Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU GAN Y GOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU GAN Y GOL. LLID YR HERALD AT Y 'GELT.'—Y mae yn hysbys i ddarllenwyr yr 'Herald' ei fod, bron bob wythnos, yn ceisio camliwio y CELT, ac enllibio rhywrai o'i gefnogwyr. Boed hysbys i frawdoliaeth y CJELT, ac i'r wlad oil, na chychwynodd y CELT, erioed unrhyw ymosodiad ar neb o frawdoliaeth yr 'Herald;' felly gwel pob darllenydd di- ragfarn ei bod yn deg i'r CELT weithiau ddweyd gair mewn hunan-amddiffyniad, Un o'r "pethau am bersonau," gan yr 'Herald,' wrth gychwyn ei daith fawr; Ebrill 9fed, ydyw yr hyspysiad canlynol: —"Y mae newyddiadur. Cymreig hynod am ei annibynolrwydd, yn royned i gael ei fenclithio a rhyddgyfieithiad o dri o draethodau cynwysfawr a gyfansoddwyd gan argraffydd a chyhoeddwr y newydd- iadur. Dywed y Golygydd (tybed?) y byddant yn deihvng o astudiaeth, yn ol y derbyniad a gawsant gan rai o brif lenor- ion Lloegr. Felly ? Os yw y frawddeg hon yn engraifft o honynt, bydd en gohir- iad yn hyfrydweh mawr i lbrif lenorion' Cymru." Gwyddir mai y CELT ydyw y "newydd- iadur Cymreig" y cyfeiria yr 'Herald' ato; ond y mae yn ofni enwi y CELT. Y mae S Nn y gair .OELT yn achosi neuralgia drwy ei holl ben; y mae yn saethu y Tic Dolo- reux drwy ei geg a'i drwyn, a'i ddwy glust, a'i dalcen mawr a'i ddwy arlais. Byd lai ceisio dweyd y gair CELT yn sicr a beri iddo gael "dolur y gwddf," ac y mae yr olwg ar y gair CELT yn fflamychu ei lioll wynebpryd prydfertli, Felly, yn lie ei enwi, y mae yn ei alw yn newydcl- iadur Cymreig hynod o annibynol. Dywed yr 'Herald' fod y CELT yn "hynod am ei annibynolrwydd." Y mae hyny yn bur wir. Y mae ei fryd ar fod yn Annibynol. Y mae ambell i newyddiadur, fel y B.B.. yn hoft a gofalus iawn i "ddal at y gwynt." Dywed yr 'Herald' fod y OEtT "yn myned i gael ei fendithio." Gallasai gadw y geiriau "yn myned." dan ryw dro arall. Buasai y dywediad, "j mae y CELT i gael ei fendithio," mor llawn ac eglur ag ydyw y dywediad, "y mae yn myned i gael ei fendithio." Pan y mae yn dweyd fod y CELT i gael ei fendithio a "rhyddgyfieith- iad 0 dri o draethodau eynwysfawr," y mae yn dweyd y gwir. Y mae yn gofyn wedi hyny ai y Golygydd (tybed?) a ddywedodd y-byddent yn deilwng o astud- iaeth. Yr ydys yn ateb mai y Gol. a ddarfti ddweyd hyny. Dywed yr 'Herald' wedi hyny "y bydd en gohiriad yn hyf- rydweh mawr i brif lenorion Cymru." Pan y mae yn dweyd eu gohiriad," dichon mai gohirio eu cyfieithu a'u cy- hoeddi oedd yn ei olwg; er mai nid hawdd deall beth mae yn ei feddwl wrth "eu gohiriad." Rhaid mai pcrthyn i frawdol- iaeth goeth yr 'Herald' y mae "prif lenor- ion Cymru." Nid ydyw brawdoliaeth y CELT, yn 01 awgryrn yr 'Herald,' ond rhyw ffnpr-lenorion, Y mne yn