Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

DANTEITHION.

BARN A LLAIS GWRANDAWYR.

NEWMARKET.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWMARKET. Dydd Llun y Pasg, cynaliodd Hen Eglwys Annibynol y lie ei gwyl flynyddol fel arfer. Yn y prydnawn, daeth plant yr Ysgol Sab- bothol, yr eglwys, a'r gynulleidfa yn nghyd i gyd-fwynhau wrth fwrdd llawn dantejthion or fath oreu. Tystiai yr hawddgarwqh oedd ar wynebau pawb nad oedd eilun o wg ar ael neb." Yn yr hwyr cafwyd cyngherdd ar- dderchog dan lywyddiaeth ddeheuig Mr T. F. Jones, Penllwyn, Llynhelig. EnHlay boneddwr a'r Cristion hwn ei barch yn gyflym yn mhlith pob enwad, er nad yw ond newydd ymsefydlu yn y lie. Dymunwn o'n calon iddo hir oes i wasanaethu ei genedlaeth. Gwasanaethwyd yn y cyngherdd gan Mri. W. Parry (Asaph Glandyfrdwy); E. Humphreys, Prestatyn E. Davies, Gronant; T. Nuttall, Coedllai; T. Davies, Liverpool; J. Hughes jMiss Roberts, Bryn Eglwys; a Miss Davies, Rhyl. Canodd cor y lie hefyd, dan arweiniad Isaac Griffiths, gyda chymeradwyaeth neillduol. Digon yw dweyd i bawb fyned drwy eu gwaith yn gan- moladwy iawn. Ar ol diolch i'r llywydd a'r cantorioa, &c., ymadawodd pawb gan ddwyn tystiolaeth eu bQd wedi mwynhau un o'r cyng- berddau goreu yn eu hoes.-Tirionfrig. LLANIDLOES. Y Feibl Gymdeithas.—Nos Fercher. Ebrill 2il, yn Llysdy y drel, dan lywyddiaeth Mr E. GJeaton, Faenor Park, cynhaliwyd y 66ain gylchwyl y dref lion. Traddodwyd areithiau cyfaddasol gan y Parchn II. Griiffth, Aber- tawy, y dirprwywr oddiwrth y Fam Gym- detthas; R. Jones (T.C.), J. Edwards, ac E. T. Davies, dau Fedyddiwr a'r lleygwyr, y Mri J. Evans (leu an Glan Gynwydd), (W.,) T. F. Roberts, (T.C.), Dolenog, ac ereill. Yr oedd yr areithiau yn addysgiadol, a'r cyn- ulliad yn lluosog. Genedigaeth triphlyg.-Mawrth yr 8 fed a'r 9fed, rhoddodd Mrs Jane Morris, gwraig Mr Thomas Morris, o Heol y Bonthir, enedigaeth i dri o blant, sef merch y dydd cyntaf, a merch a mab yr ail ddydd. Y mae y tri yn gwneud yn dda. Anfonodd ein grasusaf Freuines ei rhodd o dair PUDt Vr fam, trwy law y Parch Thomas Williams, A.C., Ficer y plwyf. Dydd Sadwrii, y 5cd.eyfisol, esgorodd Mrs Jackson, gwraig Mr W. P. Jackson, o'r Queen's Head, ar efeilliaid-dwy ferch. Y mae y fam a hwythau yn gwneud yn dda. Nid ydyw y rhai hynaf yma yn cofio am ddau amgylchiad mor rhyfedd wedi digwydd mewn mis i'w gilydd. ¡ Y Bedyddwyr.—Noii ■ Wener y Groglith, cynaliasant eu cyfarfod blynyddol cystadleuol. Y nos Fercher oiynol bu ganddynt eu cyng-' herdd. Yn mysg y cantorion, yr oedd y gantores ieuanc obeithiol Miss Jennie Rosse (Bas Caerludd), R.A.M., and the Crystal Palace, yr hon, rneddir, a aeth a'r cream oddiar y llaetb.—Idloes. PONTARDAWE A'R AMGYLCHOEDD. I Gwaethygu y mae pethau yma yn barhaus. Y mae y rhybudd a roddwyd i weithwyr Morthwylfa, y gwaith alcan sydd yn y lie hwn, ar ben heno, Ebrill 28aia. Dywedir mai gofyn gostwng yr huriau yn afresymol y mae y meistri, a hyny i'w briodoli, meddir, i'r gwaith mawr fuwyd yn droi allan yn y misoedd diweddaf ar eu cais, a rbaib dra- chwantus y gweithwyr i enill with wneud hyny. Gobeithir y bydd i'r pleidiau gytuno yn fuan, neu sicr yw y bydd hi yn dlawd yma ar laweroedd. Llys yr Ynadon.—Cynaliwyd ef yma ddydd Gwener; ac er cynddrwg yr amser y mae yma lawer yn cael eu gwysio yn mlaen yn barhaus am feddwi, a gwahanol droseddau cysytltiedig a hyny, er cymaint y dirwyon a'r carcharu