Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

GAIR AT ATHRAWON YR YSGOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR AT ATHRAWON YR YSGOL SABBOTHOL. ANWYL GYFEILLION,—Gan fod yr Ysgol Sab- bothol wedi bod ac yn bod yn foddion mor dda- ionus, y mae yn eglur y dylai pob un wneud ei oreu o'i phlaid, yn neillduol chwychwi^fel athrawon ac athrawesau, gan mai i chwi yr ymddiriedir y gwaith pwysig o ddysgu ac hyfforddi ei deiliaid. A gallai fod mwy o bwysigrwydd yn pertliyn i'ch swydd nag yr ydych yn ei ystyried, gan fod ded- wyddwch neu ddinystr eich dosbarth yn ymddi. bynu i raddau hclaeth ar yr addysg a draddodwch chwi iddynt. Y mae genych chwi, fel athrawon ac athrawesau, fantais neillduol i ddysgu moes- garwch a moesoldeb i'ch dosbarth, trwy argrafiu ar eu meddyliau y pwys o barchu hen bobl, ac arfer tynerwch tuag at eu cyd-ddynion ac a-t greaduriaid direswm, &c. Oes, y mae genych chwi fanteision mawr i ddarostwng pechodau yr oes, sef balchder, meddwdod, anniweiideb, celwydd, ac anonest- rwydd; a dysgu rbinweddau moesol a chrefyddol i'r oes nesaf: oherwydd mai plant yr oes yma fydd yn poblogi ac yn dysgu y byd yn yr oes nesaf; ac ar eich haddysgiaeth foesol a chrefyddol chwi fel athrawon ac athrawesau y bydd y plant, i raddau helaeth, yn adeiladu eu eymeriad, a bydd eu cy. meriad yn dylanwadu yn fawr ar eu cydoeswyr ac ar eu plant, a'u holoeswyr. Felly, chwi a welwch y bydd dylanwad eich haddysgiaeth chwi, fel athrawon ac athrawesau yn yr Ysgol Sabbathol, yn cyrhaedd yn rahell iawn, nid yn unig yn y byd hwn, ond befyd i'r byd a ddaw. Gan hyny, bydded i chwi ystyried pwysigrwydd a chyfrifoldeb eich swydd, a chofio y bydd yn rhaid i chwi roddi cyf- rif manwl o honi; ac oddiar yr ystyriaethau hyn, ymdrechu eu cyflawni yn y fath fodd fel ag y gall- wch roddi eich cyfrif i fyny yn llawen, ac nid yn drist. Pantycekn. JOHN JONES. -—: COLEQ Y BALA, PWYLLGOR AMWYTHIG, A'R CYFUNDEBAU CHWARTEROL. At Olygydd y CELT. Mn. GOL.Diolch i chwi am eich hynawsedd a'ch tcgwch yn caniatau i'r oil o'm hysgrif dan y penawd uchod ymddangos yn eich colofnau or rhifyn ant Mawrth 7fed. Ni ddangoswyd yr un tegwch tuag ato yn swyddfa y Tyst,' fel y gwel pob darllenydd a gymliaro yr ysgrif, fel y gwelir hi yn y CELT a Dodwyd, ar un ysgrif yn y'Tyst'yr wythnos flaenorol. Barnwyd yn oreu (ac yn deg, bid sicr) i dalfyru yr unfed gofyHiad ar ddeg, a gadael y deuddegfed allan yn gyfangwbl o'r 'Tyst.' A phaham? Atebed llywodraethwyr swyddfa y 'Tyst,' trwy y CELT, neu trwy gwiofnau y 'Tyst.' Er mwyn i'r darJIenydd gael mantais i weled anmhleidgarwch (?) y Tyst,' Papur yr Enwad, dyfynaf ylna y ddau ofyniad fel yr anfonwyd hwynt i'r ddwy swyddfa "11. Pa beth sydd wedi cynhyrfu y Cyfundebau Chwarterol yr wythnosau ddiweddaf i basio pleid- lais o gondemniad ar yr hyn a elwir yn llythyrau enllibgar, &c, yn y Wasg Gymreig mewn cysylltiad a Choleg y Bala ? Ai spleen bersonol a zel ddall- bleidiol, ynte. cariad at degwch, casineb at athrod, parch i'r weinidogaeth, neu dduwiolfrydedd a'u cynhyrfodd ? [Caniatawyd i'r rhan yna o'r gofyn- iad ymddangos yn y Tyst,' ond talfyrwyd neu cropiwyd yinaith y gweddill o hono, a'r gofyniad canlynol, sef yr hyn a ganJyn:- ] Os yr olaf, pa le yr oedd y teimladau hyn yn cael eu cadw gan- ddynt yn ystod y ddwy neu y tair blynedd diweddaf, pan yr ymosodid yn enllibgar drwy y wasg ar y Parch M. D. Jones ac ereill? Tybed eu bod yn anwybodus o fodolaeth y cyfryw lythyrau ? 