Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD MAWR HELBULUS YR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

etholaeth i ddewis tri o bob tu i eistedd mewn cyflafaredd. Ar ol ei dywysog," ond nid i'w gefnogi y tro hwn er syndod mawr, cawsom air gan glercyn y clique, nid amgen y Parch J. Miles, Aberystwyth. Arfera ddilyn ei 11 flaenor" yn llwrw ei ben, gan werthu ei inclwidiiaUty er cael seigiau sugr bwrdd Clymbleidiaeth. Cael sefyll mewn pwlpud yn Nghymanfa mamddi- nas Cymru, a chael caniatad y gwinllanydd Doctorawl i ddringo i geinciau pren cadeiriog. YrUndeb Cymreig ydyw awyddfryd penaf lluaws mawr o weinidogipa, ond na feddylied neb fod Mr Job Miles o'u nifer. Ebe Mr Miles yn hyglyw, er nad oedd ei gorpholaebh yn weledig i'r cyfarfod i gyd-Pwnc y consti- tuency yw y Cyfansoddiad ac nid arbitration. Cefnogai y Dr Thomas Rees gynyg y Dr J. Thomas, ao ebe ef —Tybia y werin fod pawb yn ysgrifenu yn chwerw, pan fydd tipyn o ddadleu yn y papyrau. Am heddwch yr oedd ef, a theimlai fod yr Enwad mewn enbydrwydd. Ceisio heddwch ddylem, ac nid sefyll dros ein rights. Mr Roberts, Tymawr, oedd dros gompromise a thros benderfynu ycwbl y diwtnod hwnw, gan na chaffidbyth gystal cyfle. Mr John Williams, Hirwaen (brawd Mr Thomas Williams, y "Morley Cymreig") a amlygai awydd gwneud rhywbeth. Cynygai y C, ef fod y cyfarfod yn nodi personau i bender- fynu ar basses yr arbitration. Siaradodd Rowlands, Aberaman, a Jenkins, Liverpool, o blaid cynyg Mr John Williams, ac awgrymwydmai gwell fyddai i Dr. John Thomas alw ei gynygiad yn ol. Dadganai Mr Evans, Caernarfbn, dros yr athrawon, eu parodrwydd i dderbyn arbitration. (Gwaedd Mae nhw wedi twyllo Evans. Cryn chwerthin.) Dim rheswm, ebeC.R. Jones, Ysw., rhoi y cyfansoddiad i arbitration. Ridiculous meddwl am y fath beth. Hoff wii gael bases arbitration yn gyntaf oil. Y Parch Lewis Probert, Porthmadog, a draethai fody geiriau Heddweh it Thangnefedd yn cael eu defnyddio yn ami. A oes genym ni brawf a wna yr athrawon ymostwng i'r arbitration? Gwell an foil telegram yn awr i ofyn hyny. (Digrifwch mawr a chwerthin) Gwyddom pwy mae y cyfarfod heddyw yn y BaIa yn gynrycbioli Mr Roberts, North End, a ofynai, A ydyw yr athrawon yn g vadu cyfreithlondeb y eyfan- soddiad ? Mae eisieu gwybod hyny gan Mr Evans, Caernarfon, onide, cwbl ofer fydd y cyfan. 'Rwy i mor awyddus am heddwch a neb. Siaradodd Meistri Parry, Bethesda; James, Llanwrtyd; Davies ac Owens, Liverpool; a John Williams, yr hwn a deimlai awydd glynu with y Cyfaneoddiad, ac nid ei ddryllio er mwyn boddloni Michael Jones. Ei brofiad ef o berthynas i gyflafareddiad oedd, na ddeilliai dim da o hono yr oedd efe yn siarad oddiar yr hyn a welsaiac a deimlasai ar bwne arbitra- tion. Cydsyniai Mr B. Williams, Canaan, a'r hyn a ddywedasai Mr James, Llanwrtyd, mai gwell a thecach fyddai taflu y Cyfansoddiad yn ol i'r Committee i'w newid neu ei gymedroli ganddo. Yn nhghanol eyffro a dadwrdd, dywedodd Mr Simon James fod yr holl siarad a fu yn dangos iddo ef mai ei benderfyniad ef oedd yn llygad ei le (crechwen), sef gofyn i'r athrawon a ufuddhaent hwy i'r