Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
ADRODDIAD 0 ARHOLIAD BLYNYDDOL…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
ADRODDIAD 0 ARHOLIAD BLYNYDDOL ATHROFA ANNIBYNOL Y BALA. Rhanwyd y gwobrwyon i'r goreu a'r ail oreu yn mhob dosbarth dydd Iau, Ebrill lOfed, yn mhres- enoldeb yr athrawon a'r myfyrwyr. Cafodd y myfyrwyr canlynol eu gwobrwyo:— DOSBARTH 1. DOSBARTH III. 1 Thomas Thomas Iff, E. Evans 2 D. Davies 2 J. M. Rees DOSBARTH II. DOSBARTH IV. 1 J. J. Jones 1 W. E. Hughes 2 W. Evans 2 J. E. Thomas SECOND CLASS. Latin de Seneotute. German, J.J. Jones W. Evans Thomas Thoma* J.J.Jones W. Evans Nat. Philosophy. C. Samson W. Evans Latin Prose. J. J. Jones J. J. Jones Chemistry. W. Evans J. J. Jones Greek Anabasis, Book III W. Evans J. J. Jones Eng. History. W. Evans W. Evans T. Thomas J. J. Jones C. Samson W E. Hughes Algebra, 2nd Class J. M. Rees J. J. Jones Eng. Language, W. Evans J. J. Jones W. Evans THIRD CLASS. Eng. Language. Ceesar. J J. M. Rees W.E.Evans IW. E. Evans ( J. M. Rees ("W. Davies 1 W. H, Rees W. H. Rees J. D. Rees C. Samson W. Davies J. D. Rees Algebra, 3rd Class. Chemistry, Third Class f W. Davies J. M. Rees 1 C. Samson t W. E. Evans W. E. Evans | W. H. Rees W. H. Rees W. Davies J. D. Rees Euclid, Book III. John's Gospel. fJ.M.Rees fW. E.Evans (_ J. D. Rees ( C. Samson W. E. Evans J. M. Rees C. Samson W. H. Rees Euclid, Book II. W. Davies W. Davies J. D. Rees W. H. Rees SENIOR CLASS. Butler's Analogy, R. Morris Henry Thomas Thomas Williams Henry Evans John Thomas Henry Evans John Thomas fW. E.Jones Greek Testament—Luke ( D. Davies Thomas Thomas R. Moms D. G. Evans E. Davies ( D. Davies D. G. Evans Henry Evans ( Thomas Williams H. P. Jenkins f H. P. Jenkins f R. Morris J. M. Henry { J. M. Henry John Thomas Thomas Williams Logic. ( W. E. Jones D. Davies E. Davies J. M. Henry Bain's Mental Philo- Thomas Williams sophy. R. Morris ( D. Davies D. G. Evans ( D. G. Evans E. Davies H. P. Jenkins f W, E. Jones E. Davies |H. P. Jenkins f J. M Henry Henry Evans ( Thomas Williams Moral Philosophy. (Henry Evans Thomas Thomas ■] R. Morris John Thomas (W. E. Jones Ecclesiasiical History. Hebrew. John Thomas R. Morris Hodge's Theology. r D. Davies f D. Davies I D G. Evans ( Thomas Thomas 1 J. M. Henry Henry Evans E. Davies D. G. Evans W. E. Jones f, fE. Davies H. P. Jenkins (H.P.Jenkins Henry Evans W. E. Jones Thomas Williams J, M. Henry JUNIOR CLASS. English Grammar. (J. Evans W. E Hughes (J. Morris W. R. Edwards H. S. Jones J. E. Thomas D. G. Jones John Williams J. S. Evans H. Edwards J. P. Davies J. Thomas Junior Latin. W. R. Edwards W. E. Hughes J. Evans f J. E. Thomas D. G. Jones { W. R. Edwards f J. Morris H. Edwards { J. S. Evans (J. Williams H. S. Jones 1 J Morris Euclid, Junior. J. Evans W. E. Hughes J. P. Davies (J. E. Thomas D.G.Jones {J. Williams J. S. Evans H Edwards II. S, Jones J. Morris Greek Grammar and J. P. Davies Delectus. f J. Evans H.Edwards J. S. Evans W. E. Hughes D. G. Jones f J. Williams H. S. Jones J. E. Thomas
