Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
EGLWYS GYNNULLEIDFAOL GYMREIG…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EGLWYS GYNNULLEIDFAOL GYMREIG QUEEN'S ROAD, MAN- CHESTER. Ffnrfiwydyreglwysa gyferfyddyn Queen's Road, yn Tachwedd 1868. Ar ol ymgynull i addoli mewn ystafelloedd hollol anghyfleus, am dros ddeng mlynedd, cynghorwyd hwy i barotoi Cysegr mwycyfaddas. Wedi llwyddo i ddiogelu lie priodol, adeiladwyd Capel cryf hardd, ac ystafelloedd cyfleus at Ysgol ac odfeuon wythnosol oddidano, am £ 1100. Drwy fod llawer o'r aelodan yn grefftwyr a Hafurwyr, cynorthwyasant i glirio lie y syl- feini, ac amryw orchwylion ereill, yn rhad ac am ddim; ac heblaw y cynorthwyon hyny, cyfranodd yr eglwys, mewn amser o wasg- feuon ac amgylchiadau o gvfyngder, JE250 Y mae dyled o J6850 yn aros, yr hon sydd yn gwasgn yn drwm iawn arnom yn yr adeg gyfyng bresenol. Felly yr ydym, ar ran yr eglwys, yn taer a gostyngedig erfyn am gyd- ymdeimlad a chyrohorth cyfeillion haelfrydig i symud, neu ysgafnhau, y baich trwm sydd yn ein gwasgu i ddigalondid poenus nes bron ein llethu. John Ellis, Hugh Jokes, R Di ld Edwakd Jokes, R. G. Jones, J ^lacomaid- Gorphenaf I5fed, 1878. Fel gweinidogion Oymreig yn Manchester, yr ydym yn hysbys o amgylchiadau y chwaer eghvys yn Queen's Road a dymunwn dystio fod yr Adroddiad blaenorol yn gywir: ac yr ydym yn cymhell eu cais taer am gymorth i sylw ein cyfeiIlion crefyddol. D. John, Booth street, Manchester. RICHARD ROBERTS, Chorlton road, eto. "Y mae y cyfeillion yn Queen's Road yn haeddu cefnogaeth yr Undeb am eu dyfal- barhad yn wyneb anfanteision, a than bwysau baich trwm o ddyled, Hyderir y bydd i haelioni yr eglwysi cryfion yn yr amser a ddaw alluogi yr Undeb i estyn ychydig gymorth iddynt er lleihau y ddyled." Adroddiad Undeb Liverpool a Manchester am 1878. --i- At Eglwysi, imi garedigim, parocl i gynorthwyo Chwaer Eglwys dan wasgfeuon mewn adwy gyfyng. Anwtl Gtfeillion,—Dengys yr apeliad taer uchod fod yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Queen's Road, Manchester, yn gwneuthur egniadau canmolanwy yn ngwyneb llawer o anhawsderau i symud neu ysgafnhau y ddyled sydd yn gwasgu mor drwm arni. Cefais gyfleusderau yn ddiweddar i fod yn dyst o bryder, a ffyddlondeb, a gweithgarwch y cyf- eillion yno, nid yn unig gyda'r gofal pwysfawr yma, ond gyda holl ordmhadau Cristionogaetb; a chydsyniais a'u dymuniad i wneuthar hyny a allwn i gael ychydig o gymorth iddynt oddi- wrth ewyllysiwyr da yn Nghymru. Y mae Cymru, o bryd i bryd, wedi cael cryn lawer o gynortbwyon o Manchester dyma gyfle bychan teg i daln y pwyth yn ol. Os bydd yn eich gallu i roddi, neu i gasglu ychydig er eu cynorthwyo, byddaihynyyn galondid a roddai gycjhwyniad adnewyddol iddynt ar yrfa o ddef- nyddioldeb, mewn eylch pwysig, yn enwedig i feibion a merched ieuainc o Gymru, yn ninas fawr Manchester. Er ei fod yn aberth go drwm i mi, yn fy oed a'm llesgedd presenol, yr wyt yn foddlawn i gysegru ychydig o amser, ac o lafur, ac o avian er eu cynorthwyo; ac yr wyf yn pryderus obeithio cael eich cefnogiad a'ch cymorth. Llafuriais gryn lawer yn ystod y triugain mlynedd diweddaf er symud neu ysgafnhau dyledion addoldai. Dyma, yn bur debyg, fydd fy egniad olaf. Gellwch anfon eich rbodd, nen eich casgliad drwy Post Office Order on Gonway, to Samuel Roberts: a chyd- nabyddir derbyniad eich cymwynas, nid yn unig ar unwaith drwy lythyr, ond mewn modd mwy cyhoeddus. Yr ydys wt;di derbyn rhai rhoddion yn ddiweddar oddiwrth gyfeillion haelionus yn Manchester ac yn Nghymru. Y mae yn galondid mawr fod y brodyr Parchedig o Booth-street a Chorlton-road yn cefnogi yr egniad yma mewn yspnCd mor wresog. Gan bryderus obeithio cael eich cymorth.