Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Y RHYFEL MAWR YN AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y RHYFEL MAWR YN AMERICA. Gwelodd yr Ysgrifenydd gryn lawer o'i bro- fedigaethau a'i lygredigaethau, ac hefyd o'i beryglon a'i wasgfeuon. Y mae rhyfel rhwng dwy wlad yn ofnadwy, ond y mae rhyfel car- trefol mewn gwlad, rhwng dau ddosbarth o'i deiliaid, yn llawer mwy ofnsdwy. Rhyfel rhwng dwy blaid dan yr un lywodraetb, yn yr un wladwriaetb, oedd ibyfel gartrefol ddych- rynllyd yr Unol Daleithau. Gallid ysgrifenu llawer am ei achlysuron a'i gynddaredd, a'i ganlyniadau; ond nid ydyw yr ysgrifenydd yn awr am geisio esbonio dim o'r hen bethau hyny; eithr y mae am gadw mewn cof rai o'r peryglon a'r gwasgfeuon a welodd yn ystod y rhyfel. Yr oedd yn y sir lie yr oedd yn byw gryn lawer o wrthryfelwyr. GwyddeDt oil fod S. R. o galon ac egwyddor yn ffyddlawn i'r "Undeb." Byddai Ilawer o genhadau y Llywodraethae oswyddwyryfyddinynarfergalw yn ei dy, a hyny yn fynych iawn, am lety ac am luniaeth pan yn eu newyn a'u Iludded. Nid oedd yn eu gwahodd, ond nis medrai wrthod eu crosawu. Arferai ddweyd wrthynt nad oedd wedi dweyd na gwneud dim er enyn y fath ryfel, ac nad allai wneud dim er ei luddias ond bod ei galon yn gynes iawn dros yr Undeb," yn lie y rhwygiad a'i fod am iddynt drefnu eu hachcsion a therfynu eu dadleuon yn y gyd- gynghorfa, yn lie ar faes y gwaed. Yr oedd rebels y cymydogaethau yn ddig iawn wrtho am nas medrai roddi ei lais a'i ddylanwad o'u tu hwy; ac yn enwedig am fod cenhadau a swyddwyr y Llywodraeth mor fynych yn ei dy. Un tro galwasant gyfarfod, a chynalias- ant gynadledd er ystyried beth oedd i'w wneud yn wyneb hyny. Ymffurfiasant yn Llys o Reithwyr: agorodd eu dadleuwyr yr achos s ger eu bron eu cwyb oedd bod teulu yr Hen Bregethwr o Gymru yn Undebwyr o'r gwraidd," a'u bod yn erbyn pob egniad i ddatod yr Undeb: a bod rhywrai o genhadau mwyaf selog y Llywodraeth yn eu tf bron bob yn ail nos. Fod Col. Staples a Major Duncan, a Capt. Cotton, a Lieutenant Macdon- ald, a rhyw ffoaduriaid o'r De, neu ryw yspiwyr o'r Gogledd, yn eu ty yn barhaus; ac nad oedd peth felly ddim i gael ei ddioddef; ar ol trin y mater mewn nwydau poethion, eu dedfryd o fainc eu llys oedd eu bod i ymdaith ar unwaith tua Brynffynon, cartref y Cymry; a'u bod yn ngwyll y noson bono i grogi y teulu, ac yspeilio eu dodrefn a'u hanifeiliaid, a llosgi.eu hanedd a'u hysguboriau." Cychwyn. asant yn ddioed i'w taith, er cyflawni gor. uchwyliaeth eu dedfryd. Yr oedd ganddynt amryw filldiroedd o ffordd. Cyrhaeddasant' gwr maesy Cymry ychydig cyn nos. Llech- asant mewn llwyni cauadfrig i aros iddi dywyllu cyn iddynt ddechreu ar eu gwaith; a thra yr oeddynt yno yn mwynhau eu drams a'u cigars," gofynodd un o honynt i'r Heill, Beth oedd y teulu condemniedig, pa un ai Americaniaid ai Britishers oeddynt ? Ateb- wyd ef mai "Britishers" oeddynt; eu bod unwaith wedi bwriadu dyfod yn American Citizens, ond bod berw y rhyfel wedi eu eadw draw i aros yn ol, a'u bod wedi dewis aros yn Britishers." D it, then," ebai yr holwr, that alters the case; they are well known in the North, and in the old country; and if we hang them, there will be, a h- of a row. Til go away," ac ymaith yr aeth ar ffrwst; ac aeth yr holl fintai o un i un ai ei ol. Trwy drugaredd, ni chafodd y teulu ar y pryd ddim gwybod am y