Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

ARAETH MR HENRY RICHARD, A.S.,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARAETH MR HENRY RICHARD, A.S., Ar benderfyniadau Mr Rylands, A.S., yn Nhy y Cyffredin, nos lau, Ebrill 24ain, 1879. Cynygiodd Mr Rylands y penderfyniadau eanlynol mewn kraeth alluog iawn, a chelnog- wyd ef gan Mri. Baxter a Richard, a'r nos Lun canlynol gan Mri. Goschen, Gladstone, • Rathbone, MundeUa, Childers, ac ereill* Ar raniad y Ty, cafwyd dros y penderfyniadau, 230; yn erbyn, 303. Mwyafrif dros y Llyw- odraetb, 73. Wele adysgrif o'r penderfyniadau yn nghyd ag araeth Mr Richard:— 1. Fod y Ty hwn yn edrych gyda gofid ar y cynydd mawr sydd wedi cymeryd lie yn nhreuliau y wlad. 2. Fod y cyfryw dreuliau, am y rhai y mae Llywodraeth bresenol ei Mawrhydi yn gyfrifol yn ol bam y Ty hwn, yn afreidiol er diogelwch car- trefol y wlad hon, ac er amddiffyn ei maateision mewn gwledydd tramor. 3. Fod y trethi a geisir i gyfarfod y treuliau presenol yn tarfu gweithrediadau amaethyddol a llaw-weithfaol, ac yn lleihau yr arian angen- rheidiol i ddefnyddio llafur yn mhob cangen o ddiwydrwydd cynyrchiol, a thrwy hyny yn tueddu i gynyrchu tlodi a throseddau, ac i chwanegu at feichiau lleol a chyffredinol y cyhoedd. 4. Fod y Ty hwn o'r farn y dylid cymeryd mesnrau diced i leihau y treuliau presenol i'r fath raddau ag a wna nid yn unig gyfartalu y derbyn. iadau a'r treuliau, ond ysgafnhau llawer ar feichiau trethdalwyr Prydain," Ebe Mr Richard:—Y mae yn dda genyf fod fy nghyfaill anrhydeddus yr aelod dros Burn- ley wedi cynyg gwelliant sydd yn caniatau i ni, nid yn unig y Gyllideb, ond heiyd yr boll lywodraethyddiaeth (policy) sydd wedi dwyn ein cyllidoedd cenedlaethol i'r fath sefyllfa druenus. Y mae yn amlwg eu bod mewn sefyllfa druenus oddiwrth amean-gyfrifon Canghellydd y Trysorlys. Yr oedd y Llyw- odraeth yn nghylch dirwasgu rbyw wyth deg a thri o filiynau o bunoedd oddiwrth y wlad hon, a hyny ar adeg ddigymar o gyfyngder masnachol a thlodi, pan oedd masnach yn methu, anturiaeth wedi parlysu, a phob gwaith pwysig wedi cloffi; pan oedd y Gazette yn llawn o hysbysiadan am fethdaliadau, pan oedd miloedd o weithwyr allan o waith, a degau o filoedd yn rhagor, er eu bod mewn gwaith, eto prin yn alluog i enill digon o fara iddynt eu hunain a'u teuluoedd. Ac ar ol dirwasgu y swm anferthol hyn oddiwrth bobl orthrymedig a gwasgedig, yr oedd rhagolygon am ddiffyg (deficit) na feiddiai y Llywodraeth ei wynebu, ond yr oeddent yn barod i'w adael i benod damweiniau y dyfodol. Yr oedd hyn oil, neu o'r hyn lleiaf y rhan twyaf o hono, yn tarddu o un aehos, a dyna ydoedd, fod y Llywodraeth wedi mabwysiadu yr hyn a alwent yn lywodraethyddiaeth dramor wrol" (spirited foreign policy). Byddaf bob amser yn gwrandaw ar yr ymadrodd yna gydag am- beuaeth a dychryn. Ar ol sylwi am lawer o flynyddau, yr wyf wedi cael allan fod y geiriau U spirited foreign policy" yn golygu policy (llywodraethyddiaetb) o ymyraeth a chynen, o derfysg a gwaed, a bob amser yn arwain i ryfel neuddarostyngiad cenedlaethol, fynychaf i'r ddaa, fel yr, wyf yn credu y mae wedi gwneudyn yr achos presenol. Ni fu'm yn rhyw flaenllaw iawn i bigo bai yn Ilywodraeth- yddiaeth dramor Llywodraeth ei Mawrhydi. Tair blynedd yn ol, pan oedd y Pwnc Dwy- reiniol yn dechreu codi i sylw, yr oeddwn yn teimlo yn analluog i umuno a rhai o'm cyfeill- iou anrhydeddut o'm