Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD MAWR HELBULUS YR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD MAWR HELBULUS YR AMWYTHIG. ( Far had o'r rhifyn diweddaf) Gorfa arnom, er mwyn cysondeb a threfn, adael heibio yn ein hadroddiad diweddaf ran helaeth o weithrediadau cyfarfod y boreu, o ganlyniad rhaid i niddychwelyd i gofnodi y rhai hyny cyn yr elom yn mlaen at orchwyl- ion y cyfarfod prydnawnol. Pan yr oedd yr ysgrifenydd yn myned rhagddo a darllen y cof- nodion, trodd y Dr Thomas Rees ar ei draws a'i gynygiad, a welir yn y CELT am yr wyth- nos ddiweddaf, ond ar air a dymuniad y Cad. eirydd oedodd y Dr Rees ei gynygiad. Yna aed yn mlaen a darllen y eofaodion, Wedi darllen y penderfyniad yn cynwys sen y Parch M. D. Jones, swm a sylwedd yr hwn oedd— Bod y Pwyllgor yn teimlo yn ofidus ddarfod i'r Parch M. D. Jones alw Pwyllgor yn nghyd i'r Bala, amcan yr hwn nis gallai amgen na bod i rwygo yr eglwysi; ac yn llwyr angbymerad- wyo ei waith yn gwneuthur byny. Mr W- J. Parry, Bethesda, a ddywedodd— Bod y penderfyniad yn un pwysig a difrifol, felly ei bod yn anhebgorol angenrheidiol i'r cyfarfod gael geiriau y penderfyniad. Mr T. J. Jones, Llansantffraid, a ddywedai fod cwmniau y rheilffyrdd a gweithiau pwysig yn sicrhau gwasanaeth twrne i'w cyfarwyddo yn mhob mater tywyll iddynt, ac i'w tywys pa beth fyddai yn oreu i'w wneuthur pan na fedr- ent gydweled. Cyngora y cyfarfod i logi twrne er eu cyfarwyddo o berthynas i Goleg y Bala (chwerthiniadau cellweims). Yn y fan hon, wedi senu yr Ysgrifenydd, cynygiodd Mr Owens, Liverpool, a chefnogodd Mr D. Davies Liverpool, Bod sen-bleidlais (vote of censure) i gael ei basio ar yr Ysgrifenydd am ei ddull afler yn cyflawni ei swydd. Mr W. J. Parry a ddywedai ei fod yn eyd- nabod fod esgeulusdra, ond ni chefnogai y vote of censure. Cynygiai fod y cofnodion i'w darllen o'r cofnod-Iyfr rhagllaw. Yn nghanol y ffrwgwd hon bon, cyfododd y Parch W. Roberts, North End, a dywedodd yn gryfac yn groew—Peidiwch a bod yn galed arnom am gofnodion ddoe. Ystyriwch, frodyr, yn mha le y buom Ai nid ydych yn gweled olbrwydr arnom ? Diangasom yn iach a di- anaf o'r Bala, ondy mae'n syn ein bod wedi cyraedd yr Amwythig yn gyfan heb fod yr un, darn ohonom ar ol Mr Roberts, yr ysgrifenydd, a ddywedodd— Os ydoedd y cyfarfod yn hawlio y llyfr cofnod- ion, yr lii efe "fel gwas" i'r cyfarfod i'w nol i'r Bala er mor fawr ydoedd (glas-chwerthin). Siaradwyd yn mhellach gan y Dr J.Thomas a Mr Simon Evans. Wedi hyny dewiswyd ymddiriedolwyr yr eiddo yn nglyn a'r Coleg, sef a gaiilyu:-Parch D. Rees, Capel Mawr; Charles Morley, Ysw.; Parry, Bala; Herber Evans, Caernarfon; C. R. Jones, Llanfyllin; Edwards, Aberdar J. H. Jones, Aberdovey; Thomas Williams, Merbhyr; M. Evans, Oak- ford; Simon Evans, Hebron; Powell, Careg Cenen, Llandilo; Thomas, Bwlchnewydd; a Oliver, Treffynon. Wedi hyn cododd y Parch D. M. Jenkins, Liverpool, i gynyg y penderfyniad o senbleid- lais a basiwyd yn y Bala. Nid oedd gan Mr Jenkins ddim arwisg las am dano, na durlath (steel) yn crogi wrth wregys ar y lun aswy, na chyllell ar y lun dde, ond yr oedd yn amlwg wrth ei wynebeg y medrai efe frathu; oblegid, fel y dywed Lamaritine, y Ffrancwr-" External