Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

O RHYWPAN.

CYMANFA GERDDOROL ANNIBYNWYR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA GERDDOROL ANNIBYN- WYR DYFFRYN TOWY. Cynhelir cyiarfodydd parotoi (rehearsals) i'r Gymanfa uchod yn Providence, Llan- gadock, am 2 a 6, ddydd Mawrth, yr 22ain, cyfisol. Cadeirwyr, Parchn D. M. George, Hermon; a J. Hughes, Llangadock. Dys- j gwylir cymaint ag a ellir o gantorion o bob eglwys trwy y cylch i fod yn bresenol ynddyct i fyned trwy y Rhaglen o dan arweiniad siriol agalluog y Parch Emlyn Jones, Treforis. Bydd y cyfarfod hwn o gynorthwy mawr tuag at gael Cymanfa lwyddianus. Ceir ynddo, at gyfarwyddiadau y Rhaglen, ysbryd ac arddull yr arweinydd, yr hwn ddyga y cantorion ac yntau i ddeall- twriaeth a'u giiydd erbyn dydd yr uchel'wyl. Os yn anghyfleus i'r lluaws fod yn bresenol, gofaled arweinwyr y gwahanol leisiau fod, yna gallant trwy gario adref gmddynt yr ysbryd, yr arddull, a'r cyfarwyddiadau manyhch nn allant gael gan Mr Jones. Nac ymesgusoded neb oddiar y syniad o brysurdeb y tymhor, a hod un waith yn ddigon i fyned adref yn nglyn a'u Cymnnfa Gerddorol. Mae rehearsal's mewn bri mawr mewn cylchoedd Cymanfa- oedd eraill perthynol i'r gwahanol enwadau; ac os am ganu da yn ein Cymanfa ddyfodol ni, cofier yn galonog am y Cyfarfcdyd-d yn Llan- gadock, a deuer iddynt yn Uiosog a siriol. Bydd Pwyllgor rhwng y ddau Gyfarfod, lie y derbynir arian y programmes, a gwneud y trefniadau gofynol ar gyfcr y Gymanfa.—W. Gibbon.

EISTEDDFOD LLANYBYTEER.

LLANELLI.

BETHESDA, ARFON.

BALA.