Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
LLITH YR EHYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLITH YR EHYR. IV. Bum yn cysgu noswaith yn mynwcnt Eglwys y lie. Bum yn gwrando ar lawer hen chwedl yno. Bum yn gwrando ar ddadl yn nghylch Edeyrn—tin yn dwtyd mai Edarn ydyw yr iawn enw, ac un arall yn mynu mai Edeyrn end y mae yn fwy na thebyg mai Bodedeyrn ydyw yr iawn sillebiad. Arferai yr hen Gymry gynt y ffurf Edeyrn yn fynych am benaeth nen frenin. Nid yw lly thyren E o ffaen Edeyrn ond adroddiad, medd rhai, neu ragddawd mal edwyn acefryd. Tybir mai yr Edeyrn yma ydoedd Edeyrn ab Nudd, ab Beli, ab Malgwyn Gwynedd, bardd boneddwr, a sant ydoedd, o gylch y seithfed ganrif. Cofleidiodd Gristionogaeth, a sefydlodd grefydd-dy ac Eglwys yn Hon, yr lion a elwir Llanedeyrn. Mae y pentref hwn, sef Bodedeyrn, yn lie prydferfch. o gylch saith milldir o Gaergybi;"ac y mae erbyn hyn wedi dyfod yn un o'r lleoeéldpwys- icaf yn Mon mewn cysylltiad ag addysg. Y prif ddyn yma ydyw Edward Hughes, gwehydd y mae yn fardd, cerddor, gra- madegwr, &c,s ac yn 84 mhvydd oed. Y mae H. Hughes y Clocliydd yn meddwlei hun fel baswr cyutaf yr oes olenedig lion; ond y tenor gyda'r goreu yn Mou ydyw Mr J. Ell y Teiliwr. Y mae yn datganu Hen Ffon fy Nhaid (Y.. Yiltyr Williams) yn hynod o clda. Y mae efe yn sicr o fod yn fuddngol nrni yn ycyfavfod Methodisfc- aidd yn y dyfodol. Y ddau hanesyddwyr goreu sydd yno ydyw R. Owens y Crydd a J. Roberts y Gof. Y mae M.r Robert am ail ymuno a/r Bedyddwyr: H troehi sydd yn iawn," meclde fo. Yma y mag- „r, .1- _-qrT TU'-V \thraw Colog Llangollen D. Rowlands, a Coleg Aberhonddu; R. Hughes, Abersoch; P. Evans, Lerpwl; a John Hughes y Gof, Llanynghenedl. Yno y mae Coleg gan un o'r lie, sef J. Hughes. Y mae rhai yn myned yn Ddoctoriaid, beirdd, &c., o dan ei law. Nid oes yma ond un cerddor ymarferol wedi codi, sef Eos Edeyrn, ac y mae ef yn fardd ac yn lienor. Am Lan- gefni rwan, mam. Seindorf Llangefni.—Prif lielynt ydydd yno yw dysgn yn dda gyda yr offerynau. Y mae yma gefnogaeth dda i'r band gan y rhai canlynoi:—Parch E. Williams; D. Jones, curad R. Jones R., cyfreithiwr Hewlett, Supervisor; Griffiths, N. P. Bank R. Hughes, Bank, &c. Neuadd Neioydd y Dref.—Peth arall sydd a chryn siarad am dano yw eael Town Hall newydd. Y mae gwir angen am ,In. Y mae yn resyn na bai yno farchnadle deilwng o'i safle, yn nghydag x\ssemb!y Room i gynal ei chyngherddau, &c, Yr oeddwn i a fy mam wedi meddwl cael tipyn o fenyn yno i fyned i'r Milisia Beaumaris acw; ond nid oedd dim i'w I gaol. Yr oedd y gwerthwyr wedi gwneud a'u gilydd na roddent bris ar y menyn nes y deuai y Meistri Watkin & Co. yno. Cofier, gwyr ceir menyn Bethesda sydd. yn rhoddi pris ar fenyn ffarmwis sir Fon! Fy anwyl fam, yr ydwyf yn gweled eich bod cliwi yn dyweyd y gwir am bobl Bethesda a Elanberis, mai rhai rhy ddi- chellg,tr ydynt i mi fyned yno, a fina-umor ieuanc. Awn gariref at y milisia. 