Cyfansoddiad Newydd. (Bloeddiadau, Vote, vote.) • Y Dr-John Thomas a awgrymai y dylent gofio am y public, yr hwn sydd fel y gwyddai y cyfarfod, yn greadur cryf iawn (chwerthin), ac y dylent wneud a allent er gwneud Mr M. D. Jone9 yn ddiesgus ger bron y wlad, a rhoi ar ddeall i'r eglwysi na adawyd dim heb ei wneud er mwyn cymod a heddwch. Dar- llenodd ef ei gynygiad drachefn, achefnogwyd ef gan Mr Simon Evans ar yr amod ei fod i'w gyfivoyno yn derfyvol (" referro yn final"). i'r etholaeth. Siaradwyd ar y cynygiad yn ei erbyn gan y Meistri Griffiths, Dolgellau, a Roberts, Liverpool, ae o'i blaid gan y Meistri Jones, Aberdyfi; David Roberts, Gwrecsam; ac Evans, Caernarfon. YDr. John Thomas a fynegai ddarfod iddo ef ymohebu ag Ap Vychan, yr hwn yn ei lythyr a hysbysai na roddai efe na Mr M. D. Jones, hyd angeu, i mewn i ymwrthod fig un o egwyddorion "sylfaenol Cynulleidfaoliaeth, yr hon a ddadsylfaenai y Cyfansoddiad Newydd, ac y safent hyd byth dros gael llywodraethiad Coleg y Bala gan y tanysgrifwyr, ac nid y cyfundebau. Ynycyfwnghwn darllenwyd pellebyr (telegram) a gawsai MrHeber Evansymunud hwnw o'r Bala. Cryn gyffro, a C. R. Jones, Ysw., yn beio Mr Heber Evans. Ebe y Dr. John Thomas, dyna'r pwne- cwynionyrathrawonyn erbyn y Cyfansoddiad Newydd i'w eyflwyno i farn cyflafareddwyr, a'u dedfryd hwy i'w dwynigyfarfod cyffredinol o'r etholaeth. (Cryn gyffro.) Beth fyddai i dri ymneillduo i nodi seiliau (bases) i'r arbitration weithredu arnynt. (Bloeddid Cwynion, cwynion," yn gyffredin.) Cynygiodd y Parch D. Oliver, acheinogodd C. R. Jones, Ysw., Fod tri i ymneillduo y munud hwnw i benodi ar seiliau cyflafaredd- iad. Mr W. J. Parry, Bethesda, a siaradodd yn gryf dros gynygiad y Dr. John Thomas, ac a'i heiliodd ef. Y Parch D. Jones, B.A., Abertawe, a siarad- odd yn erbyn arbitration (o daeth ei eiriau yn eglur i'n clustiau), ac a awyddai am wneuthur pobpeth yn gyfansoddiadol, ond gwell hwyrach fyddai nodi yr adran wrthwynebol o'r athrawon, a gosod hono o flaen cyflafaredd, ac nid yr oil o'r Cyfansoddiad Neivydd. Barnai ac uchel ddadganai Mr Miles, Aber- ystwytb, mai farce i gyd a fyddai y cyflafar- eddiad. (Twrw mawr ac aflonyddwch.) Darllenodd y Dr. Thomas ei gynygiad diwygiedig, sef, Bod y cyfarfod hwn yn baroi i gyflwyno unrhyw adran o'r Cyfansoddiad Newydd i farn cyflafareddwyr, i'w chadarnhau neu ei chyfnewid gan gyfarfod cyhoeddus yr etholaeth. Eiliwyd ef gan Mr W. J. Parry, Drosto, 128; yn ei erbyn, 11. .Wedi clywed canlyniad y pleidleisiau, bloedd- iodd Mr Owen, Liverpool-1he faithful few Wedi dewis yr ymddiriedolwyr o un bwy gilydd, dewiswyd swyddogion. Cynygiodd, y Pajrch Dr. John Thomas, ac eiliodd Herber Evans, Caernarfon, Bod cais taer yn cael ei wneud ar i Mr Stephen aros yn gadeirydd am flwyddyn eto. Cydsyniodd yntau yn llawen ax lion. Cynygiodd Dr. Thomas Rees, a cbefnogodd Mr Roberts, North End, Bod y cyfarfod yn dymuno ar y Parch David Roberts aros yn yr ysgrifenyddiaeth. IBloeddiadaulluosog: Too- old, too old." Yr Ysgrifenydd, yntau a ddywedodd y byddai yn dda ganddo gael help, ond mai ei ddymun- iad penaf oedd cael yrnddiswyddo. Wel, ebe