12. A oedd dim newyddiadur yn cyrhaedd yr ardaloedd hyny cyn dyfodiad y CELT allan ? A oedd yno ddim derbynwyr i'r Tyst a'r Dydd,' y Faner,' na'r Herald yn ystod y blynyddoedd hyny?" Fe wel y darllenydd fod y rhan a adawyd allan yn awgrymu fod y Tyst a'r Dydd wedi bod yn euog o adael i lythyrau ymosodol ymddangos yn ei golofnau. Gofynaf eto, Paham y gadawyd y rhan yna allan ? O'm rhan fy hun, yr ydwyf yn barod i roddi barn cariad ar ei ymddygiad, a chredu fod yn edifar ganddo iddynt erioed gael ym- ddangos, fod arno gywilydd o'u plegid,ac nafynai er dim adgoffa i'w fyfyrwyr ei fod erioed wedi bod yn euog o ganiatau i'r fath lythyrau ymddangos yn ei golofnau. Parhaed yn y teimlad yna. IOTA EFSILON. — ANNIBYNIAETH ALLAN 0 BERYGL. At Olygydd y CELT. MR. GOL.,—Yn y CELT am yr 28ain o Cewefror, mae un M. C. Jones wedi gwneud ei ymddangos- iad i achub Annibyniaeth, a Choleg y Bala, oddwy- law y Glymblaid, pwy bynag sydd yn gwneud i fyny y blaid newydd hon. Onid yw rhagluniaeth yn ddoeth iawn, ac yn graff iawn, yn nygiad yn mlaen ei gweithrediadau. Yn ddiweddar, aeth gwr ieuanc dros For y Werydd, fel y gwr ieuanc hwnw gynt o Bethlehem Juda, i drigo lie y caffai. Yr oedd wedi methu a tharo wrth un Micah yr ochr yma; ond bu dipyn yn fwy ffodus yr ochr draw, os yn fwy BEodus Refyd. Daeth yr Ianci ato, a dywedodd wrtho un diwrnod, "Trig gyda mi, a bydd imi yn dad ac offeiriad?" Felly y gwr ieuanc a aeth i mewn, ar lanci a'i hurddodd ef yn offeiriad. Ond y mae yn mysg yr lanciaid, fel yn mysg pob cenedl arall, wyr grymus, ac yn yspeilwyr hefyd; a phan ddaethant at dy yr lanci, hwy a adnabuant lais y gwr ieuanc, ac a droisant i mewn, ac yn eu dull Ianciaidd a ofynas- ant iddo, Pwy a'th ddug di yma? Betu yr wyt yn ei wneuthur yma? Beth sydd iti yma ? A'r gwr ieuanc a ddychwelodd i'r man y daethai allan o hono ar y cyntaf. Er nad oes neb yn amheu gallu offeiriadyddol y gwr ieuanc. eto, rywfodd, nid yw na.'r Yspryd na Rhagluniaeth yn trefnu un Micah ar ei gyfer yn awr mwy na chynt, ia mawr y syndod oedd yn meddiannu y dywysogaeth oherwydd dallineb yr eglwysi. Ond yn y CELT uchod, y mae ,y cartain yn cael ei godi, a'r broblem yn cael ei solvio, a phawb yn canfod yn eglur yr hyn oedd yn dywyll o'r blaen. Yn awr, gall Mr M. D. Jones ddiosg ei arfau amddiffynol ac ymosodol, ac ymroi i'r gwaith y telir iddo gan yr eglwysi am ei gyflawni; a gall Dr Thomas beidio a'i bryder yn nghylch y Colegi ac ymroi i "fyw yn dduwiol;" a gall S. R. ynawr roddi mwy o'i ajnser i gadw allan ysgrifau enllibus o'r CELT; a gall Mr Williams, Dinas, fyned gyda'i waith o gyfodi amddiffynfeydd rhag gwybed Mawddwy yn yr haf a gall Mr Evans, Llanbryn- mair, droi yn ol oddiar ddilyn y bytheiaid; a gall Mr Rees, Capel Mawr, roddi mwy o'i amser i borthi y moch. Wele Moses y Gened] a Gedeon Annibyniaeth wedi ymddangos or diwedd,ac yn nghyflawnder yr amser hefyd, debygwyf ft, beth bynag. Yn wir, mae ein Gedeon nl yn fwy man. teisiol ei amgylchiadau na Gedeon y Genedl gynt -yr oedd hwnw yn gorfod dyrnu gwenith. Dy.1 