau Roberts mewn per- thynas i ddanfon newyddion i'r wlad hon dipynyn wahanol i ddaliadau cadfridog ion ereill. Nid yw efeyn focldlawn i neb wybod dim am ei symudiadau na'i weith- redoedd, ond yr hyn fydd efe ei hun yn, weled yn dda hysbysu. Gydag un eith- riad, y mae yr holl ohebwyr jaeillduol, perthynol i bapyrau Xlundain wedi cael eu dewis o blith aeloclau ei staff gan y cadfridog ei hun Yr oedd y trefniad yn ddiameu yn rhagorol, oblegid pedigwydd- ai iddo gael ei orchfygu mewh brwydr, byddai y cynffonwyr hyn yn sicr o'i rydd- hau o bob bai; ac os byddai.yn orehfyg. wr, ni fyddai diwedd ar ea canmoliaeth- au. Ond rywsut darfu i'r un gohebydd oedd heb ei benodi gan y cadfridog (sef McPherson) lioni ei annibyniaeth. Y canlyniad fu iddo gael ei ddanfon ymaith o'r gwersyll. Yr oedd hyny yn gofyn tipyn o wroldeb o du Roberts,ond. gwnaeth byny, a. pbenododd un arall yn .ei le o blith ei, staff ei, hun I'a fddd bynag, er; ei anrhydedd, gwrthododd y Standard y gydnabod y gohebydd newydd, na chy- hoeddi ei delegramau, ond cyboeddodd yr ohebiaeth rhwng McPherson a Roberts. Ymddengys fod y cadfridog wedi defn- yddio ei awdurdod i gogino telegramau yn y modd manylaf. Ar un achlysur, crog- wydpedwar o Affghaniaid, a bu raid eu saethu cyn eu lladd. Gwnaeth McPher- son nodiad o hyn yn un. o'i delegramau, ond croeswyd h\vy allan. i)ro avail, ys- grifenodd delegyam, a dywedodd Eoberts wrtho na wnai mor tro, am iddo ei eirio rywbetb yn debyg i eiddo gohebydd y I Daily Telegraph McPherson oeddyr unig ohebydd roddodd ychydig a banes yr anfadwaith hyny lie y lladdwyd amryw p garcharorion Affghanaidd (gwelyCELT ychydig wythnosau yn ol); ond ar ol treulio tair awr i dynu geiriau caledion allan wrth archiad y cadfridog, gorfl iddo ysgrifenu uu arall drachefn a'i eiri6 yn ol y cynllun roddwyd iddo gan y cadfridog ei hun. Chwareu teg i'r 'Btandard,' y. mae wedi amddiflyn ei ohebydd yn y geir- iau canlynol: "Nis gallwn ganiatau hyd yn nod i gadfridogion1" i benodi gohebwyr Fr papur hwn. Gallant eu diswyddo, ond nis gallant benodi ereill yn eu lie." Pa bryd y cjir yr holl wir yn ngaylch helynt ,Affghanistaii? 0 India y mae newydd drwg iawn wedi cyrhaecld y wlad hon. Mae y trigolion brodorol yn cael eu gorlwytho a threthi nes y mllent broli suddo mewn annobaith ac mae y masnachwyr sydd yno o'r wlad hon yn ofni y tyr gwrthryfel allan, ac y teflir y wlad fawr hono i'r enbydrwydd mwyaf. •fc Nid oes yr un newydd o bwys o Zulu Mae yr adgyfnerthion ddanfonwyd allan o'r wlad hon heb gyraedd yno eto. Ym- ddengys fod dyehryn mawr yn mysg y Prydeiniaid sydd ya byw ar y cyffiniau. x # J- Methais yn deg a thalu ymweliad a'r !■ genedd yr wythnos ddiweddaf, ond ni fu ýno. ddim o bwys mawr i Gymru. Treul- iwyddwy noson i ddadleu yn nghylch Ardcangyfrifon y Fyddtn. Wytbnos i heno, cadwodd yr aelodau Gwyddelig y ddadi yn mlaen am saitn o onau Rhodd-. r odd Parnell rybudd i'r Weinyddiaeth na )<WtÚiti efe gyJeillion ddangos cymaint o dynerwch tiiag atynt yn y dyfodol ag a Wfiaeth yn y gorphenol. > yr wyf yn. bwriadl1 ymadael a'r Brif- ddinas yr wythnos hon, ond gofalaf am gyfaill i ddanfon ychydig o hanes y Sen- ,c, y edd yn rheolaidd i'r CELT. Rhaid i mi. ddymuno ar y darllenydd fy esgusodi yr wythnos hon, • TOBIT,