—Ydwyf, gyda serch, eich hen gyfaill, SAMUEL ROBERTS. Conway, North Wales, Ebrill lleg, 1879. Derbyniwyd a thalwyd genyf yn bared;— Messrs Armitage & Rigby, £3 3s; A Heywood, Ysw, ijl Is; R N Phillips, Ysw, A.S, X5; Dr II Browne, £1 Is; P Spence, Ysw, £ 10; J Rhydwen Jones, Ysw, Rhyl, 10/6; Parch D Roberts, Rhyl, 2/6; Queen street, Rhyl, 12/; Parch Jonah Lloyd, 2/6; R Oldfield, Ysw, 10/6; Parch E Stephen a cliyfeillion Bethlehem. 15/6; Carmel, 16/1; R Hudson, Ysw, X5; Cyfeillion Caernarfon—Parch Herber Evans, 5/; Mrs Evans, 3/; Lady, trwy eto, 5/; Mrs Hughes, .= £ 1; Mr Humphreys, 5/; Parch J A Roberts, 2/6; Mr Frazer, 2/6; Mr W J Williams 2/6; Mr J R Pritchard, 2/6; Mr John Owen, 5/; Mr R Roberts, 2/; Mr E Owen, If; Mr D Harries, 2/; Miss Barma, 2/6; Mr W D Edwards, 2/; Mr Bibby, 2/6; Mr Pugli, 2/6; Capt Owen, 2/6; Mr H Jones, Chester, 2/6; Messrs Williams, Genedl Office 5/; Mr G Thomas, 2/6; loan Arfon, 1 Mr Row- lands, 1/; Casgliad, 13/; Cyfeillion Menai Bridge, 12/7; Llanfair P G, 6/; Cyfeillion Pentrefoelas, £1 2s Ie; Mr J Davies, Gilfach, 4/; S Morley, Ysw, A.S, =Sld; Mr Joseph Evans, Oswestry, 10/; Cy- feillion Hermon, Oswestry, XI; Parch W Griffith, Caergybi, 10/; Cyfeillion Hen Dabernacl X2 2s lie; Tabernacl Newydd, eto (ail rodd), £1; D Owen, Ysw, Conwy, 10/6; Parch J R, 5/; Cyfeillion Conwy, 10/; Parch J A Davies a chyfeillion Llan- ddulas, 8/6; Bettws, Abergele, 2/4; S a J Watts, Ysw, zel Is. Hyderwn y bydd genym ychwanegiadau at y rhoddion caredig hyn i'\? cyhoeddi yn y dyfodol.
LLANDDERFEL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANDDERFEL. Ddydd Gwener y Groglitb, yn y He uchod, cynhaliwyd dau Gyfarfod Llenyddol. Y cyn'af am haner awr wedi un, a'r Hall am haner awr wedi pump. Llywyddwyd yn fedrus gan David Jones, Ysw., St. James Road, Liverpool; a beirniadwyd y cantorion gan Mr D. Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth, a gwnaeth ei waith yn gampus, gyda y medrusrwydd mwyaf. Ni wnaf drespasu ar eich gofod i roddi dim o banes y Gyfarfod, heblaw dweyd fod yma lawer iawn o bobl wedi dod o bell ac agós, Y capel cang yn fwy na llawn braidd. Daeth yma gor lliosog o blant o Liverpool, dan arweiniad Mr T. Jones, Wellington Road, i wasanaethu yn y cyfarfod, a buont yn fuddugol ar un o'r tostynau. Enillwyd y brif wobr gerddorol gan Gor Glyndyfrdwy, dan arweiniad Mr Williams, yr ysgolfeistr. Ni chawsant, medd y beirniad, ond prin enill, fel mor agos yr oedd y ddau gor arall iddynt, sefcor Llan- dderfel, o dan arweiniad Mr Jones, yr ysgol- feistr; a chor arall o Glyndyfrdyvy, o dan arweiniad Mr T. Davies, Ty'rcapel, yr hwn gor oedd wedi bod yn fuddugol mewn cys- ladlouaeth yn y cyfarfod cyntaf. Y dernyn cystadleuol oedd Cyfoded Duw," o Arch y Cyfamod," gan Mr Jenkins. Rhoddodd gan- moliaeth mawr i'r tri ch6r am ei gann, gan ddweyd eu diffygion, a'n rhigoriaelhau, yr hyn sydd yn fantais fawr iddynt, yn mha fan by nag y byddant yn eu. canu hwy nesaf. Gyda'ch cenad chwi, Mr Gol., cawn ddweyd gair ar y cyfarfod hwn eto yn rhai o rifynau dyfodol y CELT.-Go"lwbydd..
PENCLAWDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENCLAWDD. Pentref prydferth yw y lie uchod, yn cael ei gysgodi rhag gwynt crasboeth y Gorllewin gan greigiau sethrog. Y mae yn gorwedd ar lan yr afon Llwchwr, ac y mae yr olygfa oddiar ben y creigiau hyn yn yr haf, pad fyddo nlltur yn gwisgo y He a choron o flodau yn hyfryd a gogoneddus; saif tua naw milldir i'r de-ogleddol l Abertawe; ac oddiar ben y creigiau hyn, gellir syllu ar lanw'r m6r yn llifo i fewn heibio i odrau y ereigiau* gan boeri yn haerllug yn ei gwyheb. GeHir canfod befyd y llongau llwythog yn hwylio o flaen yr awelon i fewn ac allan o borthladdoedd Penbrey a Llanelli, gannoflo yn nwyfus dros y tonau brigwyn.—Yn mis Mawrth, 1878, sefydlwyd Temlyddioeth Dda yn y lie uchod. Ymunodd pedwar-ar-byratheg I'r Demi; ond y mae erbyn hyn wedi cynyddu i-gant a haner, a chynyddu y mae o hyd; cynydded eto, a bydded iddi fod o dan fendith Duw i ddwyn rbyw luoedd eto o feddwon yr ardal i feusydd iachus sobrwydd. Nos Sadwrn, y 15od o Fawrtb, rhoddodd y Deml hon y turn out" cyntaf; daethpwyd ynghyd i Vestry-room Bethel, ac oddi yno cychwynasom yn fyddin gref o amgylch yr ardal. Canasom lawer o'r emynau sydd yn y cyfansoddiad ar ein taith o Bethel i'r Trinity, 11ey cynaliwyd yr optn Lodge genym; ac erbyn cyraedd yno, yr oedd y He wedi ei orlenwi gan wrandawyr. Aetbpwyd trwy y gwaith yn ganmolad-wy, y emu a'r adrodd yn dda. Cadeiriwyd y Parch D. Williams, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calflnaidd yn y He. Cafwydaraeth ardderchog gauly T.B. Demlydd Phillip Jones, a chafwyd araetb i bwrpas gan y Cadeirydl Cyfan- soddodd y bardd talentog D. Khidian Recfl bennillion ar ei dydd pen blwydd. Dylaswn fod wedi crybwyll mai Gwenynen Browjr yw enw y Demi, ac mai ar t 15ed o Fawrth yr oedd yn cael ei dydd pen blwydd. Ymadawsom am ddeg or gloch, a thystiolaeth pawb a fu yno oedd ei fod yn gyfsrfod da, yr hyn oedd yn glod i'r Temlwyr DaMai fab.
FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFESTINIOG. Damwain.—Cyfarfyddodd Samuel Jones, Diphwys Terrace, a damwain ar y 7fed cyfisol, yn chwarel y Welsh Slate, trwy i glap oddi- wrth ffrwydriad twll ei niweidio yn lied drwm yn ei wyneb. Clywaom fod eraill wedi cael gwaredigaeth gyfyng. Daeargryn.—Ychydig wedi wyth o'r gloch nos Fawrth, yr 8fed cyfisol, cynhyrfwyd trig- olion y rhanbarth yma o'r wlad gan ddaear- gryn. Yr oedd ei swn fel rhuad taran tan- ddaearol. Parhaodd yr ysgydwad am tua naw eiliad. Yn fuan ar ol i'r swn, osteu, gwelem bobl yn ymgasglu at eu gilydd, rhai yma, a rhai i gornel arall o barthed i'r cyn- hyrfiad daergrynfaol. Dadleua rhai ohonynt mai pedair blynedd ar hugain i ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf y bu daeargryn o'r blaen. Ond dywedir fod hono yn llawer mwy effeithiol na'r un bresenol. I Y Ddarllenfa.—Ymgyfarfyddodd Pwyllgor y Ddarllenfa ar ddiwedd y Chwarter, nos Fawrth, yr 8fed cyfisol, o dan lywyddiaeth y Parch J. Davies, St. David's. Yn ygtod y Cyfarfod darllenwyd lljtbyr oddiwrth Mr Branton, Maenofferen Slate Quarry. Yn ei lythyr datganai ei barodrwydd o anrhegu darllenwyr y Ddarllenfa a nifer o lyfrau tra gwerthfawr yh yr Iaith Saesneg. Cyfarfod Pregethu y Methodistiaid Calfiw aidd.—Cynhaliwj'd et' y Pas', yn Peniel, Bethesda, a'r Tabernacl. Gwasanaethwyd eleni gan y gweinidogion canlynolParchn J. Williams, Bangor D. Saunders, Abertawe; J. M. Jones, Cae'rdydd; D. Phillips, Aber. tawe G. Parry, Aberystwyth; D. Roberts, Mon; a J, Hughos, D.D., Liverpool. Cafwyd cynnulliadau lllosog, a gobeithio y bydd i'r Cyfarfod hwn fod o les mawr i Seion, ac i gael gwraudawyr i ystyriedjeu diwsdd. Nid ydym yn gwybydd gwelederioedgymaint orew ac eira y Pasg ag a gafvvyd yn y diwetldal; ond er yr oil aeth llu mawr o'r Ffestinogiaid o'r gytnydogaeth i whhanol fanau. — Trebor Manod. Manod.