0, dof wir, mam. Pl-ATO.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Unol Daleithau America.—Pan y byddir yn "cyfrif y bobl" yn 1880,sef y flwyddyn nesaf, byddir yn gofyn i bob un beth ydyw ei waitb. a pha faint o waith gyflawnodd yn y flwyddyn ddiweddaf. Dengys y fath ymchwiliad fod llywodraeth America yn teimlo ac yn deall fod llwyddiant gwlad yn dibynu ar weithgarweh ei deiliaid, ac ar drefniadau a darpariadal1 priodol i gael digon o waith iddynt. 11 Yr Iuddewon. — Y mae 80,000 o Iuddewon yn preswylio yn New York. Prin 8000 o honynt sydd yn arfer cyrcliu i'r synagogau i ?ad<]oli Duw eu tadau. Y mae lie i ofni eu bod nid yn unig yn gwrthod Cristionogaeth, ond heiyd yn gwadu Iuddewiaeth a'u bod felly heb yr-un greiydd, na hen na newydd. Y mae lie i ofni nad ydynt byth yn meddwl am gynghor Paul am beidio "esgenluso eu cydgynulliad," ac nad ydynt ddim yn ystyried fod y dydd yn-nesau. 13renhines Madagascar. Ymddengys fod lies nchaf ei deiliaid yn agos atei chalon. Yn un o'i chyhoeddiadau di- weddaraf, ceir y geiriau canlynoi: "Yr wyf yn diolch yn fawr iawn i Dduw am fod efengyl Iesu Grist wedi dyfod i'm tir ac i'm teyrnas, er gwneud fy rnliobl yn ddoeth, a'u dysgu i adnabod Duw fel y gallent gyrhaedd bywyd tragwyddol." Gobeithio y bydd i'w bysbryd rhydd- fiydig, gwladgar, efengylaidd presenol ei chadw o gyrhaedd pob math o ormes 1/ 1.1 1
fll EISTEDDFOD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
yn cyfrif ein sefydliad yn un rliagorol er dyrehafu moesau a helaethu gwybodaeth? Dadleua llawer yn erbyn cystadlu—-fod cystadlu yn achos llawer o ddrwg. Ý n awr, pah am y beir yr Eisteddfod yn unig am y peth hwn? A ddarfyddai yr ysbryd hwn pe na byddai eisteddfodau mwyach? Rhyfedd mor gyfeiliornus a dallbleidiol yr a rhai pobl dan ddylanwad rhagfarn. y Dylai y gwrth-eisteddfodwyr deimlo'n ddiolchgar i'r Eisteddfod am roddi cyfle i'r genedl i gystadlu ar bethau uwch a phnrach na'u cymydogion y Saeson, ac ereill. Ai nid gwell cystadlu ar Iwyfan yr Eisteddfod, nag mewn rhedegfeydd ceffylau, ymladd ceiliogod a, theirw, &c.? Dadleuir hefydna ddylic1 eu cynal mewn eapelau-mai nid dyna amcan Ty Dduw. Wei, nid ydwyf, i raddati pell, heb fod yn cyduno a hyn yna; ond nicharwn fodyn rhy Phariseaidd fy ysbryd bob amser yn nghylch y peth hwn, pan fyddo amcanion daionus wrth wraidd y peth, megis clirio dyled capel?neu rywbeth cyffelyb. Dywedai un wrthyf yn ddi- weddar, mai dyna lie yr oedd efe yn gweled "man gwan" y gwrth-eilteddfod- wyr, sef ei chysylltu a cbrefydd. "Eliaid," meddai, "fod daioni ynddi, oblegid y mae hyd yn nod ei gelynion yn cario peth art o'r un natur yn mlaen ond peidier eu galw yn eisteddfodau, na chyfarfodydd cystadleuol. "Wel, beth ynte? "Owrdd pen chwarter yr Ysgol Sul." Ie," meddai rhywun, nid oes cystadlu yn y rhai hyn." Gwir nad oes gwobrau yr un fath a'r Eisteddfod ynddynt; ond yn sicr, y mae ysbryd cystadlu mor gryf ynddynt yn ami ag yn yr Eisteddfod. A gwyddis am engreiffiiau o dri neu bedwar cor o'r unysgol yn canu darnau ynddynt; ac er nad oes gwobr arianol feallai yno, nid oes neb all wadu nad oes ysbryd cystadlu yno. Clywais un yn dweydfod yn hen bryd cael gwared o honynt, gan nad oedd- ent ddim gwell nag eisteddfodau. Yn awr, ymddengys i mi fod dynion sydd yn prcffesu eu hanain yn groes i'r eisteddfod, ac eto yn mlaenllaw lawer o honynt gyda'r cyfarfodydd hyn, yn dangos en bod y peth nad ydynt mewn gwirionedd. Eu cael i'r capel, a pheidio eu galw yn eisteddfodau, dyna bobpeth o'r goreu. Cymanfaoedd Ysgolion y Sulgwyn a'r Nadolig eto, lie yr adroddir pwnc nen bennod, ac y datgenir, dernyn lieu ddau, Pwy wrth-eisteddfodwr all amheu am fnnud nad ydyw yr ysbryd cystadleuol mor gryf ynddynt ag yn yr Eisteddfod ? inor n Pwy, wedi bod yn y rhai hyn, sydd heb glywed un ysgol yn dyweyd, "0, ni ganodd yn oreu." Nage, ni," meddai'r llall. Ninau," meddai'r trydydd, a dyna hi yn daeru ac nid yw y dadleu a'r tacru hyn hob fod yn esgor ar bethau annymunolyn ami, a rhoddi'r challenge feallai erbyn y Gymanfa. Yn sicr, nid petli anghyffredin yw gweled gelynion proffesedig yr Eis- teddfod yn dangos cymaint o ysbryd cys- i.. 11., -i i rn "1. _1 gwobr—a'r Eisteddfodwr mwyaf poeth yn y Avlad; ac os yn gwrthod gwneud dim gydag Eisteddfod, yn ami yn mlaenllaw gyda'r "Antï -eisteddfodau Chwarterol" yma, fel y galwai un hwynt. Gadawer yr Eisteddfod y peth ydyw, ac na chysyllter crefydd a hi—nid peth crcfyddol ydyw. Ond fel y dywedwyd, rhaid fod daioni yn nglyn a hi, cyn y buasid mor ami yn dewis dwyn pethan o'r un natur a hi i fewn i'r eglwys. Pe iia fyddai dim yn yr Eisteddfod uwchlaw rhyw amusement i ddynion ieuainc—a hen o ran hyny-y mae yn werth ei chadw i fyny, rhag digwydd i beth a fyddo gwaeth gy- meryd ei lie, a gwneud cenedl y Cymiy yn debycaeb i'r Saeson ac ereill—yn ymddi- fyru mewn pethan a gyfrinr genym ni (ac yn gywir) yn farbaraidd. GwcIaf fy mod wedi myned yn faith. Wrth derfynu, dywedaf—Rhydd i bob un farnu fel y myno, a pherthyna yr un rhyddidi minau, with gwrs ac yn ol y farn sydd genyf hyd yn hyn, a rhag cael rhywbeth gwaeth yn ei 110, yr ydwyf mewn ysbryd i waeddi—" Byw fyddo'r Eisteddfod." DEWI MYRNACII.