Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU GAN Y GOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU GAN Y GOL. Amaelhyddiaeth Cymru. — Y mae y Gordovic yn cyhoeddi rhes o erthyglau ar amaethyddiath Cymru yn y Mark Lane Express,' Y mae ei ddarluniadau o Dywysogaeth Cymru, ac yn enwedig., o siroedd y Gogledd, eu hinsawdd iachus, a'n golygfoydd prydferth, ayfleusderau eu reilffyrdd a'u porthladdoedd, eu swydd- feydd llythyrau a phellebrau, eu cyhoedd- iadau a'u llenyddiaeth, eu 'hysgolion a'u hathrofeydd, eu palasau a'u haddoldai, ac yn enwedig eu rhagorfreintiau crefyddol) yn o lawn a chywir. Gobeithio y bydd ei gyfarwyddiadau i amaetliwyr yn rhai eglur ac ymarferol. Byddai yn werth cael pob cyfarwyddiadau ellir gael gyda golwg ar sycbu lleoedd lleidiog, a braenaru y meu- sydd at ydau, a chymysgu gwrteithion, a chyfnewid cnydau, a ohynhauafir y cyn- yreh, a gwneuthur ifyrdd a chloddiau, a inagu anifeiliaid, a gofalu am orchwylion y llaethdy, &c., a byddai eu hystyried a'u dilyn yn enill i'n gMad, ao yn anrhydedd i'n aenecll. Byddai yn dda hefyd i Gordovic roddi gair cryf eglur o gyngor ffyddlawn yn ei bryd i arglwyddi tiroedd. Y mae ei ganmoliaeth iddynt braidd yn rhy ucbel. Yr ydym yn cydnabod fod llawer o honynt yn foneddwyr gwladgar, ac yn gefnogwyr addysg a rhinwedd ond rhy brin y maent wedi astudio, ao an- mherffaith y maent wedi cvflawni, drwy yr oesau diweddaf, eu rhwymedigaethau i'w tenantiaid. Y mae yn eglur y rhaid iddynt yn y dyddiau hyn beidio eu gwasgu mor drwm, neu mewn geiriau ereill, y rhaid iddynt ostwng eu rhenti, a chynorth- 0 wyo gwelliantau. Yn y blynyddtoedd hyn, pan y mae gwasgfeuonmasnacli agweitli- iau mor;.drwm drwy ein gwlaH, a phan y mae cynyroliion diball amaethyddiaeth gwledydd tramor, a'r gwledydd hyny mor eang ac mor ffrwythlawn, yn cael eu dwyn mor rad ac roor hawdd i'n holl borthladdoedd y, mae yn gwbl eglur, fel canlyniad anocheladwy, y rhaid ? am&eth- wyr Prydain gael gostyngiad mawr yn eu rlienti a'u trethoedd, a chael llawer mwy o gefnogiad i welliantau nag ydynt wedi gael, neu y bydd raid iddynt ymfudo i wledydd tramor, lie y cant well gobaich am ychydig o ad-dab am eu gofal a'u llafur. Gobeithio y bydd i Gordovic ymroi i roddi cyngor lla,wn a- gonest i arglwyddi tiroedd er eu byfforddi i gyd- ymanog, nid ynuuig i ostwng eu rhenti, ond i gynorthwyo pob gwelliantau, fel y gall eu tenantiaid llafurns, a diwyd gy- farfod gwasgfeuon • digyfielyb y dyddiau hyn, yn gystal ag i fedru dal eu ffordd a chodi pen yn nghystadleuaeth marchnadfa fawr gwledydd y byd. Ni bydd dim modd iddynt wneuthur liyn, heb gael mwy o gefnogiad ac o gymorth nag agawsant erioed eto gan eu liarglwyddi tiroedd. — ■■ 1 Treuliau y Llywodraeth.—Pan y mae gwasgfeuon ein gwlad mor drymion nes yr ydys yn gorfod gostwng pob math o gyflogau,, y' mae yn alarus, ac mewn 0 gwirionedd, yn gynhyrfus i ystyried fod treuliau swyddfeydd y Llywcdraeth yn trymhau yubarhaus, y naill flwyddyii ar ol y Hall, yn enwedig ti>uliau ein sefydl- iadau rhyfel. Ell ardystio cryf iawn yn erbyn eu gwastraff yn y ddadl ddiweddar yn y Senedd; ac er i'r Llywodraeth ar derfyn y ddadl gael mwy o 73 i'w pleidio, y mae yn galondid mawr i bob gwlad- garwr fod Seneddwyr o ysbryd a doniau liylancis, Baxter, Goschen, Rathbone, Mundella, Childers, Bright, a Gladstone, a'n cydwladwr Henry Richard, apostol enwog achos Heddwch, yn cyd-ymroddi i ardystio mewn yspryd mor wrol, ac mewn iaith mor rymns, yn erbyn treuliau gor- thrymus ein Llywodraeth ymerodrol. Er cyfrwysed am gynllunio ydynt, y mae .acbos rhyddid a heddwch no uniondeb yn sicr o fucldugoliaethu yn y diwedd, a hyny er .gwarth bythol ar goffadwriaeth eu gweinyddiadau. Nid iddynt hwy yr ydys i ddicdch na buasai haul Prydain wedi machludo am byth, a'i gogoniant wedi ymadael. Y mae ynddi eto ftyddloniaid dyngarol a gwladgar yn Gyd-ymegnio i'w hamdditfyn a'i dyrehafu ac y mae egwyddotion Daw'i* JSeddwch, ac egni- adau meibion tangnefedd, mor sicr o lwydde a bod efcngylgogoniant a gras Duw yn anfarwol.. Rictbia.—Y- mqg: yr Yinerodraeth fawr wasgedig, anosniwyth liono, yn beichiau ei sefydliadau milwraidd. Y mae llywodraethau uchaf a chryfaf y byd, yn lie cydymanog i gariad a gweithredoedd da, yn cydymanog yn eu cenfigen i gasineb a gweithredoedd anfuddiol, (tnffrwyth- lawn, a drwg.

ANGLADD MR. JOHN JONES, WYNNE…

LLANELLI.