MARWOLAETH MR. MACGAHAN, GOHEBYDD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH MR. MACGAHAN, GOHEBYDD Y C DAILY NEWS YN CAERCYSTENYN. Ganwyd efyn Ohio, America, yn 1845. Dechreuodd ei waith fel gohebydd yn ys- tod rhyfel waedlyd rhwng Ffraine a Ger- mani, pan ddanfonwyd ef i Ffraine yn ohebydd i'r New York Herald.' Llwydd- odd i fyned i mewn i Paris yn ystod y gwarcheuad. Cymerwyd ef yn garcharor ar un adeg, a bu ei fywyd mewn perygl. Ar derfyniad y rhyfel, aeth i St. Peters- burgh yn ohebydd i'r un newyddiadur, lIe dysgodd yr iaith hono.ac y gwnaeth lawer o gyfeillion, yn mhlith swyddogion mil- wrol Rwsia. Cymerodd daith anturiaeth- us oddiyno i Khiva, pan oedd presenoldeb gohebwyr yn cael ei wahardd, ac yn wir presenoldeb unrhyw estron ond croes- odd yr anialwch heb gael ei rwystro gan neb, a chyrkaeddodd Khiva erbyn fod y tanboleniad yn dechreu. Yma daeth i adnabyddiaeth a'r cadfridog enwog Sko- beloff, a llawer o gadfridegion. ereill, a gwnaeth ei enw yn adnabyddus mewn llenyddiaeth trwy ysgrifenu hanes y daith hono mor ardderchog yn y Ilyfr a elwir Campaigne on the Oxus." Wedi hyny bu yn "ohebydd i'r un papur yn Yspaen gyda staff Don Carlos, trwy y rhyfel Carl- ostaidd. A.r ol ei ddychweliad o Spaen, gofynwyd iddo ddilyn y Cadben Allen Young, 'Pandora,' ar ei mordaith antur- iaethus i'r Mor Gogleddol, a chynwysa ei waith, Under the Northern Lights," ddesgrifiad ardderchog o'r fordaith hono. Ar ei ddychweliad daeth i gysylltiad a'r 'London Daily News,' fel gohebydd neill- duol yn Caercystenyn. Yn Ngwanwyn 1876 cyhoeddwyd llythymu gan ohebydd y I London Daily News yn Cacrcysten- yn, yn galw sylw Ewrop at greulonderau Bulgaria, a chymerwyd y pwnc i fyity yn. ySenedd. A chan fod tuedd amheu'r ffeithiau yn Disraeli, penderfynwyd ar gynllun i hyofi gwirionedd y ffeithiau. Ac am fod Mr Macgahan yn ohebydd neill- duol i'r < London Daily News,' yn y Dwyrain ar y pryd y gofynwyd iddo ym- gymeryd a'r archwiliad i'r ffeithiau cyhoeddedig. Ymgymerodd a'r gorchwyl ar unwaith, ac ymwelodd a'r wlad anrhaithiedig. Ar yr un pryd penodwyd ar Mr Schuyler, gan yr Americaniaid, i'r un gorchwyl, ac aethant eill daii all. n, yr un amser. Wrth deithio drwy'r manau a anrheithiwyd, nid yn unig gwelodd gadarhhad i'r banes yn y pentrefi llosg- edig, a'r maesydd yd a ddistrywiwyd; ond derbyniodd dystiolaethau. y brodor- ion eu hunain am yr amgylchiadau a chan ei fod yn gyfarwydd a ieithoedd DW3 reiniol Ewrop, yr oedd yn alluog i gymharu'r ffeithiau, ac fel hyny gael allan y gwirionedd mewn cysylltiad a chodiad y gwrthryfel, a'r mesmau anifeilaidd fabwysiadwyd i roddi terfyn at no. Mewn canlyniad i'w ymchwiliad cyhoeddodd restr o lythymu yn y London Daily News;' a diau na chyhoeddwyd eu eyffelyb fel desgrifladau o olygfeydd, ac fel poitreadan o bersonau. Bwriadwyd ganddo ysgrifenu llyfr yn dair o gyfrolau ar y Cwestiwn Dwyrein- iol. Y gyfrol gyntaf i gynwys adolygiad ar y Cwestiwn o'r dechreuad hyd at y creulonderau. Yr ail gyfrol i gynwys many lion y eieulonderau, yn nghyda'r achosion a'r drydedd i gynwys hanes y Rhyfel. Cyhoeddwyd yn y 4 London Daily News' lythyr toddedig iawn ar ei farwolaeth gan ei gjdymaith enwog Archibald Forbes. Heddwch i'w Iwch ar ol Oes fer o lafur mawr. Ferndaie. MOIIGAS THOMAS.