radd o ddifyrwch fod y CELT yn parhau i effeithio mor drwm ar bile yr 'Herald; y mae yn effeithio braidd ar y brain hefyd ond iii raid Kneb ofni na bile na brain yr 'Herald,' os bydd y booed yn llawn ac yn gyfan. Yr achos o holl afiechyd y bile a'r brain ydyw, rliyw fymryn bach o ddyehryn gyda golwg ar y piers. Yn yr un 'Herald,' y mae J. W. Jones, Forsooth, awdwr ei Helyntion American- aidd Forsooth, yn cael cyfle i fwrw ei fustl eto ar y Prifathraw ac ar S. R. Yr oedd J. W. Jones wedi nodweddu Principal Coleg y Bala, fel y Prifathraw "Forsooth." Darfu i S. R. anturio dweyd wrtho ef a'i blaid, fod arfer gair difriawl felly, hid yn unig yn anfrawdol, ond yn enllibus ac y gallai J. W. Jones wrth barhau i wneu- thur hyny mewn gwahanol gysylltiadau, tY lithro i brofedigaethau poenus. Dywed ef nad oedd yn bwriadu cynhyrfu bustl S. R. o gwbl, ond iddo wneud hyny hob fwriadu, am fod yr ermig hwnw yn rhedeg dros yr ymylon yn S. R. bob arnser, a'i fod yn fynych dan ddylanwad y Dispepsia, a bod ei stumog yn ddrwg, a bod ei b ipyrun (sef y CELT), dan y clwyf melyn; a'i fod yn hoff o frathu ac yspardynu os na ehaiff fod yn geffyl blaen ac mai an- hawdd tynu cast o hen ffeffy]. Gellid meddwl oddiwrth eiriau bustlaidd J. W. Jones na fwriadodd erioed gynhyrfu bustl S. R.; ond os nad all ei eiriau diweddaf am stumog" S. R., geiriau o enllib a gwenwyn, teilwng o J. W. J., teilwng o'i sedd fel un o olygwyr y 'Drych,' a theil- :■ wng o'i wcinidogaeth fel gohebydd Amer- ica naidd yr 'Herald,' a theihvng o'i hen gymeriad fel cefn-frathwr, effeithio ychydig ar bile yr hen S. R., rhaid mai ychydig iawn sydd gandcto yn ei ermig. Dywed J. W. J. wedi hyny fed S. R. yn gwawdio yn'ei hen ddull "cefn-frathol." Enw ne- wydd ar S. R. yclyw ei fod yn "gefn- frathwr." Yr hen nodwedd a roddid iddo gan blaid J.. W. J, ydoedd ei fod yn ivy neb-freithwv; am y gwyddent na byddai byth yn myned i'r "Celloedd Cudd" i wneud "nodion" ar f' bersonau," nac i frathu neb yn y tywyllwch. Cyhoedda J. W. J. ar ol hyny yn yr 'Herald' mai "gwendid arall sy'n nodweddn S. R. bob amser ydyw brolio ei lafur ei hun, ar ol adrodd y cam fydd ef wedi dderbyn." Dicloh i J. W. J, am gydnabod mai "ar ol'' teimlo ac adrodd y "cam" a clderbyn- iodd y bydd bob amser yn ei frolio ei bun. Y mae .yn o naturiol i ddyn ei "frolio" ei hun pan y bydd wedi cael "cam." Pe buasai J. AV. J. wedi gwneud chwarter y "llafur" a wnaeth S. R., ac wedi dioddef haner chwarter y "cam" a ddioddefodd trwy y triugain mlynedd diweddaf, buasai yntau,lyn medru brolio yn bur ddoniol. Do, llafuriodd S. R. am dymor go hir, ac mewn modd diymod, o blaid cynlluniau Cymdeithasau Heddwch, o blaid rhyddid gwlaclol a chrefyddol, rhyddid credo a chyffes, rhyddid y wasg a rhyddid TO a? no eh. rhyddid