deutu i gyhoeddi cou- demniad hollol ar y llwybr yr oeddynt yn ym- gymeryd. Yn y gwrthwyneb, yr oeddwn yn credu eu bod yn gwneud eu goreu, yn ngbanol amgylchiadau anhawdd a dyrys, i gadw y wlad oddiwrth gytundebau peryglus. Cyhyd ag yr oedd Arglwydd Derby wrth lyw y Swyddfa Dramor, teimlwn yn bur hyderus y gwnai efe arwain ein cynghorau ar hyd llwybrau heddwch. Ar ol cael gwared arno ef ac Arglwydd Caernarfon, ymddangosai y Prif- weinidog fel pe byddai wedi cymeryd y genfa (bit) rhwng ei ddanedd, a rhedeg ymaith a'r eerbyd. Y mae yn destyn syndod i mi pa lodd y caniataodd rhai o aelodau y Weinydd- iaeth, yn enwedig Canghellydd y Trysorlys a'r Ysgrifenydd Cartrefol, iddynt eu hunain i gael eu llusgo i'r fath anturiaethau gwyllt a pher- yglus. Ac ar ol y cyfan, beth ddaeth o'ch llywodraethyddiaeth dramor, wrol, ac uaben- aethol ? Wel, yn un peth, daeth y Gyllideb yma o hono, a rhaid i'r rhai hyny oedd yn dewis mwynhau eu hunain drwy ymffrostio a thrystio dan yr enw gwladgarwcb, dalu yn o ddrud am ea chwibanogl. (Clywch, clywch.) Beth arall ddaeth o honb ? Yn wir rhaid fod hyd yn oed ei bleidwyr mwyaf selog yn dech- reu teimlo ei fod wedi profi ac yn profi ei hun yn fethiant amlwg a gwaradwyddus iwy fwy bob dydd. (Clywch, clywch.) Ar ol yr hyn oil a wnaethom ac a oddefasom ar ei ran, ac ar ol i'r wlad gael ei chadw am lawer o fisoedd mewn sefyllfa o'r pryder a'r ofn mwyaf, ac ar ol ei dwyn i ymyl rhyfel a Rwssia, eangder a phar- had yr hwn nis galtasai neb ddirnad; ar ol ein trethu o lawer o filiynau i attegu y parotoadau gwag-fygythiol hyny cyn myned i Gynghorfa Berlin; ar ol dirwasga i'r eithaf, os nad yn wir, fel y mae Iluaws yn credu, dori y Cyfan- soddiad yn y modd mwyaf gwarthus, drwy ddwyn milwyr estronol i Ewrop hebyn wybod ac heb ganiatad y Senedd; ar ol cadw nid yn unig y wlad hon, ond hefyd yr holl wledydd ereill mewn sefyllfa o ansicrwydd ac ofn, yr hyn a wnaeth fywhau yn fawr y cyfyngder oedd yn bodoli eisoes; ar ol rhuthro i ryfel drygionus a diangenrhaid yn Afghanistan, yr hyn a wna ychwanegu yn fawr at y dyryswch arianol sydd eisioes wedi gwneud cyllid yr India braidd yn fethiant; ar ol neidio i ryfel arall lla;wn mor angbyfiawn ac afreidiol yn Neheubarth Affrica,oblegyd y mae hwnw hefyd yn tarddu o'ch IIywodraethyddiaeth dramor wrol,—beth sydd genych i'w ddangos ? Cyn belled ag y gallaf fi weled, dim. Yr oedd yr holl adeilad ffugiol yn malurio yn ddarnau o flaen llygaid yr adeiladydd braidd cyn symud yr ysgaffaldiau. (Cymeradwyaeth.) Y mae yr Ymerodraeth Dyreaidd, yr hon, fel y'n hysbysid, nid oedd i gael ei rhanu, ond ei chysylltu a'i chyfranu, yn treiglo yn ddarnau oherwydd llygredigaeth fewnol ac aahrefn anfeddyginiaethol. Y mae Rwssia, yr hon oedd i gael ei rhwystro a'i darostwng, yn dal gafael, cyn belled agy medraf fi weled, ar bob peth oedd yn ymofyn. Y mae rhanu Bulgaria yn ddwy diriogaeth, yr hyn oedd un o orchest- ion gogoneddus. Cytundeb Berlin, wedi braidd cael ei gydnabod yn beth anmhosibl. (Clywch, clywch.) Y mae y Cyfamod Sais-Dyrcaidd yn troi allan yn rhyw fwbaeh mawr gwanaidd, ond yn unig fod yr ymraniadau aneglur ond eang ddarfu Lloegr ymgymeryd eto yn crogi uwch ein penau. Cawrfil gwyn mawr ydyw Cyprus, sydd wedi ei arfaethu i gostio i'r wlad hon filiynau lawer o arian. Yn yr Aifft yr ydych wedi cael eich hunain mewn cors ddyrus na wyddoch sut i ddianc allan o honi gydag ymddangosiad weddol o