wedwn o'n calon wrtho, Dos yn dy rymusdra yma, a thi a waredi Annibyniaeth o law y Glymblaid, ac o law y Wahanblaid yn ogystal. Geddefed M. C. Jones air o gynghor wrth ddechreu ar ei waith mawr a phwvsig, a dyma fe Myned gael allan i ddechreu a oedd cynrychioliad teg o'r eglwysi yn Nghynadledd Llangollen rhwng y ddaiuDomos; oblegid dyna ydyw yr wb wb fawr sydd y dyddiau hyn gan ryw blaid, cynrychioliad yr eglwysi," nes peri i glustiau dyn ferwkio; ac oherwydd y tybiant nad yw (ac y maent yn tybied yn iawn hefyd) y Cwrdd Chwrdd Chwarter, na Chynadledd y Gymanfa, na Chyfarfod yr Undeb y.n gynrych- ioliad teg or eglwysi, dyna y waedd fawr allan fod rhyddid yr eglwysi Annibynol yn cael ei beryglu. 'Rwyn methu yn lan a deall sut y gall 9a Chwrdd na Chynadledd effeithio dim ar ryddid eglwys Annibynol. Dyweder y gall y Glymblaid neu y Wahanblaid ddifodi Coleg y Bala, a effeithia hyny rywbeth ar ryddid yr eglwysi ? Son am y Coleg fel Coleg yr Enwad, dwy i ddim yn gallu ei am- gyffred ef yn fwy o Goleg yr Enwad mwy nag y mae y Tyst a'r Dydd yn Bapur yr Enwàä, Os oes gwahaniaeth, mi ddymunwn i rywun led mor garedig a'm dwyn or tywyllwch yma i oleuni. Y Tyst a'r Dydd' yn Bapur yr Enwad aie (!) A fu gan yr eglwysi law yn ei osodiad yn y swydd ? Coleg y Rala yn Goleg yr Enwad, aie (!) Pa bryd ac yn mha le yr ordeiniodd yr eglwysi ef fel eu Coleg ? Os cymerodd y naill neuy llall or uchod Ie, a oedd yno "gynrychioliad teg o'r eglwysi ?" 0. T. JONES. —♦ COLEG ANNIBYNOL Y BALA. < At Olygydd y CELT. MR. GoL.,—Yr wyf yn hollol groes i'r Un Coleg y sonir am dano, oblegid buasem yn cael ein ham- ddifadu o fyfyrwyr Coleg Caerfyrddin, y rhai sydd o fawr werth, gan eu bod yn dyfod yn flsol i efengylu i'r lie yr wyf yn arfer addoli. Tybiaf fod y myfyrwyr yr un mor ddefnyddiol yn y Gogledd ag ydynt yn y De. Yr wyf wedi tanysgrifio at gynal Coleg y Bala, ac nicl at ei ddiddymu. Pe buaswn yn cyfranu ato er mwyn ei ddiddymu, bu- aswn yn meddu ar yr un egwyddor erlidgar a Domitian, yr hwn a fu yn oiferyn i daflu loan, y disgybl anwyl, i'r pair o olew berwedig; ond ni chafc id ddim niwaid. Yr wyf yn dymuno parhad a llwyddiant Coleg y Bala,ercymaint o wrthwyn- ebiad sydd iddo gan y Glymblaid. Pwy fendith a allant ddisgwyl wrth dreio diddymu Coleg sydd wedi gwneud cymaint o ddaioni i'r eglwysi? Dvlai yr eglwysi ddangos mai hwy sydd yn ei gynal. Pan y mae dynion yn cenfigena wrth lwyddiant y Coleg, diau eu bod wedi meddwi gan hunanoldeb wrth wneuthur Twr Babel o'r Colegau, er gwneu- thur enw mawr iddynt eu hunain. Buasai yn amser dedwydd yn awr pe buasai pob eglwys a phob gweinidog yn feddiannol ar yr un diniweid- rwydd ar enwog dduwinydd Jones, Penybont-ar- ogwy. Nid oedd dim perygl trigo yn ddiofal yn ei ymyl. Y mae Hid ac ymrysonau wedi gwneud niwed mawr i achos y Gwaredwr yn y byd. Mae anghydfod yn un o'r pechodau mwyaf annhtbyg i Ysbryd Crist ag sydd yn bod. Nid yw y oynion sydd yn amddifad o weithrcdiadau sancteiddiol Ysbryd Crist yn perthyn iddo. Od oes neb lieb Ysbryd Crist ynddo, nid yw hwnw yn eiddo Ef." Dyledswydd pawb yw ymdrwsio oddifewn & gos- tyngeiddrwydd; ac yna bydd hcddweh a thang- nefedd yn teyrnasu mewn modd cyffredinol. Gilfach-y-Jestyn. DAVID PHILLIPS.

MERTHYR TYDFIL.