Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR LERPWL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR LERPWL. Bu d-—1 y wasg wrthi yn fy llytbyr di- weddaf yn rhoddi Haddwyd o Gristionogion yn y 25 mlynedd diweddaf bedwar ar hugain mil y flwyddyn ar gyfartaledd," pryd y dylasai ei adael fel yr oedd wedi ei ysgrifenu yn "DBDWAR UGAIN MIL" (80,000) Yr wyfyn gweled yn y CELT am y 9fed fod Cymro yma nad ydyw yn cydweled â rni o berthynasi "Lith gyntaf y Dysgedydd' am EbriU." Gan nad oes daioni mewn cyndyn- ddadleu, rhoddaf i Sam," heirniadwr fy adol- ygiad ddyiyniad o'r LHth, ac os gall" Sam" ei esbonio credaf ei fod yn gyfansoddwr yn meddu ar grebwyll, darfelyddiaeth, a barn addfed, ei fod yn gymhwys adolygwr ar adol- ygiadau. Yn wir, ysgrifenu yn lied dda ddarfu Sam pe buasai W. N." ei hun wrth ei benclin y mae yn amheus genyf a wnaethai ronyn gwell; ond heb ymbelaethu chwedl L. W., Llanfachreth, dyma'r dyfyniad o'r Llith:- Testyn:—" Y defnydd a ellir ei wneuthur o'r Beibl mewn pregetkauCredwyf nad meddwl y Dr O. Thomas, yr hwn a enwodd y pwnc hwn yn y cyfarfod diweddaf, ydoe d y pwysigrwydd i bregethau orphwys yn deg a chyson a. beirniadaeth gywir ar ryw ranau o'r Ysgrythyrau fel testynau neu sylfaeni; nac ychwaith defnyddioldeb eglareban Ysgrythyr- 01; canys darllenwyd eisoes gan frodyr teilwng bapyrau galluog a gwerthfawr ar y 'materion hyn er mai prin y tybiwyf ei fod yn golygu i'r olat gael ei gau allan yn llwyr o derfynau y papur hwn. Ar ol dewis testun y bregefcb, ac ar ol dwyn y prif fater a'r cynllun fwriada fabwysiadu wrth ymdrin ag ef i'r golwg yn ngweitbiad allaa y cynllùn hwnw yn adeilad- iad yr adeilad, pa fath ddefnydd a ellir wneutbur o'r Ysgrytbyr Sanctaidd? Yn y modd yma y deallwyf y pwnc, ac y ceisiaf ym- drin ag ef." Pan yn ysgrifenu am y "Llith cyntaf,"cyfeir- iais at dyivyllicch y dyfyniad uchod; ond cofied Sam na cbyfeiriais air at dywyllwch na gwendid un rhan arall o'r ysgrif. Fy mbwnc i oedd, nad oedd rhoddi llawer o ddifyniadau mewn cylansoddiad yn profi fod y cyfansoddwr yn meddu ar alluoedd meddyliol cryfion, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. I ba beth y rbodtlir nwyfau pobl ereill yn y flenestr os bydd gan y dyn ddigon o'i eiddo ei hun ? Gwell gan y ffermwr ddiwrnod yr arddangosfa edrych ar ddeg o ychain a fagwyd ar ei dyddyn ei hun—hen frid y tir, na phe buasai ganddo gant o'i flaen wedi eu magu gan ei gymydog- ion. Y mae'r boneddwr gwir gyfoethog yn adeiladu ei balas a cherig nadd newyddion o'r graig, yn lie a darnau o hen furiau a naddwyd ac a breswyliwyd gan ereill. Gwell gan Syr Watkin chwedl Tanymarian am yr un llestr aur hwnw a wnaed o aur Llanuwchllyn (ei dir ei hun), na'r lIestri lawer sydd ganddo oaur tiroedd ereill, Ac rywfodd, y flaith ydyw fod