barchus. (Chwerthin a chymeradwyaeth.) Nid yw rhyfel Afghan- istan, oedd i roddi diogelwch bythol rhag Rwssia, yn ol barn pob dyn ystyriol cydna- byddus ag India, ond dechreu gofidiau a blin- derau yn y rban hono o'r byd. Dyna ganlyn- iadau eich llywodraethyddiaeth dramor wrol. Yr hyn nis gallaf fi laddeu i'r Llywodraeth bresenol yw, eu bod wedi rhoddi eu hunain yn wirfoddol-(o'r hyn leiaf rai o honynt, ac oil o honynt drwy eu distawrwydd a'u cyd- oddefiad, fel y dywedai yr ardalydd anrhyd- eddus, arweinydd y blaid wrthwynebol mewn araeth ragorol yn ystod y Gwyliau)—i gyn- hyrfu dylanwadau a theimladau rhyfelgar greddfol y bobl, a'u hanog i hawlio llywodr- aethyddiaeth fyddai yn sicr o arwain (ond ei ddilyn i'w ganlyniadau naturiol) i'r angenrheid- rwydd i wneud cyfraith i orfodi pOQl i ymuno a'r fyddin yn y wlad hon. Yr hyn wnaeth y peth yn fwy atgas fyth ydoedd y ffai,th nad oedd gan y bobl hyny oedd yn crochlefain fwyaf am ryfel, unrhyw fwriad o gwbl i fyned yn eu cyrph eu hunain i sefyli rhuthr yr adfyd oeddynt yn foddlawn daflu ar ereill. Nid oedd gan Jingoaid terfysglyd Hyde Park wnaeth gynorthwyo y Llywordraeth drwy ganu caneuon rhyfelgar anghelfydd, ac yna myned i udo ac oernadu oddiamgylch preswyl- fod gwladweinydd enwocaf yr oes (Mr Glad- stone), na chan Jingoaid parchus y Ddinas ddarfu ruthro gyda ffyn a darnau o briddfeini i derfysgu cyfarfod a gynhelid gan ddineswyr heddychlon, unrhyw fwriad i gynyg eu hunain i fyned allan i gyfarfod y dioddefaint a'r trueni oeddynt yn foddlawn gweled ereill yn cael eu taflu iddynt. (Clywch, clywch.) Byddai yn dipyn o foddlonrwydd pe medrem gael gafael yn y Jingoaid hyny a'u danfon allan i Affghan- istan neu Ddeheubarth Affrica er gweled sut y gwnaent hwy hoffi y gwaith. (Cwerthin a chrynu.) Yna aeth yr aelod anrhydeddus yn mlaen i feirniadau y rhesymau esgusodol dros ryfel Zulu un o ba rai oedd fod Brenin Zula yn cadw byddin o wyr dibriod ond os yw hyny yn cyfiawnhau ein gwaith yn myned i ryfel ag ef, meddai, byddai hefyd yn ein cyfiawnhau i fyned i ryfel a Ffrainc, a'r Almaen, ag Awstria, a Rwssia, ac a holl genhedloedd y Cyfandir; oblegyd y maent oil ya cadw byddinoedd o wyr dibriod, yr hyn sydd yn fygythiol i'w cymydogion. (Olywch, clywch.) Dywedir fod Cetewayo yn falch, iawn o'i fyddin, onid ydych chwithau yn -falch iawn o'ch byddin ? Onid yw yr holl genhedloedd gwareiddiedig a Christionogol yn faleh o'u byddinoedd, ac onid ar eu byddinoedd y gwariant y rhan fwyaf o lawer o'r arian a ddirwasgant oddiwrth y miliynau sydd yn gorfod llafurio yn galed am danynt P (Cymer- adwyaeth.) Nid wyf fi yn gyfaill i fyddinoedd eefydlog. Yn ol fy marn i, y felldith fwyaf i Gristionogaeth ydynt. Onid rhagrith ffiaidd ydyw myned i ryfel a Thywysog Affricancaidd tylawd am gadw byddin sefydlog, pan yr ydym ni ein hunain yn cadw un fawr, ac wedi danfon rhan o honi i'w roddi ef i lawr am gadw un debyg iddi ? Digon tebyg y cawn ein hysbysu i beidio ymosod ar ddynion yn eu habsenoldeb, fod Syr Bartle Frere yn was cyhoeddus ac anrhydeddus, a'i fod yn deilwng o'n cydym- deimlad. Y mae cryn lawer o'r ffregod ddi- aylwedd a rhad yna i'w glywed yn y Ty hwn. Ond gwnaed y sawl a fyno gydymdeimlo a Syr Bartle Frere, rhaid i mi ddywedyd fod fy nghydymdeimlad i gyda'r 1,200 neu y 1,400 teuluoedd gawsant eu taflu i alar a thristweh oherwydd hyn. Ydyw, mae fy nghydym- deimlad i gyda'r mamau, gwragedd, merched,