efe, os arosaf, byddaf am gael rhywun i'm helpio. Rbywychydigo'm hamgylch yn dyweyd, Ni fyddai eynyg ysgrifenydd gyda Mr Roberts ddim yn nice ar ol troi Mr Rees o'i swydd. Teimlai Mr Simon Evans awydd rhoddi help i'r ysgrifenydd oherwydd mawredd ei waith. Eiliwyd ef gan Mr Herber Evans. Cynygiwyd fody trysorydd a'r archwilwyr i aros yn eu swyddau yna aed dros enwau yr aelodau Cyfundebol i fod ar y Pwyllgor. Yn awr cododd y Dr. John Thomas ar ei draed er galw sylw y cyfarfod at y cwestiwn mawr a phwysig y daethai y cyfarfodyn nghyd i'w benderfynu, sef Bodiwan. Dylem ddadgan beth yw'n telerau ni yn awr, ebe ef. Mr Herber Evans a ddywedodd ei fod ef yn cynyg rhoddi Bodiwan i gyflafareddiad. Pam na ellir gwneud hyny? Wedi tipyn o ragymadrodd cynygiodd Mr J. W. Jones, Newtown, mai y peth goreu ellid wneud oedd troi yr oil o Fodiwan yn golegdy ar gan lleied o draul ag y gellid, a bod y Parch M. D. Jones i ymadael pan fyddo yn gyfieus iddo, a bod haner can' punt i'w ychwanegu at ei gyflog, fel na cholleder ef ar ei fynediad allan; ar yr un pryd ein bod yn barod i ystyried unrhyw beth a fyddo gan Mr Jones i'w osod ger bron, i'w derfynu gydag ef neu drwy gyflafareddiad. Mr Owens, Lerpwl, a gyoygiai fod rhan o'r cynygiad o "Ar yr un pryd" i'w gadael allan. Herber Evans: Rhowch ddadl Bodiwan yn syml a chyfan i farn cyflafareddwyr. Mr W. J. Parry, Bethesda Llawn ddigon i'r cyflafareddwyr. Gadawer y mater hyd y gwelir sut y try pethau allan. C. R. Jones, Ysw., a awyddai i'r cyfarfod ddeclario beth ddylid wneud o Bodiwan. Os bydd arbitration, bydd hyny yn help Mr Williams, Bethesda, a ddywedodd: Gadewch gwestiwn Bodiwan fel y mae, a'r cyfrifoldeb o ymadael ar Mr M. D. Jones. Ond yr oedd Mr Parry yntau am oedi y peth hyd oni welid beth a wnai'r arbitration a nodwyd eisoes, a chynygiodd welliant," Bod y cyfarfod i adael cwestiwn Bodiwan hyd nes y cIywer result Yl arbitratîon. Y Dr John Thomas a drustiai i arbitration o flaen cyfarfod cyhoeddus. Ystyriai fod cynyg Mr Parry yn dda, ond teimlai ei fod yn rhy liberal. Eiliwyd y cynygiad ganddo. Cynygiodd Mr Oliver, Treffynon, bump o ddynion odu yr etholyddiaeth i nodi bases yr arbitration, sef y Parchn John Thomas, Lerpwl; Herber Evans, Caernarfon; Edward Stephen, Tanymarian; David Roberts, Gwrecsam; Edward Williams, Dinas. Rhaid galw Pwyllgor i ddewis arbitrators, a goreu pa gyn taf ebai Mr Thomas, Liverpool. Cynygiodd C. R. Jones, Ysw., bod y trysorydd i dalu am y ciniaw. Cwestiwn: A'rtehefyd? Ateb: Na, bydd ra.d i bob un daIu am ei de, ond ceir ef yn bar rhad-3c y pen. Cynygiwyd gan y Dr John Thomas, achefn- ogwyd ef gan Mr Owens, Liverpool, fod y cyfarfod yn dymuno ar i waith arferol y Coleg gael ei ddwyn yn mlaen fel arferol. Hefyd cynygiwyd' gan y Parch John Thomas, bod y cyfarfod yn rhoi awdurdod i'r Pwyllgor ddwyn allan yr adroddiad, a bod adran o'r Hen Gyfansoddiad yn cyfeirio at safon derbyniad ymgeiswyr i'w gosod ynddo fel bye -law. Cyfarfod mawr yr Amwythig a fu ac a ddarfu yn wahanol iawn i ddisgwyliad lluaws mawr a ddeethent iddo yn yspryd trahaus, rhwyfus, a gormesol Clymbleidiaetb, yn