t; Dafydd bob amser pa mor eiddil fyddo, yn sicrach o honi bi a,'i gareg â'i. ffon, nac a chleddyf a llurigau Goliath. Yr oedd y dyfyniadau o eiddo Dr. Dale," yn nwylaw'r byd pregethwrol eisoes, a diau mai nid meddwl "cyfarfod. y gweinidogion (Lerpwl) wrth osod y testyn i'r Parch. W. Nicholson, oedd am iddo ddyfynu a chyfieithu, ond mai meddwl yr oeddynt am iddo dreio am ] afael ar ryw wythien newydd^-rhyw new invention ond o ran hyny, inventors gwael ydym ni y Cymry-dynwaredwyr, efelychwyr, ac ail adroddwyr ydym. Dilynwyr y Saeson ydym, yr un fath ac y maent hwythau yn dilyn yr Americaniaid, y Germaniaid, a'r FfraMwyr. Y r America yn ddiddadl yw brenhines y byd mewn celf a gwyddor. Ond ni, y Cymry, ein blaenaf peth yw ein crejyddolder. Pa le y mae yr hen ddull Cymreig o grefydda ? P'le mae'r hen brofiadau tanllyd ? P'le mae'r ma,wl a dyblu'r gan ? P'le mae'r hen bregethwyr gwreiddiol a fyddai yn gwneuthur Y defnydd a eltir ei wneuthur o'r Beibl mewn pregethau" yn gosod y sylfaen yn y Beibl, yn adeladu yn ngoleuni'r Beibl, ac yn ac yn addurno a'r Beibl, ac yn yswirio yr adeilad mewn gogoniant trwy'r Beibl, yn dcchreu byw yn y Beibl, a byw ar y Beibl, a myned i'r nefocdd yn y diwedd yn ei oleuni. Mae gan y Saeson grcdo, rhaid i ninau gael un. Mae gan y Saeson unions, rhaid i ninau gael undebau. Mae gany Saeson glochdai, rhaid i ninau gael rhai. Mae'r-Saesoa yn Bresbyteriaid, rhaid i ninau fyned, &c., &c. Ein Duwinyddiaeth, ein hymarferiaeth a'n caniadaeth yn Seisnigeiddio bob blwyddyn. Gwnaeth yr hen Gymru d6nau sydd yn demandio lie y cylqhoedd blaenaf, megys Ymdaith Gwyr Harlech," &c. Yn awr cyfansoddirmewn dullwedd rhy Seisnig, fel nad ydyw yn dwyn dim o ddullweddau ein canu Cenedlaethol. Y mae'r hen ddull Cymretg o ganu yn gyrn pob cenedl i'w edmygu, pan y cenir gan Tanymarian, neu fel y canai poor Mynyddyg, nea W. W. Thomas, &c. Ond y mae gwrandaw ar ambell i labwøt o Sais-Gymro yn brefu mewn math o Gymraeg yn Lerpwl yma, yn ddigon er peri i asynod orfoleddo a pberi i ddieithriaid ddweyd, II dod dy ffidil yn té" wrth bob un. Wei, gan mai rheol y CELT yw short and sweet, gadawn ar hynyna hyd y tro nesaf. O.Y.—Wrth ail graffu, gwelaf i mi fyned wysg fy mhen ac anghofio Sam er's meityn. Trwy fy mod er's llawer blwyddyn wedi gwneud eich cynghorion, Sam," yr wyf yn hollol gymwys i farnu fod dirfawr wahaniaeth rbwug "gallu i gyfansoddi a gallu i gordeddu trwy ddyfynu o amrywiol weilthiau-gymaint o wahaniaeth ac sydd rhwng y manufacturer a'r retailer. Rliaid cael peirianau cryfion a cbywrain i dori y raw material yn benadar- iaid it gemau, gall pob ysgogyn eu gwario a'u gwisgo. Gall y wenynen dynu mul o'r graig, a gall yntau y wasp digywilydd fwyta o'r diliau.-Rhaid cael manufacturer i wneud y brethyn, gall teiliwr wneud cot.
