Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

EGLWYS GYNNULLEIDFAOL GYMREIG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLWYS GYNNULLEIDFAOL GYMREIG QUEEN'S ROAD, MAN- CHESTER. Ffnrfiwydyreglwysa gyferfyddyn Queen's Road, yn Tachwedd 1868. Ar ol ymgynull i addoli mewn ystafelloedd hollol anghyfleus, am dros ddeng mlynedd, cynghorwyd hwy i barotoi Cysegr mwycyfaddas. Wedi llwyddo i ddiogelu lie priodol, adeiladwyd Capel cryf hardd, ac ystafelloedd cyfleus at Ysgol ac odfeuon wythnosol oddidano, am £ 1100. Drwy fod llawer o'r aelodan yn grefftwyr a Hafurwyr, cynorthwyasant i glirio lie y syl- feini, ac amryw orchwylion ereill, yn rhad ac am ddim; ac heblaw y cynorthwyon hyny, cyfranodd yr eglwys, mewn amser o wasg- feuon ac amgylchiadau o gvfyngder, JE250 Y mae dyled o J6850 yn aros, yr hon sydd yn gwasgn yn drwm iawn arnom yn yr adeg gyfyng bresenol. Felly yr ydym, ar ran yr eglwys, yn taer a gostyngedig erfyn am gyd- ymdeimlad a chyrohorth cyfeillion haelfrydig i symud, neu ysgafnhau, y baich trwm sydd yn ein gwasgu i ddigalondid poenus nes bron ein llethu. John Ellis, Hugh Jokes, R Di ld Edwakd Jokes, R. G. Jones, J ^lacomaid- Gorphenaf I5fed, 1878. Fel gweinidogion Oymreig yn Manchester, yr ydym yn hysbys o amgylchiadau y chwaer eghvys yn Queen's Road a dymunwn dystio fod yr Adroddiad blaenorol yn gywir: ac yr ydym yn cymhell eu cais taer am gymorth i sylw ein cyfeiIlion crefyddol. D. John, Booth street, Manchester. RICHARD ROBERTS, Chorlton road, eto. "Y mae y cyfeillion yn Queen's Road yn haeddu cefnogaeth yr Undeb am eu dyfal- barhad yn wyneb anfanteision, a than bwysau baich trwm o ddyled, Hyderir y bydd i haelioni yr eglwysi cryfion yn yr amser a ddaw alluogi yr Undeb i estyn ychydig gymorth iddynt er lleihau y ddyled." Adroddiad Undeb Liverpool a Manchester am 1878. --i- At Eglwysi, imi garedigim, parocl i gynorthwyo Chwaer Eglwys dan wasgfeuon mewn adwy gyfyng. Anwtl Gtfeillion,—Dengys yr apeliad taer uchod fod yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Queen's Road, Manchester, yn gwneuthur egniadau canmolanwy yn ngwyneb llawer o anhawsderau i symud neu ysgafnhau y ddyled sydd yn gwasgu mor drwm arni. Cefais gyfleusderau yn ddiweddar i fod yn dyst o bryder, a ffyddlondeb, a gweithgarwch y cyf- eillion yno, nid yn unig gyda'r gofal pwysfawr yma, ond gyda holl ordmhadau Cristionogaetb; a chydsyniais a'u dymuniad i wneuthar hyny a allwn i gael ychydig o gymorth iddynt oddi- wrth ewyllysiwyr da yn Nghymru. Y mae Cymru, o bryd i bryd, wedi cael cryn lawer o gynortbwyon o Manchester dyma gyfle bychan teg i daln y pwyth yn ol. Os bydd yn eich gallu i roddi, neu i gasglu ychydig er eu cynorthwyo, byddaihynyyn galondid a roddai gycjhwyniad adnewyddol iddynt ar yrfa o ddef- nyddioldeb, mewn eylch pwysig, yn enwedig i feibion a merched ieuainc o Gymru, yn ninas fawr Manchester. Er ei fod yn aberth go drwm i mi, yn fy oed a'm llesgedd presenol, yr wyt yn foddlawn i gysegru ychydig o amser, ac o lafur, ac o avian er eu cynorthwyo; ac yr wyf yn pryderus obeithio cael eich cefnogiad a'ch cymorth. Llafuriais gryn lawer yn ystod y triugain mlynedd diweddaf er symud neu ysgafnhau dyledion addoldai. Dyma, yn bur debyg, fydd fy egniad olaf. Gellwch anfon eich rbodd, nen eich casgliad drwy Post Office Order on Gonway, to Samuel Roberts: a chyd- nabyddir derbyniad eich cymwynas, nid yn unig ar unwaith drwy lythyr, ond mewn modd mwy cyhoeddus. Yr ydys wt;di derbyn rhai rhoddion yn ddiweddar oddiwrth gyfeillion haelionus yn Manchester ac yn Nghymru. Y mae yn galondid mawr fod y brodyr Parchedig o Booth-street a Chorlton-road yn cefnogi yr egniad yma mewn yspnCd mor wresog. Gan bryderus obeithio cael eich cymorth.—Ydwyf, gyda serch, eich hen gyfaill, SAMUEL ROBERTS. Conway, North Wales, Ebrill lleg, 1879. Derbyniwyd a thalwyd genyf yn bared;— Messrs Armitage & Rigby, £3 3s; A Heywood, Ysw, ijl Is; R N Phillips, Ysw, A.S, X5; Dr II Browne, £1 Is; P Spence, Ysw, £ 10; J Rhydwen Jones, Ysw, Rhyl, 10/6; Parch D Roberts, Rhyl, 2/6; Queen street, Rhyl, 12/; Parch Jonah Lloyd, 2/6; R Oldfield, Ysw, 10/6; Parch E Stephen a cliyfeillion Bethlehem. 15/6; Carmel, 16/1; R Hudson, Ysw, X5; Cyfeillion Caernarfon—Parch Herber Evans, 5/; Mrs Evans, 3/; Lady, trwy eto, 5/; Mrs Hughes, .= £ 1; Mr Humphreys, 5/; Parch J A Roberts, 2/6; Mr Frazer, 2/6; Mr W J Williams 2/6; Mr J R Pritchard, 2/6; Mr John Owen, 5/; Mr R Roberts, 2/; Mr E Owen, If; Mr D Harries, 2/; Miss Barma, 2/6; Mr W D Edwards, 2/; Mr Bibby, 2/6; Mr Pugli, 2/6; Capt Owen, 2/6; Mr H Jones, Chester, 2/6; Messrs Williams, Genedl Office 5/; Mr G Thomas, 2/6; loan Arfon, 1 Mr Row- lands, 1/; Casgliad, 13/; Cyfeillion Menai Bridge, 12/7; Llanfair P G, 6/; Cyfeillion Pentrefoelas, £1 2s Ie; Mr J Davies, Gilfach, 4/; S Morley, Ysw, A.S, =Sld; Mr Joseph Evans, Oswestry, 10/; Cy- feillion Hermon, Oswestry, XI; Parch W Griffith, Caergybi, 10/; Cyfeillion Hen Dabernacl X2 2s lie; Tabernacl Newydd, eto (ail rodd), £1; D Owen, Ysw, Conwy, 10/6; Parch J R, 5/; Cyfeillion Conwy, 10/; Parch J A Davies a chyfeillion Llan- ddulas, 8/6; Bettws, Abergele, 2/4; S a J Watts, Ysw, zel Is. Hyderwn y bydd genym ychwanegiadau at y rhoddion caredig hyn i'\? cyhoeddi yn y dyfodol.

LLANDDERFEL.

PENCLAWDD.

FFESTINIOG.