AT OLYGYDD Y ' CELT.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT OLYGYDD Y CELT.' A fyddwch chwi mor garcnlig a. chaniatau lie bach o'ch newyddiadur i mi er rhoddi y tri gofyn- iad canlynol i Dr. Thomas :— 1. A ydych yn coflo y sylwadau a wnaethoch ar y mantais fyddai i Goleg Aberhonddu gael tai i'r athrawon, a'r rhai hyny wedi eu dodrefnu i fyw ynddynt. 2. Gan fod y ddau Goleg yn perthyn i'r un enwad, ac yn cael eu cynal gan yr eglwysi, pam na fyddai yr un peth yn fanteisiol i athrawon,Coleg y Bala. 3. Pwy a ddarfu eich hysbysu chwi fod yr eglwysi yn foddlon i roddi X,50 o'u harian bob blwyddyn i Mr Jones am fyned i fyw o'r Coleg. Dylai pob Dr. wrth roddi eu eyffuriau deimlo curiad eu cnawd. Y mae yr eglwys yr ydwyf fi yn perthyn iddi yn gwneud llawer mwy o gasgliad i'r Bala nag Aberhonddu, gan deimlo fod y Bala yn cael cam. DIACON O'P. SOUTH.
CANA, LLANDDANIELFAB, MON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CANA, LLANDDANIELFAB, MON. Cynhelir Cyfarfod Urddiad Mr D. S. Jones, o Athrofa Annibynol y Bala, yn y lie uchod, dydd- iau Llun a Mawrth, Mai 5ed a'r 6ed, Cynhes wahoddir holl Weinidogion y Cyfundeb, a phawb a allant roddi eu presenoldeb ar yr achlysur. WILLIAM WILLIAMS, Ysg.
Y GYMANFA DDE-ORLLEWINOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GYMANFA DDE-ORLLEWINOL. Cynhelir hon eleni yn Solfach, Penfro, ar y dyddiau Mawrth, Mercher, a Iau, Mehefin 3ydd, 4ydd, a'r 5ed. Pregethir Nos Fawrth. Cyn. hadledd am 10 dydd Mercher, a phregethu am 2 a 6. Pregethu dydd lau am 7,10, 2, a 6, Bydd cerbydao yn Haverfordwest yn cyfarfod y tren prydnawn dydd Mawrth am na bydd yno drep boreu dydd Mercher yn ddigon cynar ar gyfer' y Gynhadledd. Gwahoddir yn daer a chalonog holl frodyr cylch y Gymanfa, ac eraill fyddo cyfleus. Erfyniwn ar bawb fwriadant ddyfod ein hysbysu cyn yr 20fed o Fai, y ffordd a'r amser y deuant. Nid ydym yn addaw dar- paru cludiad na llety ar gyfer neb a wna hyn. Dros yr eglwys, J. G. THOMAS.
CERDDOiilAETH,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CERDDOiilAETH, Cyhoeddedig gan D. L. JONES (Cynalaw), Briton Ferry, Glamorgansmre. CANIEDYDD Y PLANT yn cynwys Tonau Ne. wyddion at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol a Chorau Plant, pris 4c. Gan JAMES PSTEKS (Alan Alaw). "LLAWENTDD Y GWANWYN:" Rhan-Gan i T. B. B. Pris 4c.; Tonic Sol-ft'a, 2g. Gan W. A. WILLIAMS (Gwilym Gwent), America. Mae y demyn newydd hwn yn un rhagorol iawn at was. anaetli Cyngherddau ac Esteddfodau. CYMRU, GWLAD EIN TADAU: Can a Chydgan, yn y ddau nodiant, pris 6c. Gan D. L. JONES (Cynalaw). Gyda geiriau Cymraeg a Saesonaeg gan CREIDIOL. Derbynia y Gan hon ganmoliaeth uchaf ein prif gerddorion. Llyfr Newydd, pris Swllt, Y FFRABTHEBYDD, neu Gymhorth i Chwerthin, sef Casgliad o Ffraethebau ac Ystoriau Difyrus, wedi eu Casglu, eu Dethol, a'u Cyfiyithu gan D. I J ONES (Cynalaw).