"Y CEFFYL HAIARN."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"Y CEFFYL HAIARN." Buddugol yn Rhydymain, Nadolig, 1878. Y. march haiarQ"yw'rcadni'Qa,—hebger, Heb garn, ac heb borfa, Na dwr,—y mae'n deithiwr da; Mor chwim yw y march yma. Rhydymain. G. EDWARDS.
« Y LLAW."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
« Y LLAW." Buddugol yn Llanelltyd, dydd Llun y Pasg, 1879. Cilio i fedd wnai celfyddyd,-yn llwyr Heb y "Haw," o'r hollfyd Yn ufudd gweini hefyd, Ini oil wna hon o hyd, ? Rhydymain. G. EDWARDS.
OCHENAID ODDIAR WELY CYSTYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OCHENAID ODDIAR WELY CYSTYDD. O mor drist wyf yma ar dracth—mawr adfyd, Trwm redfa'm bodolaeth O fy Nuw mor fuan aeth Fy nolur yn ddwfn alaeth. Salwch wnaeth fregns sylwedd--o honof Yn ngwanwyn tirf hoedledd Ow! gwelwais er pob ymgeledd, Ysa'r boen fi agos i'r bedd. Er yr ochain a'r hir nychu,~cofiodd Cyfaill fy nyddanu Un wrthvf yn fy rierthu, Goleua'n dal yn y glyn du. Llanberis. ALARCH GWYBFAI.
DEUWCH ATAF.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DEUWCH ATAF. Deuwcli ataf-pwysy'ii gdlw? Iesu anwyl mwyn ei lais, Diogelu plant y codwm O'u trueni yw oi gais «* Maerhywswynanfeidrolryfedd Yn ei rasol eiriau Ef Mae pob amnaid fach o'r eiddo, Yn oreu liwyl yn nheulu'r nef. Deuwch ataf—'rwyf yn derbyn Pechaduriaid o bob rhyw, Gwael gclledig feirwon Eden, De'wch i gyd fel byddwch byw; • Deuwch ataf os gwrthodwn Ufuddhau i'r Meddyg Da: Nid oes trefn gan Dduw ei hunan Ddichon mwy iachau ein pla. s Llanberis, ALAROII GWYRFtl.
MARWOLAETH A CHLADD-EDIGAETH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cheltenham, lie y bu farw fel yr hysbys- wyd o'r blaen. Prydnawn dydd 1-Jun, y lSfed cyfisol, cludwyd ei weddillion marwol i Ferthyr, gyda'r gerbydres, ac oddi yno i Gastell Cyfarthfa a dydd Iau diweddaf, y 15fed, claddwyd hwynt yn mynwent y Vaynof. Yr oedd yr ymadawedig oyn ei farwolaeth wedi arwyddo ei ddymnniad i gael ei gladdu. yn nghanol ei hen weithwyr, ac wedi ysgrifenu braslun o holl drefniadau ei angladd. -Dymunai na fyddai i anrhyw fath o "arddangosiacl" gael ei wneud, Ufuddhawyd i'w ddymuniad hyd oedd yn bosibl, ond yr oedd ymylon y ffordd o'r Castell i'r Vaynor wedi eu lleuwi a mil- oedd o bobl. Dymuriai hefyd i'w fedd fod yn rhyw 14 troedfedd o ddyfnder, a'i fod i gael ei dori gan ei hen veitluvyr, ac felly y bu. Yr oedd yn bedair llath a hanev o ddyfnder. Ar gla-wr ei arch yr oedd y geiriau canlynol yn gerfiedig:- "Robert Tomson Craw shay born, March 8, 1817 died May 10,1879. Gweinydd- wyd yn yr angladd gan y Parch. Rees Williams, periglor y Vaynor, yn cael ei gynorthwyo gan y Parah. H. Harris, curad, Rumni. Felly y bu farw, ac y claddwyd y diweddaf o frenhinoedd haiarn Cyinru. GOHEBYDD,