yr Iriddew a'r cenedlddyn, rhyddid y ddynes ddu a'r ddynes wen llafuriodd er helaethiad cylch y bleidlais, er lluosogiad cyfleus- derau reiltTyrdd yn yr Unol Daleithau ac yn y Dwyrain, yn gystal ac yn Nghymwj, or gostyngiad tollau cludiad llythyrau a llyfrau, o blaid hawliau tenantiaid, a gwelliantau amaethyddol yn erbyn gwastraff a llygredd segur-swyddau yn y n fyddin a'r llynges, a llysoedd a byrddau y wladwriaeth ac yn erbyn traha. Pab- aidd llysoedd Eglwysig. Ni bu yn rhyw hyf lawn erioed i "frolio" ei lafur, ond medr frolio bron cystal a J. W. J. a'i blaid, yn enwedig pan y byddant hwy drwy eu 'Drych' a'u 'Herald' yn ceisio ei oganu a'i fychanu. Dywed J. W. J. hefyd, o fod S. R. yn lioff o "adrodd y cam a gafodd." Nic1 oes dim eisieu iddo adrodd y "cam" a gafodd wrth frawdoliaeth deg ddyngarol swyddfa y Drych oblegid y maent hwy yn gwybod am lawer o'r "earn" a gafodd ac y maent yn delyg o'u cofio pan yn eu loesau olaf dan law oer brenin dychryniadau. Y mae J. W. Jones wedi hyny yn brolio, gan ddiolch o'i galon, nad oes dim laith isel a sarhaus yn cael ei defnyddio yn y cylchoedd y mae ei yn troi ynddynt. Nid rhyfedd ei fod mor fonedd- igaidd a brawdolpan yn troi yn y fath gylchoedd ucliel a sanctaidd. Y mae J. W. J. yn -ei oes ddefuyddiol, ac yn ei yspryd diduedd, wedi goganu Patagonia a Tennessee. Y mae vn awr yn yr un nwyd yn ymroddi i gMnddar- lunio gorllewin-barthau Canada. Gellid Qasglu oddiwrth ei esboniadau beirniadol nad oes neb ond efe a wyr ddim yn sier am hydredau na lledredau, na hinsoddau na chynyrchion unrhyw w ladfa ar yr holl ddaear. Gobeithio y caiff fyw i weled amser pan y bydd Patagonia yn wladfa gyfoethog a dwyrein-barth Tennessee yn llawn o weithlau glo a haiarn, a choed a marmor, a pherllanau ffrwythlawn, a phorfeydd meillionog,ac ydlanoedu agwin- llanoedd; ac y caiff hefyd weled yr amser pan y bydd gorllewin-diroedd Canada, y rhaiy mae efe yn awryn eu camddarlunio, wedi mwy na dyblu eu poblogaetli a'u cyfoeth: a gobeithio y bydd hyny yn des- tun gorfoledd i'w galon wylaidd, goeth, ddyngarol, gariadlawn. Y mae Owen J. Hughes, yn y North Wales Express am Ebrill lleg, yn egluro iddo rai o'i gam- gymeriadau gwarthus a thrwy hyny yn gwrthbrofi rhai o'i gam-ddarluniadau cywilyddus gyda golwg ar diriogaethau Gorllewinol Canada. Ni byddai yn dclim colled nac yn ddim dianrhydedd i'r 'Drych' a'r 'Herald' i adolygu yn ystyriol yearn. budr a bradwrus y maent wedi ei. wneud a rhai o'u hen gyfeiliion ffyddlonaf. Nod- iad diweddaf awdwr urdd masgedig y Personau a'r Pothau yn yr 'Herald,' Eb- rill 16eg, am S.R. ydyw yr un canlynol:—• Dywedir na chafodd yr addfwyn batri- aroh, peel war-ugein-mlwydd oed, o Gon- way, S. Roberts, erioed y fath brawf o dduwioldeb dianihenol. o yspryd llednnis