physiog- nomy supplies a key to character and destiny," Er y medr efe frathu heb gyffroad yspryd na dim drygnaws amlwg, diamheuol, siaradodd yn gryf, er hwyrach nad oedd ei resymau yn gryfion, safadwy, anniddymadwy, o blalid yr hyn a gynygiasai y diwrnod cynt yn y Bala. Hanfod ei araeth oedd hyn-Pe buaswn yn gwybod y gelwid arnaf heddyw i gynyg y pen- derfyniad hwn ni fuaswn yn gwneud hyny ddoe. *Y r ergyd drymaf yn fy mywyd i mi ydoedd gweled liysbysiad yn galw cyfarfod heddyw yn y Bala gan y Parch M. D. Jones. Mae genym amryw resymau dros y cynygiad. Dywedwyd fod y cyfarfod hwn yma heddyw yn afreolaidd. Mor ffol ydyw y gyfryw wrth- ddadl. Apeliwyd gan Mr M. D. Jones at gyn- adleddau o berthynas i godi Colegdy, ond yn awr gwrthwynebir gwaith y cynadleddau ganddo. Gwnaed apel at gynrycbiolaeth eangach. Dywedwyd mai nid yn yr Amwythig y dylid cynal y cyfarfod hwn ond yn y Bala. Mae cynaliad hwn yma heddyw yn hollol gyd- weddol a'r hyn a wnaed eisoes. Cynaliwyd pwyllgorau allan o'r Bala lawer o weithiau. Yn Wrexham y penododwyd Mr Michael D. Jones i fyned i America. Yr wyf drwy brofiad personol yn cofio am bwyllgorau heb fod yn y Bala mewn cysylltiad a'r athrofa. Mae'r gwrthddadleuon yn annheg. Mae y cyfarfod agynhelir heddyw yn y Balayn hyllol afreol- aidd dan yr Hen Gyfansoddiad a'r Newydd. Yn wir nid oedd mwy o hawl gan Mr Jones i alw y cyfarfod heddyw i'r Bala nag oedd genyf finau i'w alw i Liverpool. Cefnogwyd Mr D. Jenkiris gan MrGriffiths, Dolgellau, yn fyr, ac mewn llais isel, rhy isel i neb ei ddeall ond y rhai yn ei ymyl. Ebe Mr Simon Evans-Mae hwn wedi ei basio ddoe; ei gymeradwyo yn unig ddylid heddyw. Mr Idris Williams, Cymer, a gynvgiai welliant, sylwedd yr hwn oedd Nad ydym ni yn gwneud dim sylw o gyfarfod afreolaidd. Ebe Mr Parry, Bethesda—Achos eithriadol oedd gwaith Mr Michael Jones. Mae hawl gan weinidog i alw cyfarfod, ond athraw oedd yma yn galw cyfarfod yn nghyd. Siaradwyd yn mhellach gan y Parch Jones, Ton, a Dr Rees, Abertawe. Y Dr a lefarai mai blin oedd ganddo ddarfod i Mr M, D. Jones alw cyfarfod i'r Bala. Gobeithiai y di- leid ei effeithiau yn fuan. Wedi gwrando ar eiriau dwysion a difrif- ddwys DrR. cymerodd y bleidlais le. Nifer y pleidleisiau dros y sen-bleidlais, 163. Y CYFARFOD PRYDNA WNOL. Aeth y Cadeirydd i'w le am 2.20, a dywed-, odd eu bod wedi bod yn bwyllog y boreu, ac er mwyn pobpeth gadewch i ni fod felly wrth ymdrin a'r pynciau pwysicaf a berthyn i'r Coleg y prydnawn. Darllenodd Mr R. Roberts, Manchester, ei gynygiad drachefn, a darllenodd Mr Parry yntau ei welliant. Ebe C. R. Jones, Ysw., yn gryf ac yn groch, Negative yw gwelliant Mr Parry. Pared Tanymarian osteg dros funud neu ddau, ac na syfled na chawr na chora-ch drwy gwbl o'r capei, oblegid dyma wr urddog- baglor duwinyddiaeth (B.D.) ar ei draed 1 Pe medrai, diau y- byddai yn ddyn uchelgest; ond gan ei fod yn gul a main, nid oedd ganddo ond ymsythu. Pwy ydoedd ? Roberts, Caer- narfon, ebe'r gwr oedd gerllaw i mi; ac ar ol hyny clywir yr ymadrodd, Dylem fod yn loyal i'r Cyfansoddiad Newydd. Yr ydwyf fi yn barod i votio o blaid unrhyw beth rhesymol, ond er mwyn pobpeth gadewch i ni fod yn loyal i'r constitution (mawr foddhad yn mhlith