Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR LLUNDAIN. Ebrill 21 am, 1879. Mewn cyfarfod a gynaliwyd nos Fawrth diweddaf, yn King's College, gan gymdeithas a elwir y Statistical' Society, darllenwyd papyr dyddorol iawn gan Mr E. G. Ravensteiv, F.R.G S., ar "Nifer a Dosbarthiad Daearyddol Poblogaeth Geltaidd yr Ynysoedd Prydeinig," sef y bobl sydd ya'jsiaradyx ieithoedd Celtaidd. Y cadeirydd oedd Syr R.W. Rawson, is-Iywydd y gymdeithas. Dywedai Mr Ravenstein taw ychydig iawn o siroedd oedd yn yr Iwerddon yn 1851, He yr oedd yr hen iaith Wyddelig el wedi marw. Ar hyn o bryd, mewn rhandir- oedd angbysbell a theoeu o boblogaeth yn unig y mae mwyafrif y trigolion yn siarad y 11 y Z, Wyddelaeg. Yn 1851, yr oedd y rhandiroedd hyn yn ffurfio 9,325 o filldiroedd ysgwar, gyda 1,328,938 o drigolion. oba rai yr oedd 920,856, neu 69'3 y cant yn siarad y Wyddelaeg. Yn 1871, nid oeld arwynebedd y rbandir ond 5,293 o filldiroedd ysgwar, (mae Cymru yn agos i 8,000 o filldiroedd ysgwar) gyda phoblogaeth o 545,658, o ba rai nid oedd ond 343,297, neu 62 9 y cant yn siarad y Wyddelaeg yn unig. Digon tebyg nad oes 5,005 o bobl yn yr Iwerddon yn alluog i ddarllen llyfr Gwy- ddelaeg, acnid oes cymaint ag unncwyddiadur yn cael ei gyhoeddi yn y Wyddelaeg.. Yr oedd Commissioners Addysg Geiiediaethol, pa fodd bynag, wedi cytuno it chais y Gymdeithas sydd wedi d ffurfio er cadw yn fyw y Wyddelaeg, i roddi y Wyddelaeg at yr un tir a Groeg a Vadin yn yr Ysgolion Cenedlaethol. Mae y Commissioners hyn yr un peth yn yr Iwerddon ag yw Ii My Lords" o'r Education Department yn Lloegr a Chymru. Yn Ynys Manaw (Isle of Man) mae yn awr 25*6 y cant o'r boblogaeth yn deall y Manaeg (Manx). Nid oes ond prin 9 y cant o boll boblogaeth yr Alban (Scotland) yn deall y Gaelaeg, ac y mae 4 o bob 50'1' rhai hyn yn wasgaredig dros arwynebedd eang,—agos i haner y whid He y maent yn ffurfio y mwyafrif o'r boblogaeth C, Ya nghonglau pellaf yr Ucbeldiroedd, ac yn Ynysoedd yr Hebrides y mae y Gaelaeg yn dal- ei thir. Ond o'r boll getiedloedd Celtaidd yn y Deyrnas Gyfunol, y Cymru yw. y mwyaf pwysig; ac yn ngbadwedigaeth en hiaith yr oeddent wedi dangos llawer inwy o fywyd nag unrhyw genedl arall. A chyfrif rhyw 60,000 o Gymy ya Lloegr (llawer liai na'u nifer) yr oedd yn Mhrydain Fawr yn awr dros filiwn (1,006,100) o bobl yn siarad Cymraeg. Yr oedd rhun Seisnig Fflint yn cynwys 18,111 o drigolion, tra yr oedd y rhan Gymreig yn cyn- wys poblogaetb o 58,201, o ba rai yr oedd 90-3 y cant yn siarad Cymraeg. Y mae sir Ddinbych, gyda'r eithriad o randir fechan oddeufu Gwrecsam, yn hollol Gymreig. M6n, Arfon, a Meirionydd yr un fath. Yn Maldwyn mae y Gymraeg yn colli tir. Y mae rhandir fechan o Orllewinbarth sir Amwythig yn Gymreig. Y mae Maesyfed agos