perygl bywyd yr oeddynt wedi bod ynddo; ond cawsant yr hanes ar ol hyny gan rai oeddynt wedi bod yn y Cyngor i barotoi at y "crogi;" ond yr oeddynt wedi dianc yn eu dychryn dan swn y gair "Britishers." Dro arall daeth tri o rebels cryfion, byfion, at eu ty, ac archasant am ginio a phorthiant i'w meircb. Gwyddem, oddiwrth eu moes a'u lleferydd, mai rebels oeddynt, ond nis meidd- ieni ddweyd hyny. Ytnffrostient wrthym ni mai scouts, neu yspiwyr, yn chwilio y wlad dros fyddin y llywodraeth oeddynt. Yr oedd ganddynt ddigonedd o whisci yn eu bags. Ar ol mwynhau cinio da, cyfrwyasant eu meirch, gan ddweyd eu bod i fyned Rock Creek y noson bono, ryw ddeunaw milldir. Canasom yn iach iddynt mor foneddigaidd ag y medrem. Y noson hono daeth cwmni o dros dri ugain o feirchfilwyr y llywodraeth atom i letya. 0 y Michiganiaid oeddynt. Yr oedd y capten a'i tab, a rhai o'r is-swyddwyr, a dau filwr claf gyda ni yn y ty. Yr oedd y Heill yn gwersyllu allan o gylch ein hysguboriau. Gyda bod y capten, ar ol ei swper, yn dechreu siarad yn llawen a diolchgar wrth dan cysnrus, dyma floedd grocb wrth y drws; ac erbyn i'r hen Gymro fyned allan, pwy oedd yno ond y tri rebel oeddynt wedi bod yno ar ginio. ,Pan oeddynt yn demandio cael lluniaeth a llety, dywedais fod ereill yn awr wedi cael medd- iant o'r bwrdd a'r llety. Ar hyny, tJnodd y blaenaf o honynt ei lawddryll o'i wisg, gan regu a thyngu y mynai lety. Dywedais ein bod yn meddwl, a'i fod ef wedi awgrymu, fod ganddo lety yn Rock Greek. Rhegodd yntau yn fwy croeh, y mynai lety gyda ni. Dywedais mor dyner ag y medrwn fod yn ddrwg genyf ein bod yn llawn; rhégodd yn uwch eilwaith y mynai eu hysgubo o'r ffordd. Wrth ei glywed yn tyngu, ac yn herio felly, daeth y capten i'r drws, a dechreuodd ei holi. Ym- gynddeiriogodd yntau yn waeth, ac yr oedd yn glafoerio wrth ysgwyd ei lawddryll. Ar hyny rhoddodd y capten arwydd ddistaw i'w filwyr ddyfod yno; ac erbyn i'r tri rebel agor eu llygaid, yr oeddynt yn cael eu cylchynu gan dri ugain o filwyr arfog. Dywedodd y capten wrthynt:—" Yr wyf yndeall eich bod wedi cael cinio dedwydd yma heddyw, pan ar eich taith, yn ngwasanaeth y Llywodraeth, medd- ech chwi, i Rock Creek. Yn lie hyny, aros- asoch yn y coed drwy y prydnawn, er cael cyfle i ddyfod yma heno i anrheitbio teulu diamddiffyn oedd wedi bod mor garedig wrthych ar ginio. Os ydych yn 10 scouts" dros y Llywodraeth, i ba gatrawd yr ydych yii perthyn ? Dan archiad pa gadflaenor yr ydych yn scoutio ? Ac i bwy yr ydych i roddi cyfrif am eich gwasanaeth ? Aeth y trueiniaid yn fudion mewn dycbryn. Yna bloeddiodd y capten, rebels lladrongar ydych." Yr ydym yn deall eich amean yn dyfod yma yn awr o'ch llechwrfa yn y coed. Yr oeddych wedi cynllunio i anrheithio, ac yn bur debyg i lofruddio y tenlu yma. Byddai eich saethu yn awr yn gosp rhy anrhydeddus i'r fath yspeilwyr creulawn; mjrnwn eich crogi ar ganghenau y goeden uchel acw, a chaiff eich cyrff fod yn ymborth i adar yr awyr, ac yn wers o ddychryn i bawb arelont heibio. Wrth glywed hyn, dychrynodd teulu Brynffynon, a thaer erfyniasant af y capten beidio eu drogi; nadallent edrych ar yr hen goeden fawr oedd o flaen eu ffenestr fel crog- bren. Tystiodd y capten mai dyna ei ddyled- swydd, na atebai iddo eu cadw yn garcharor. ion, mai eu crogi o'r ffordd ddylid wneud. Ar hyny gafaelodd y Cymro yn ei fraich, ac erfyniodd arno