aelodau ieuainc y Glymblaid, y rhai oeddent yn gyson a'u gweithrediadau, ac ag yspryd 11 penaeth, a gwyr cedyrn y cliqtteam y dd wy flynedd ddiweddaf; ond rhyfedd ac nid rhy- fedd chwaith, gostyngodd yr arweinyddion eu banerau yn yr Amwythig, ond yr oedd y Clymbleidwyr ieuainc yn ordrachwantus am wastadhau helyntion y Bala drwy loyalty i'r constitution). Ystyriai y Parch R. S. Williams, Bethesda, fod y gwelliant yn cymeryd yn ganiataol ein bod ni yn gweled eisieu newid v Cyfansoddiad Newydd. Pa reswm sydd iroddi awdardod i'r athrawon i ddewis tri chyflafareddwr. Pa fwyaf ganiatewch chwi i gyfarfod Michael Jones, mwyafi gyd y bydd am daflu y'consti- tution dros y bwrdd. Barnai C. R. Jones, Ysw., mai afresymoldeb o'r mwyaf oedd rhoddi y constitution i arbitra- tion. Yr etholiad sydd i benderfynu pob peth. Dywedai Mr Simon Evans ei fod ef am gynyg Bod gofyniad am ufudd-dod oddiwrth athrawon i'r Cyfansoddiad Newydd. Yn nghanol y benbleth a barodd gwelliant Mr W. J. Parry, neidiodd y Parch E. Herber Evans, Salem, Caernarfon, ar ei draed, a thy- walltodd ymadroddion a haner ymadroddion fel cerig pan arllwyser hwy o drol. Siaradodd am yr hyn a wnaeth ef gyda'r athrawon er mwyn eu cael yn foddlawn i arbitration. Par- odrwydd Ap Vychan (cyd-olygydd y/Dysged- ydd 'a mi, ys dywed ef), a boddlonrwydd Mr Micbael Jones. Mae o bwys i ni gael hedd- wch. Gwell yw i ni gyduno &v arbitration, meddai efe. Llawer o ymadroddion ereill a lefarodd Mr Evans gyda mwy o lithrigrwydd ymadrodd na chrynodeb geiriiu a syniadau. Dyn gwych iawn ydyw ef ar lwyfan ac mewn pwlpud,ond y mae y llai na'r lleiaf" o'r dynion eyhoeddus yn gymesurol ag ef mown Cynadledd. Ein teimlad ni oedd nad oedd siarad personol a chymdeithasol Mr Herber Evans yn fawr o help i gyfanu y mur. Yn canlyn Mr Evans, dywedodd y Parch J. Morgan Evans, Caerdydd, yn bur gyffrous ei deimlad ac yn nwydus i raddau mawr, Nad oedd ef yn cydsynio a Mr Evans, Caernarfon. Soniai am drawsarglwyddiaeth yr eglwysi, bod Ilawer o weinidogion yn ofni dyfod i'r Am- wythig, ac yn ofni myned i'r Bala. Ar bwy mae'r bai ? Ar un dyn i gyd. Paham na sieryd Michael Jones fel dyn (eisteddodd Mr Evans dan grynu gan nwyd.) Mr Johns, Llanelli, a lefarai mai mab tangnefedd oedd, a bod y Beibl yn dywedyd Dod dy gleddyf yn dy wain." Yr oedd grym cleddyf yn y cyfarfod yn ei dyb ef, ond gwelf oedd reservo y power. Eiliai gynyg Mr Simon Evans. Y Dr John Thomas a ddywedai Ei fod ef dros arbilraMuii. Beth yw Mr Thomas a Mr Jones ? Gwellganddo son am danynb hwy na chyfarfod afreolaidd, fel yr oedd yn y Bala y diwrnod hwnw. Dywedai rhai am sort am lythyrau Mr Michael Jones yn y CELT. Ni effeithiodd y llythyrau hyny ddim arno ef. Yr oedd wedi cynefino bellach a chael ei drin, a hyny yn bur gas weithiau. Ni ofynodd am apology erioed,ac nid oedd yn bwriadu gwneud chwaith. Yroedd efyn foddlawn i gyflafar- eddiad, a barnai mai heriau ar yr athrawon fyddai gofyn ufudd-dod iddynt i'r Cyfansodd- iad Newydd. Yr oedd yn ddrwg ganddo eu bod wedi ignorio y Pwyllgor y diwrnod cynt. Gwnaeth y Dr John Thomas gynygiad am ar- bitration, yr hyn a gynwysai fod yr athrawon i nodi yr adranau annghymeradwy ganddynt yn y Cyfansoddiad Newydd, a'u bod hwy ar