oil yn Seisnig, a rhan o Brycheiniog. Ceredigion a Gogleddbarth Penfroyn hollol Gymreig. Deheubarth Penfro yn Seisnig. Caeriyrddin sgos oil yn Gymreig, ac yn Morganwg, er fod efailai fwy o'r trigolion yn deall Saesonaeg nag eiddo unrhyw sir arall ya Nghyraru, eto prif iaith y gwasanaeth erefyddol yw y Gymraeg. Yn Mynwy y Sae-sonacg ydyw iaith mwyafrif y trigolion; ond y mae rhan o Orllewinbarth y sir yn Gymreig. Nifer y bcb!ogaeth sydd yn awr yn y Deyrnas Gyfunol yn siarad iaith Geltaidd yw:-y Wyddelaeg, 867,600 y Manaeg, 12,500; y Gaelaeg, 309,250; a'r Gymraeg, 1,006,100 cyfanswm, 2,195,450, neu yn agos i 7 y cant boll boblogaetb yr Ynysoedd Pry- deinig. Wrth ddiweddu, dywedai Mr Raven- stein ei fod yn gryf o'r farn, fo I gan blant y bobl sydd heb tod yn deall Saesonaeg hawl deg i gael eu baddysgu yn yr unig iaith maent 11 yn ddeall. Siaradwyd hefyd ar yr un pwnc gan Dr. Hancock, Dr. C. E. Saunders, Proff. levons, a'r Meistri H. Paull, C. Walford, a J. W. Hancock; ac ar ol i Mr Ravenstein ateb gwrthddiidleuon, terfynwyd y cyfarfod. Byddai yn dda iawn genyf weled meddyliau rhai o ysgolfeistri Cymru ar y pwnc uchod yn ysgrifenedig ar dudaienau y CELT. Da frodyr, dywedwch eich bim. A ddylai y Llywodraeth roddi y Gymraeg yn y Code yn mysg yr extra neu y special subjects ? Fel y gwyddoch, mae mwyafrif y plant yn ymadael o'r ysgolion cyn pasio Standard 4. A fedrwch chwi ddysgu plentyn Cymreig o Standard 3 i osod allan ei feddwl ar bapyr yn yr iaith Seisnig? Byddai yn rinvydd iawn ei ddysgu i wneud hyny yn y Gymraeg. Beth ddywedwch chwi, frodyr? Y mae y pwnc yn un pwysig iawn i'n cenedl. Traethwch eich lien. Mae brwydr arall wedi cael ei hymladd yn Zulu. Wrth reswm, yr oedd "colledion y Zuluiaid yn arswydus o fawr," yn ol adrodd- iadau gohebwyr papyrau Lloegr; ond lladdwyd 80 o'r Prydeiniaid, ac yn eu mysg fab i Ar- giwydd Cawdor. Mae ein Seneddwyr wedi cyfarfodeto ar ol y Gwyliau end ychydig o honynt ddaeth yn ngbyd. Bu dadl nos Wener yn nghylch y ffin rhwng Groeg a Thwrci, a bu agos i'r Llyw- odraeth gael ei gorchfygu. « A Un o'r ergydion trymaf dderbyniodd y Tori- aid yr wythnos ddiweddaf oedd ymneillduad Arglwydd Derby o Gymdeithas Geidwadol v —— 1—; Swydd Lancaster. Y mae yn ffaith erbyn hyn ei fod wedi llwyr wrthgilio oddiwrth y Tori- aid, a digon tebyg y bydd yn llenwi rhyw r, y swydd bwysig yn y Weinyddiaeth Ryddfrydig nesaf. # Prydnawn dydd Iau diweddaf, ymgynullod4 milcedd o fenywod sydd yn gweithio dillad i'r milwyr, i'r buarth o flaen y fynedfa i Dy y Cyffredin, i wrthdystio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn gostwng eucyflogau o dri swllt-ar-ddeg i ddeg swllt yr wythnos. Ni fu yno unrbyw derfysg. GOIIEBVPD.

CYNRYCHIOLAETH CEREDIGION.…

LLANGEFNI, MON.

LLANFAIR CLYDOGAU.