beidio eu crogi, ac am iddo eu gadael i ddianc, y gallai y tro effeithio er eu lies. Plygodd y capten i'r erfynion ar eu rhan, ond mewn ysbryd anfoddog a dywed- odd na buasai byth yn gwneud hyny, yn dangos y fath dfugaredd," ond ar g-ais teulu Z5 ag oedd mor groesawgar, a charedig, a thru- garog." Ni welwyd y tri hyny byth eilwaith yn agos i Brynffynon. Dro arall, pan yr oedd yr hen Gymro wedi bod daith haner can' milldir drwy goedwig- oedd, a chymau, yn prynu sachaid o beilliaid yn Monticello, pan yr oedd milwyr wedi dwyn oddiarnynt hyny o stftr oedd ganddynt; deall- odd, wrth ddychwelyd, fod rebels wedi trefnu i'w gyfarfod yn agos i ryd y Big South Fork, er ei yspeilio; ac felly, yn lie croesi yr afon y noson bono, liechodd mewn caban dan gysgod craig yny goedwig trwy'r nos, er myned adref yn ngoleuni y dydd dranoeth; ond deallodd fod lladron wedi bod yn ei ddisgwyl bron drwy'r nos ar fin yr afon, nes iddynt farnu ei fod wedi myned adref ar hyd ffordd arall. Dro arall, y diwrnod yr oedd efe a'i deulu yn cycbwyn o Tenessee tua Chymru, dyma y sirydd yn eu cyfarfod wrth eu llidiart, ac yn estyn writ iddynt am dri ugain dolar o ryw ddyled ag yr oedd cymydog llawn o rebcldod yn ofyn oddiwrthynt. Yr oedd hwnw yn rebel o'i galon, a gwnaeth ei oreu i'w drygu. Yr oedd gwagen cin clud wedi cychwyn er's rbyw ddwy awr, ac yr oeddym yn prysuro ar ei hoi; ond dyma y sirydd, yr hwn oedd yn frawd yn nghyfraith i'r gofynwr, yn dweyd fod yn rhaid i ni dalu y tri ugain dolar, neu ymddangos o flaen yr ustus. Dym- unasom gael ymddangos o flaen yr ustus, a hyny ar unwaitb, am cin bod mewn brys. Buom yn disgwyl am oriau yn nhy yr ustus, yr hwn oedd yn gyfaill i'r sirydd a'r gofynwr. Etbyn id.to ddyfod i'w gadair farnol yn ei grys budr, a'i lodrau tyllog, dyma'r gofynwr, ar ei alwad, yn hawl'oy tri ugain dolar. Nid oedd genym yr un lawyer i'n hamddiffyn, ond yr oedd eyfle i ni siarad. Gofynasom i'r hawliwr, Beth oedd oed y ddyled? Atebodd,Naw mlyn- edd. Gofynasom wedi hyny, A oeddym wedi byw yn ymyl ein gilydd am naw mlynedd ? Atebodd, Oeddym. Gofynasom drachefn, A fuom ni yn cydfasnachu llawer drwy y naw mlynedd? Atebodd, Do. Gofynasom, A ddarfu i ni ddim talu llawer iddo ef am flawd a pheilliaid ? ac a ddarfu iddo yntau ddim talu llawer i ninau am ymenyn a phetbau ereill ? Atebodd, Do, lawer drwy'r blynydd- oedd. Gofynasom, A ddarfu i chwi erioed o'r blaen son drwy yr holl drafodaeth am y tri ugain dolar ? Naddo. Paham na buasech, a ninau yn marchnata cymaint? Dim ateb. Oni buasai yn deg a rheolaidd i chwi wneud ? Dim ateb. Gan y gwyddech em bod i gychwyn beddyw, paham na buasech yn eu gofyn cyn bore ein cychwyn, gan ein bod yn eich cyfeillach lawer gwaith y tri mis diwedd- af? Dim ateb. A dyma lIe yr oedd cyfrwys- dra a dichell y gofynwr, a'r sirydd, a'r ustus. Gwyddent ein bod wedi cymeryd llong yn New York, a bod hono i gychwyn cyn y ceid Chwarter Sessiwn rheolaidd yn Tennessee, ac y byddai yn llawer gwell genym dalu y tri ugain dolar na dyrysu ein taith trwy aros y Chwarter Sessiwn; ac felly dywedodd yr ustus budr, carpiog, Rhaid i chwi dalu neu i mi gyflwyno yr achos i'r Sessiwn; ond dyna oedd yn rhyfedd iawn, pan aed i dalu iddo, derbyniodd yn ddiolcbgar haner y swm oedd yn ofyn, ac felly y terfynwyd y Llys ond erbyn hyny, ar ol i ni ymdroi yno am oriau, i erfyn arnynt ei agor, yr oedd yn rhy